2019 Rhif 757 (Cy. 142)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3) a 27 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161, ac ar ôl ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, ar ôl cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad ac ar ôl gosod copi oʼr datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 27(4) a (5), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.