- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
5 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mehefin 2019
Coming into force
1 Medi 2019
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2019.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2011” yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(4).
3. Yn rheoliad 5(3) o Reoliadau 2011—
(a)yn is-baragraff (a), mae’r geiriau “, sef y targedau adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol” i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor ar gyfer y flwyddyn ysgol(5) 2019 i 2020; a
(b)yn is-baragraff (b), mae’r geiriau “sef y targedau dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw’r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny” i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019 i 2020.
4.—(1) Mae Rheoliadau 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “arholiad TGAU”, “FfCC”, “lefel FfCC”, “TGAU”, “trothwy lefel 1” a “trothwy lefel 2”; a
(b)hepgorer paragraff (2).
(3) Yn rheoliad 5—
(a)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Y chwe chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol flaenorol.”; a
(b)hepgorer paragraff (5).
(4) Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion” yw’r ganran sy’n cyflawni’r chwe chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 5(4).”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru osod targedau sy’n ymwneud â pherfformiad yr ysgol a chyfraddau absenoldeb anawdurdodedig y disgyblion.
Mae rheoliad 5(4) o Reoliadau 2011 (targedau perfformiad ar gyfer disgyblion a fydd ym Mlwyddyn 11) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu osod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol pedwar ym Mlwyddyn 11 (gweler Rheoliadau 2011 am ddiffiniadau o “Blwyddyn 11” a “disgyblion cyfnod allweddol pedwar”). Yn benodol, mae rheoliad 5 o Reoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu osod targedau mewn perthynas ag—
(a)tri chyflawniad i’w penderfynu gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion (“targedau nas pennir”); a
(b)y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n cyflawni’r trothwy lefel 1 a’r trothwy lefel 2 (“targedau a bennir”).
O’r flwyddyn ysgol 2019/2020 ymlaen, a chan gynnwys y flwyddyn honno, ni fydd ysgolion yn defnyddio’r targedau a bennir. Yn lle hynny, bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion osod rhagor o dargedau nas pennir. Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5(4) o Reoliadau 2011 er mwyn (rheoliad 4(3))—
(a)cynyddu nifer y targedau nas pennir o dri i chwech; a
(b)hepgor y gofyniad i osod y targedau a bennir.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011 er mwyn hepgor rhai diffiniadau nad ydynt ond yn berthnasol i’r targedau a bennir (rheoliad 4(2)).
Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2011 (cyhoeddi gwybodaeth) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gyhoeddi, yn adroddiad blynyddol yr ysgol, y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sydd (gweler Rheoliadau 2011 am y diffiniad o “adroddiad blynyddol yr ysgol”) (rheoliad 4(4))—
(a)yn cyflawni’r tri tharged nas pennir; a
(b)yn cyflawni’r targedau a bennir.
O ganlyniad i’r diwygiad i reoliad 5(4) o Reoliadau 2011, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 8(3) o Reoliadau 2011—
(a)fel bod rhaid i’r corff llywodraethu adrodd am y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n cyflawni’r chwe tharged nas pennir; a
(b)fel na fydd rhaid i’r corff llywodraethu adrodd mwyach am y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni’r targedau a bennir.
Bydd y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cymryd effaith am y tro cyntaf yn y flwyddyn ysgol 2019 i 2020 (“y flwyddyn drosiannol”). Felly, ni fydd cyrff llywodraethu wedi gosod targedau yn y flwyddyn ysgol flaenorol sy’n gallu ffurfio’r sail ar gyfer eu targedau adolygedig a’u targedau terfynol yn y flwyddyn drosiannol. Bydd y targedau blaenorol wedi cael eu gosod yn erbyn mesurau perfformiad nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i’r corff llywodraethu osod targedau dros dro a thargedau terfynol ar gyfer y flwyddyn drosiannol nad ydynt yn seiliedig ar dargedau a osodwyd mewn blynyddoedd ysgol blaenorol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1997 p. 44. Diddymwyd adran 19 o ran Lloegr gan adran 66(1) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 213 o Atodlen 30 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 19 a 54 o Ddeddf Addysg 1997 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2011/1945 (Cy. 212), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/236 (Cy. 88) ac O.S. 2018/766 (Cy. 153).
Mae adran 56(2) o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”) yn darparu bod rhaid i Ddeddf 1997 gael ei dehongli yn gytûn â Deddf Addysg 1996 ac felly mae i’r term “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: