xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus

PENNOD 1LL+CRhoi [F1cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl]

Yr amodau iechyd y cyhoedd dros roi cyfarwyddydauLL+C

4.—(1Os yw’n ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, caiff awdurdod lleol roi—

(a)cyfarwyddyd mangre o dan reoliad 5;

(b)cyfarwyddyd digwyddiad o dan reoliad 6;

(c)cyfarwyddyd man cyhoeddus o dan reoliad 7.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, yr “amodau iechyd y cyhoedd” yw—

(a)bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd,

(b)bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, ac

(c)bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

Cyfarwyddydau mangreoeddLL+C

5.—(1Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd mangre mewn cysylltiad ag unrhyw fangre yn ei ardal.

(2Caiff cyfarwyddyd mangre—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r fangre gael ei chau;

(b)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r fangre neu ei gadael;

(c)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â defnyddio’r fangre;

(d)gosod cyfyngiadau mewn perthynas â nifer y personau neu’r disgrifiad o’r personau a ganiateir yn y fangre.

(3Ond ni chaniateir i gyfarwyddyd mangre gael ei roi mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith allweddol.

(4Cyn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r angen i sicrhau y gall aelodau’r cyhoedd gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

(5Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—

(a)person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a

(b)(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre.

(6Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre y mae cyfarwyddyd mangre yn ymwneud â hi gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.

(7Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 5 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

Cyfarwyddydau digwyddiadauLL+C

6.—(1Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd digwyddiad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiad a gynhelir, neu y bwriedir ei gynnal, yn ei ardal.

[F2(2) Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i a yw pobl yn ymgynnull, neu’n debygol o ymgynnull, yn y digwyddiad yn groes i ba un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 sy’n gymwys i’r ardal lle y cynhelir y digwyddiad neu lle y bwriedir cynnal y digwyddiad—

(a)paragraff 2 o Atodlen 1;

(b)paragraff 2 o Atodlen 2;

(c)[F3paragraff 3] 2 o Atodlen 3;

(d)paragraff 2 o Atodlen 4.]

(3Caiff cyfarwyddyd digwyddiad—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad ddod i ben neu beidio â chael ei gynnal;

(b)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r digwyddiad neu ei adael;

(c)gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â nifer y personau a gaiff fod yn bresennol yn y digwyddiad;

(d)gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion eraill mewn perthynas â chynnal y digwyddiad (gan gynnwys, er enghraifft, gofynion sy’n ymwneud â phresenoldeb gwasanaethau meddygol neu’r gwasanaethau brys yn y digwyddiad).

(4Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd digwyddiad rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—

(a)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad, a

(b)(os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd.

(5Rhaid i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad y mae cyfarwyddyd digwyddiad yn ymwneud ag ef gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.

(6Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad.

(7At ddibenion y Rhan hon, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu os na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fod yn bresennol ynddo.

F4[F5(8)] . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfarwyddydau mannau cyhoeddusLL+C

[F67.(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad ag unrhyw fan cyhoeddus yn ardal yr awdurdod.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “man cyhoeddus” yw man yn yr awyr agored y mae gan y cyhoedd fynediad iddo neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddo, pa un ai drwy dalu neu fel arall, gan gynnwys—

(a)tir sy’n ardd gyhoeddus neu a ddefnyddir at ddiben hamdden gan aelodau’r cyhoedd;

(b)tir sy’n “cefn gwlad agored” fel y diffinnir “open country” yn adran 59(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(1), fel y’i darllenir gydag adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(2);

(c)unrhyw briffordd y mae gan y cyhoedd fynediad iddi;

(d)llwybr cyhoeddus;

(e)tir mynediad.

(3) Caiff cyfarwyddyd man cyhoeddus osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau mewn perthynas—

(a)â mynediad i’r man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd mynediad ar adegau penodedig);

(b)â gweithgareddau a gynhelir yn y man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd yfed alcohol neu gyfyngu ar yfed alcohol).

(4) Ond ni chaiff cyfarwyddyd man cyhoeddus—

(a)gosod gwaharddiadau, gofynion na chyfyngiadau—

(i)mewn perthynas â mynediad i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (gweler yn hytrach reoliad 14);

(ii)ar yfed alcohol mewn mangre yn y man cyhoeddus sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol;

(b)gosod gwaharddiadau na gofynion mewn perthynas â mynediad i’r man cyhoeddus neu weithgaredd a gynhelir yn y man os yw gwaharddiad neu ofyniad o’r fath yn cael effaith mewn perthynas â’r man yn rhinwedd gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014(3).

(5) Pan fo—

(a)is-ddeddf yn gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad sy’n ymwneud â mynediad i fan cyhoeddus neu weithgaredd a gynhelir ynddo, a

(b)mynediad i’r man cyhoeddus neu gynnal y gweithgaredd hwnnw ynddo wedi ei wahardd neu ei gyfyngu gan gyfarwyddyd man cyhoeddus neu’n ddarostyngedig i ofyniad mewn cyfarwyddyd man cyhoeddus,

nid oes unrhyw effaith i’r gwaharddiad, y gofyniad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr is-ddeddf mewn perthynas â’r man cyhoeddus am gyhyd ag y mae’r cyfarwyddyd man cyhoeddus yn cael effaith.

(6) Rhaid i gyfarwyddyd man cyhoeddus ddisgrifio’r man cyhoeddus yn ddigon manwl er mwyn gallu canfod ei ffiniau.

(7) Rhaid i awdurdod lleol sy’n rhoi cyfarwyddyd man cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol—

(a)pan fo’r cyfarwyddyd yn gwahardd mynediad i’r man cyhoeddus neu’n cyfyngu ar fynediad iddo, er mwyn atal mynediad o’r fath neu gyfyngu arno (gan gynnwys drwy godi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);

(b)pan fo’r cyfarwyddyd yn gwahardd cynnal gweithgaredd yn y man cyhoeddus, yn cyfyngu ar y gweithgaredd hwnnw neu’n gosod gofynion ar y gweithgaredd hwnnw, er mwyn dwyn y cyfarwyddyd i sylw aelodau’r cyhoedd a all fod yn y man cyhoeddus (gan gynnwys drwy godi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);

(c)er mwyn rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i bersonau sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus;

(d)er mwyn sicrhau y dygir y cyfarwyddyd i sylw unrhyw berson sy’n berchen ar fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu mangre ynddo neu sy’n gyfrifol am fangre ynddo.

(8) Pan fo cyfarwyddyd man cyhoeddus yn gwahardd mynediad i’r man cyhoeddus neu’n cyfyngu ar fynediad iddo, rhaid i unrhyw berson, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n berchen ar fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu mangre ynddo neu sy’n gyfrifol am fangre ynddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn atal mynediad i’r fangre neu gyfyngu ar fynediad i’r fangre yn unol â’r cyfarwyddyd.

(9) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)mynd i fan gyhoeddus neu aros ynddo;

(b)cynnal gweithgaredd mewn man cyhoeddus,

yn groes i waharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan gyfarwyddyd man cyhoeddus.

(10) Ni chaiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man cyhoeddus sy’n cynnwys eiddo y mae adran 73 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) Act 1984 (eiddo’r Goron) yn gymwys iddo.

(11) Ond caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man o’r fath os yw’r awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb o dan adran 73(2) â’r awdurdod priodol (o fewn yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan yr adran honno) fod—

(a)adran 45C o’r un Ddeddf, a

(b)y Rheoliadau hyn,

yn gymwys i’r eiddo (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau a gynhwysir yn y cytundeb).

(12) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae i “tir mynediad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(c),

(b)mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 2003;

(c)mae i “llwybr cyhoeddus” yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(b), a

(d)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 7 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

Adolygu a [F7thynnu’n ôl] LL+C

8.—(1Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod adolygu a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd—

(a)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir y cyfarwyddyd, a

(b)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod.

(2Os yw’r awdurdod lleol, ar ôl cynnal adolygiad o dan baragraff (1), yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn cael eu bodloni mwyach, rhaid i’r awdurdod lleol [F8dynnu’r cyfarwyddyd yn ôl] .

(3Nid yw paragraff (2) yn atal awdurdod lleol rhag [F9tynnu cyfarwyddyd yn ôl] ar unrhyw adeg os yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r cyfarwyddyd.

(4Caiff cyfarwyddyd ei [F7dynnu’n ôl] drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i bob person y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo.

(5Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 11 yn gymwys i [F10dynnu’n ôl] fel y maent yn gymwys i gyfarwyddyd.

(6Mae cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith ar adeg rhoi’r hysbysiad o [F10dynnu’n ôl] .

Gofyniad i roi sylw i gyngor neu ganllawiau ac i ymgynghoriLL+C

9.  Wrth benderfynu pa un ai i roi neu [F11dynnu cyfarwyddyd yn ôl] o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod lleol—

(a)roi sylw—

(i)i unrhyw gyngor a roddir iddo gan Gyfarwyddwr Diogelu’r Cyhoedd yr awdurdod;

(ii)i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyfarwyddydau o dan y Rhan hon, a

(b)ymgynghori â Gweinidogion Cymru os yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 9 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CFfurf a gweithdrefn

Ffurf a chynnwys cyfarwyddydauLL+C

10.  Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon—

(a)bod yn ysgrifenedig;

(b)cynnwys disgrifiad o’r fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi neu ag ef (ac yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus gweler [F12rheoliad 7(6)] );

(c)datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd yn cymryd effaith (na chaniateir iddo fod yn gynharach na’r adeg y rhoddir y cyfarwyddyd);

(d)datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad o’r fath yn peidio â chael effaith (na chaniateir iddo fod yn fwy nag 21 o ddiwrnodau ar ôl iddo gymryd effaith);

(e)nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd;

(f)rhoi manylion am yr hawl i apelio, a’r hawl i gyflwyno sylwadau, a roddir gan reoliad 12.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 10 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

Rhoi cyfarwyddydLL+C

11.—(1Mae awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon drwy roi’r cyfarwyddyd yn ysgrifenedig—

(a)yn achos cyfarwyddyd mangre, i—

(i)person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a

(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre, sy’n meddiannu’r fangre neu sydd fel arall yn gyfrifol am y fangre;

(b)yn achos cyfarwyddyd digwyddiad, i—

(i)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef, a

(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd, sy’n meddiannu’r fangre honno neu sydd fel arall yn gyfrifol am y fangre honno;

(c)yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus, i—

(i)person sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef, a

(ii)pob person sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre yn y man cyhoeddus neu sydd fel arall yn gyfrifol am unrhyw fangre yn y man cyhoeddus.

(2Os nad yw’n rhesymol ymarferol i awdurdod lleol roi cyfarwyddyd yn unol â pharagraff (1), mae’r cyfarwyddyd i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn unol â’r paragraff hwnnw pan y’i cyhoeddir yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn briodol i’w ddwyn i sylw personau y gall y cyfarwyddyd effeithio arnynt.

(3Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i awdurdod lleol roi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i unrhyw berson arall a enwir yn y cyfarwyddyd,

(b)anfon copi o’r cyfarwyddyd i—

(i)Gweinidogion Cymru,

(ii)pob awdurdod lleol arall y mae ei ardal yn gyfagos i ardal yr awdurdod,

(iii)pan fo ardal yr awdurdod lleol yn gyfagos i ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref yn Lloegr, y cyngor hwnnw, ac

(c)cyhoeddi’r cyfarwyddyd yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn ei ddwyn i sylw personau y gall y cyfarwyddyd effeithio arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 11 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

Apelau a sylwadauLL+C

12.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “person a chanddo fuddiant” yw—

(a)yn achos cyfarwyddyd mangre—

(i)person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi;

(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre;

(b)yn achos cyfarwyddyd digwyddiad—

(i)person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;

(ii)(os yw’n wahanol) person sy’n berchen ar y fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd neu sy’n meddiannu’r fangre honno;

(c)yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus—

(i)person sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;

(ii)person sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre yn y man cyhoeddus neu sy’n gyfrifol am unrhyw fangre yn y man cyhoeddus.

(2Caiff person a chanddo fuddiant—

(a)apelio yn erbyn y cyfarwyddyd i lys ynadon drwy gŵyn am orchymyn, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(4) yn gymwys i’r achos;

(b)cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cyfarwyddyd.

(3Pan fo person a chanddo fuddiant yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried y sylwadau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a

(b)penderfynu a fyddai’n briodol arfer y pŵer yn rheoliad 13(1).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad ym mharagraff (3)(b) i—

(a)y person a chanddo fuddiant, a

(b)yr awdurdod lleol a roddodd y cyfarwyddyd.

(5Nid yw cyflwyno sylwadau o dan baragraff (2)(b) yn effeithio ar hawl person a chanddo fuddiant i apelio o dan baragraff (2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 12 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CPŵer Gweinidogion Cymru i wneud [F13tynnu’n ôl] yn ofynnol

Pŵer Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol [F14dynnu cyfarwyddyd yn ôl] LL+C

13.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir gan awdurdod lleol o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod [F15dynnu’r cyfarwyddyd yn ôl] .

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol [F14dynnu cyfarwyddyd yn ôl] o dan y rheoliad hwn—

(a)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd, a

(b)nid yw rheoliad 9 yn gymwys.

(3Cyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol [F14dynnu cyfarwyddyd yn ôl] o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Phrif Swyddog Meddygol Cymru.

(2)

1968 p. 41. Mae adran 16 wedi ei diwygio gan adran 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 1968 (p. 73), Atodlen 27 i Ddeddf Dŵr 1989 (p. 15) ac O.S. 2012/1659. Mae diwygiadau eraill i adran 16 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mae adran 73 wedi ei diwygio gan Atodlen 11 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14).