xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15.—(1) At ddibenion rheoliadau 16, 17 a 19, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—
(a)cwnstabl,
(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu, neu
(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)Gweinidogion Cymru,
(ii)awdurdod lleol,
(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,
at ddibenion rheoliadau 16 i 19 (ond gweler paragraff (2)).
(2) Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 14(4) (neu achos honedig o’i dorri).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 15 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
16.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person—
(a)yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus, neu
(b)yn methu, neu wedi methu, â chymryd camau sy’n ofynnol o dan reoliad 5(6), 6(5) neu [F17(8)].
(2) Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn—
(a)atal y person hwnnw rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd, neu
(b)cywiro’r methiant i gymryd camau.
(3) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn mangre yn groes i gyfarwyddyd mangre, caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo’r person i adael y fangre;
(b)symud y person o’r fangre.
(4) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod digwyddiad yn cael ei gynnal yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad, caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo bod digwyddiad yn dod i ben;
(b)cyfarwyddo person i adael y digwyddiad;
(c)symud person o’r digwyddiad.
(5) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus [F2sy’n gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â mynediad i’r man] yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus, caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo’r person i adael y man;
(b)symud y person o’r man.
[F3(5A) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus sy’n gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â chynnal gweithgaredd yn y man, caiff y cwnstabl gymryd unrhyw gamau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y person rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd (gan gynnwys symud y person o’r man).]
(6) Caiff cwnstabl—
(a)wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3), (4) [F4, (5) neu (5A)], gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(b)defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3)(b), (4)(c) [F5, (5)(b) neu (5A)].
(7) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (3), (4) [F6, (5) neu (5A)] yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus, yn ôl y digwydd, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i P.
(8) Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 14(4), caiff y swyddog symud y person o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 14(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 14(1), a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.
(9) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (8) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y man cyhoeddus neu’r tir mynediad, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i C.
(10) At ddibenion paragraffau (7) a (9), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(11) Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gorfodi eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y rheoliad hwn neu reoliad 17.
(12) Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer dan y rheoliad hwn neu reoliad 17 os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
(13) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “cwnstabl” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys swyddog cymorth cymunedol yr heddlu.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 16(1)(b) wedi ei amnewid (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(4)(a)
F2Geiriau yn rhl. 16(5) wedi eu mewnosod (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(4)(b)
F3Rhl. 16(5A) wedi ei fewnosod (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(4)(c)
F4Geiriau yn rhl. 16(6)(a) wedi eu hamnewid (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(4)(d)(i)
F5Geiriau yn rhl. 16(6)(b) wedi eu hamnewid (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(4)(d)(ii)
F6Geiriau yn rhl. 16(7) wedi eu hamnewid (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(4)(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 16 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
17.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre i gymryd camau gorfodi, neu i hwyluso cymryd camau gorfodi, o dan reoliad 16.
(2) Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)defnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre;
(b)cymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu at ba ddiben yr arferir y pŵer;
(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, gadael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 17 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
18.—(1) Mae person sydd—
(a)yn torri rheoliad 5(7), 6(6) neu [F77(9)],
(b)heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd camau sy’n ofynnol o dan reoliad 5(6), 6(5) neu [F87(8)], neu
(c)heb esgus rhesymol, yn torri rheoliad 14(4),
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(3) Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 16(1), neu
(b)yn torri cyfarwyddyd a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 16(3)(a), (4)(a) neu (b), (5)(a) neu (6)(a),
yn cyflawni trosedd.
(4) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
(5) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
(6) Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(8) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
(9) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
(10) Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(2) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(11) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.
(12) Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.
Diwygiadau Testunol
F7Gair yn rhl. 18(1)(a) wedi ei amnewid (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(5)(a)
F8Gair yn rhl. 18(1)(b) wedi ei amnewid (12.10.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1100), rhlau. 1, 2(5)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 18 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
19.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)awdurdod lleol, neu
(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4) Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.
(5) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(6) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (5)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig;
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(7) Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (6)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).
(8) Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna swm y gosb benodedig.
(9) Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau a grybwyllir ym mharagraff (10)—
(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a
(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(10) Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb benodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau a ganlyn i’w hystyried—
(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020;
(b)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
(11) Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (6)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (6)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(12) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (11), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(13) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif —
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)yr awdurdod lleol, neu
(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y tystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
(14) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 14(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 19 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
20. Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 20 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).