Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

Rheoliadau 2(1) a 23

ATODLEN 1LL+C

RHAN 1LL+CGwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.  Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

2.  Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu cymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu cymorth ar eu cyfer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—LL+C

(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 23(3) neu (6) (addasrwydd staff), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

(2)

2006 p. 47. Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod i’w benodi.

Back to top

Options/Help