RHAN 6LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safonau’r cymorth sydd i’w ddarparu

Parch a sensitifrwyddLL+C

18.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—

(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;

(b)parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;

(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;

(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 18 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)