xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Eithriadau

Eithriadau

3.—(1Nid yw’r gwasanaethau a ganlyn i’w trin fel gwasanaeth mabwysiadu, er gwaethaf paragraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaeth mabwysiadu)—

(a)darparu gwasanaeth mewn perthynas â mabwysiadu gan berson, yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol (o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007(1)), sy’n—

(i)person awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu

(ii)cyfreithiwr Ewropeaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “European lawyer” yng Ngorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978(2);

(b)darparu gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni geni neu gyn-warcheidwaid plentyn mabwysiadol i drafod materion sy’n ymwneud â mabwysiadu;

(c)darparu gofal seibiant i blentyn mabwysiadol neu riant mabwysiadol gan wasanaeth cartref gofal neu wasanaeth cymorth cartref y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan bennod 2 o Ran 1 o’r Ddeddf;

(d)darparu gofal seibiant mewn perthynas â phlentyn mabwysiadol sy’n cynnwys gwarchod plant neu ofal dydd o fewn yr ystyr yn Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(3) ac y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd o dan y Rhan honno o’r Mesur hwnnw;

(e)darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan berson sy’n darparu’r gwasanaethau hynny—

(i)ac eithrio mewn partneriaeth ag eraill, a

(ii)o dan gontract ar gyfer gwasanaethau gyda—

(aa)gwasanaeth mabwysiadu rheoleiddiedig, neu

(bb)gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol.

(2Ym mharagraff (1)(e), nid yw person yn cynnwys y lluosog ac nid yw’n gorff corfforaethol.