RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu cymorth

Gwybodaeth am y gwasanaethI113

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

2

Rhaid iʼr canllaw—

a

cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen;

b

bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;

c

cael ei roi i unrhyw unigolyn sy’n cael cymorth;

d

cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.

3

Rhaid iʼr canllaw gynnwys gwybodaeth am—

a

sut i godi pryder neu wneud cwyn;

b

argaeledd gwasanaethau eirioli;

c

rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 13 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Cytundeb gwasanaethI214

1

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y rhoddir i bob unigolyn sy’n cael cymorth gopi wedi ei lofnodi o unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â—

a

y cymorth a ddarperir i’r unigolyn;

b

unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i’r unigolyn.

2

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolion yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.