Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb
10.—(1) Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’w thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).
(2) Mae adran 184 o’r Ddeddf(1) yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.
Mae adran 184 o’r Ddeddf (cyflwyno dogfennau etc.) yn pennu y caniateir i hysbysiadau gael eu traddodi â llaw, cael eu gadael yng nghyfeiriad y derbynnydd, cael eu hanfon drwy’r gwasanaeth danfon cofnodedig neu, os yw’r derbynnydd wedi cytuno i’w cael ar ffurf electronig, drwy gael eu hanfon yn electronig i gyfeiriad a ddarperir at y diben hwnnw; mae is-adran (8) yn darparu pan fo hysbysiad yn cael ei anfon drwy’r gwasanaeth danfon cofnodedig neu’n electronig fod rhaid barnu bod yr hysbysiad wedi ei gael 48 awr ar ôl iddo gael ei anfon (oni ddangosir i’r gwrthwyneb).