Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 4.24 p.m. ar 25 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 6.30 p.m. ar 25 Medi 2020
Yn dod i rym
am 6.00 p.m. ar 27 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 27 Medi 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 1, ar ôl paragraff (g) mewnosoder—
“(h)Dinas a Sir Caerdydd;
(i)Dinas a Sir Abertawe.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 4.24 p.m. ar 25 Medi 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae’r diwygiad yn dynodi Dinas a Sir Abertawe a Dinas a Sir Caerdydd yn ardaloedd diogelu iechyd lleol sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/752 (Cy. 169), O.S. 2020/803 (Cy. 176), O.S. 2020/820 (Cy. 180), O.S. 2020/843 (Cy. 186), O.S. 2020/867 (Cy. 189), O.S. 2020/884 (Cy. 195), O.S. 2020/912 (Cy. 204), O.S. 2020/961 (Cy. 215), O.S. 2020/985 (Cy. 222), O.S. 2020/1007 (Cy. 224), O.S. 2020/1011 (Cy. 225), O.S. 2020/1022 (Cy. 227), O.S. 2020/1035 (Cy. 229) ac O.S. 2020/1040 (Cy. 230).