
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Addasiadau trosiannol i’r Ddeddf mewn perthynas â darparwyr DSG y mae rheoleiddio yn parhau ar eu cyfer o dan Ddeddf 2000
8.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio mesurau gorfodi yn erbyn darparwr DSG mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol o dan Ddeddf 2000 yn ystod y cyfnod trosiannol, mae gofynion adran 7(1) a (2) o’r Ddeddf, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â’r cais wedi eu haddasu fel nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais mewn cysylltiad â’r man sy’n destun y mesurau gorfodi hyd nes bod unrhyw broses sy’n ymwneud â’r mesur gorfodi wedi ei chwblhau.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae cwblhau mesur gorfodi yn cynnwys—
(a)pa bryd y daw unrhyw amser i ben a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 21 o Ddeddf 2000; neu
(b)y cyfnod hyd nes y penderfynwyd ar unrhyw apêl o’r fath neu y rhoddwyd y gorau iddi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau gorfodi” yw—
(a)dyroddi hysbysiad o gynnig o dan adran 17(4)(a) o Ddeddf 2000 neu hysbysiad o benderfyniad yn dilyn cynnig o dan yr adran honno;
(b)atal dros dro o dan adran 14A neu ddyroddi hysbysiad i atal dros dro ar frys o dan adran 20B o Ddeddf 2000;
(c)cais i ganslo ar frys o dan adran 20A o Ddeddf 2000.
Back to top