RHAN 2LL+CCyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus

PENNOD 1LL+CRhoi [F1cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl]

Adolygu a [F2thynnu’n ôl] LL+C

8.—(1Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod adolygu a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd—

(a)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir y cyfarwyddyd, a

(b)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod.

(2Os yw’r awdurdod lleol, ar ôl cynnal adolygiad o dan baragraff (1), yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn cael eu bodloni mwyach, rhaid i’r awdurdod lleol [F3dynnu’r cyfarwyddyd yn ôl] .

(3Nid yw paragraff (2) yn atal awdurdod lleol rhag [F4tynnu cyfarwyddyd yn ôl] ar unrhyw adeg os yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r cyfarwyddyd.

(4Caiff cyfarwyddyd ei [F2dynnu’n ôl] drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i bob person y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo.

(5Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 11 yn gymwys i [F5dynnu’n ôl] fel y maent yn gymwys i gyfarwyddyd.

(6Mae cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith ar adeg rhoi’r hysbysiad o [F5dynnu’n ôl] .