Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2020/984 (Cy. 221) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 1011 (Cy. 225)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Yn dod i rym
am 12.01 a.m. ar 18 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 11.00 a.m. ar 18 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984().
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 18 Medi 2020.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
(b)mae i “swyddog gorfodaeth” yr ystyr a roddir gan reoliad 15;
(c)mae i “cyfarwyddyd digwyddiad” yr ystyr a roddir gan reoliad 6;
(d)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(e)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;
(f)mae i “cyfarwyddyd mangre” yr ystyr a roddir gan reoliad 5;
(g)mae i “man cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2);
(h)mae i “cyfarwyddyd man cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan reoliad 7.
Dod i ben
3.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
RHAN 2Cyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus
PENNOD 1Rhoi a dirymu cyfarwyddydau
Yr amodau iechyd y cyhoedd dros roi cyfarwyddydau
4.—(1) Os yw’n ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, caiff awdurdod lleol roi—
(a)cyfarwyddyd mangre o dan reoliad 5;
(b)cyfarwyddyd digwyddiad o dan reoliad 6;
(c)cyfarwyddyd man cyhoeddus o dan reoliad 7.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, yr “amodau iechyd y cyhoedd” yw—
(a)bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd,
(b)bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, ac
(c)bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.
Cyfarwyddydau mangreoedd
5.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd mangre mewn cysylltiad ag unrhyw fangre yn ei ardal.
(2) Caiff cyfarwyddyd mangre—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r fangre gael ei chau;
(b)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r fangre neu ei gadael;
(c)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â defnyddio’r fangre;
(d)gosod cyfyngiadau mewn perthynas â nifer y personau neu’r disgrifiad o’r personau a ganiateir yn y fangre.
(3) Ond ni chaniateir i gyfarwyddyd mangre gael ei roi mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith allweddol.
(4) Cyn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r angen i sicrhau y gall aelodau’r cyhoedd gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
(5) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—
(a)person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a
(b)(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre.
(6) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre y mae cyfarwyddyd mangre yn ymwneud â hi gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.
(7) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre.
Cyfarwyddydau digwyddiadau
6.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd digwyddiad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiad a gynhelir, neu y bwriedir ei gynnal, yn ei ardal.
(2) Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i a yw pobl yn ymgynnull yn y digwyddiad yn groes i reoliad 14 neu 14A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(), neu a ydynt yn debygol o wneud hynny.
(3) Caiff cyfarwyddyd digwyddiad—
(a)ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad ddod i ben neu beidio â chael ei gynnal;
(b)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r digwyddiad neu ei adael;
(c)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â nifer y personau a gaiff fod yn bresennol yn y digwyddiad;
(d)gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion eraill mewn perthynas â chynnal y digwyddiad (gan gynnwys, er enghraifft, gofynion sy’n ymwneud â phresenoldeb gwasanaethau meddygol neu’r gwasanaethau brys yn y digwyddiad).
(4) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd digwyddiad rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—
(a)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad, a
(b)(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd.
(5) Rhaid i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad y mae cyfarwyddyd digwyddiad yn ymwneud ag ef gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.
(6) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad.
(7) At ddibenion y Rhan hon, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu os na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fod yn bresennol ynddo.
Cyfarwyddydau mannau cyhoeddus
7.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad ag unrhyw fan cyhoeddus yn ardal yr awdurdod.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “man cyhoeddus” yw man yn yr awyr agored y mae gan y cyhoedd fynediad iddo neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddo, pa un ai drwy dalu neu fel arall, gan gynnwys—
(a)tir sy’n ardd gyhoeddus neu a ddefnyddir at ddiben hamdden gan aelodau’r cyhoedd;
(b)tir sy’n “cefn gwlad agored” fel y diffinnir “open country” yn adran 59(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(), fel y’i darllenir gydag adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968();
(c)unrhyw briffordd y mae gan y cyhoedd fynediad iddi.
(3) Ond nid yw man cyhoeddus yn cynnwys—
(a)“tir mynediad” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(c);
(b)“llwybr cyhoeddus” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(b).
(4) Caiff cyfarwyddyd man cyhoeddus osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau mewn perthynas â mynediad i’r man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd mynediad ar adegau penodedig).
(5) Rhaid i gyfarwyddyd man cyhoeddus ddisgrifio’r man cyhoeddus yn ddigon manwl er mwyn gallu canfod ei ffiniau.
(6) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd man cyhoeddus rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—
(a)atal neu gyfyngu mynediad y cyhoedd i’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef yn unol â’r cyfarwyddyd (gan gynnwys codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);
(b)rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i bersonau sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus;
(c)sicrhau y dygir y cyfarwyddyd i sylw unrhyw berson sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre ynddo neu sy’n gyfrifol am unrhyw fangre ynddo.
(7) Rhaid i unrhyw berson, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n berchen ar fangre mewn man cyhoeddus y mae cyfarwyddyd man cyhoeddus yn ymwneud ag ef, sy’n meddiannu mangre o’r fath neu sy’n gyfrifol am fangre o’r fath gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn atal neu gyfyngu mynediad y cyhoedd i’r fangre yn unol â’r cyfarwyddyd.
(8) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, fynd i fan cyhoeddus y mae cyfarwyddyd man cyhoeddus yn ymwneud ag ef neu aros yn y man cyhoeddus hwnnw yn groes i waharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd.
(9) Ni chaiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man cyhoeddus sy’n cynnwys eiddo y mae adran 73 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984() (eiddo’r Goron) yn gymwys iddo.
(10) Ond caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â’r man hwnnw os yw’r awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb o dan is-adran (2) o adran 73 â’r awdurdod priodol (o fewn yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan yr adran honno) fod—
(a)adran 45C o’r Ddeddf honno, a
(b)y Rheoliadau hyn,
yn gymwys i’r eiddo (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau a gynhwysir yn y cytundeb).
Adolygu a dirymu
8.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod adolygu a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd—
(a)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir y cyfarwyddyd, a
(b)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod.
(2) Os yw’r awdurdod lleol, ar ôl cynnal adolygiad o dan baragraff (1), yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn cael eu bodloni mwyach, rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r cyfarwyddyd.
(3) Nid yw paragraff (2) yn atal awdurdod lleol rhag dirymu cyfarwyddyd ar unrhyw adeg os yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r cyfarwyddyd.
(4) Caiff cyfarwyddyd ei ddirymu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i bob person y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo.
(5) Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 11 yn gymwys i ddirymiad fel y maent yn gymwys i gyfarwyddyd.
(6) Mae cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith ar adeg rhoi’r hysbysiad o ddirymiad.
Gofyniad i roi sylw i gyngor neu ganllawiau ac i ymgynghori
9. Wrth benderfynu pa un ai i roi neu ddirymu cyfarwyddyd o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod lleol—
(a)roi sylw—
(i)i unrhyw gyngor a roddir iddo gan Gyfarwyddwr Diogelu’r Cyhoedd yr awdurdod;
(ii)i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyfarwyddydau o dan y Rhan hon, a
(b)ymgynghori â Gweinidogion Cymru os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
PENNOD 2Ffurf a gweithdrefn
Ffurf a chynnwys cyfarwyddydau
10. Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)cynnwys disgrifiad o’r fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi neu ag ef (ac yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus gweler rheoliad 7(5));
(c)datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd yn cymryd effaith (na chaniateir iddo fod yn gynharach na’r adeg y rhoddir y cyfarwyddyd);
(d)datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad o’r fath yn peidio â chael effaith (na chaniateir iddo fod yn fwy nag 21 o ddiwrnodau ar ôl iddo gymryd effaith);
(e)nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd;
(f)rhoi manylion am yr hawl i apelio, a’r hawl i gyflwyno sylwadau, a roddir gan reoliad 12.
Rhoi cyfarwyddyd
11.—(1) Mae awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon drwy roi’r cyfarwyddyd yn ysgrifenedig—
(a)yn achos cyfarwyddyd mangre, i—
(i)person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a
(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre, sy’n meddiannu’r fangre neu sydd fel arall yn gyfrifol am y fangre;
(b)yn achos cyfarwyddyd digwyddiad, i—
(i)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef, a
(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd, sy’n meddiannu’r fangre honno neu sydd fel arall yn gyfrifol am y fangre honno;
(c)yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus, i—
(i)person sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef, a
(ii)pob person sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre yn y man cyhoeddus neu sydd fel arall yn gyfrifol am unrhyw fangre yn y man cyhoeddus.
(2) Os nad yw’n rhesymol ymarferol i awdurdod lleol roi cyfarwyddyd yn unol â pharagraff (1), mae’r cyfarwyddyd i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn unol â’r paragraff hwnnw pan y’i cyhoeddir yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn briodol i’w ddwyn i sylw personau y gall y cyfarwyddyd effeithio arnynt.
(3) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i awdurdod lleol roi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i unrhyw berson arall a enwir yn y cyfarwyddyd,
(b)anfon copi o’r cyfarwyddyd i—
(i)Gweinidogion Cymru,
(ii)pob awdurdod lleol arall y mae ei ardal yn gyfagos i ardal yr awdurdod,
(iii)pan fo ardal yr awdurdod lleol yn gyfagos i ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref yn Lloegr, y cyngor hwnnw, ac
(c)cyhoeddi’r cyfarwyddyd yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn ei ddwyn i sylw personau y gall y cyfarwyddyd effeithio arnynt.
Apelau a sylwadau
12.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person a chanddo fuddiant” yw—
(a)yn achos cyfarwyddyd mangre—
(i)person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi;
(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre;
(b)yn achos cyfarwyddyd digwyddiad—
(i)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;
(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd neu sy’n meddiannu’r fangre honno;
(c)yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus—
(i)person sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;
(ii)person sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre yn y man cyhoeddus neu sy’n gyfrifol am unrhyw fangre yn y man cyhoeddus.
(2) Caiff person a chanddo fuddiant—
(a)apelio yn erbyn y cyfarwyddyd i lys ynadon drwy gŵyn am orchymyn, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980() yn gymwys i’r achos;
(b)cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cyfarwyddyd.
(3) Pan fo person a chanddo fuddiant yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried y sylwadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a
(b)penderfynu a fyddai’n briodol arfer y pŵer yn rheoliad 13(1).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad ym mharagraff (3)(b) i—
(a)y person a chanddo fuddiant, a
(b)yr awdurdod lleol a roddodd y cyfarwyddyd.
(5) Nid yw cyflwyno sylwadau o dan baragraff (2)(b) yn effeithio ar hawl person a chanddo fuddiant i apelio o dan baragraff (2)(a).
PENNOD 3Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud dirymiad yn ofynnol
Pŵer Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirymu cyfarwyddyd
13.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir gan awdurdod lleol o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddirymu’r cyfarwyddyd.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirymu cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn—
(a)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd, a
(b)nid yw rheoliad 9 yn gymwys.
(3) Cyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirymu cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Phrif Swyddog Meddygol Cymru.
RHAN 3Dyletswydd i gau rhai llwybrau cyhoeddus a thir mynediad
Cau llwybrau cyhoeddus a thir mynediad
14.—(1) Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a
(b)ei gadw ar gau tan yr adeg pan fydd yr awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint â’r coronafeirws yn ei ardal.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried—
(a)ei bod yn debygol y bydd niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd arnynt, neu
(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Pan fo llwybr cyhoeddus neu dir mynediad wedi ei gau o dan—
(a)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(),
(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(),
(c)rheoliad 11 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(),
mae’r llwybr neu’r tir i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
(4) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio llwybr cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.
(5) Rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;
(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
(i)awdurdod lleol,
(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,
(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu
(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac—
(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr ag a roddir i “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980();
(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “byway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981();
(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000();
(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000().
RHAN 4Gorfodi
Swyddogion gorfodaeth
15.—(1) At ddibenion rheoliadau 16, 17 a 19, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—
(a)cwnstabl,
(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu, neu
(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)Gweinidogion Cymru,
(ii)awdurdod lleol,
(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,
at ddibenion rheoliadau 16 i 19 (ond gweler paragraff (2)).
(2) Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 14(4) (neu achos honedig o’i dorri).
Camau gorfodi
16.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person—
(a)yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus, neu
(b)yn methu, neu wedi methu, â chymryd camau sy’n ofynnol o dan reoliad 5(6), 6(5) neu 7(7).
(2) Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn—
(a)atal y person hwnnw rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd, neu
(b)cywiro’r methiant i gymryd camau.
(3) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn mangre yn groes i gyfarwyddyd mangre, caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo’r person i adael y fangre;
(b)symud y person o’r fangre.
(4) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod digwyddiad yn cael ei gynnal yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad, caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo bod digwyddiad yn dod i ben;
(b)cyfarwyddo person i adael y digwyddiad;
(c)symud person o’r digwyddiad.
(5) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus, caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo’r person i adael y man;
(b)symud y person o’r man.
(6) Caiff cwnstabl—
(a)wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3), (4) neu (5), gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(b)defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3)(b), (4)(c) neu (5)(b).
(7) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (3), (4) neu (5) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus, yn ôl y digwydd, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i P.
(8) Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 14(4), caiff y swyddog symud y person o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 14(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 14(1), a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.
(9) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (8) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y man cyhoeddus neu’r tir mynediad, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i C.
(10) At ddibenion paragraffau (7) a (9), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(11) Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gorfodi eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y rheoliad hwn neu reoliad 17.
(12) Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer dan y rheoliad hwn neu reoliad 17 os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
(13) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “cwnstabl” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys swyddog cymorth cymunedol yr heddlu.
Pŵer mynd i mewn
17.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre i gymryd camau gorfodi, neu i hwyluso cymryd camau gorfodi, o dan reoliad 16.
(2) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)defnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre;
(b)cymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu at ba ddiben yr arferir y pŵer;
(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, gadael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
Troseddau a chosbau
18.—(1) Mae person sydd—
(a)yn torri rheoliad 5(7), 6(6) neu 7(8),
(b)heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd camau sy’n ofynnol o dan reoliad 5(6), 6(5) neu 7(7), neu
(c)heb esgus rhesymol, yn torri rheoliad 14(4),
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(3) Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 16(1), neu
(b)yn torri cyfarwyddyd a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 16(3)(a), (4)(a) neu (b), (5)(a) neu (6)(a),
yn cyflawni trosedd.
(4) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
(5) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984() yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
(6) Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(8) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
(9) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
(10) Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925() ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(11) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.
(12) Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.
Hysbysiadau cosb benodedig
19.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)awdurdod lleol, neu
(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4) Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.
(5) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(6) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (5)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig;
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(7) Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (6)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).
(8) Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.
(9) Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau a grybwyllir ym mharagraff (10)—
(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a
(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(10) Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau a ganlyn i’w hystyried—
(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020;
(b)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
(11) Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (6)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (6)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(12) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (11), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(13) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif —
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)yr awdurdod lleol, neu
(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y tystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
(14) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 14(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Erlyn
20. Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.
RHAN 5Dirymu a diwygiadau canlyniadol
Dirymu
21. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020() wedi eu dirymu.
Diwygiad canlyniadol
22. Yn rheoliad 21(11) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, yn lle “Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020” rhodder “Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2020
NODYN ESBONIADOL
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau dehongli. Mae hefyd yn darparu y bod y Rheoliadau yn dod i ben ar 8 Ionawr 2021 oni bai y cânt eu dirymu cyn hynny.
Mae Rhan 2 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus yn eu hardaloedd er mwyn helpu i reoli’r coronafeirws o fewn eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys cau mangreoedd a mannau cyhoeddus a dod â digwyddiadau i ben pan fo angen.
Mae Rhan 3 yn parhau â dyletswydd sydd eisoes wedi ei gosod ar awdurdodau lleol, awdurdodau Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau llwybrau troed cyhoeddus a thir sy’n hygyrch i’r cyhoedd yng Nghymru lle y gall pobl yn ymgynull arwain at risg uchel o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer gorfodi’r cyfyngiadau neu’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau.
Mae Rhan 5 yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/984 (Cy. 221)) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/725 (Cy. 162)). Mae’r Rheoliadau yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 oherwydd methiant i gofnodi’n briodol ddatganiad Gweinidogion Cymru bod y Rheoliadau yn rhai brys, yn unol ag adran 45R(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.