Diwygiadau i Atodlen 317
Yn Atodlen 3—
a
ym mharagraff 13, ar ôl “staff” ychwaneger “a/neu wirfoddolwr”;
b
ym mharagraff 16, yn lle’r geiriau o “wlser pwyso categori 3 neu 4” iʼr diwedd rhodder “niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam”;
c
ym mharagraff 17, yn lle “, anaf neu salwch” rhodder “neu anaf”;
d
ym mharagraff 30, yn lle “Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn” rhodder “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn”;
e
ym mharagraff 33, yn lle “, anaf neu salwch” rhodder “neu anaf”;
f
ym mharagraff 34, yn lle’r geiriau o “wlser pwyso categori 3 neu 4” iʼr diwedd rhodder “niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.”;
g
ym mhob un o baragraffau 42, 44 a 46, yn lle “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn” rhodder “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn”.