RHAN 2Cyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus

PENNOD 1Rhoi a dirymu cyfarwyddydau

Yr amodau iechyd y cyhoedd dros roi cyfarwyddydau4

1

Os yw’n ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, caiff awdurdod lleol roi—

a

cyfarwyddyd mangre o dan reoliad 5;

b

cyfarwyddyd digwyddiad o dan reoliad 6;

c

cyfarwyddyd man cyhoeddus o dan reoliad 7.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, yr “amodau iechyd y cyhoedd” yw—

a

bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd,

b

bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, ac

c

bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.

Cyfarwyddydau mangreoedd5

1

Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd mangre mewn cysylltiad ag unrhyw fangre yn ei ardal.

2

Caiff cyfarwyddyd mangre—

a

ei gwneud yn ofynnol i’r fangre gael ei chau;

b

gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r fangre neu ei gadael;

c

gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â defnyddio’r fangre;

d

gosod cyfyngiadau mewn perthynas â nifer y personau neu’r disgrifiad o’r personau a ganiateir yn y fangre.

3

Ond ni chaniateir i gyfarwyddyd mangre gael ei roi mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith allweddol.

4

Cyn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r angen i sicrhau y gall aelodau’r cyhoedd gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

5

Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—

a

person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a

b

(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre.

6

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre y mae cyfarwyddyd mangre yn ymwneud â hi gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.

7

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre.

Cyfarwyddydau digwyddiadau6

1

Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd digwyddiad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiad a gynhelir, neu y bwriedir ei gynnal, yn ei ardal.

2

Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i a yw pobl yn ymgynnull yn y digwyddiad yn groes i reoliad 14 neu 14A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202, neu a ydynt yn debygol o wneud hynny.

3

Caiff cyfarwyddyd digwyddiad—

a

ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad ddod i ben neu beidio â chael ei gynnal;

b

gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r digwyddiad neu ei adael;

c

gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â nifer y personau a gaiff fod yn bresennol yn y digwyddiad;

d

gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion eraill mewn perthynas â chynnal y digwyddiad (gan gynnwys, er enghraifft, gofynion sy’n ymwneud â phresenoldeb gwasanaethau meddygol neu’r gwasanaethau brys yn y digwyddiad).

4

Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd digwyddiad rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—

a

person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad, a

b

(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd.

5

Rhaid i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad y mae cyfarwyddyd digwyddiad yn ymwneud ag ef gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.

6

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad.

7

At ddibenion y Rhan hon, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu os na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fod yn bresennol ynddo.

Cyfarwyddydau mannau cyhoeddus7

1

Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad ag unrhyw fan cyhoeddus yn ardal yr awdurdod.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “man cyhoeddus” yw man yn yr awyr agored y mae gan y cyhoedd fynediad iddo neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddo, pa un ai drwy dalu neu fel arall, gan gynnwys—

a

tir sy’n ardd gyhoeddus neu a ddefnyddir at ddiben hamdden gan aelodau’r cyhoedd;

b

tir sy’n “cefn gwlad agored” fel y diffinnir “open country” yn adran 59(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 19493, fel y’i darllenir gydag adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad 19684;

c

unrhyw briffordd y mae gan y cyhoedd fynediad iddi.

3

Ond nid yw man cyhoeddus yn cynnwys—

a

“tir mynediad” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(c);

b

“llwybr cyhoeddus” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(b).

4

Caiff cyfarwyddyd man cyhoeddus osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau mewn perthynas â mynediad i’r man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd mynediad ar adegau penodedig).

5

Rhaid i gyfarwyddyd man cyhoeddus ddisgrifio’r man cyhoeddus yn ddigon manwl er mwyn gallu canfod ei ffiniau.

6

Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd man cyhoeddus rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—

a

atal neu gyfyngu mynediad y cyhoedd i’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef yn unol â’r cyfarwyddyd (gan gynnwys codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);

b

rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i bersonau sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus;

c

sicrhau y dygir y cyfarwyddyd i sylw unrhyw berson sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre ynddo neu sy’n gyfrifol am unrhyw fangre ynddo.

7

Rhaid i unrhyw berson, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n berchen ar fangre mewn man cyhoeddus y mae cyfarwyddyd man cyhoeddus yn ymwneud ag ef, sy’n meddiannu mangre o’r fath neu sy’n gyfrifol am fangre o’r fath gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn atal neu gyfyngu mynediad y cyhoedd i’r fangre yn unol â’r cyfarwyddyd.

8

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, fynd i fan cyhoeddus y mae cyfarwyddyd man cyhoeddus yn ymwneud ag ef neu aros yn y man cyhoeddus hwnnw yn groes i waharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd.

9

Ni chaiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man cyhoeddus sy’n cynnwys eiddo y mae adran 73 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19845 (eiddo’r Goron) yn gymwys iddo.

10

Ond caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â’r man hwnnw os yw’r awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb o dan is-adran (2) o adran 73 â’r awdurdod priodol (o fewn yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan yr adran honno) fod—

a

adran 45C o’r Ddeddf honno, a

b

y Rheoliadau hyn,

yn gymwys i’r eiddo (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau a gynhwysir yn y cytundeb).

Adolygu a dirymu8

1

Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod adolygu a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd—

a

o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir y cyfarwyddyd, a

b

o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod.

2

Os yw’r awdurdod lleol, ar ôl cynnal adolygiad o dan baragraff (1), yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn cael eu bodloni mwyach, rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r cyfarwyddyd.

3

Nid yw paragraff (2) yn atal awdurdod lleol rhag dirymu cyfarwyddyd ar unrhyw adeg os yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r cyfarwyddyd.

4

Caiff cyfarwyddyd ei ddirymu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i bob person y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo.

5

Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 11 yn gymwys i ddirymiad fel y maent yn gymwys i gyfarwyddyd.

6

Mae cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith ar adeg rhoi’r hysbysiad o ddirymiad.

Gofyniad i roi sylw i gyngor neu ganllawiau ac i ymgynghori9

Wrth benderfynu pa un ai i roi neu ddirymu cyfarwyddyd o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod lleol—

a

roi sylw—

i

i unrhyw gyngor a roddir iddo gan Gyfarwyddwr Diogelu’r Cyhoedd yr awdurdod;

ii

i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyfarwyddydau o dan y Rhan hon, a

b

ymgynghori â Gweinidogion Cymru os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

PENNOD 2Ffurf a gweithdrefn

Ffurf a chynnwys cyfarwyddydau10

Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon—

a

bod yn ysgrifenedig;

b

cynnwys disgrifiad o’r fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi neu ag ef (ac yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus gweler rheoliad 7(5));

c

datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd yn cymryd effaith (na chaniateir iddo fod yn gynharach na’r adeg y rhoddir y cyfarwyddyd);

d

datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad o’r fath yn peidio â chael effaith (na chaniateir iddo fod yn fwy nag 21 o ddiwrnodau ar ôl iddo gymryd effaith);

e

nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd;

f

rhoi manylion am yr hawl i apelio, a’r hawl i gyflwyno sylwadau, a roddir gan reoliad 12.

Rhoi cyfarwyddyd11

1

Mae awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon drwy roi’r cyfarwyddyd yn ysgrifenedig—

a

yn achos cyfarwyddyd mangre, i—

i

person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a

ii

(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre, sy’n meddiannu’r fangre neu sydd fel arall yn gyfrifol am y fangre;

b

yn achos cyfarwyddyd digwyddiad, i—

i

person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef, a

ii

(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd, sy’n meddiannu’r fangre honno neu sydd fel arall yn gyfrifol am y fangre honno;

c

yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus, i—

i

person sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef, a

ii

pob person sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre yn y man cyhoeddus neu sydd fel arall yn gyfrifol am unrhyw fangre yn y man cyhoeddus.

2

Os nad yw’n rhesymol ymarferol i awdurdod lleol roi cyfarwyddyd yn unol â pharagraff (1), mae’r cyfarwyddyd i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn unol â’r paragraff hwnnw pan y’i cyhoeddir yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn briodol i’w ddwyn i sylw personau y gall y cyfarwyddyd effeithio arnynt.

3

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i awdurdod lleol roi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon rhaid i’r awdurdod lleol—

a

rhoi copi o’r cyfarwyddyd i unrhyw berson arall a enwir yn y cyfarwyddyd,

b

anfon copi o’r cyfarwyddyd i—

i

Gweinidogion Cymru,

ii

pob awdurdod lleol arall y mae ei ardal yn gyfagos i ardal yr awdurdod,

iii

pan fo ardal yr awdurdod lleol yn gyfagos i ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref yn Lloegr, y cyngor hwnnw, ac

c

cyhoeddi’r cyfarwyddyd yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn ei ddwyn i sylw personau y gall y cyfarwyddyd effeithio arnynt.

Apelau a sylwadau12

1

Yn y rheoliad hwn, ystyr “person a chanddo fuddiant” yw—

a

yn achos cyfarwyddyd mangre—

i

person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi;

ii

(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre;

b

yn achos cyfarwyddyd digwyddiad—

i

person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;

ii

(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd neu sy’n meddiannu’r fangre honno;

c

yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus—

i

person sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;

ii

person sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre yn y man cyhoeddus neu sy’n gyfrifol am unrhyw fangre yn y man cyhoeddus.

2

Caiff person a chanddo fuddiant—

a

apelio yn erbyn y cyfarwyddyd i lys ynadon drwy gŵyn am orchymyn, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 19806 yn gymwys i’r achos;

b

cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cyfarwyddyd.

3

Pan fo person a chanddo fuddiant yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn rhaid i Weinidogion Cymru—

a

ystyried y sylwadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a

b

penderfynu a fyddai’n briodol arfer y pŵer yn rheoliad 13(1).

4

Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad ym mharagraff (3)(b) i—

a

y person a chanddo fuddiant, a

b

yr awdurdod lleol a roddodd y cyfarwyddyd.

5

Nid yw cyflwyno sylwadau o dan baragraff (2)(b) yn effeithio ar hawl person a chanddo fuddiant i apelio o dan baragraff (2)(a).

PENNOD 3Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud dirymiad yn ofynnol

Pŵer Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirymu cyfarwyddyd13

1

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir gan awdurdod lleol o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddirymu’r cyfarwyddyd.

2

Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirymu cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn—

a

nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd, a

b

nid yw rheoliad 9 yn gymwys.

3

Cyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddirymu cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Phrif Swyddog Meddygol Cymru.