Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 993 (Cy. 174)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

5 Mehefin 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mehefin 2019

Coming into force

1 Medi 2019

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997(1) ac adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a cychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2011” yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(4).

Trosiannol

3.  Yn rheoliad 5(3) o Reoliadau 2011—

(a)yn is-baragraff (a), mae’r geiriau “, sef y targedau adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol” i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor ar gyfer y flwyddyn ysgol(5) 2019 i 2020; a

(b)yn is-baragraff (b), mae’r geiriau “sef y targedau dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw’r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny” i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019 i 2020.

Diwygio

4.—(1Mae Rheoliadau 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “arholiad TGAU”, “FfCC”, “lefel FfCC”, “TGAU”, “trothwy lefel 1” a “trothwy lefel 2”; a

(b)hepgorer paragraff (2).

(3Yn rheoliad 5—

(a)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Y chwe chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol flaenorol.; a

(b)hepgorer paragraff (5).

(4Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion” yw’r ganran sy’n cyflawni’r chwe chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 5(4).

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru osod targedau sy’n ymwneud â pherfformiad yr ysgol a chyfraddau absenoldeb anawdurdodedig y disgyblion.

Mae rheoliad 5(4) o Reoliadau 2011 (targedau perfformiad ar gyfer disgyblion a fydd ym Mlwyddyn 11) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu osod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol pedwar ym Mlwyddyn 11 (gweler Rheoliadau 2011 am ddiffiniadau o “Blwyddyn 11” a “disgyblion cyfnod allweddol pedwar”). Yn benodol, mae rheoliad 5 o Reoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu osod targedau mewn perthynas ag—

(a)tri chyflawniad i’w penderfynu gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion (“targedau nas pennir”); a

(b)y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n cyflawni’r trothwy lefel 1 a’r trothwy lefel 2 (“targedau a bennir”).

O’r flwyddyn ysgol 2019/2020 ymlaen, a chan gynnwys y flwyddyn honno, ni fydd ysgolion yn defnyddio’r targedau a bennir. Yn lle hynny, bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion osod rhagor o dargedau nas pennir. Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5(4) o Reoliadau 2011 er mwyn (rheoliad 4(3))—

(a)cynyddu nifer y targedau nas pennir o dri i chwech; a

(b)hepgor y gofyniad i osod y targedau a bennir.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011 er mwyn hepgor rhai diffiniadau nad ydynt ond yn berthnasol i’r targedau a bennir (rheoliad 4(2)).

Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2011 (cyhoeddi gwybodaeth) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gyhoeddi, yn adroddiad blynyddol yr ysgol, y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sydd (gweler Rheoliadau 2011 am y diffiniad o “adroddiad blynyddol yr ysgol”) (rheoliad 4(4))—

(a)yn cyflawni’r tri tharged nas pennir; a

(b)yn cyflawni’r targedau a bennir.

O ganlyniad i’r diwygiad i reoliad 5(4) o Reoliadau 2011, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 8(3) o Reoliadau 2011—

(a)fel bod rhaid i’r corff llywodraethu adrodd am y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n cyflawni’r chwe tharged nas pennir; a

(b)fel na fydd rhaid i’r corff llywodraethu adrodd mwyach am y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni’r targedau a bennir.

Bydd y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cymryd effaith am y tro cyntaf yn y flwyddyn ysgol 2019 i 2020 (“y flwyddyn drosiannol”). Felly, ni fydd cyrff llywodraethu wedi gosod targedau yn y flwyddyn ysgol flaenorol sy’n gallu ffurfio’r sail ar gyfer eu targedau adolygedig a’u targedau terfynol yn y flwyddyn drosiannol. Bydd y targedau blaenorol wedi cael eu gosod yn erbyn mesurau perfformiad nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i’r corff llywodraethu osod targedau dros dro a thargedau terfynol ar gyfer y flwyddyn drosiannol nad ydynt yn seiliedig ar dargedau a osodwyd mewn blynyddoedd ysgol blaenorol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1997 p. 44. Diddymwyd adran 19 o ran Lloegr gan adran 66(1) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 213 o Atodlen 30 iddi.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 19 a 54 o Ddeddf Addysg 1997 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Mae adran 56(2) o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”) yn darparu bod rhaid i Ddeddf 1997 gael ei dehongli yn gytûn â Deddf Addysg 1996 ac felly mae i’r term “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).