RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu
Safonau’r cymorth – gofynion cyffredinolI115
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir cymorth mewn ffordd—
a
sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff, a
b
sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
GwybodaethI216
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan unigolyn yr wybodaeth y mae ei hangen arno i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir cymorth iddo.
2
Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—
a
natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;
b
lefel dealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;
c
yn achos plentyn, oedran y plentyn.
3
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gynhorthwy sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Iaith a chyfathrebuI317
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn.
Parch a sensitifrwyddI418
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
2
Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—
a
parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
b
parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;
c
hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
d
rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.