xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 863 (Cy. 155)

Amaethyddiaeth, Cymru

Dŵr, Cymru

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

10 Ebrill 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Ebrill 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.

Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 4 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)

3.  Yn rheoliad 4—

(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd) mewnosoder—

(2) Mewn perthynas â daliad newydd—

(a)nid yw rheoliadau 12 i 22, 23(3), 24, 25, 30 i 33 a 36 i 46 yn gymwys hyd ddechrau’r ail flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd;

(b)nid yw rheoliadau 23(1) a (2), 26 i 29, 34 a 35 yn gymwys hyd nes 31 Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd.

Diwygio rheoliad 6 (dehongli)

4.  Yn rheoliad 6, yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “daliad newydd” (“new holding”) yw tir ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sy’n dod yn ddaliad o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau yn dilyn adolygiad o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, ac nad oeddent yn ddaliad yn union cyn dyddiad y diwygio neu’r ychwanegu hwnnw;.

Diwygio rheoliad 7 (dynodi parthau perygl nitradau)

5.  Yn rheoliad 7—

(a)yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—

(2) Mae ardal wedi ei dynodi yn barth perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn os ydyw, fel ardal o dir sy’n draenio i ddyfroedd llygredig ac yn cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny, wedi ei marcio yn barth o’r fath ar fap perthnasol.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 25 Hydref 2013 ac sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3) neu’n ychwanegu ato nesaf, ystyr “map” yw’r map sydd wedi ei farcio “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013” ac a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

(b)yn dilyn unrhyw adolygiad dilynol o dan reoliad 11(3), ystyr “map” yw map a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac—

(i)sydd wedi ei farcio “Mae’r map hwn yn nodi’r ardaloedd hynny o Gymru sydd wedi eu dynodi gan Weinidogion Cymru yn Barth Perygl Nitradau at ddibenion Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013”; a

(ii)sy’n pennu’r cyfnod y mae’n ymwneud ag ef.;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “phob pedair blynedd fan hwyraf wedi hynny” rhodder “chyn 1 Ionawr bob pedwaredd flwyddyn wedi hynny”.

Diwygio rheoliad 11 (adolygu parthau perygl nitradau)

6.  Yn rheoliad 11(2), yn lle “ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny” rhodder “a chyn 1 Ionawr bob pedwaredd flwyddyn wedi hynny”.

Diwygio rheoliad 36 (cofnodi maint y daliad)

7.  Yn rheoliad 36, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Rhaid i feddiannydd daliad newydd gofnodi maint cyfan y daliad wedi’i gyfrifo’n unol â rheoliad 12(3).

Diwygio rheoliad 37 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio)

8.  Yn rheoliad 37, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Rhaid i feddiannydd daliad newydd gyfrifo a chofnodi’r materion a restrir ym mharagraff (1)(a) i (c).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Ebrill 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)) (“Rheoliadau 2013”) sy’n ymwneud â monitro llygredd nitradau a dynodi parthau perygl nitradau.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2013 i ddiweddaru’r broses y caiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio i ddynodi ardaloedd yn barthau perygl nitradau. Mae’r broses ddynodi gyfredol yn dibynnu ar adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a gaiff ei diddymu unwaith y mae’r Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2013 i gyflwyno diffiniad ar gyfer “daliad newydd” yn sgil y broses ddynodi newydd.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2013 er mwyn darparu trefniadau trosiannol ar gyfer daliadau newydd.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ganlyniadol bellach gan gynnwys cyflwyno gofynion adrodd mewn perthynas â daliadau newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.

(1)

Gweler O.S. 2001/2555 ar gyfer y dynodiad a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 2013/2506 (Cy. 245), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/2020 (Cy. 308) ac O.S. 2018/1216 (Cy. 249). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.