NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy’n disodli’r system a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae adran 2 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi yn pennu’r gwasanaethau sy’n “gwasanaethau rheoleiddiedig” at ddibenion y Ddeddf. Y rhain yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion, gwasanaeth eirioli a gwasanaeth cymorth cartref.

O dan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf, cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth”. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 27 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y maent yn eu darparu.

Mae adran 6 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth ddynodi unigolyn fel yr “unigolyn cyfrifol” mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i’w ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 28 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae adran 45 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n darparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27. O dan adran 46 o’r Ddeddf, caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud rheoliadau sy’n darparu ei bod yn drosedd i unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 28 o’r Ddeddf.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 85 a 86 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 54 a 55 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau lleoli oedolion rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 64 a 65 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 55 a 56 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu”) yn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig ar gyfer gwasanaethau maethu rheoleiddiedig fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir yn rheoliadau 68 a 69 yn y drefn honno o’r Rheoliadau hynny.

Mae adran 52(1) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i roi hysbysiad cosb i berson yn lle dwyn achos am drosedd, ond dim ond mewn perthynas â’r troseddau hynny a ragnodir mewn rheoliadau. O dan adran 52(2), dim ond troseddau o dan adrannau 47 (datganiadau anwir), 48 (methiant i gyflwyno datganiad blynyddol) neu 49 (methiant i ddarparu gwybodaeth) neu o dan reoliadau a wneir o dan adrannau 45 neu 46 o’r Ddeddf y caniateir iddynt gael eu rhagnodi felly.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r troseddau y caniateir i hysbysiad cosb gael ei roi i berson ar eu cyfer yn lle dwyn achos mewn perthynas â’r drosedd.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi’r troseddau yn y Ddeddf y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i berson mewn cysylltiad â hwy. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r troseddau rhagnodedig.

Mynegir swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r troseddau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn fel lluosrifau o’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol (ac maent yn amrywio rhwng lluosrifau o un i ddwywaith a hanner).

Mae rheoliad 5 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 1 yn rhagnodi’r troseddau yn Rheoliadau 2017 y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig mewn cysylltiad â hwy. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 6 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 2 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 7 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 3 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 8 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 4 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliad 9 a’r golofn gyntaf yn y tabl yn Atodlen 5 yn rhagnodi’r troseddau yn y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i’r darparwr gwasanaeth neu i’r unigolyn cyfrifol dynodedig ar eu cyfer. Mae’r ail golofn a’r drydedd golofn yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig a swm y gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob trosedd.

Mae rheoliadau 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amser erbyn pryd y mae rhaid talu hysbysiad cosb ac yn pennu’r ffordd y caniateir i swm gael ei dalu ynddi.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl wedi iddo gael ei roi, canlyniadau’r tynnu’n ôl hwnnw, ac yn pennu pa bryd y caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 14 yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys hysbysiad cosb.

Mae rheoliad 15 yn nodi’r gofynion o ran y cofnodion sydd i’w cadw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw hysbysiad cosb a roddir.

Mae rheoliad 16 yn dirymu Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.