16. Yn erthygl 9—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Rhaid i’r dogfennau a ganlyn gael eu danfon i arolygydd gan fewnforiwr llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy o fewn tri diwrnod i’r dyddiad y mae’n cyrraedd Cymru—
(a)unrhyw dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol o dan erthygl 7 iddi fynd gyda’r llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy; a
(b)yn achos deunydd hysbysedig yr UE, y dogfennau masnach sy’n mynd gyda’r llwyth.”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “un” hyd at y diwedd, rhodder “weithdrefn Dollau o fewn ystyr adran 3(3) o Ddeddf Trethiant (Masnach Trawsffiniol) 2018”;
(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sydd wrthi’n cael ei draddodi i fan arolygu cymeradwy yn un o diriogaethau eraill y DU.”.