RHAN 12Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddauI143

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

3

Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 43 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaethI244

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

a

am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;

b

am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;

c

am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

2

Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 44 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Ymgysylltu ag unigolion ac eraillI345

1

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

a

unigolion,

b

unrhyw gynrychiolwyr i’r unigolion hynny,

c

unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr sydd wedi trefnu bod cymorth yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth, a

d

staff a gyflogir yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

2

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.