Myfyriwr cymwys annibynnol neu bartner yn rhiant i fyfyriwr cymwysLL+C
8. Pan fo—
(a)myfyriwr cymwys annibynnol (“A”) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (“PA”) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (“M”), a
(b)dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,
nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)