2.—(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—
“Gwlad Thai”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—
“Gibraltar”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 19.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 19 Medi 2020—
(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b)diwrnod olaf ynysiad P yw 19 Medi 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r wlad a’r diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 at Rannau 1 a 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 19 Medi 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 3 mewn grym ar 19.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
4. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—
“Guadeloupe”
“Slofenia”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 4 mewn grym ar 19.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 19 Medi 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4 ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 19 Medi 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn y wlad neu’r diriogaeth honno, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 5 mewn grym ar 19.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)