xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 887 (Cy. 159)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019

Gwnaed

25 Ebrill 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Ebrill 2019

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 52(1) a (6) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person y mae ei gais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig wedi cael ei ganiatáu o dan adran 7(1) o’r Ddeddf;

ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(3);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli” (“the Advocacy Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(4);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion” (“the Adult Placement Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(5);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(6);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” (“the Fostering Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(7);

ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.

Troseddau o dan y Ddeddf

3.  Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 47 (gwneud datganiadau anwir) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol(8).

4.  Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 48 (methiant i gyflwyno datganiad blynyddol) neu 49 (methiant i ddarparu gwybodaeth) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol.

Troseddau o dan Reoliadau 2017

5.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2017 a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 1 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 1 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 1.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu

6.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 2 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 2.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion

7.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 3 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 3 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 3.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli

8.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 4 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion rheoliad 12.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 4 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 4.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu

9.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5.

Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb

10.—(1Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’w thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).

(2Mae adran 184 o’r Ddeddf(9) yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.

Talu’r gosb

11.—(1Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i Weinidogion Cymru drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.

(2Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, sy’n datgan i daliad cosb ddod i law neu na ddaeth i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn

12.  Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—

(i)na ddylai fod wedi cael ei roi, neu

(ii)na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu

(b)os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.

(2Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.

(3Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.

(4Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).

(5Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.

Cynnwys hysbysiad cosb

14.—(1Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.

(2Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y derbynnydd;

(b)swm y gosb;

(c)y cyfnod talu;

(d)y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;

(e)y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(f)y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;

(g)y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;

(h)y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;

(i)ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.

Cofnodion

15.  Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)copi o bob hysbysiad cosb a roddir;

(b)cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;

(c)manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;

(d)manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.

Dirymu

16.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017(10) wedi eu dirymu.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Ebrill 2019

Rheoliad 5

ATODLEN 1Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau a reoleiddir o dan Reoliadau 2017

Y ddarpariaeth sy’n creu’r droseddNatur gyffredinol y droseddSwm y gosb
Rheoliad 7(3) a (5) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 11(3) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 12(1) a (2) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 19(1), (2), (3) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 20(1) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 35(1) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 38(1) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 59(1), (2) a (3) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 60(1), (2) a (4) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 67(1) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 74(1) a (2) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 75(1) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 80(4) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 81(1) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 84(1) a (3) o Reoliadau 2017Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol

Rheoliad 6

ATODLEN 2Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig

Y ddarpariaeth sy’n creu’r droseddNatur gyffredinol y droseddSwm y gosb
Rheoliad 5(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 9(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 13(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 14(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 23(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 26(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 30(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1), (2), (3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 36(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 43(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 44(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 49(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 50(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau’r cymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 53(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MabwysiaduMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol

Rheoliad 7

ATODLEN 3Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau lleoli oedolion

Y ddarpariaeth sy’n creu’r droseddNatur gyffredinol y droseddSwm y gosb
Rheoliad 3(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 7(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 11(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gofalwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 16(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 28(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 40(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 41(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 46(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 53(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 54(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 59(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 60(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 63(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli OedolionMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol

Rheoliad 8

ATODLEN 4Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig

Y ddarpariaeth sy’n creu’r droseddNatur gyffredinol y droseddSwm y gosb
Rheoliad 4(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 15(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 24(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 27(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 32(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 37(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 44(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 50(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 51(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau eiriolaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 54(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau EirioliMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol

Rheoliad 9

ATODLEN 5Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau maethu rheoleiddiedig

Y ddarpariaeth sy’n creu’r droseddNatur gyffredinol y droseddSwm y gosb
Rheoliad 4(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag efSwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 12(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 30(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 33(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 39(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 40(1), (2), (3), (4), (5) ac (8) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 50(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 57(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 58(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 63(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 64(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 67(1) a (4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau MaethuMynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i Weinidogion Cymru, neu fethiant i gydymffurfio â hwySwm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n disodli’r system a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae adran 2 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi yn pennu’r gwasanaethau sy’n “gwasanaethau rheoleiddiedig” at ddibenion y Ddeddf. Y rhain yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion, gwasanaeth eirioli a gwasanaeth cymorth cartref.

O dan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf, cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth”. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 27 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y maent yn eu darparu.

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth ddynodi unigolyn fel yr “unigolyn cyfrifol” mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i’w ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 28 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae adran 45 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27. O dan adran 46 o’r Ddeddf, caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud rheoliadau sy’n darparu ei bod yn drosedd i unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 28 o’r Ddeddf.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 85 a 86 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 54 a 55 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau lleoli oedolion rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 64 a 65 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 55 a 56 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau maethu rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 68 a 69 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae adran 52(1) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i roi hysbysiad cosb i berson yn lle dwyn achos am drosedd, ond dim ond mewn perthynas â’r troseddau hynny a ragnodir mewn rheoliadau. O dan adran 52(2), dim ond troseddau o dan adrannau 47 (datganiadau anwir), 48 (methiant i gyflwyno datganiad blynyddol) neu 49 (methiant i ddarparu gwybodaeth) neu o dan reoliadau a wneir o dan adrannau 45 neu 46 o’r Ddeddf y caniateir iddynt gael eu rhagnodi felly.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r troseddau y caniateir i hysbysiad cosb gael ei roi i berson ar eu cyfer yn lle dwyn achos mewn perthynas â’r drosedd.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi’r troseddau yn y Ddeddf y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i berson mewn cysylltiad â hwy. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r troseddau rhagnodedig.

Mynegir swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r troseddau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn fel lluosrifau o’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol (ac maent yn amrywio rhwng lluosrifau o un i ddwywaith a hanner).

Mae rheoliad 5 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 1 yn rhagnodi’r troseddau yn Rheoliadau 2017 y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig mewn cysylltiad â hwy. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 6 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 2 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 7 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 3 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 8 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 4 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 9 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 5 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliadau 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amser erbyn pryd y mae rhaid talu hysbysiad cosb ac yn pennu’r ffordd y caniateir i swm gael ei dalu ynddi.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl wedi iddo gael ei roi, canlyniadau’r tynnu’n ôl hwnnw, ac yn pennu pa bryd y caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 14 yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys hysbysiad cosb.

Mae rheoliad 15 yn nodi’r gofynion o ran y cofnodion sydd i’w cadw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw hysbysiad cosb a roddir.

Mae rheoliad 16 yn dirymu Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 189 o’r Ddeddf am y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig”.

(8)

Gweler adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) (“Deddf 1982”); ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, mae lefel 4 ar y raddfa safonol wedi ei phennu’n £2,500 (caniateir i’r ffigur hwn gael ei gynyddu yn rhinwedd diwygiad i Ddeddf 1982).

(9)

Mae adran 184 o’r Ddeddf (cyflwyno dogfennau etc.) yn pennu y caniateir i hysbysiadau gael eu traddodi â llaw, cael eu gadael yng nghyfeiriad y derbynnydd, cael eu hanfon drwy’r gwasanaeth danfon cofnodedig neu, os yw’r derbynnydd wedi cytuno i’w cael ar ffurf electronig, drwy gael eu hanfon yn electronig i gyfeiriad a ddarperir at y diben hwnnw; mae is-adran (8) yn darparu pan fo hysbysiad yn cael ei anfon drwy’r gwasanaeth danfon cofnodedig neu’n electronig fod rhaid barnu bod yr hysbysiad wedi ei gael 48 awr ar ôl iddo gael ei anfon (oni ddangosir i’r gwrthwyneb).