Diwygiadau i reoliad 10 (eithriadau i’r gofynion ynysu)
4.—(1) Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (4)(jd) mewnosoder—
“(jh)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—
(i)bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,
(ii)bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a
(iii)bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(ji)pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;
(jj)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;”;
(3) Ym mharagraff (8), yn y man priodol mewnosoder—
“mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2”;
“mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2”.