2020 Rhif 1052 (Cy. 236) (C. 31)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 42(3)(b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 20201.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Y diwrnod penodedig2

Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Hydref 2020—

a

adran 28;

b

Atodlen 2.

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 28 o’r Ddeddf ac Atodlen 2 iddi, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau ariannol a goruchwylio’r Comisiwn Etholiadol, i rym yn llawn ar 1 Hydref 2020.