
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Disgrifiad o gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o dan adran 36(8) o DTTT
4.—(1) Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o’r disgrifiad ym mharagraff (2) i’w drin fel pe na bai’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion DTTT a DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir.
(2) Y disgrifiad yw bod y cynllun—
(a)wedi ei gyfansoddi o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE drwy gontract,
(b)wedi ei reoli gan gorff corfforaethol a ymgorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac
(c)wedi ei awdurdodi o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir yn is-baragraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a ddiffinnir yn adran 36(7) o DTTT.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad tir y mae ei ddyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
Back to top