xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus

PENNOD 2LL+CFfurf a gweithdrefn

Ffurf a chynnwys cyfarwyddydauLL+C

10.  Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon—

(a)bod yn ysgrifenedig;

(b)cynnwys disgrifiad o’r fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi neu ag ef (ac yn achos cyfarwyddyd man cyhoeddus gweler [F1rheoliad 7(6)] );

(c)datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd yn cymryd effaith (na chaniateir iddo fod yn gynharach na’r adeg y rhoddir y cyfarwyddyd);

(d)datgan y dyddiad a’r amser y mae pob gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad o’r fath yn peidio â chael effaith (na chaniateir iddo fod yn fwy nag 21 o ddiwrnodau ar ôl iddo gymryd effaith);

(e)nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd;

(f)rhoi manylion am yr hawl i apelio, a’r hawl i gyflwyno sylwadau, a roddir gan reoliad 12.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 10 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)