- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
35. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 35 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
36.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn,
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,
(c)bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, ac
(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3) Yr amodau yw—
(a)bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig,
(b)bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth,
(c)bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, ac
(e)bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 23(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
(6) Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(d) a (3)(d) yn gymwys ond ar ôl 1 Ebrill 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 36 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
37.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 23(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 37 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
38.—(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a
(b)os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—
(i)na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddarparu’r gwasanaeth, a
(ii)y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 38 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
39. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 36(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth—
(a)o enw’r person a benodir, a
(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 39 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
40.—(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 36(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i GCC a’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a
(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
(2) Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i GCC—
(a)o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y darparwr gwasanaeth, a
(b)o’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 40 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
41.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.
(2) Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 41 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
42.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a)ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni,
(b)cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth o bob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ac
(c)cwrdd ag unigolion neu unrhyw gynrychiolwyr i unigolion y mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar eu cyfer o bob man o’r fath.
(2) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben, ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob 3 mis.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 42 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: