Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

Adennill grantiau sydd wedi cael eu gordaluLL+C

38.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.

(2Mae taliad o grant sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.

(3Caniateir adennill gordaliad o grant drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(4Nid yw paragraff (3) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 38 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)