Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

Yr amodau iechyd y cyhoedd dros roi cyfarwyddydauLL+C

4.—(1Os yw’n ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, caiff awdurdod lleol roi—

(a)cyfarwyddyd mangre o dan reoliad 5;

(b)cyfarwyddyd digwyddiad o dan reoliad 6;

(c)cyfarwyddyd man cyhoeddus o dan reoliad 7.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, yr “amodau iechyd y cyhoedd” yw—

(a)bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd,

(b)bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, ac

(c)bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 18.9.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(3)