RHAN 3Diwygio ymhellach Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018: ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

11

Yn erthygl 5—

a

yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw un o’r pethau a ganlyn i Gymru—

a

unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig;

b

unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig sy’n cario, neu wedi ei heintio â, phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

c

unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig, nac yng ngholofn 3 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

d

unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu B o’r rhestr o ddeunydd gwaharddedig sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

e

unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu D o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

f

yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu, unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig sy’n ymwneud â’r ardal honno sy’n rhydd rhag plâu;

g

yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr honno sy’n cario neu wedi ei heigio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3;

h

yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn 3.

b

ym mharagraff (4), yn lle “ac (f)” rhodder “, (g) ac (h)”;

c

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

5

Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1)(b) i (h) yn gymwys i ddeunydd perthnasol sy’n cyrraedd man cyrraedd sydd wedi ei leoli yn un o diriogaethau eraill y DU ac a ollyngir yn y diriogaeth honno yn unol ag erthygl 12 o’r Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol.