RHAN 3Diwygio ymhellach Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018: ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
54
Yn Atodlen 15—
a
ym mharagraff 1—
i
yn y diffiniad o “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 1D(a)”;
ii
yn y diffiniad o “blwyddyn dyfu gyntaf”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 1D(a)”;
iii
yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 1D(b)”;
b
ym mharagraff 1A, hepgorer “yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;
c
ar ôl paragraff 1A mewnosoder—
1AA
Yn achos cloron Solanum tuberosum L., rhaid i’r arolygon hynny gynnwys cynnal profion swyddogol ar datws hadyd a thatws eraill yn unol ag EPPO PM 7/59.
1AB
Yn achos planhigion Solanum tuberosum L., rhaid cynnal yr arolygon hynny yn unol â dulliau priodol, a rhaid iddynt gynnwys cynnal profion swyddogol priodol ar samplau.
1AC
Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion paragraffau 1AA ac 1AB fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd cylch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol.
d
ym mharagraff 1B(a), yn lle’r geiriau o “Atodiad 1” hyd at “Gyfarwyddeb 93/85/EEC”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/59”;
e
ym mharagraff 1D—
i
yn is-baragraff (b), yn lle “ystyried y darpariaethau ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder—
roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—
i
y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;
ii
y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;
iii
cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;
iv
y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir ym mharagraff (ii);
v
unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gyffyrddiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
vi
unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gyffyrddiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;
vii
y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw
ii
yn is-baragraff (c), yn lle “darpariaethau ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd”;
f
ar ôl paragraff 1D mewnosoder—
1DA
Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan baragraff 1D, rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.
g
ym mharagraff 3—
i
yn is-baragraff (a), yn lle “unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;
h
ym mharagraff 4, yn lle “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yr Atodlen hon”;
i
ym mharagraff 6(c), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;
j
ym mharagraff 7(c), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;
k
ym mharagraff 8(d), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;
l
ym mharagraff 10A, yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;
m
ym mharagraff 20(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;