- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
56. Ar ôl Atodlen 16, mewnosoder—
Erthygl 41
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “gweithgaredd penodedig” (“specified activity”) yw unrhyw weithgaredd at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol.
2. Enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y gweithgaredd penodedig arfaethedig.
3. Y manylion a ganlyn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol a’r plâu planhigion sydd i’w defnyddio yn y gweithgaredd penodedig—
(a)ei enw gwyddonol neu eu henwau gwyddonol;
(b)y math o ddeunydd perthnasol;
(c)swm y deunydd perthnasol;
(d)tarddle’r deunydd perthnasol;
(e)y man lle y mae’r deunydd perthnasol i’w storio gyntaf neu ei blannu gyntaf ar ôl ei ollwng yn swyddogol (pan fo’n berthnasol);
(f)y dull arfaethedig o ddinistrio neu drin y deunydd perthnasol ar ôl cwblhau’r gweithgaredd perthnasol (pan fo’n berthnasol);
(g)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol neu bla planhigion sydd i’w fewnforio o drydedd wlad, ei fan cyrraedd arfaethedig yn y Deyrnas Unedig.
4. Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd i’w ddefnyddio yn y gweithgaredd penodedig, tystiolaeth ddogfennol briodol i gadarnhau ei darddle.
5. Hyd, natur ac amcanion y gweithgaredd penodedig arfaethedig, gan gynnwys crynodeb o’r gwaith sydd i’w wneud a manyleb y gwaith hwnnw.
6. Cyfeiriad y safle penodol neu’r safleoedd penodol lle y mae’r gweithgaredd penodedig arfaethedig i’w gynnal, a disgrifiad o’r safle hwnnw neu’r safleoedd hynny.
7. Bod natur ac amcanion y gweithgaredd penodedig yn cydymffurfio â’r cysyniad o dreialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol.
8. Bod y fangre a’r cyfleusterau yn y safle neu’r safleoedd lle y mae’r gweithgaredd penodedig i’w gynnal yn bodloni unrhyw amodau perthnasol o ran ynysu o dan gwarantin.
9. Bod y personél sy’n cynnal y gweithgaredd penodedig yn meddu ar gymwysterau gwyddonol a thechnegol priodol.
10. At ddibenion erthygl 41(2)(a), yr amodau yw—
(a)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol, bod llythyr awdurdodi a ddyroddir gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol ar sail tystiolaeth ddogfennol briodol o ran tarddle’r deunydd yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wrth iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(b)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion, bod tystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad y mae’r deunydd perthnasol yn tarddu ohoni yn mynd gyda’r deunydd hwnnw pan fo’n bosibl sy’n—
(i)cadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion a reoleiddir, ac eithrio unrhyw bla planhigion yr awdurdodir ei fewnforio gan y drwydded;
(ii)cynnwys y datganiad a ganlyn o dan y pennawd ‘Additional declaration’, ‘This material is imported under Article 41 of the Plant Health (Wales) Order 2018’; a
(iii)cynnwys enw unrhyw bla planhigion awdurdodedig;
(c)bod y deunydd perthnasol yn cael ei gadw o dan amodau cwarantin, ac ar ôl cyrraedd yn cael ei symud yn uniongyrchol ac ar unwaith i’r safle neu’r safleoedd a bennir yn y drwydded.
11. Mesurau cwarantin y drwydded yw—
(a)yn achos y mangreoedd, y cyfleusterau â’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â’r gweithgaredd penodedig:
(i)ynysu yn ffisegol unrhyw blâu planhigion neu ddeunydd perthnasol a ddefnyddir yn y gweithgaredd penodedig rhag yr holl blâu planhigion eraill a’r holl ddeunydd perthnasol arall, gan gynnwys rheoli llystyfiant yn yr ardaloedd oddi amgylch, pan fo’n briodol;
(ii)dynodi person cyswllt sy’n gyfrifol am y gweithgaredd penodedig;
(iii)gweithredu cyfyngiadau ar fynediad i’r mangreoedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir mewn perthynas â’r gweithgaredd penodedig a, phan fo’n briodol, i’r ardaloedd oddi amgylch y mangreoedd a’r cyfleusterau hynny, i bersonél a enwir yn unig;
(iv)manylion adnabod priodol y mangreoedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir, gan nodi’r mathau o weithgareddau a’r personél sy’n gyfrifol amdanynt;
(v)cadw cofrestr o’r gweithgareddau a gynhelir a llunio llawlyfr gweithdrefnau, gan gynnwys gweithdrefnau i’w rhoi ar waith pe bai plâu planhigion yn dianc o’r cyfleusterau ynysu;
(vi)cynnal systemau diogelwch a larymau priodol;
(vii)gweithredu—
(aa)mesurau rheoli priodol i atal cyflwyno plâu planhigion i’r mangreoedd a ddefnyddir ac atal y plâu rhag lledaenu o fewn y mangreoedd hynny;
(bb)gweithdrefnau a reolir ar gyfer samplu, ac ar gyfer trosglwyddo’r deunydd rhwng y mangreoedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir;
(cc)rheolaethau ar gyfer gwaredu gwastraff, pridd a dŵr, fel y bo’n briodol;
(dd)gweithdrefnau a chyfleusterau hylendid a diheintio priodol ar gyfer personél, strwythurau a chyfarpar;
(ee)mesurau a chyfleusterau priodol ar gyfer gwaredu deunydd arbrofol; ac
(ff)cyfleusterau a gweithdrefnau mynegeio priodol (gan gynnwys cynnal profion); a
(b)mesurau cwarantin priodol eraill yn unol â bioleg ac epidemioleg penodol y math o ddeunydd dan sylw a’r gweithgareddau a gymeradwywyd, gan gynnwys—
(i)cynnal cyfleusterau sy’n hygyrch i bersonél awdurdodedig drwy ystafell ar wahân sydd â dau ddrws cydgloadol;
(ii)cynnal cyfleusterau o dan bwysedd aer negyddol,
(iii)defnyddio cynwysyddion sy’n atal plâu neu glefydau rhag dianc ohonynt, sydd â masgl o faint priodol a rhwystrau eraill;
(iv)cadw’r deunydd wedi ei ynysu rhag plâu planhigion eraill a deunyddiau eraill;
(v)cadw unrhyw ddeunydd ar gyfer bridio mewn cewyll bridio sydd â dyfeisiau trin;
(vi)gwahardd unrhyw ryngfridio rhwng y pla planhigion â mathau brodorol neu rywogaethau brodorol;
(vii)gweithredu rheolaethau ar feithriniad parhaus y pla planhigion;
(viii)cadw’r pla planhigion o dan amodau llym sy’n rheoli lluosogiad y pla planhigion;
(ix)rhoi gweithdrefnau ar waith i wirio purdeb meithriniadau’r pla planhigion er mwyn sicrhau ei fod yn rhydd rhag parasitiaid a phlâu planhigion eraill;
(x)gweithredu rhaglenni rheolaeth priodol mewn cysylltiad â’r deunydd er mwyn dileu fectorau posibl;
(xi)yn achos gweithgareddau in vitro, gweithredu rheolaethau ar drafod y deunydd o dan amodau sterilaidd;
(xii)cadw’r pla planhigion o dan amodau sy’n sicrhau nad yw’n gallu lledaenu drwy unrhyw fector; a
(xiii)ynysu’r deunydd yn dymhorol i sicrhau y cynhelir y gweithgareddau yn ystod cyfnodau o risg isel i iechyd planhigion.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: