Rhagolygol
Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifolLL+C
7.—(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—
(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 11 i 15, rhaid i’r darparwr—
(a)cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a
(b)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.
(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â’r gofynion a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 3 i 10, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y cymorth a ddarperir.
(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.