RHAN 3Diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygio Atodlen 2 (personau esempt)
6. Yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt), yn lle paragraff 38(1) o’r testun Cymraeg rhodder—
“38.—(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—
(a)sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b)a fu’n darparu cymorth i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ei hyfforddi, neu
(c)a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor.”