RHAN 8Taliadau, Gordaliadau ac Adennill

PENNOD 2Talu grantiau a benthyciadau

Absenoldeb o’r cwrsI135

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 34(2) neu o dan reoliad 22(3) mewn perthynas â digwyddiad a restrir yn rheoliad 22(4)(a) i (d), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau mewn cysylltiad â’r myfyriwr cymwys y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

2

Caniateir gwneud taliadau pellach er gwaethaf diffyg presenoldeb y myfyriwr os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliadau hynny yn briodol o dan yr holl amgylchiadau yn ystod absenoldeb y myfyriwr.

3

Os yw’r myfyriwr cymwys yn ailgychwyn y cwrs dynodedig, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru a rhoi manylion llawn am hyd ac achos yr absenoldeb blaenorol.

4

Ar ôl ystyried hysbysiad y myfyriwr o dan baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru ailgychwyn unrhyw daliadau sy’n weddill o’r grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau o dan reoliad 33 os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau i’r taliad hwnnw gael ei wneud.