xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Er mwyn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson fodloni’r darpariaethau cymhwystra ym Mhennod 2 o Ran 4 ac unrhyw ofynion cymhwystra eraill mewn mannau eraill yn y Rheoliadau. Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson ddod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Atodlen 2. Mae’r rhan fwyaf o’r categorïau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r person breswylio fel arfer yng Nghymru. At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono (Atodlen 2, paragraff 11(1)). Nid yw person yn fyfyriwr cymwys os, ymhlith pethau eraill, yw’r person hwnnw eisoes wedi ennill cymhwyster sy’n cyfateb i radd feistr neu’n uwch na gradd feistr.

Penderfynir ar y cyfnod y mae myfyriwr yn gymwys i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn yn unol â rheoliadau 11 i 14. O dan amgylchiadau penodol, caiff myfyriwr cymwys drosglwyddo o un cwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall.

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5 ac 8. Darperir cymorth i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig ble bynnag y bônt yn astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae rheoliadau 15 ac 16 yn nodi’r amgylchiadau y caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth odanynt o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i’r cwrs dynodedig ddechrau.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 18), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 19) ac mae rheoliad 20 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais ac er mwyn hysbysu ceisydd am benderfyniad. Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod rhwymedigaethau ar fyfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (rheoliad 22) ac i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad (rheoliad 23).

Mae cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar gael ar ffurf y grantiau a’r benthyciadau a ganlyn—

(a)grant sylfaenol a grant cyfrannu at gostau (Rhan 6);

(b)benthyciad cyfrannu at gostau (Rhan 7).

Swm y grant sylfaenol sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys yw £1,000 (rheoliad 25). Penderfynir ar swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr drwy gyfeirio at incwm aelwyd y myfyriwr a pha un a yw’n berson sy’n ymadael â gofal (rheoliad 27). Cyfrifir incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3. Diffinnir “person sy’n ymadael â gofal” yn rheoliad 29.

Mae benthyciadau cyfrannu ar gostau yn daladwy i fyfyrwyr cymwys yn unol â Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn. Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliad 31.

Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â thaliadau, gordaliadau ac adennill taliadau. Mae rheoliad 33 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i dalu cymorth mewn rhandaliadau.

Mae rheoliad 34 yn darparu na chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad cymorth hyd nes eu bod wedi cael cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol o bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs dynodedig. Mae rheoliad 35 yn galluogi Gweinidogion Cymru i beidio â thalu rhagor o daliadau cymorth os ydynt yn cael hysbysiad ynghylch diffyg presenoldeb myfyriwr ar y cwrs, ac eithrio pan fônt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y taliadau hynny yn ystod absenoldeb y myfyriwr.

Mae rheoliad 36 yn nodi sut y mae hawlogaeth i gael cymorth yn newid pan fydd myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor cymwys.

Mae Pennod 3 o Ran 8 yn nodi sut y gall Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofynion gwybodaeth mewn perthynas â benthyciadau cyfrannu at gostau.

Mae Rhan 10 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017.

Atodlen 4 yw’r atodlen olaf i’r Rheoliadau hyn ac mae’n cynnwys y mynegai o dermau wedi eu diffinio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.