NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o gofrestru gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, sy’n cofrestru sefydliadau ac asiantaethau. Mae Deddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob lleoliad y darperir gwasanaeth gofal cymdeithasol ynddo gael ei gofrestru ar wahân.

Mae’r Ddeddf yn gweithredu dull gwahanol sy’n seiliedig ar y gwasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru â Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sy’n wasanaeth rheoleiddiedig o dan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys manylion pob un o’r lleoliadau y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n cyfeirio, at ddibenion amrywiol, at un o’r categorïau o sefydliad neu asiantaeth a reoleiddid o dan Ddeddf 2000 er mwyn rhoi cyfeiriadau at y “gwasanaeth rheoleiddiedig” priodol o dan y Ddeddf yn lle’r cyfeiriadau hynny.

Cychwynnwyd Rhan 1 o’r Ddeddf ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn—

(a)gwasanaethau cartrefi gofal;

(b)gwasanaethau llety diogel;

(c)gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;

(d)gwasanaethau cymorth cartref.

Ar 29 Ebrill 2019, mae Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n weddill—

(a)gwasanaethau mabwysiadu;

(b)gwasanaethau maethu;

(c)gwasanaethau lleoli oedolion;

(d)gwasanaethau eirioli (nid yw gwasanaethau eirioli wedi eu cofrestru o dan Ddeddf 2000 ar hyn o bryd).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.