NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau dehongli. Mae hefyd yn darparu y bod y Rheoliadau yn dod i ben ar 8 Ionawr 2021 oni bai y cânt eu dirymu cyn hynny.

Mae Rhan 2 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus yn eu hardaloedd er mwyn helpu i reoli’r coronafeirws o fewn eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys cau mangreoedd a mannau cyhoeddus a dod â digwyddiadau i ben pan fo angen.

Mae Rhan 3 yn parhau â dyletswydd sydd eisoes wedi ei gosod ar awdurdodau lleol, awdurdodau Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau llwybrau troed cyhoeddus a thir sy’n hygyrch i’r cyhoedd yng Nghymru lle y gall pobl yn ymgynull arwain at risg uchel o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer gorfodi’r cyfyngiadau neu’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau.

Mae Rhan 5 yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/984 (Cy. 221)) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/725 (Cy. 162)). Mae’r Rheoliadau yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 oherwydd methiant i gofnodi’n briodol ddatganiad Gweinidogion Cymru bod y Rheoliadau yn rhai brys, yn unol ag adran 45R(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.