RHAN 10Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

CofnodionI130

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

sicrhau bod cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol;

b

cadw’r cofnodion yn ddiogel;

c

gwneud trefniadau addas er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;

d

rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;

e

pan fo gorchymyn mabwysiadu wedi ei wneud mewn perthynas â phlentyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r plentyn a mabwysiadydd y plentyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y gorchymyn mabwysiadu;

f

pan fo gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu i unigolyn, gadw cofnodion sy’n ymwneud â’r unigolyn am o leiaf 100 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

g

mewn achos nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e) neu (f), gadw—

i

cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am 3 blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

ii

cofnodion sy’n ymwneud â phlant am 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

h

sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—

i

yn gallu cael mynediad i’w cofnodion, a

ii

yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 30 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

HysbysiadauI231

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

2

Yn achos gwasanaeth a ddarperir gan gymdeithas fabwysiadu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu—

a

y Bwrdd Iechyd Lleol, neu’r grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3;

b

yr asiantaeth leoli am y digwyddiad a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;

c

yr awdurdod ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;

d

yr awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3;

e

yr heddlu am y digwyddiad a bennir yn Rhan 9 o Atodlen 3.

3

Yn achos gwasanaeth a ddarperir gan asiantaeth cymorth mabwysiadu neu asiantaeth fabwysiadu sy’n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu—

a

y Bwrdd Iechyd Lleol, neu’r grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, am y digwyddiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;

b

yr awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 7 o Atodlen 3;

c

yr awdurdod perthnasol am y digwyddiad a bennir yn Rhan 8 o Atodlen 3;

d

yr heddlu am y digwyddiad a bennir yn Rhan 9 o Atodlen 3.

4

Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn gynnwys manylion y digwyddiad.

5

Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

6

Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

7

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol”, “grŵp comisiynu clinigol” a “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, neu’r grŵp comisiynu clinigol a Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—

i

y mae’r plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth yn ei ardal, neu

ii

yr oedd y plentyn sydd wedi marw neu wedi cael damwain neu anaf difrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn byw yn ei ardal ar adeg y digwyddiad;

b

ystyr “awdurdod ardal” yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae plentyn wedi ei leoli ynddi, neu i’w leoli ynddi, pan fo hyn yn wahanol i’r awdurdod lleoli;

c

ystyr “asiantaeth leoli” yw’r asiantaeth fabwysiadu a leolodd y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd;

d

ystyr “awdurdod lleoli”, mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yw’r awdurdod lleol hwnnw;

e

ystyr “awdurdod perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r gwasanaeth yn ei ardal ac unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r gwasanaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i’r plentyn hwnnw ar ei ran yn rhinwedd adran 3(4)(a) o Ddeddf 2002.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 31 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gwrthdaro buddiannauI332

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 32 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Polisi a gweithdrefn gwynoI433

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

a

nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

b

rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,

c

sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a

d

cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

a

dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon, a

b

gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 33 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Chwythuʼr chwibanI534

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant personau y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

2

Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

a

cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a

b

sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

3

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

4

Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

a

yr ymchwilir iʼr pryder,

b

y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

c

y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).