2019 Rhif 92 (Cy. 24)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 20072

1

Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 20072 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “pasbort gwartheg” yn lle “yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000” rhodder “o dan Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn, neu’r mesur cyfatebol yn Lloegr neu’r Alban”.

3

Yn rheoliad 10(3)(f), yn lle “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall” rhodder “ag unrhyw berson”.

4

Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 8.

5

Ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn y teitl ac yn is-baragraff (1), hepgorer “arall”.

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20113

1

Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20113 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 8(2)(c), yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.

3

Yn erthygl 10, yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20154

1

Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20154 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2(1), yn y diffiniadau o “allforio”, “marc adnabod” a “dull adnabod”, hepgorer “arall”.

3

Yn erthygl 32, yn y teitl ac ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “arall”.

4

Yn erthygl 38(1)(g), hepgorer “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd”.

5

Yn erthygl 41(d), hepgorer “arall”.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd cofnodi, adnabod a symud da byw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.