Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru osod targedau sy’n ymwneud â pherfformiad yr ysgol a chyfraddau absenoldeb anawdurdodedig y disgyblion.

Mae rheoliad 5(4) o Reoliadau 2011 (targedau perfformiad ar gyfer disgyblion a fydd ym Mlwyddyn 11) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu osod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol pedwar ym Mlwyddyn 11 (gweler Rheoliadau 2011 am ddiffiniadau o “Blwyddyn 11” a “disgyblion cyfnod allweddol pedwar”). Yn benodol, mae rheoliad 5 o Reoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu osod targedau mewn perthynas ag—

(a)tri chyflawniad i’w penderfynu gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion (“targedau nas pennir”); a

(b)y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n cyflawni’r trothwy lefel 1 a’r trothwy lefel 2 (“targedau a bennir”).

O’r flwyddyn ysgol 2019/2020 ymlaen, a chan gynnwys y flwyddyn honno, ni fydd ysgolion yn defnyddio’r targedau a bennir. Yn lle hynny, bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion osod rhagor o dargedau nas pennir. Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5(4) o Reoliadau 2011 er mwyn (rheoliad 4(3))—

(a)cynyddu nifer y targedau nas pennir o dri i chwech; a

(b)hepgor y gofyniad i osod y targedau a bennir.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011 er mwyn hepgor rhai diffiniadau nad ydynt ond yn berthnasol i’r targedau a bennir (rheoliad 4(2)).

Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2011 (cyhoeddi gwybodaeth) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gyhoeddi, yn adroddiad blynyddol yr ysgol, y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sydd (gweler Rheoliadau 2011 am y diffiniad o “adroddiad blynyddol yr ysgol”) (rheoliad 4(4))—

(a)yn cyflawni’r tri tharged nas pennir; a

(b)yn cyflawni’r targedau a bennir.

O ganlyniad i’r diwygiad i reoliad 5(4) o Reoliadau 2011, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 8(3) o Reoliadau 2011—

(a)fel bod rhaid i’r corff llywodraethu adrodd am y ganran o’r disgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n cyflawni’r chwe tharged nas pennir; a

(b)fel na fydd rhaid i’r corff llywodraethu adrodd mwyach am y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni’r targedau a bennir.

Bydd y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cymryd effaith am y tro cyntaf yn y flwyddyn ysgol 2019 i 2020 (“y flwyddyn drosiannol”). Felly, ni fydd cyrff llywodraethu wedi gosod targedau yn y flwyddyn ysgol flaenorol sy’n gallu ffurfio’r sail ar gyfer eu targedau adolygedig a’u targedau terfynol yn y flwyddyn drosiannol. Bydd y targedau blaenorol wedi cael eu gosod yn erbyn mesurau perfformiad nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i’r corff llywodraethu osod targedau dros dro a thargedau terfynol ar gyfer y flwyddyn drosiannol nad ydynt yn seiliedig ar dargedau a osodwyd mewn blynyddoedd ysgol blaenorol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.