- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
30.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)sicrhau bod cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol;
(b)cadw’r cofnodion yn ddiogel;
(c)gwneud trefniadau addas er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;
(d)rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;
(e)pan fo gorchymyn mabwysiadu wedi ei wneud mewn perthynas â phlentyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r plentyn a mabwysiadydd y plentyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y gorchymyn mabwysiadu;
(f)pan fo gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu i unigolyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r unigolyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
(g)mewn achos nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e) neu (f), gadw—
(i)cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am 3 blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
(ii)cofnodion sy’n ymwneud â phlant am 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
(h)sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—
(i)yn gallu cael mynediad i’w cofnodion, a
(ii)yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 30 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.
(2) Yn achos gwasanaeth a ddarperir gan gymdeithas fabwysiadu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu—
(a)y Bwrdd Iechyd Lleol, neu’r grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3;
(b)yr asiantaeth leoli am y digwyddiad a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;
(c)yr awdurdod ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;
(d)yr awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3;
(e)yr heddlu am y digwyddiad a bennir yn Rhan 9 o Atodlen 3.
(3) Yn achos gwasanaeth a ddarperir gan asiantaeth cymorth mabwysiadu neu asiantaeth fabwysiadu sy’n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu—
(a)y Bwrdd Iechyd Lleol, neu’r grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, am y digwyddiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;
(b)yr awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 7 o Atodlen 3;
(c)yr awdurdod perthnasol am y digwyddiad a bennir yn Rhan 8 o Atodlen 3;
(d)yr heddlu am y digwyddiad a bennir yn Rhan 9 o Atodlen 3.
(4) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn gynnwys manylion y digwyddiad.
(5) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
(6) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol”, “grŵp comisiynu clinigol” a “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu’r grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—
(i)y mae’r plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth yn ei ardal, neu
(ii)yr oedd y plentyn sydd wedi marw neu wedi cael damwain neu anaf difrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn byw yn ei ardal ar adeg y digwyddiad;
(b)ystyr “awdurdod ardal” yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae plentyn wedi ei leoli ynddi, neu i’w leoli ynddi, pan fo hyn yn wahanol i’r awdurdod lleoli;
(c)ystyr “asiantaeth leoli” yw’r asiantaeth fabwysiadu a leolodd y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd;
(d)ystyr “awdurdod lleoli”, mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yw’r awdurdod lleol hwnnw;
(e)ystyr “awdurdod perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r gwasanaeth yn ei ardal ac unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r gwasanaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i’r plentyn hwnnw ar ei ran yn rhinwedd adran 3(4)(a) o Ddeddf 2002.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 31 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
32. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 32 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
33.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—
(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,
(b)rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,
(c)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a
(d)cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon, a
(b)gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 33 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
34.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant personau y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.
(2) Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—
(a)cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a
(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—
(a)yr ymchwilir iʼr pryder,
(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac
(c)y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 34 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: