- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)—
(a)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008”, mewnosoder—
“ystyr “y rheoliadau lles anifeiliaid” (“the animal welfare regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007(2).”
(b)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC”;
(c)hepgorer y diffiniad o “rhanbarth”;
(d)yn lle’r diffiniad o “rhanbarth cynhyrchu”, rhodder—
“ystyr “rhanbarth cynhyrchu” (“region of production”), mewn perthynas ag wyau a gynhyrchir ar safle cynhyrchu yng Nghymru, ac a farchnetir gan y cynhyrchydd yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol drwy eu gwerthu o ddrws i ddrws neu mewn marchnad gyhoeddus leol, yw—
yr ardal o fewn radiws o 80 cilometr o ffin y safle cynhyrchu; a
unrhyw ran o Gymru sydd y tu allan i’r radiws hwnnw o 80 cilometr;”;
(3) Yn lle rheoliad 13(3) rhodder—
“(3) Yr amodau yw’r amodau yn y darpariaethau a ganlyn yn Atodlen 2 i’r rheoliadau lles anifeiliaid—
(a)paragraff 2(ch) (ond nid y gofyniad nad yw clwydi i fod ag ymylon miniog a’u bod yn darparu 15cm o leiaf i bob iâr);
(b)paragraff 2(d);
(c)paragraff 5;
(d)paragraff 6(a);
(e)paragraff 7(a).”.
(4) Yn lle rheoliad 14(3) rhodder—
“(3) Yr amodau yw’r amodau yn y darpariaethau a ganlyn yn Atodlen 2 i’r rheoliadau lles anifeiliaid—
(a)paragraff 2(ch) (ond nid y gofyniad nad yw clwydi i fod ag ymylon miniog a’u bod yn darparu 15cm o leiaf i bob iâr);
(b)paragraff 2(d);
(c)paragraff 5;
(d)paragraff 6(a);
(e)paragraff 7(a).”.
(5) Yn rheoliad 19—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Caiff y swyddog awdurdodedig fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol gydag ef.”;
(b)hepgorer paragraff (14).
(6) Yn Atodlen 2, yn Rhan 2, yn y tabl—
(a)yng ngholofn 2, yn lle’r 21ain cofnod (sef y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod ar gyfer “Erthygl 9(1)” yng ngholofn 1) rhodder—
“Rheoliad 4 o Reoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004(3)”;
(b)yng ngholofn 2, yn y 26ain cofnod (sef y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod ar gyfer “Erthygl 12(2), y pedwerydd is-baragraff” yng ngholofn 1), yn lle “a Phennod III o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC” rhodder “ac Atodlen 4 i’r rheoliadau lles anifeiliaid”.
O.S. 2010/1671 (Cy. 158) y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/3070 (Cy. 264), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/2713 (Cy. 229) ac O.S. [insert reference to The Animal Health and Welfare (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) Regulations 2019].
O.S. 2004/1432 (Cy. 145), fel y’i diwygiwyd gan O.S. [insert reference to The Animal Health and Welfare (Miscellaneous Amendments) (Wales) (EU Exit) Regulations 2019] ac y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: