xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1073 (Cy. 241)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

Gwnaed

29th September 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 15, 80, 82A, 83, 84, 86, 88, 104, 107, 110, 115, 116, 118, 203(9) a (10) a 205 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 203(6A) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.

(2Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Hydref 2020—

(a)y Rhan hon;

(b)Rhannau 2 i 4;

(c)Rhannau 9 i 11.

(3Daw Rhannau 5 i 8 i rym ar 1 Hydref 2021.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(a)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasu cyfarpar stoma” (“stoma appliance customisation”) yw addasu swp o fwy nag un cyfarpar stoma, pan—

(a)

bo’r cyfarpar stoma i’w addasu wedi ei restru yn Rhan IXC o’r Tariff Cyffuriau,

(b)

bo’r addasiad yn cynnwys newidiadau, yn unol â’r un fanyleb, i ddarnau unfath lluosog sydd i’w defnyddio gyda phob cyfarpar unigol, ac

(c)

bo’r addasiad hwnnw yn seiliedig ar fesuriadau’r claf, neu gofnod o’r mesuriadau hynny ac, os yw’n gymwys, dempled;

ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a grëwyd gan gytundeb yr AEE;

ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“national disqualification”) yw—

(a)

anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” fel y’i crybwyllir yn adran 115(2) a (3) o Ddeddf 2006 (anghymhwysiad cenedlaethol),

(b)

anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” fel y’i crybwyllir yn adran 159(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(2) (anghymhwysiad cenedlaethol),

(c)

unrhyw benderfyniad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i anghymhwysiad cenedlaethol yn yr ystyr a roddir i “national disqualification” o dan adran 115(2) a (3) o Ddeddf 2006, a

(d)

unrhyw benderfyniad arall a oedd yn anghymhwysiad cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau 2005;

ystyr “ardal reoledig” (“controlled locality”) yw ardal y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu ei bod yn wledig yn unol â rheoliad 13 (ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledig), ac y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu yn dilyn apêl, yn unol â Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4, ei bod yn wledig, neu sy’n ardal reoledig yn rhinwedd gweithredu rheoliad 13(1);

ystyr “asesiad perthnasol o anghenion fferyllol” (“relevant pharmaceutical needs assessment”) yw’r asesiad o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol sy’n gyfredol ar yr adeg y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu neu wrthod cais, oni bai, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol (neu, yn dilyn apêl, Gweinidogion Cymru), mai’r unig ffordd o benderfynu’r cais yn gyfiawn yw gan ystyried asesiad cynharach o anghenion fferyllol, ac yn yr achos hwnnw, yr asesiad cynharach hwnnw yw’r asesiad perthnasol o anghenion fferyllol;

ystyr “Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG” (“NHS Business Services Authority”) yw Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005(3);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006 (byrddau iechyd lleol);

mae i “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol” (“Regional Partnership Board”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(4);

mae i “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 31(11) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith);

ystyr “Cofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol” (“General Pharmaceutical Council Register”) yw’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010(5) (sefydlu a chynnal y Gofrestr a mynediad iddi);

ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002(6);

ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(7) (sefydlu a chynnal cofrestr);

ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf 2006 (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);

ystyr “contract GMDdA” (“APMS contract”) yw trefniant i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wneir â Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (gwasanaethau meddygol sylfaenol);

ystyr “contractwr cyfarpar GIG” (“NHS appliance contractor”) yw person sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig;

ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti mewn contract GMC, ac eithrio’r Bwrdd Iechyd Lleol;

ystyr “contractwr GMC perthnasol” (“relevant GMS contractor”), mewn perthynas ag unrhyw feddyg, yw—

(a)

y contractwr GMC, pan fo’r meddyg yn gontractwr GMC, neu

(b)

pan na fo’r meddyg yn gontractwr GMC, y contractwr GMC y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo;

ystyr “contractwr GMDdA” (“APMS contractor”) yw parti mewn contract GMDdA, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol;

ystyr “contractwr GMDdA perthnasol” (“relevant APMS contractor”), mewn perthynas ag unrhyw feddyg, yw—

(a)

y contractwr GMDdA, pan fo’r meddyg yn gontractwr GMDdA, neu

(b)

pan nad y contractwr GMDdA yw’r meddyg, y contractwr GMDdA y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo;

ystyr “corff cyfatebol” (“equivalent body”) yw Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, Bwrdd Iechyd yn yr Alban, Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon neu unrhyw gorff olynol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2003, Awdurdod Iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2013 ac ar ôl 30 Medi 2002, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn Lloegr, neu mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn 1 Hydref 2002, Awdurdod Iechyd yn Lloegr;

ystyr “corff trwyddedu neu reoleiddio” (“licensing or regulatory body”) yw unrhyw gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae’r person yn aelod ohono neu y mae’r person wedi bod yn aelod ohono, ac mae’n cynnwys unrhyw gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio unrhyw broffesiwn o’r fath mewn gwlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

[F1mae i “coronafeirws” yr ystyr a roddir i “coronavirus” yn adran 1(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(3) (ystyr “coronafeirws” a therminoleg gysylltiedig);]

mae i “cyd-bwyllgor disgyblu” yr un ystyr â “joint discipline committee” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(8) (dehongli);

mae i “cydsyniad amlinellol” (“outline consent”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 30(1)(a) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre);

mae i “cydsyniad rhagarweiniol” (“preliminary consent”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol);

ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

ystyr “cyfarpar argaeledd cyfyngedig” (“restricted availability appliance”) yw cyfarpar a gymeradwywyd ar gyfer categorïau penodol o bersonau neu at ddibenion penodol yn unig;

ystyr “cyfarpar penodedig” (“specified appliance”) yw—

(a)

unrhyw un neu ragor o’r cyfarpar a ganlyn a restrir yn Rhan IXA o’r Tariff Cyffuriau—

(i)

cyfarpar cathetr (gan gynnwys ategolyn cathetr a hydoddiant cynnal),

(ii)

cyfarpar laryngectomi neu gyfarpar traceostomi,

(iii)

system dyfrhau rhefrol,

(iv)

pwmp gwactod neu fodrwy ddarwasgu ar gyfer camweithredu ymgodol, neu

(v)

bag draenio ar gyfer clwyf,

(b)

cyfarpar anymataliaeth a restrir yn Rhan IXB o’r Tariff Cyffuriau, neu

(c)

cyfarpar stoma a restrir yn Rhan IXC o’r Tariff Cyffuriau;

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw—

(a)

cyfarwyddwr i gorff corfforedig, neu

(b)

aelod o’r corff o bersonau sy’n rheoli corff corfforedig (pa un a yw’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(9) (dehongli cyffredinol);

mae “cyflogaeth” (“employment”) yn cynnwys cyflogaeth ddi-dâl a chyflogaeth o dan gontract am wasanaethau;

ystyr “cyffur Atodlen” (“Scheduled drug”) yw cyffur neu sylwedd arall a bennir yn Atodlen 1 neu 2 i’r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (sy’n ymwneud â chyffuriau, meddyginiaethau a sylweddau eraill nad ydynt i’w harchebu o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol neu y caniateir eu harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig);

mae “cyffuriau” (“drugs”) yn cynnwys meddyginiaethau;

ystyr “Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council”) yw Cyngor Iechyd Cymuned a gadwyd neu a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf 2006 (cynghorau iechyd cymuned);

mae i “cymeradwyaeth mangre” (“premises approval”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 30(1)(b) (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) ac mae’n cynnwys cymeradwyaeth mangre dros dro a roddir o dan reoliad 34(13) (cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaith) neu gymeradwyaeth mangre weddilliol a roddir o dan reoliad 35(9) (cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisau);

mae i “cynllun peilot” yr un ystyr ag a roddir i “pilot scheme” yn adran 92(2) o Ddeddf 2006 (cynlluniau peilot);

ystyr “cynnwys yn amodol” (“conditional inclusion”) yw cynnwys person mewn rhestr fferyllol, neu roi cydsyniad rhagarweiniol i berson gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, yn ddarostyngedig i amodau a osodir o dan Ran 7 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“provider of primary medical services”) yw contractwr GMC, contractwr GMDdA neu bractis GMBILl;

ystyr “data creu llofnod electronig” (“electronic signature creation data”) yw data unigryw a ddefnyddir gan y llofnodwr i greu llofnod electronig;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw ymarferydd deintyddol;

ystyr “digwyddiadau cychwynnol” (“originating events”) yw’r digwyddiadau a arweiniodd at yr euogfarn, yr ymchwiliad, yr achos cyfreithiol, yr atal dros dro, y gwrthod derbyn, y cynnwys yn amodol, y dileu neu’r dileu yn ddigwyddiadol a ddigwyddodd;

ystyr “dileu yn ddigwyddiadol” (“contingent removal”) yw dileu enw person o restr fferyllol yn ddigwyddiadol, o fewn yr ystyr a roddir i “contingent removal” yn adran 108 o Ddeddf 2006 (dileu yn ddigwyddiadol);

ystyr “enw amherchnogol” (“non-proprietary name”) yw enw sy’n un o’r canlynol, neu’n amrywiad a ganiateir o un o’r canlynol—

(a)

Enw Amherchnogol Rhyngwladol (INN),

(b)

Enw Amherchnogol Rhyngwladol Addasedig (INNM),

(c)

Enw Cymeradwy Prydeinig (BAN),

(d)

Enw Cymeradwy Prydeinig Addasedig (BANM), neu

(e)

enw cymeradwy,

ac at y diben hwn, mae i’r enwau hyn (a’u hamrywiadau a ganiateir) yr un ystyron ag sydd iddynt mewn rhestr o enwau y mae Comisiwn Cyffurlyfr Prydain wedi ei llunio ac wedi peri iddi gael ei chyhoeddi, ac nad yw wedi ei disodli(10);

ystyr “enw amherchnogol priodol” (“appropriate non-proprietary name”) yw enw amherchnogol nas crybwyllir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau nac, ac eithrio pan fo’r amodau ym mharagraff 42(2) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC wedi eu bodloni, yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau;

ystyr “fferyllfa” (“pharmacy”) yw—

(a)

mangre restredig o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) y darperir gwasanaethau fferyllol ynddi gan fferyllydd GIG yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 2006, neu

(b)

mangre y mae’r ystod o wasanaethau fferyllol a ddarperir ynddi o dan gynllun peilot fferylliaeth o dan adran 92 o Ddeddf 2006 (cynlluniau peilot), a’r oriau y darperir y gwasanaethau hynny ar eu cyfer, yn gymaradwy â fferyllfa sy’n dod o fewn paragraff (a);

ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976;

ystyr “fferyllydd GIG” (“NHS pharmacist”) yw—

(a)

fferyllydd cofrestredig, neu

(b)

person sy’n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(11),

y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau;

ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(12) (sy’n ymwneud â chofrestrau a’r cofrestrydd), sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n ffisiotherapydd, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 9 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002(13) sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw—

(a)

ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu gorff cyfatebol ac a ddyroddir gan ragnodydd, neu

(b)

ffurflen bresgripsiwn electronig,

sy’n galluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw’n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn anelectronig” (“non-electronic prescription form”) yw ffurflen bresgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn”;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn electronig” (“electronic prescription form”) yw data a grëir mewn ffurflen electronig at ddiben archebu cyffur neu gyfarpar—

(a)

sydd wedi ei llofnodi â llofnod electronig uwch rhagnodydd,

(b)

a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig gan y gwasanaeth TPE at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol a enwebir, ac

(c)

nad yw’n dangos y caniateir darparu’r cyffur neu’r cyfarpar a archebir fwy nag unwaith;

ystyr “GMBILl” (“LHBMS”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (gwasanaethau meddygol sylfaenol);

ystyr “GMDdA” (“APMS”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir yn unol â chontract GMDdA;

ystyr “gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar” (“appliance use review service”) yw trefniadau a wneir yn unol â chyfarwyddydau o dan adran 81 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG adolygu’r modd y mae person yn defnyddio unrhyw gyfarpar penodedig;

ystyr “gwasanaeth TPE” (“ETP service”) yw’r gwasanaeth presgripsiynau cod bar 2-ddimensiwn sy’n rhan o’r systemau technoleg gwybodaeth mewn systemau rhagnodi a gweinyddu yng Nghymru, ac a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i drosglwyddo a chadw gwybodaeth am bresgripsiynau sy’n ymwneud â chleifion;

ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy’n cynnwys darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “gwasanaethau cyfeiriedig” (“directed services”) yw gwasanaethau fferyllol ychwanegol a ddarperir yn unol â chyfarwyddydau o dan adran 81 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol);

ystyr “gwasanaethau fferyllol” (“pharmaceutical services”) yw gwasanaethau fferyllol sy’n dod o fewn adrannau 80 ac 81 o Ddeddf 2006 ac mae’n cynnwys gwasanaethau cyfeiriedig;

ystyr “gwasanaethau fferyllol lleol” (“local pharmaceutical services”) yw gwasanaethau o fath y caniateir iddynt gael eu darparu o dan adran 80, neu yn rhinwedd adran 81, o Ddeddf 2006, ac eithrio gwasanaethau gweinyddu gan ymarferwyr, ac a ddarperir o dan gynllun peilot;

ystyr “gwasanaethau GIG” (“NHS services”) yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru;

ystyr “gwasanaethau hanfodol” (“essential services”) ar gyfer fferyllwyr GIG yw’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 5, ac ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG yr ystyr yw’r gwasanaethau a bennir ym mharagraffau 3 i 12 o Atodlen 6;

ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw unrhyw ddiwrnod a bennir neu a gyhoeddir yn ŵyl banc yng Nghymru yn unol ag adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(14);

ystyr “hybysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

mae i “lleoliad neilltuedig” (“reserved location”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 17(4) (lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy’n lleoliadau neilltuedig);

ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi eu hatodi i ddata eraill ar ffurf electronig neu wedi eu cysylltu’n rhesymegol â hwy ac sy’n cael eu defnyddio gan y llofnodwr i lofnodi;

ystyr “llofnod electronig uwch” (“advanced electronic signature”) yw llofnod electronig sy’n bodloni’r gofynion a ganlyn—

(a)

mae ganddo gysylltiad unigryw â’r llofnodwr,

(b)

gellir adnabod y llofnodwr oddi wrtho,

(c)

fe’i crëir drwy ddefnyddio data creu llofnod electronig y gall y llofnodwr, â lefel uchel o sicrwydd, ei ddefnyddio o dan ei reolaeth ei hunan yn unig, a

(d)

mae wedi ei gysylltu â’r data a lofnodwyd mewn modd sy’n gwneud unrhyw newid diweddarach yn y data yn ganfyddadwy;

ystyr “llofnodwr” (“signatory”) yw person naturiol sy’n creu llofnod electronig;

ystyr “mangre practis” (“practice premises”), mewn perthynas â darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yw’r cyfeiriad neu’r cyfeiriadau a bennir yn y contract (yn achos contractwr GMC neu GMDdA) neu’r datganiad practis (yn achos practis GMBILl) y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ynddo neu ynddynt o dan y contract neu’r datganiad practis;

ystyr “mangre restredig” (“listed premises”) yw’r fangre sydd wedi ei chynnwys mewn—

(a)

rhestr fferyllol, neu

(b)

rhestr meddygon fferyllol yn unol â rheoliad 11 (llunio a chynnal rhestrau meddygon fferyllol);

ystyr “meddyg” (“doctor”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig;

ystyr “meddyg fferyllol” (“dispensing doctor”) yw meddyg sy’n darparu gwasanaethau fferyllol o dan drefniadau â Bwrdd Iechyd Lleol a wneir o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon);

ystyr “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau a chyfarpar fel nyrs sy’n rhagnodi fel ymarferydd cymunedol, nyrs-ragnodydd annibynnol neu nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;

ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,

(b)

sydd â nodyn neu gofnod gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel—

(i)

nyrs-ragnodydd annibynnol, neu

(ii)

nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol, ac

sydd, mewn cysylltiad â pherson sy’n ymarfer yng Nghymru ar neu ar ôl 19 Gorffennaf 2010, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd i ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;

ystyr “optometrydd-ragnodydd annibynnol” (“optometrist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n optometrydd sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(15) (sy’n ymwneud â’r gofrestr o optometryddion a’r gofrestr o optegwyr fferyllol) neu’r gofrestr o optometryddion sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol a gynhelir o dan adran 8B(1)(a) o’r Ddeddf honno, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel optometrydd-ragnodydd annibynnol;

mae “oriau agor atodol” (“supplementary opening hours”) i’w ddehongli, fel y mae’r cyd-destun yn mynnu, yn unol â pharagraff 23(2) o Atodlen 5 neu baragraff 13(3)(a) o Atodlen 6, neu’r ddau;

mae “oriau agor ychwanegol” (“additional opening hours”) i’w ddehongli, fel y mae’r cyd-destun yn mynnu, yn unol â pharagraff 23(11) o Atodlen 5 neu baragraff 13(10) o Atodlen 6, neu’r ddau;

ystyr “oriau craidd” (“core hours”) yw’r oriau y mae rhaid i fangreoedd fferyllfa, neu gontractwr cyfarpar, fod ar agor yn rhinwedd paragraff 23(1) o Atodlen 5, neu baragraff 13(1) o Atodlen 6;

ystyr “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi ei gofrestru’n barafeddyg yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 8 o’r gofrestr honno sy’n dynodi bod y person yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel parafeddyg-ragnodydd annibynnol;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 16 mlwydd oed;

ystyr “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n bodiatrydd neu’n giropodydd, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 2 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “PPD” (“SSP”) yw protocol prinder difrifol;

ystyr “practis GMBILl” (“LHBMS practice”) yw practis sy’n darparu GMBILl;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”) yw presgripsiwn sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)

sydd naill ai—

(i)

wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ond wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu

(ii)

yn ffurflen a grëwyd mewn fformat electronig, a adwaenir drwy ddefnyddio cod rhagnodydd amlroddadwy, a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig gan y gwasanaeth TPE at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol a enwebir ac sydd wedi ei llofnodi â llofnod electronig uwch rhagnodydd amlroddadwy,

(b)

sydd wedi ei ddyroddi neu wedi ei greu i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol, ac

(c)

sy’n dangos y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac sy’n pennu nifer y troeon y caniateir iddynt gael eu darparu;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy anelectronig” (“non-electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(i) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy electronig” (“electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(ii) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;

ystyr “presgripsiwn electronig” (“electronic prescription”) yw ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person, ac eithrio gweithiwr cymdeithasol, sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(16);

ystyr “protocol prinder difrifol” (“serious shortage protocol”) yw—

(a)

yn achos meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, brotocol prinder difrifol at ddibenion rheoliad 226A o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(17) (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol), neu

(b)

yn achos unrhyw gyffur arall neu unrhyw gyfarpar arall, brotocol ysgrifenedig—

(i)

sydd wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau pan fo Cymru neu unrhyw ran o Gymru, ym marn Gweinidogion Cymru, yn profi prinder difrifol, neu pan all brofi prinder difrifol, o—

(aa)

cyffur neu gyfarpar penodedig, neu

(bb)

cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig,

(ii)

sy’n darparu ar gyfer cyflenwi, gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol, pan fo archeb ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy am—

(aa)

y cyffur neu’r cyfarpar penodedig, neu

(bb)

cyffur neu gyfarpar o’r disgrifiad penodedig,

gynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir yn y protocol, a

(iii)

sy’n pennu’r cyfnod y mae’r protocol i gael effaith ar ei gyfer, a’r rhannau o Gymru (a all fod yn Gymru gyfan) y mae’r protocol i gael effaith ynddynt;

mae i “pwyllgor disgyblu fferyllol” yr un ystyr ag a roddir i “pharmaceutical discipline committee” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(18);

ystyr “Pwyllgor Fferyllol Lleol” (“Local Pharmaceutical Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir o dan adran 90 o Ddeddf 2006 (pwyllgorau fferyllol lleol);

ystyr “Pwyllgor Meddygol Lleol” (“Local Medical Committee”) yw pwyllgor a gydnabyddir o dan adran 54 o Ddeddf 2006 (pwyllgorau meddygol lleol);

ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;

ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n radiograffydd cofrestredig, a

(b)

y cofnodir gyferbyn â’i enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal—

(i)

hawlogaeth i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig” neu “therapeutic radiographer”, a

(ii)

nodyn sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;

ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw meddyg, deintydd, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrs-ragnodydd annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol, podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol, parafeddyg-ragnodydd annibynnol neu ragnodydd atodol;

ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatable prescriber”) yw person—

(a)

sy’n gontractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gontract sy’n rhoi effaith i baragraff 40 (gwasanaethau amlragnodi) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC,

(b)

sy’n gontractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 40 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC, neu

(c)

sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan—

(i)

contractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn contract sy’n rhoi effaith i baragraff 40 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC,

(ii)

contractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn cytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 40 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC, neu

(iii)

Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol mewn practis GMBILl sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi yn unol â darpariaeth mewn cyfarwyddydau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â GMBILl, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 40 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC;

ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw—

(a)

fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

(b)

person y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y Gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;

(c)

person—

(i)

sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(19) (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â chiropodyddion a phodiatryddion, deietegyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion neu radiograffwyr, a

(ii)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol, neu

(d)

optometrydd sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 neu 8B(1)(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(20) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 10 Mai 2013;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 2005(21) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Medi 2012;

ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013(22) fel yr oeddent mewn grym yn union cyn 1 Hydref 2020;

ystyr “Rheoliadau Ffioedd” (“Charges Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(23);

ystyr “Rheoliadau GMC” (“GMS Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(24);

ystyr “Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl” (“Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(25);

ystyr “Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau” (“Prescription of Drugs Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004(26);

ystyr “rhestr” (“list”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol;

ystyr “rhestr berthnasol” (“relevant list”) yw—

(a)

rhestr fferyllol neu restr gyfatebol, neu

(b)

rhestr a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig;

ystyr “rhestr cleifion” (“patient list”) yw rhestr o gleifion a gedwir yn unol â pharagraff 14 (rhestr o gleifion) o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC neu mewn cysylltiad â chontractwr GMDdA neu bractis GMBILl, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006;

ystyr “rhestr cleifion berthnasol” (“relevant patient list”) yw—

(a)

mewn perthynas â meddyg sy’n gontractwr GMC neu’n gontractwr GMDdA (neu sy’n gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol mewn cwmni sy’n gontractwr o’r fath), y rhestr cleifion ar gyfer y contractwr hwnnw, neu

(b)

pan na fo’r meddyg yn gontractwr, y rhestr cleifion ar gyfer y contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo neu ar gyfer y practis GMBILl y mae’r meddyg yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ynddo;

ystyr “rhestr cyflawnwyr meddygol” (“medical performers list”) yw rhestr o feddygon, a lunnir ac a gyhoeddir yn unol â rheoliad 3(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(27);

ystyr “rhestr fferyllol” (“pharmaceutical list”) yw rhestr y mae’n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ei llunio a’i chynnal o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol);

ystyr “rhestr gyfatebol” (“equivalent list”) yw rhestr a gedwir gan gorff cyfatebol;

ystyr “rhestr meddygon fferyllol” (“dispensing doctor list”) yw rhestr y mae’n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ei llunio a’i chynnal o dan reoliad 11 (llunio a chynnal rhestrau meddygon fferyllol);

ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen, a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig i alluogi fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat gofynnol, ac—

(a)

a gynhyrchir gan gyfrifiadur ac nas llofnodir gan ragnodydd amlroddadwy,

(b)

sy’n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig penodol ac sy’n cynnwys yr un dyddiad â’r presgripsiwn hwnnw,

(c)

a ddyroddir fel un o ddilyniant o ffurflenni, sydd â’u nifer yn hafal i nifer y troeon y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, a

(d)

sy’n pennu rhif i ddynodi ei safle yn y dilyniant y cyfeirir ato ym mharagraff (c);

ystyr “swp-ddyroddiad priodol” (“appropriate batch issue”), mewn perthynas â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, yw un o’r swp-ddyroddiadau sy’n ymwneud â’r presgripsiwn hwnnw ac sy’n cynnwys yr un dyddiad â’r presgripsiwn hwnnw;

mae i “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 55 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG);

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sefydlwyd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(28);

mae i “uwcharolygydd” yr un ystyr ag a roddir i “superintendent” yn adran 71 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(29) (cyrff corfforedig).

(2Pan fo cyfeiriad yn cael ei wneud yn y Rheoliadau hyn at benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol a bod y penderfyniad hwnnw yn cael ei newid yn dilyn apêl, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae’r cyfeiriad at y penderfyniad hwnnw i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at y penderfyniad fel y’i newidiwyd yn dilyn apêl.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr y term “gwasanaethau fferyllol”, yng nghyd-destun trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddyg, yw gweinyddu cyffuriau a chyfarpar ond nid gwasanaethau fferyllol fel y’u crybwyllir yn adran 86(7)(a) neu (b) o Ddeddf 2006 (personau sydd wedi eu hawdurdodi i ddarparu gwasanaethau fferyllol), a

(b)ystyr y term “gwasanaethau gweinyddu”, mewn perthynas â meddyg neu gontractwr GMC, yw unrhyw wasanaeth cyfatebol a ddarperir, nid fel gwasanaethau fferyllol, ond o dan y telerau mewn contract GMC sy’n rhoi effaith i baragraffau 47 i 51 o Atodlen 6 i’r Rheoliadau GMC.

(4Ac eithrio pan ddarperir yn benodol i’r gwrthwyneb, caniateir rhoi neu anfon unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei rhoi i berson neu gorff neu ei hanfon at berson neu i gorff o dan y Rheoliadau hyn drwy ddanfon y ddogfen at y person neu, yn achos corff, at ysgrifennydd neu reolwr cyffredinol y corff hwnnw, neu drwy anfon y ddogfen mewn llythyr rhagdaledig wedi ei gyfeirio at y person hwnnw neu, yn achos corff, at ysgrifennydd neu reolwr cyffredinol y corff hwnnw, yn ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy’n hysbys, ac mae danfon y ddogfen yn cynnwys ei hanfon yn electronig i gyfeiriad electronig a roddwyd gan y person hwnnw at y diben hwnnw.

(5Pan fo’r term “community practitioner nurse prescriber” yn ymddangos yn Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(30) neu yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae i’w ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n gyfeiriad at “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol”.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(a)

RHAN 2LL+CAsesiadau o anghenion fferyllol

Asesiadau o anghenion fferyllolLL+C

3.—(1Cyfeirir at y datganiad o’r anghenion am wasanaethau fferyllol y mae’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol ei gyhoeddi yn rhinwedd adran 82A o Ddeddf 2006(31), pa un a yw’n ddatganiad o’i asesiad cyntaf neu o unrhyw asesiad diwygiedig, yn y Rheoliadau hyn fel “asesiad o anghenion fferyllol”.

(2Y gwasanaethau fferyllol y mae rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol ymwneud â hwy yw’r holl wasanaethau fferyllol y caniateir iddynt gael eu darparu o dan drefniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol ar gyfer—

(a)darparu gwasanaethau fferyllol gan berson ar restr fferyllol,

(b)darparu gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, neu

(c)gweinyddu cyffuriau a chyfarpar gyda pherson sydd ar rhestr meddygon fferyllol (ond nid gwasanaethau GIG eraill y caniateir iddynt gael eu darparu o dan drefniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol â meddyg fferyllol).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn asesiadau o anghenion fferyllolLL+C

4.—(1Rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, cyhyd ag y bo’n ymarferol, gadw’n gyfredol y map y mae’n ei gynnwys yn ei asesiad o anghenion fferyllol yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 1 (ac nid oes angen iddo ailgyhoeddi’r asesiad cyfan na chyhoeddi datganiad atodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y dyddiad erbyn pryd y mae’r asesiad cyntaf o anghenion fferyllol i’w gyhoeddiLL+C

5.  Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol o fewn 12 mis i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Asesiadau dilynolLL+C

6.—(1Ar ôl iddo gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi datganiad o’i asesiad diwygiedig—

(a)heb fod yn hwyrach na 5 mlynedd ar ôl iddo gyhoeddi’r asesiad blaenorol o anghenion fferyllol, neu

(b)ar unrhyw adeg o fewn 5 mlynedd iddo gyhoeddi’r asesiad blaenorol o anghenion fferyllol, gan roi sylw i unrhyw asesiadau eraill o anghenion y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan ddyletswydd statudol i’w cyhoeddi.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud asesiad diwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl nodi newidiadau, sy’n newidiadau sylweddol, ers cyhoeddi ei asesiad o anghenion fferyllol, sy’n berthnasol i ganiatáu ceisiadau y cyfeirir atynt yn adran 83 o Ddeddf 2006, oni bai ei fod wedi ei fodloni y byddai gwneud asesiad diwygiedig yn ymateb anghymesur i’r newidiadau hynny.

(3Hyd nes y caiff datganiad o asesiad diwygiedig ei gyhoeddi, caniateir i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi datganiad atodol sy’n esbonio’r newidiadau i argaeledd gwasanaethau fferyllol ers cyhoeddi ei asesiad o anghenion fferyllol (sy’n dod yn rhan o’r asesiad), pan—

(a)bo’r newidiadau yn berthnasol i ganiatáu ceisiadau y cyfeirir atynt yn adran 83 o Ddeddf 2006, a

(b)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)wedi ei fodloni y byddai gwneud asesiad diwygiedig yn ymateb anghymesur i’r newidiadau hynny, neu

(ii)wrthi’n gwneud asesiad diwygiedig ac wedi ei fodloni ei bod yn hanfodol addasu ei asesiad o anghenion fferyllol ar unwaith er mwyn atal niwed i ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yn ei ardal.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cyhoeddi datganiad atodol yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r cyrff hynny a restrir yn rheoliad 7(1) am ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ymgynghori ar asesiadau o anghenion fferyllolLL+C

7.—(1Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ar gynnwys yr asesiad â’r canlynol—

(a)Pwyllgor Fferyllol Lleol Cymru,

(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal (gan gynnwys un ar gyfer ei ardal a’r Pwyllgor ar gyfer un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol eraill sy’n berthnasol i’r asesiad),

(c)y personau sydd ar ei restrau fferyllol,

(d)unrhyw fferyllfa cynllun peilot y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau â hi ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau fferyllol lleol,

(e)y personau sydd ar ei restr meddygon fferyllol (os oes ganddo un),

(f)unrhyw berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ag ef ar gyfer darparu gwasanaethau gweinyddu,

(g)unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ei ardal,

(h)unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ei ardal ac unrhyw grŵp arall sy’n cynrychioli cleifion, defnyddwyr neu gymuned yn ei ardal sydd, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, â buddiant yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol yn ei ardal,

(i)unrhyw Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer ei ardal,

(j)unrhyw awdurdod lleol ar gyfer ei ardal,

(k)unrhyw Ymddiriedolaeth GIG yn ei ardal, ac

(l)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos.

(2Rhaid cyhoeddi drafft o’r asesiad arfaethedig o anghenion fferyllol ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol am o leiaf 60 niwrnod.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r asesiad drafft o anghenion fferyllol gael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2), hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (1)—

(a)bod drafft o’r asesiad arfaethedig o anghenion fferyllol wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)am y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Os yw person a restrir ym mharagraff (1) yn gofyn am gopi o’r asesiad drafft o anghenion fferyllol ar ffurf copi caled, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 14 o ddiwrnodau beth bynnag, roi copi caled o’r drafft i’r person hwnnw (yn rhad ac am ddim).

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu yn unol â pharagraff (3) a bod Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ei ardal sy’n wahanol i’r Pwyllgor Meddygol Lleol yr ymgynghorwyd ag ef o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol a hysbysir—

(a)ymgynghori â’r Pwyllgor hwnnw cyn ymateb i’r ymgynghoriad, a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau sydd wedi dod i law oddi wrth y Pwyllgor wrth ymateb i’r ymgynghoriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Materion i’w hystyried wrth wneud asesiadauLL+C

8.—(1Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw, cyhyd ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, i’r materion a ganlyn—

(a)unrhyw asesiad neu asesiad pellach o anghenion perthnasol a lunnir o dan adran 82A o Ddeddf 2006—

(i)pan fo’n ymwneud ag ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(ii)nad yw wedi ei ddisodli gan asesiad pellach o dan yr adran honno,

(b)demograffeg ei ardal,

(c)unrhyw anghenion gwahanol sydd gan ardaloedd lleol gwahanol o fewn ei ardal,

(d)y gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan drefniadau ag unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos sy’n effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal, ac

(e)unrhyw wasanaethau gweinyddu neu wasanaethau GIG eraill a ddarperir yn ei ardal neu y tu allan iddi (nad ydynt wedi eu cwmpasu gan is-baragraff (d)) sy’n effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal.

(2Wrth wneud asesiad at ddibenion cyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i’r anghenion tebygol yn y dyfodol—

(a)i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud asesiad priodol o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a

(b)gan roi sylw i newidiadau yn nifer y bobl yn ei ardal y bydd angen gwasanaethau fferyllol arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyhoeddi asesiadau o anghenion fferyllolLL+C

9.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ar ei wefan—

(a)yr asesiad o anghenion fferyllol ar gyfer ei ardal,

(b)unrhyw asesiad dilynol a wneir yn unol â rheoliad 6(1), ac

(c)unrhyw datganiad atodol a wneir yn unol â rheoliad 6(3).

(2Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn cael cais am gopi o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau ym mharagraff (1) ar ffurf copi caled, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac o fewn 14 o ddiwrnodau beth bynnag, roi copi caled (yn rhad ac am ddim).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 3LL+CRhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol

Llunio a chynnal rhestrau fferyllolLL+C

10.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chynnal rhestrau fferyllol o’r fferyllwyr GIG a’r contractwyr cyfarpar GIG sydd wedi gwneud cais yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 2 iddynt, i ddarparu gwasanaethau fferyllol o fangreoedd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac y cymeradwywyd eu ceisiadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag Atodlen 3 neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 4, ac sydd wedi eu hawdurdodi—

(a)i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau, neu

(b)i ddarparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig.

(2Rhaid i bob rhestr fferyllol gynnwys—

(a)cyfeiriad y fangre y mae’r person rhestredig wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ynddi,

(b)y diwrnodau a’r amseroedd pan fydd y person rhestredig yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno, ac

(c)disgrifiad o’r gwasanaethau fferyllol y mae’r person rhestredig wedi ymgymryd â’u darparu.

(3Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dileu enwau personau o’r rhestrau fferyllol.

(4Bydd rhestr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n rhestr gyfredol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn rhestr fferyllol gyfredol hefyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, oni fydd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi effaith i benderfyniad a wnaed cyn y dyddiad dod i rym, i newid, dileu neu gynnwys cofnod yn y rhestr, neu o’r rhestr, o ddechrau’r dyddiad dod i rym, neu oni fydd hawlogaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ac mewn achos o’r fath, y rhestr gyfredol ar ddechrau’r dyddiad dod i rym yw’r rhestr fel y’i haddaswyd i roi effaith i’r penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Llunio a chynnal rhestrau meddygon fferyllolLL+C

11.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chynnal rhestr meddygon fferyllol o’r meddygon y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniant â hwy yn unol â rheoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) i ddarparu gwasanaethau fferyllol i’w cleifion yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i bob rhestr meddygon fferyllol gynnwys—

(a)enw’r meddyg—

(i)y mae ei gais o dan Ran 6 i gael cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag Atodlen 3 neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 4, a

(ii)sydd wedi gwneud trefniadau â’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 26 i ddarparu gwasanaethau fferyllol,

(b)yr ardal y rhoddwyd cydsyniad amlinellol mewn perthynas â hi a’r dyddiad y cymeroedd y cydsyniad amlinellol effaith,

(c)cyfeiriad y fangre practis y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, sy’n pennu—

(i)y dyddiad y cymerodd y gymeradwyaeth mangre effaith neu, os nad yw eto wedi cymryd effaith, y dyddiad y’i rhoddwyd, a

(ii)os yw cymeradwyaeth y fangre yn gymeradwyaeth dybiedig, cymeradwyaeth dros dro neu gymeradwyaeth weddilliol, y ffaith honno,

(d)cyfeiriad unrhyw fangreoedd practis y gwnaeth y meddyg geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hwy, sy’n dal yn yr arfaeth, ac

(e)pan fo meddyg y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol gyda phractis GMBILl, enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Caiff meddyg sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol, ac sy’n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, wneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw i feddyg arall sy’n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, gael ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol yn ei le.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais a ddisgrifir ym mharagraff (3) gytuno i’r cais hwnnw ac—

(a)rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi’r meddyg arall (“y meddyg newydd”) yn lle’r meddyg a wnaeth y cais (“y meddyg gwreiddiol”) yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)bydd y trefniadau a oedd gan y Bwrdd Iechyd Lleol â’r meddyg gwreiddiol yn dod yn drefniadau â’r meddyg newydd, ac

(c)bydd cydsyniadau amlinellol a chymeradwyaethau mangre’r meddyg gwreiddiol yn dod yn gydsyniadau amlinellol a chymeradwyaethau mangre’r meddyg newydd.

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw meddyg rhestredig o restr meddygon fferyllol—

(a)os yw’r meddyg wedi marw,

(b)os nad yw’r meddyg yn cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol mwyach o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(c)os yw’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre wedi darfod o dan reoliad 32 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn darfod),

(d)os yw enw’r meddyg wedi ei ddileu o’r rhestr cyflawnwyr meddygol, neu

(e)os yw mwy na 12 mis wedi mynd heibio er pan ddarparwyd cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar ddiwethaf gan y meddyg o dan drefniant a wnaed yn unol â rheoliad 26.

(6Bydd rhestr meddygon fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n rhestr gyfredol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn rhestr meddygon fferyllol gyfredol hefyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, oni fydd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi effaith i benderfyniad a wnaed cyn y dyddiad dod i rym i newid, dileu neu gynnwys cofnod yn y rhestr o ddechrau’r dyddiad dod i rym, neu oni fydd hawlogaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ac mewn achos o’r fath, y rhestr gyfredol ar ddechrau’r dyddiad dod i rym yw’r rhestr fel y’i haddaswyd i roi effaith i’r penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Telerau gwasanaethLL+C

12.—(1Y telerau y mae person wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol ar eu sail (ac felly, telerau gwasanaeth y person) yw’r telerau hynny sydd wedi eu cynnwys—

(a)yn y telerau gwasanaeth—

(i)ar gyfer fferyllwyr GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau, fel y’u nodir yn Atodlen 5, neu

(ii)ar gyfer contractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig, fel y’u nodir yn Atodlen 6,

ac fel y caniateir iddynt gael eu hamrywio gan amodau a osodir gan Fwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd),

(b)yn y Tariff Cyffuriau, i’r graddau y mae’r hawliau a’r atebolrwyddau yn y Tariff Cyffuriau yn ymwneud â fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG ac yn gymwys yn achos y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, ac

(c)mewn trefniant a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau fferyllol.

(2Y telerau y cynhwysir person ar eu sail mewn rhestr meddygon fferyllol (ac felly, telerau gwasanaeth y person) yw’r telerau hynny—

(a)a gynhwysir yn y telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy’n darparu gwasanaethau fferyllol a nodir yn Atodlen 7,

(b)sydd yn unol ag unrhyw amodau a osodir ynghylch gohirio neu derfynu darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion cymwys a wneir o dan baragraff 6 o Atodlen 3, paragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6), ac

(c)sydd yn unol ag unrhyw amodau a osodir mewn perthynas â gallu’r meddyg fferyllol i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd rheoliad 9(7) o Reoliadau 1992 neu reoliad 6(4) o Reoliadau 2013 a pharagraff 6 o Atodlen 2 iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 4LL+CPenderfynu ardaloedd rheoledig

Ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledigLL+C

13.—(1Mae unrhyw ardal a oedd yn ardal reoledig, neu’n rhan o ardal reoledig, at ddibenion Rheoliadau 2013—

(a)yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu

(b)yn dilyn penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliad 63(2),

yn parhau i fod yn ardal reoledig, neu’n rhan o ardal reoledig, at ddibenion y Rheoliadau hyn (oni phenderfynir, neu hyd nes y penderfynir, nad yw’r ardal yn ardal reoledig mwyach, neu nad yw’n rhan o ardal reoledig mwyach).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, mewn ymateb i gais a gyflwynir yn ysgrifenedig gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, ystyried y cwestiwn pa un a yw unrhyw ardal benodol o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu’n rhan o ardal reoledig ai peidio; neu caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ystyried hynny ar unrhyw adeg arall a benderfynir ganddo.

(3Pan fo’r cwestiwn ynghylch pa un a yw unrhyw ardal benodol yn ardal reoledig neu’n rhan o ardal reoledig ai peidio wedi ei benderfynu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl (pa un a yw hynny o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau 2013), ni chaniateir ystyried y cwestiwn hwnnw eto mewn perthynas â’r ardal benodol—

(a)am 5 mlynedd, gan ddechrau ar ddyddiad y penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu, os apeliwyd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ddyddiad y penderfyniad ar yr apêl, oni bai

(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni (o fewn y cyfnod hwnnw o 5 mlynedd) fod newid sylweddol wedi bod yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar yr ardal er pan benderfynwyd y cwestiwn ddiwethaf.

(4Mae Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu pa un a yw ardal yn ardal reoledig o dan y rheoliad hwn ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Apelau yn erbyn penderfyniadau o dan Ran 4LL+C

14.  Mae Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 5LL+CCeisiadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG i gael eu cynnwys mewn rhestrau fferyllol neu i restrau fferyllol gael eu diwygio

Ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

15.—(1Caiff person gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol pan fo’r person hwnnw—

(a)yn dymuno cael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ond yn dymuno, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)agor mangre ychwanegol er mwyn darparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol ohoni,

(ii)adleoli i fangre wahanol ac, yn y fangre honno, ddarparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol, neu

(iii)darparu, o’r fangre restredig, wasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol i’r gwasanaethau fferyllol hynny a restrwyd eisoes mewn perthynas â’r person hwnnw, neu

(c)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos, ond yn dymuno adleoli i fangre wahanol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo ac, yn y fangre honno, ddarparu’r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol.

(2Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 60 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), rhaid i berson sy’n gwneud cais o dan baragraff (1)(a) ddarparu’r wybodaeth a’r ymgymeriadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2.

(4Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraffau (2) a (3)—

(a)caiff ofyn i’r ceisydd am yr wybodaeth neu’r ddogfennaeth berthnasol sydd ar goll, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd, o fewn y cyfnod a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn y cais o dan is-baragraff (a)—

(i)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani’n rhesymol,

(ii)hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol y bydd oedi o ran darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani, am resymau penodedig, a phennu dyddiad erbyn pryd y mae’r ceisydd yn ymgymryd â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth, neu

(iii)os yw’r ceisydd yn ystyried i’r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth yn afresymol, hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am hynny a cheisio adolygiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o resymoldeb y cais.

(5Os yw ceisydd yn gwrthod cydymffurfio â chais o dan baragraff (4)(a)—

(a)o fewn y cyfnod—

(i)a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (4)(b), neu

(ii)sy’n gorffen ar y dyddiad a bennir gan y ceisydd yn unol â pharagraff (4)(b)(ii), os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod oedi y tu hwnt i’r cyfnod a bennodd, a hyd yr oedi, am reswm da,

oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, mae’r cais i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl;

(b)o dan amgylchiadau pan fo’r ceisydd, yn unol â pharagraff (4)(b)(iii), wedi ceisio adolygiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o resymoldeb y cais, os yw’r adolygiad yn penderfynu, o ran unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani, neu o ran yr holl wybodaeth neu ddogfennaeth y gofynnir amdani—

(i)bod rhaid iddi gael ei darparu wedi’r cyfan, mae’r cais i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl oni bai bod yr wybodaeth neu’r ddogfennaeth y mae rhaid iddi gael ei darparu o hyd yn cael ei darparu o fewn cyfnod newydd a bennir yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer darparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfennaeth honno, neu

(ii)nad oes rhaid iddi gael ei darparu gan y ceisydd, mae’r cais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl i’r graddau y mae’n ymwneud â gwybodaeth neu ddogfennaeth nad oes angen ei darparu.

(6Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan y paragraff hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael cais a chyn iddo benderfynu’r cais hwnnw.

(7Rhaid gwrthod cais gan berson, nad yw eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, i gael ei gynnwys yn y rhestr honno, os yw’r ceisydd yn unigolyn a gymhwysodd yn fferyllydd yn y Swistir neu mewn Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig, oni fydd y person hwnnw yn bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol fod ganddo’r lefel o wybodaeth o Saesneg sydd, er budd yr unigolyn hwnnw a’r personau sy’n defnyddio’r gwasanaethau fferyllol y mae’r cais yn ymwneud â hwy, yn angenrheidiol ar gyfer darparu’r gwasanaethau fferyllol hynny yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

(8Bydd yr holl geisiadau a wneir o dan reoliad 15(1) yn cael eu penderfynu yn unol â rheoliad 16 (penderfynu ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio ar gyfer ceisiadau y mae—

(a)rheoliad 19 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol),

(b)rheoliad 20 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos),

(c)rheoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), neu

(d)rheoliad 22 (ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaeth),

yn gymwys iddynt ac a benderfynir yn unol â’r rheoliadau hynny.

(9Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Penderfynu ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

16.—(1Pan na fo’r fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu’r cais ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac sydd wedi eu cynnwys yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o anghenion fferyllol yn unol ag Atodlen 1.

(2Pan fo’r fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig ond nid mewn lleoliad neilltuedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 17(4) a (5)), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gwrthod y cais pan fo o’r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi (y “prawf niweidio”), a

(b)pan na fo’r cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, ganiatáu’r cais ond dim ond os yw wedi ei fodloni ei fod yn diwallu angen a nodir yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol o anghenion fferyllol.

(3Nid yw’r prawf niweidio yn gymwys os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cais pan fo’r fangre a bennir yn y cais mewn lleoliad neilltuedig.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod cais nad yw’r ceisydd yn diwallu angen ynddo sydd wedi ei nodi yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol o anghenion fferyllol.

(5Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud yn unol â rheoliad 15(1), (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo yn unol â rheoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu yn unol â rheoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd yn unol â rheoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd yn unol â rheoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais yn unol â rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy’n lleoliadau neilltuedigLL+C

17.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu, o ran mangre a bennir mewn cais a gyflwynir iddo o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), neu’r fangre neu’r lleoliad perthnasol y mae’r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, a bennir mewn cais a gyflwynir i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) sydd mewn ardal reoledig, pa un a yw hefyd mewn lleoliad neilltuedig.

(2Pan fo penderfyniad wedi ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru (o dan baragraff (1) ac Atodlen 4 yn eu trefn) neu yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 2013 neu Ran 2 o Atodlen 3 iddynt, mewn perthynas â mangre neu leoliad perthnasol y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ohoni neu ohono neu y darperir gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, fod y fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, caiff y person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn perthynas â’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw, wneud cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol, i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad pellach ynghylch pa un a yw’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw, ar ddyddiad y cais, mewn lleoliad neilltuedig.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y “lleoliad perthnasol”, pan fo lleoliad y fangre y mae gwasanaethau fferyllol i’w darparu ohoni wedi ei bennu yn ysgrifenedig gan y ceisydd cyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud ei benderfyniad, yw’r lleoliad hwnnw, a phan na fo’r lleoliad hwnnw wedi ei bennu felly, yr amcangyfrif gorau y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o’r man lle y mae’r fangre honno.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae lleoliad neilltuedig yn lleoliad mewn ardal reoledig y mae nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal o fewn 1.6 cilometr i’r fangre neu i leoliad y fangre yn llai na 2,750 o bersonau mewn cysylltiad ag ef.

(5Nid yw lleoliad yn lleoliad neilltuedig o dan baragraff (4) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried, pe bai fferyllfa yn gweithredu o’r lleoliad, y defnyddid hi i raddau tebyg neu i raddau mwy nag y gellid ei disgwyl pe bai nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal sydd o fewn 1.6 cilometr i’r fangre neu i’r lleoliad yn hafal i 2,750 o bersonau neu’n fwy na hynny.

(6Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol, wrth wneud penderfyniad pellach y gwnaed cais amdano yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu nad yw’r fangre honno neu’r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, neu os oes apêl yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol a phenderfynir yn dilyn apêl nad yw’r fangre, neu nad yw’r lleoliad perthnasol, mewn lleoliad neilltuedig—

(a)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu bod y fangre i’w thrin, neu’r lleoliad perthnasol i’w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai mewn lleoliad neilltuedig, pan fo o’r farn y byddai peidio â gwneud hynny yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan), gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig, neu

(b)os oedd y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar ddarpariaeth gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio un a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot neu wasanaethau fferyllol a ddarperir gan feddyg, oherwydd penderfyniad nad yw’r fangre mewn lleoliad neilltuedig, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad o’r fath ond caiff osod amodau i ohirio, am y cyfnod hwnnw y mae’n meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniolLL+C

18.—(1Caiff person, sy’n dymuno cael yr hawl i gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol pan gyflwynir cais dilynol gan y person hwnnw o dan reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gydsyniad rhagarweiniol o dan y rheoliad hwn.

(2Rhaid i gais a wneir o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a’r ymgymeriadau a nodir yn—

(a)Rhan 1 o Atodlen 2, a

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 60 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), Ran 2 o Atodlen 2.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais am gydsyniad rhagarweiniol fel pe bai’n gais a wnaed yn unol â reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i).

(4Bydd cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys am gyfnod o 6 mis o’r dyddiad y’i rhoddir, sef y diweddaraf o naill ai—

(a)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 3, neu

(b)pan fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o’u penderfyniad ar yr apêl o dan baragraff 8 o Atodlen 4.

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais dilynol a wneir o dan reoliad 15(1)(a) neu 15(1)(b)(i) gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo—

(a)os yw’r dyddiad y daeth y cais i law’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4),

(b)os yw’r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais yr un rhai â’r rhai a bennwyd yn y cais am gydsyniad rhagarweiniol, ac

(c)os yw’r fangre a bennir yn y cais yn yr un man â’r fangre neu leoliad sy’n berthnasol i angen a nodir yn asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol o anghenion fferyllol.

(6Pan fo is-baragraffau (a) a (b) mewn cysylltiad â pharagraff (5) wedi eu bodloni, ond bod lleoliad y fangre a bennir yn y cais yn wahanol i’r lleoliad y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol mewn cysylltiad ag ef, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol drin y cais fel pe bai’n gais a wnaed yn unol â rheoliad 15(1)(b)(ii).

(7Rhaid i’r penderfyniad i ganiatáu cais o dan baragraff (5) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, mewn perthynas â’r penderfyniad terfynol i roi’r cydsyniad rhagarweiniol cyfatebol.

(8Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, gan berson nad yw eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol (ac eithrio cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â pharagraff (4)), caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd LleolLL+C

19.—(1Caiff person sydd wedi gwneud cais o dan reoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ar unrhyw adeg ar ôl gwneud y cais, ond cyn diwedd y cyfnod perthnasol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 (y weithdrefn ar ôl caniatáu cais)), hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno newid y fangre y mae’n bwriadu darparu’r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais ohoni, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio’r fangre a bennir yn y cais gwreiddiol os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)mai adleoliad yw’r newid,

(b)y bydd y gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais, ac a fyddai wedi cael eu darparu yn y fangre a bennwyd yn y cais gwreiddiol, yn cael eu darparu yn y fangre newydd, ac

(c)bod yr adleoliad yn parhau i ddiwallu’r angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(b)(ii) i adleoli o fangre restredig i fangre newydd y mae’r person hwnnw yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ynddi, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod yr adleoliad er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac—

(i)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(ii)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), a

(iii)na fyddai, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd, neu

(b)nad yw’r adleoliad er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ond—

(i)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(ii)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig,

(iii)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(iv)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), a

(v)na fyddai, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd.

(3Ni chaiff person, y mae caniatâd wedi ei roi i gais a wnaed ganddo o dan y rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad yn unol â’r rheoliad hwn, nac yn unol â rheoliad 20, o fewn 12 mis i ddyddiad caniatáu’r cais (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23(3)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagosLL+C

20.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(c) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), i adleoli o fangre restredig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos i fangre newydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, ac yn y fangre honno mae’r person yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol—

(a)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni—

(i)bod y newid yn adleoliad er mwyn diwallu angen a nodir yn asesiad perthnasol y Bwrdd Iechyd Lleol o anghenion fferyllol,

(ii)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(iii)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am y cyfnod hwnnw a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(iv)nad yw’r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae’r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae’r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro),

(v)na fyddai’r cais, pe bai’n cael ei ganiatáu, yn achosi newid sylweddol i’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol (ac eithrio’r rheini a ddarperir gan berson ar restr meddygon fferyllol) mewn unrhyw ran o ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu mewn ardal reoledig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos pan fo’r ardal reoledig honno o fewn 1.6 cilometr i’r fangre newydd, a

(b)os yw’r person yn cydsynio i enw’r fangre gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre restredig bresennol yn ei ardal, gydag effaith o’r dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre newydd yn cychwyn arno.

(2Ni chaiff person, y mae caniatâd wedi ei roi i gais a wnaed ganddo yn unol â’r rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad o dan y rheoliad hwn, nac o dan reoliad 19, o fewn 12 mis i ddyddiad caniatáu’r cais (fel y’i diffinnir yn rheoliad 23(3)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros droLL+C

21.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio dros dro gofnod mewn rhestr fferyllol drwy ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(b)(ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) i adleoli i fangre wahanol ar sail dros dro, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod yr amgylchiadau pan wneir y cais yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg,

(b)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre dros dro yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(c)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre dros dro ag a ddarperir yn y fangre restredig, a

(d)na fydd unrhyw doriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2Bydd diwygiad dros dro i gofnod yn y rhestr fferyllol yn cael effaith o’r dyddiad y cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd Lleol y cais a wnaed iddo, a bydd yn ddilys am unrhyw gyfnod o hyd at 6 mis ac am unrhyw gyfnodau pellach o hyd at 3 mis y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff person ddychwelyd i’r cofnod a ddisodlwyd yn y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd y cyfnod a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2) drwy roi o leiaf 7 niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(4Pan fo cofnod mewn rhestr fferyllol yn cael ei ddisodli gan ddiwygiad dros dro yn unol â’r rheoliad hwn, ni fydd y disodliad hwnnw yn effeithio ar unrhyw achos o ran y trefniadau a ddisodlwyd (er ei bod yn bosibl y bydd angen eu hatal am resymau eraill), ac os bydd angen diwygio’r trefniadau a ddisodlwyd cyn diwedd y diwygiad dros dro o ganlyniad i’r achos hwnnw, bydd rhaid dychwelyd i’r trefniadau gwreiddiol a ddisodlwyd fel y’u diwygiwyd o ganlyniad i’r achos hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaethLL+C

22.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(a), (b)(i) neu (ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) sy’n bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre y darperir y gwasanaethau hynny ohoni, ar yr adeg y gwneir y cais, gan berson arall sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod y fangre wedi ei chynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)y bydd yr un gwasanaethau fferyllol yn parhau i gael eu darparu o’r fangre, ac

(c)na fydd toriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud o dan reoliad 15(1)(a) (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu o dan reoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Y weithdrefn ar ôl caniatáu caisLL+C

23.—(1Yn dilyn y dyddiad y caniateir cais a wneir o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys person mewn rhestr fferyllol na diwygio rhestr fferyllol oni fydd—

(a)yr amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni, a

(b)gofynion rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd), os oes rhai, wedi eu bodloni o ran gosod amodau ar unrhyw berson.

(2Bydd person yn cael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol berthnasol, neu diwygir y rhestr fferyllol berthnasol fel y bo’n briodol, os bydd y person hwnnw, heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau cyn diwedd y cyfnod perthnasol, yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, gan ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, y bydd y person hwnnw, o fewn y 14 o ddiwrnodau nesaf, yn cychwyn darparu yn y fangre y gwasanaethau fferyllol a bennwyd yn y cais.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a, phan fo’n berthnasol, reoliad 24—

(a)“y dyddiad y caniateir cais” yw’r dyddiad diweddaraf o naill ai—

(i)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 3, neu

(ii)y dyddiad y penderfynir unrhyw apêl a ddygir yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)“y cyfnod perthnasol” yw—

(i)y cyfnod o 6 mis o’r dyddiad y caniateir cais, neu

(ii)unrhyw gyfnod pellach yn ychwanegol at yr hyn a bennir ym mharagraff (i) nad yw’n hwy na 3 mis y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cais i estyn y cyfnod perthnasolLL+C

24.—(1Caiff person wneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol i estyn y cyfnod perthnasol heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl y dyddiad y caniateir cais.

(2Yn unol â rheoliad 23(3)(b)(ii) caiff person wneud cais am estyniad o hyd at 3 mis.

(3Rhaid i gais a wneir i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu rhesymau pam y ceisir estyniad o’r cyfnod perthnasol.

(4Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y rheoliad hwn.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “person” yw’r person y byddai hawlogaeth ganddo i ddarparu hysbysiad i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 23(2) o gychwyn darparu gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

ApelauLL+C

25.—(1Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rhan hon, ac eithrio’r rheoliadau hynny a restrir ym mharagraff (2).

(2Nid oes hawl i apelio mewn cysylltiad â phenderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)i ddiwygio dros dro neu beidio â diwygio dros dro, neu i estyn diwygiad dros dro, mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro), neu

(b)i estyn y cyfnod perthnasol neu beidio ag estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 24 (cais i estyn y cyfnod perthnasol).

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 6LL+CCeisiadau gan feddygon i gael eu cynnwys mewn rhestrau meddygon fferyllol neu i restrau meddygon fferyllol gael eu diwygio

Trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygonLL+C

26.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniant â meddyg sy’n dod o fewn paragraff (8) i’r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf sydd wedi ei gynnwys ar restr cleifion y meddyg neu restr cleifion darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo, os bydd yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)byddai’r claf yn cael anhawster difrifol i gael unrhyw gyffuriau neu gyfarpar angenrheidiol o fferyllfa oherwydd pellter neu ddulliau cyfathrebu annigonol, ac mae’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni,

(b)mae’r claf yn preswylio mewn ardal reoledig, a hynny yn bellter o fwy nag 1.6 cilometr o unrhyw fferyllfa, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu

(c)mae’r claf yn preswylio mewn ardal reoledig, a phenderfynwyd bod unrhyw fferyllfa sydd o fewn pellter o 1.6 cilometr i’r man lle y mae’r claf yn byw mewn lleoliad neilltuedig, ac na newidiwyd y penderfyniad hwnnw yn dilyn apêl na thrwy benderfyniad pellach, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)bod y claf wedi gwneud cais ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol i’r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo, am y rhesymau a bennir ym mharagraff (1)(a), a

(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni y byddai’r claf yn cael anhawster difrifol i gael unrhyw gyffuriau neu gyfarpar angenrheidiol am y rhesymau hynny.

(3Wrth i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniant â meddyg i’r meddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan baragraff (1)(a) o fangre practis, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r meddyg yn ysgrifenedig, gyfnod rhesymol o rybudd ynghylch pryd y mae’r trefniant i gymryd effaith, oni fydd y meddyg wedi bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)nad yw’r meddyg fel arfer yn darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion, neu

(b)na fyddai’r claf yn cael anhawster difrifol i gael cyffuriau a chyfarpar o fferyllfa oherwydd pellter neu ddulliau cyfathrebu annigonol.

(4Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c) yw—

(a)bod cydsyniad amlinellol wedi ei roi i’r meddyg neu i’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r meddyg wedi ei gyflogi ganddo neu wedi ei gymryd ymlaen ganddo,

(b)bod cymeradwyaeth mangre wedi ei rhoi mewn perthynas â’r fangre y bydd y meddyg yn darparu gwasanaethau fferyllol ohoni i’r claf hwnnw,

(c)bod y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre wedi cymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith), a

(d)bod unrhyw amodau a osodir o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â rhoi cydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre yn rhai sy’n caniatáu i drefniadau gael eu gwneud o dan y rheoliad hwn ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan y meddyg hwnnw i gleifion o dan baragraff (1)(b) neu (c).

(5Mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) at gydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre ac amodau a osodir yn cynnwys cyfeiriadau at y rheini a oedd yn cael effaith o dan Reoliadau 2013.

(6Caiff meddyg, y gwnaed trefniant ag ef i ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan y rheoliad hwn, gyda chydsyniad y claf, yn hytrach na darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar, archebu’r cyffuriau neu’r cyfarpar drwy ddyroddi presgripsiwn i’r claf.

(7Pan oedd trefniant i feddyg ddarparu gwasanaethau fferyllol i glaf yn cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y trefniant hwnnw yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan y rheoliad hwn er nad yw’r amodau ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.

(8Mae meddyg yn dod o fewn y paragraff hwn os yw—

(a)yn gontractwr GMC neu’n gontractwr GMDdA,

(b)wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan gontractwr GMC neu gontractwr GMDdA, neu

(c)wedi ei gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol i bractis GMBILl.

(9Caiff meddyg apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (3). Rhaid gwneud yr apêl yn ysgrifenedig o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad o’r penderfyniad at y meddyg, a rhaid i’r apêl gynnwys datganiad cryno o’r sail dros yr apêl.

(10Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael unrhyw hysbysiad o apêl o dan baragraff (9), anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA perthnasol, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA perthnasol, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru gopi o’r hysbysiad o apêl, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(11Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl yn unol â pharagraff (9) yn y modd y gwelant yn addas, gan ystyried y materion rhagarweiniol yn Rhan 1 o Atodlen 4.

(12Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt benderfynu unrhyw apêl o dan baragraff (9), roi hysbysiad o’u penderfyniad yn ysgrifenedig, ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad, i’r apelydd, i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac i’r contractwr GMC neu’r contractwr GMDdA perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Gwasanaethau angenrheidiol ar gyfer cleifion dros droLL+C

27.  Caiff meddyg, sy’n darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion ar restr cleifion drwy drefniant a wneir â Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), ddarparu gwasanaethau fferyllol angenrheidiol i berson sydd wedi ei dderbyn gan y meddyg fel claf dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer rhoi triniaeth ar unwaith neu ar gyfer eu rhoi neu eu defnyddio ar y claf gan y meddyg ei hunanLL+C

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff meddyg y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr meddygol—

(a)darparu i glaf unrhyw gyfarpar neu gyffur, nad yw’n gyffur Atodlen, pan fo angen darpariaeth o’r fath ar gyfer trin y claf hwnnw ar unwaith, cyn y gellir cael darpariaeth rywfodd arall, a

(b)darparu i glaf unrhyw gyfarpar neu gyffur, nad yw’n gyffur Atodlen, a roddir i’r claf hwnnw, neu a osodir ar y claf hwnnw, gan y meddyg ei hunan.

(2Ni chaiff meddyg ddarparu cyfarpar argaeledd cyfyngedig ond ar gyfer person neu at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Terfynu trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygonLL+C

29.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi cyfnod rhesymol o rybudd yn ysgrifenedig i feddyg, i’r perwyl bod rhaid i’r meddyg beidio â pharhau â darparu gwasanaethau fferyllol i glaf o dan drefniant yn unol â rheoliad 26 pan na fo’r claf yn dod o fewn rheoliad 26(1)(a), (b) neu (c) mwyach.

(2O ran hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i unrhyw ohirio neu derfynu’r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol i’r person hwnnw gan y meddyg hwnnw a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 3, paragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6), a

(b)ni chaniateir ei roi—

(i)os oes unrhyw apêl yn yr arfaeth yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol i ohirio gwneud neu derfynu’r trefniant, neu

(ii)pan fo paragraff 5 o Atodlen 3 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangreLL+C

30.—(1Rhaid i feddyg, sy’n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol ac sy’n dymuno gwneud trefniant â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol i gleifion o dan reoliad 26(1)(b) neu (c) (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am—

(a)cydsyniad, gan bennu’r ardal y mae’r meddyg yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi (“cydsyniad amlinellol”), a

(b)cymeradwyaeth i unrhyw fangre practis y mae’r meddyg yn dymuno gweinyddu ohoni (“cymeradwyaeth mangre”).

(2Ni chaiff meddyg a chanddo gydsyniad amlinellol sydd wedi cymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith), gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ond mewn perthynas ag—

(a)mangre practis ychwanegol y bwriedir darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu

(b)mangre practis y mae’r meddyg yn dymuno adleoli iddi o fangre restredig.

(3Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddychwelyd cais os nad yw’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (3).

(5O ran y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhaid iddo wrthod cydsyniad amlinellol mewn perthynas ag unrhyw ran o’r ardal a bennir yn y cais nad yw mewn ardal reoledig neu sydd o fewn 1.6 cilometr i unrhyw fferyllfa;

(b)rhaid iddo wrthod cymeradwyaeth mangre mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir yn y cais sydd o fewn 1.6 cilometr i unrhyw fferyllfa;

(c)rhaid iddo wrthod cais pan fo o’r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi (“y prawf niweidio”);

(d)pan na fo cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, rhaid iddo wrthod y cais oni bai ei fod wedi ei fodloni y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodol, o fewn yr ardal berthnasol ac sydd wedi ei gynnwys yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac y mae’r meddyg wedi gwneud cais am gydsyniad amlinellol yn ei gylch;

(e)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas â’i gilydd, caiff wrthod un neu ragor ohonynt (er y byddai, pe bai’n penderfynu’r ceisiadau fel ceisiadau unigol, yn eu caniatáu) pan fo nifer y ceisiadau yn peri y byddai caniatáu pob un ohonynt neu fwy nag un ohonynt yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig.

(6Caiff unrhyw wrthodiad o gais, fel y’i hamlinellir ym mharagraff (5)(a) i (e), ymwneud â’r ardal gyfan neu unrhyw ran o’r ardal sydd o fewn yr ardal reoledig neu, yn ôl y digwydd, yr holl fangreoedd neu rai o’r mangreoedd y ceisir cymeradwyaeth ar eu cyfer.

(7Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion penodol a gynhwysir yn y Rhan hon, mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 3 yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rhan hon.

(8Mae cais o dan y rheoliad hwn yn cael ei ganiatáu ar ba ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf o—

(a)30 o ddiwrnodau ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon hysbysiad o’i benderfyniad ar y cais, yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 3, neu

(b)pan fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad gan Weinidogion Cymru o’u penderfyniad yn dilyn yr apêl o dan baragraff 8 o Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaithLL+C

31.—(1Wrth ganiatáu cais a wneir o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu ar ba ddyddiad y mae’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre i gymryd effaith.

(2Pan na fo ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y’u diffinnir ym mharagraff (11)), mae’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith ar y dyddiad y caniateir y cais.

(3Pan fo ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth ar y diwrnod cyn y caniateir y cais o dan reoliad 30, mae’r dyddiad y mae’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith i’w benderfynu yn unol â pharagraffau (4) i (9).

(4Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad â chais y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, hysbysu’r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30, a Gweinidogion Cymru os yw’r cais yn destun apêl, am—

(a)unrhyw geisiadau am fferyllfa sydd yn yr arfaeth,

(b)tynnu’n ôl unrhyw geisiadau am fferyllfa sydd yn yr arfaeth,

(c)y dyddiad dros dro (fel y’i diffinnir ym mharagraff (11)) pan gaiff y meddyg ofyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y dylai’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre gymryd effaith, a

(d)cais y meddyg am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre sy’n darfod os cychwynnir darparu gwasanaethau fferyllol, cyn y dyddiad dros dro, o’r fangre a oedd yn destun cais am fferyllfa yn yr arfaeth sydd wedi ei ganiatáu.

(5Ar y dyddiad dros dro, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad dros dro, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30—

(a)y caiff y meddyg, o fewn 3 mis i hysbysiad y Bwrdd Iechyd Lleol, gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gofyn iddo benderfynu a ddylai’r cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre gymryd effaith, a

(b)bod rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu’r cais cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac yn unol â pharagraffau (6) a (7).

(6Pan fo’r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi, yn fangre practis ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu y bydd y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â’r fangre honno yn cael effaith ar y dyddiad hwnnw.

(7Pan na fo’r fangre y ceisir cymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi, yn fangre practis ar ddyddiad y penderfyniad o dan baragraff (5), bydd y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn darfod.

(8Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (5) i’r ceisydd ac i’r personau hynny yr oedd yn ofynnol rhoi hysbysiad iddynt o’r cais o dan reoliad 30, o dan baragraff 8 o Atodlen 3.

(9Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y bydd y cydsyniad amlinellol a’r gymeradwyaeth mangre yn darfod yn rhinwedd paragraff (7) neu fod y dyddiad dros dro i’w estyn o dan baragraff (11), caiff y meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30 apelio i Weinidogion Cymru.

(10O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (9), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—

(a)6(3)(b) ac (c),

(b)7(1) a (3), ac

(c)8,

fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.

(11Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais am fferyllfa yn yr arfaeth” (“outstanding pharmacy application”) yw cais a wneir o dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) neu reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol)—

(a)

pan fo’r fangre a bennir yn y cais hwnnw o fewn 1.6 cilometr i’r fangre y ceisiwyd cymeradwyaeth mangre ar ei chyfer, a

(b)

sydd naill ai—

(i)

wedi ei wneud ond heb ei benderfynu eto, gan gynnwys yn dilyn apêl, neu

(ii)

wedi ei ganiatáu fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 (y weithdrefn ar ôl caniatáu cais) ond nid yw darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre honno wedi cychwyn eto;

ystyr “dyddiad dros dro” (“provisional date”) yw’r diwrnod ar ôl diwedd cyfnod o 1 flwyddyn, neu unrhyw gyfnod pellach nad yw’n hwy na 3 mis a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol (a rhaid iddo hysbysu’r meddyg a wnaeth y cais o dan reoliad 30 am unrhyw estyniad) gan ddechrau â’r dyddiad y caniateir y cais yn unol â rheoliad 30(9).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn darfodLL+C

32.—(1Bydd y cydsyniad amlinell yn peidio â chael effaith—

(a)pan na fo darparu gwasanaethau gweinyddu wedi cychwyn o fewn 12 mis i gydsyniad amlinellol neu gymeradwyaeth mangre gymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith),

(b)pan fo mwy na 12 mis wedi mynd heibio er pan ddarparwyd gwasanaethau gweinyddu ddiwethaf,

(c)pan fo practisau yn cyfuno ac ar ôl cyfuno nid oes mangre practis sydd â chymeradwyaeth mangre, neu

(d)pan fo cydsyniad amlinellol wedi darfod o dan reoliad 31.

(2Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith mewn perthynas ag—

(a)mangre restredig sydd wedi peidio â bod yn fangre practis yn barhaol,

(b)mangre restredig nas defnyddiwyd ar gyfer gweinyddu gan unrhyw feddyg sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu o’r fangre honno am 6 mis neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

(c)mangre restredig pan fo’r meddyg y mae’r fangre honno wedi ei rhestru o dan ei enw yn y rhestr meddygon fferyllol wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol fod yr holl feddygon a chanddynt awdurdod i weinyddu o’r fangre honno wedi peidio â gwneud hynny,

(d)mangre restredig pan na fo meddyg a chanddo gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â’r fangre honno sy’n parhau i fod ar y rhestr meddygon fferyllol, neu

(e)mangre restredig y caniatawyd cymeradwyaeth mangre iddi o dan reoliad 35(3), pan na fo cyfuno practisau yn digwydd o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 35(7).

(3Bydd cymeradwyaeth mangre yn peidio â chael effaith pan fo’r cydsyniad amlinellol cysylltiedig yn peidio â chael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cymeradwyaeth mangre: newid mangre cyn i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaithLL+C

33.—(1Pan—

(a)bo cydsyniad amlinellol wedi ei roi ond nad yw eto wedi cymryd effaith o dan reoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith), a

(b)cyn y dyddiad dros dro a ddiffinnir yn rheoliad 31(11), fo’r meddyg yn bwriadu newid y fangre practis y mae’n dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohoni,

caiff y meddyg wneud cais yn ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol, gan ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2, i’r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â’r fangre newydd, a rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (2).

(2Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni mai mân adleoliad yw’r newid mangre, caiff ganiatáu’r gymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre newydd honno, ond os nad yw wedi ei fodloni felly, rhaid gwrthod cymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre newydd.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau hynny yr oedd yn ofynnol rhoi hysbysiad iddynt o’r cais a wnaed o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) am ei benderfyniad o dan baragraff (2).

(4Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2).

(5O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (4), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—

(a)6(3)(b) ac (c),

(b)7(1) a (3), ac

(c)8,

fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “mân adleoliad” yw adleoli mangre practis pan—

(a)

bydd y gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais a fyddai wedi cael eu darparu yn y fangre practis a bennir yn y cais gwreiddiol yn cael eu darparu yn y fangre practis newydd, a

(b)

na fyddai lleoliad y fangre practis newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol ar gyfer y cleifion sy’n cael mynediad i’r fangre practis a bennir yn y cais gwreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaithLL+C

34.—(1Caiff meddyg a chanddo gydsyniad amlinellol sydd wedi cymryd effaith ac sy’n dymuno cael cymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre yn ychwanegol at y fangre honno y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi (“mangre ychwanegol”) wneud cais ysgrifenedig, gan ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2, i bob un o’r Byrddau Iechyd Lleol priodol, a bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i gais am fangre ychwanegol gael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â rheoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a rheoliad 31 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn cael effaith).

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)y “Byrddau Iechyd Lleol priodol” yw’r Byrddau Iechyd Lleol hynny sy’n cadw’r rhestrau meddygol fferyllol y mae’r meddyg sy’n gwneud y cais wedi ei gynnwys ynddynt, a

(b)y “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” yw’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre ychwanegol yn ei ardal.

(4Caiff meddyg sy’n dymuno cael cymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangre (“mangre newydd”) lle y mae’r meddyg yn dymuno gweinyddu, yn lle mangre restredig, wneud cais, gan ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 2, i bob un o’r Byrddau Iechyd Lleol priodol, a bydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn unol â pharagraffau (5) a (6).

(5Yn achos cais am fangre newydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol roi hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3 a rhaid i gynnwys yr hysbysiad gydymffurfio â pharagraff 10 o’r Atodlen honno.

(6Yn achos cais am fangre newydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol—

(a)caniatáu’r cais, pan fo wedi ei fodloni—

(i)ar gyfer y cleifion sy’n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, a

(ii)na fyddai caniatáu’r cais yn achosi newid sylweddol yn y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i unrhyw ran o’r ardal reoledig y mae’r fangre newydd ynddi, neu

(b)mewn unrhyw achos, benderfynu’r cais fel pe bai’n gais am gymeradwyaeth mangre a wneir o dan reoliad 30(1)(b).

(7Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, oni fydd ganddo reswm da dros beidio â gwneud hynny, wrthod cais o dan baragraff (1) neu (4) os yw cais a wnaed gan y meddyg wedi ei ganiatáu o dan baragraff (6)(a) yn ystod y 12 mis cyn cyflwyno’r cais o dan baragraff (1) neu (4).

(8Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (2) neu baragraff (6)(b) i’r personau y mae’n ofynnol rhoi hysbysiad o’r cais iddynt yn unol â rheoliad 30 a pharagraff 8 o Atodlen 3.

(9Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (6)(a) i’r personau hynny y mae’n ofynnol rhoi hysbysiad iddynt yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 3.

(10Caiff y personau a restrir ym mharagraff 6(1) o Atodlen 4 apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2), (6)(a) neu (6)(b).

(11Yn ddarostyngedig i baragraff (12), bydd y gymeradwyaeth mangre ar gyfer y fangre ychwanegol neu’r fangre newydd yn cymryd effaith o ddyddiad yr hysbysiad o ganiatáu’r gymeradwyaeth mangre, sef—

(a)pan na fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw o dan baragraff (8) neu baragraff (9), neu

(b)pan fo apêl o’r fath wedi ei gwneud, y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o’u penderfyniad ar yr apêl honno.

(12Pan—

(a)bo’r gymeradwyaeth mangre wedi ei rhoi mewn perthynas â mangre ychwanegol, a

(b)mewn perthynas â’r fangre y mae’r gymeradwyaeth wedi ei rhoi ar ei chyfer, ar y dyddiad pan roddir y gymeradwyaeth, fo ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth (fel y’u diffinnir yn rheoliad 31(11)),

bydd y gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith ar y dyddiad sy’n ddiwrnod ar ôl diwedd cyfnod o 1 flwyddyn, neu unrhyw gyfnod pellach (nad yw’n hwy na 3 mis) y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da, ar ôl penderfynu’n derfynol unrhyw gais am fferyllfa yn yr arfaeth.

(13Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cymeradwyaeth mangre dros dro i feddyg a chanddo gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn perthynas â mangre ychwanegol neu fangre newydd pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, o fewn yr ardal berthnasol ac sydd wedi ei gynnwys yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol ac y mae’r meddyg wedi gwneud cais am gydsyniad amlinellol mewn cysylltiad â hi, ac adnewyddu unrhyw gymeradwyaeth dros dro o’r fath a roddir, a phan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r personau hynny yr oedd yn ofynnol, o dan baragraff 8 o Atodlen 3, roi hysbysiad o’r cais iddynt o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a’r ceiswyr mewn perthynas â’r ceisiadau am fferyllfa yn yr arfaeth,

(b)datgan am ba gyfnod y mae’r gymeradwyaeth mangre dros dro i fod yn gymwys, ac

(c)cynnwys y fangre honno yn y rhestr meddygon fferyllol mewn perthynas â’r meddyg hwnnw.

(14Caniateir rhoi cymeradwyaeth mangre dros dro am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis, a chaniateir ei hadnewyddu am gyfnod pellach nad yw’n hwy na 3 mis.

(15Caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (13).

(16O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (15), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—

(a)6(3)(b) ac (c),

(b)7(1) a (3), ac

(c)8,

fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisauLL+C

35.—(1Mae cyfuno practisau yn digwydd pan fo dau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn cyfuno fel darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, ac o ganlyniad, mae dwy neu ragor o restrau cleifion yn cael eu cyfuno.

(2Yn dilyn cyfuno practisau, os yw pob un o fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl yn fangreoedd a oedd, yn union cyn cyfuno’r practisau, yn fangreoedd rhestredig, bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd hynny a’r cydsyniadau amlinellol cysylltiedig yn parhau i gael effaith.

(3Yn dilyn cyfuno practisau, os nad yw paragraff (2) yn gymwys ond yr oedd gan un neu ragor o’r meddygon a ymunodd â’i gilydd fel y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, yn union cyn cyfuno, gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangreoedd—

(a)os daw unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd hynny yn fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—

(i)bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd a’r cydsyniadau amlinellol cysylltiedig yn parhau i gael effaith, a

(ii)rhaid trin unrhyw geisiadau am gymeradwyaethau mangre ar gyfer mangreoedd practis eraill fel pe baent yn geisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 34 (cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaith);

(b)os na ddaw yr un o’r mangreoedd hynny yn fangre practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—

(i)caiff meddyg gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a chael trin y cais hwnnw fel adleoliad o fangre restredig meddyg a oedd yn rhan o’r cyfuno practisau, a

(ii)mae unrhyw geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â mangreoedd practis eraill y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl i’w trin fel pe baent yn geisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 34.

(4Caniateir gwneud cais a grybwyllir ym mharagraff (3) cyn neu ar ôl cyfuno’r practisau, a phan fo cyfuno’r practisau yn cymryd effaith cyn i’r cais gael ei benderfynu’n derfynol—

(a)bydd unrhyw gymeradwyaeth mangre sydd mewn effaith ar ddyddiad cyfuno’r practisau yn cael effaith o ddyddiad y cyfuno ymlaen fel pe bai’n gymeradwyaeth mangre dros dro o dan reoliad 34(13) am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn, a

(b)bydd y practis newydd yn cael cymeradwyaeth mangre dros dro o ddyddiad cyfuno’r practisau ymlaen i weinyddu o unrhyw fangre a grybwyllir yn y cais am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn.

(5Pan fo’r cyfuno practisau yn cymryd effaith, rhaid i’r meddygon hysbysu’r holl Fyrddau Iechyd Lleol y mae’r practis cyfunedig yn eu hardaloedd fod y cyfuno practisau wedi digwydd.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo cais a wnaed o dan baragraff (3) wedi ei ganiatáu cyn i’r cyfuno practisau ddigwydd, bydd y gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith o ddyddiad cyfuno’r practisau ymlaen.

(7Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (3) cyn i’r cyfuno practisau ddigwydd, ac nad yw’r cyfuno practisau wedi digwydd cyn diwedd cyfnod o 1 flwyddyn gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre o dan y paragraff hwnnw, bydd y gymeradwyaeth mangre honno yn darfod.

(8Pan fo cais o dan baragraff (3) am gymeradwyaeth mangre wedi ei wrthod, naill ai ar gyfer pob mangre neu unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn y cais, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfuno practisau ddigwydd, bydd gan y meddygon yr oedd ganddynt gymeradwyaeth mangre cyn gwneud y cais, ac unrhyw feddyg arall yn y practis newydd ar ôl y dyddiad hwnnw, gymeradwyaeth mangre weddilliol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cymeradwyaeth mangre weddilliol” yw cymeradwyaeth mangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol—

(a)o fangre yr oedd gan y meddyg, neu feddyg arall yn y practis, gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar yr adeg y gwnaed y cais mewn perthynas â chyfuno practisau, a

(b)i glaf sy’n dod o fewn rheoliad 26(1) y mae’r meddyg sy’n gwneud y cais yn darparu gwasanaethau fferyllol iddo, ond gan eithrio unrhyw glaf o’r fath sy’n peidio â bod yn glaf a grybwyllir yn rheoliad 26(1)(b) neu (c).

(10At ddibenion paragraff (9), mae rheoliad 26(1)(b) neu (c) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni” wedi eu hepgor.

(11Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais am gymeradwyaeth mangre o dan baragraff (3), penderfynir ar y personau a gaiff wneud apêl i Weinidogion Cymru yn unol ag—

(a)rheoliad 34 mewn cysylltiad â chais o dan baragraff (3)(a)(ii) neu (b)(ii), neu

(b)rheoliad 30 mewn cysylltiad â chais o dan baragraff (3)(b)(i).

(12Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais o dan baragraff (4), caiff y ceisydd wneud apêl i Weinidogion Cymru.

(13O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (12), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—

(a)6(3)(b),

(b)7(1) a (3), ac

(c)8,

fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 7LL+CSeiliau addasrwydd, cynnwys enw person mewn rhestrau fferyllol a dileu enw person o restrau fferyllol

Gohirio ceisiadau ar sail addasrwyddLL+C

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—

(a)rheoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan wneir y cais gan berson a chanddo gydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 18(5), a

(b)rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol) pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried neu benderfynu cais pan—

(a)bo achos troseddol yn y Deyrnas Unedig neu achos yn rhywle arall yn y byd sy’n ymwneud ag ymddygiad a fyddai, yn y Deyrnas Unedig, yn drosedd, mewn cysylltiad ag—

(i)y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, mewn cysylltiad â’r ceisydd neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd y ceisydd), neu

(ii)corff corfforedig y mae’r ceisydd yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, neu wedi bod yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono yn y 6 mis blaenorol, neu a oedd ar adeg y digwyddiadau cychwynnol yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, a fyddai, pe bai’n arwain at euogfarn, neu’r hyn sy’n cyfateb i euogfarn, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;

(b)bo ymchwiliad mewn unrhyw le yn y byd gan gorff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio’r ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), neu unrhyw ymchwiliad arall (gan gynnwys ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol) sy’n ymwneud â gallu proffesiynol y ceisydd, a fyddai, pe bai’r canlyniad yn anffafriol, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;

(c)bo’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei atal dros dro o restr berthnasol;

(d)bo corff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, wedi ei atal dros dro o restr berthnasol;

(e)bo’r Tribiwnlys yn ystyried apêl gan y ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol—

(i)i wrthod cais gan y ceisydd i’w gynnwys mewn rhestr berthnasol,

(ii)i gynnwys y ceisydd yn amodol mewn rhestr berthnasol, neu i ddileu enw’r ceisydd neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o restr berthnasol, neu

(iii)i wrthod cais gan y ceisydd am gydsyniad rhagarweiniol i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol,

a phe bai’r apêl honno yn aflwyddiannus, byddai’r Bwrdd Iechyd Lleol yn debygol o ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;

(f)bo’r Tribiwnlys yn ystyried apêl gan gorff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y 6 mis blaenorol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol—

(i)i wrthod cais gan y corff corfforedig hwnnw i’w gynnwys mewn rhestr berthnasol,

(ii)i wrthod cais gan y corff corfforedig hwnnw am gydsyniad rhagarweiniol i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, neu

(iii)i’w gynnwys yn amodol mewn unrhyw restr berthnasol, neu i ddileu enw’r ceisydd neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol,

a phe bai’r apêl honno yn aflwyddiannus, byddai’r Bwrdd Iechyd Lleol yn debygol o ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;

(g)bo’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn destun ymchwiliad mewn perthynas ag unrhyw dwyll, ac y byddai’r canlyniad, pe bai’n anffafriol, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r ceisydd wedi ei gynnwys ynddi;

(h)bo corff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono, yn destun ymchwiliad mewn perthynas â thwyll, ac y byddai’r canlyniad, pe bai’n anffafriol, yn debygol o arwain at ddileu enw’r ceisydd o’r rhestr fferyllol pe bai’r corff corfforedig wedi ei gynnwys ynddi;

(i)bo’r Tribiwnlys yn ystyried cais gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol am anghymhwysiad cenedlaethol o’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) neu o gorff corfforedig yr oedd y ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd ohono;

(j)bo Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol, am reswm sy’n ymwneud â thwyll, anaddasrwydd neu effeithlonrwydd darpariaeth gwasanaethau—

(i)yn ystyried dileu enw’r ceisydd (ac eithrio ei ddileu yn wirfoddol) neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o restr berthnasol, neu

(ii)wedi gwneud penderfyniad i ddileu enw’r ceisydd (ac eithrio ei ddileu yn wirfoddol) neu ddileu enw’r ceisydd yn ddigwyddiadol o restr berthnasol ond nad yw’r penderfyniad hwnnw eto wedi cymryd effaith.

(3Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio penderfyniad o dan baragraff (2) ond hyd nes bod yr achos, yr ymchwiliadau neu’r ceisiadau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi eu cwblhau neu hyd nes nad yw’r rheswm dros ohirio yn bodoli mwyach.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am benderfyniad i ohirio ystyried neu benderfynu’r cais, ac am y rhesymau dros hyn.

(5Unwaith y bydd yr achos, yr ymchwiliadau neu’r ceisiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi eu cwblhau, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ceisydd—

(a)bod rhaid i’r ceisydd, o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad (neu unrhyw gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), gadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’r cais, a

(b)y caiff y ceisydd ddiweddaru’r cais, os yw’n dymuno gwneud hynny, o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad (neu unrhyw gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(6Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’r cais yn unol â pharagraff (5), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol farnu bod y cais wedi ei dynnu’n ôl gan y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Gwrthod ceisiadau ar sail addasrwyddLL+C

37.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geisiadau a wneir o dan—

(a)rheoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson a chanddo gydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â rheoliad 18(5), a

(b)rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)ar ôl ystyried yr wybodaeth a’r ymgymeriadau sy’n ofynnol gan Ran 2 o Atodlen 2 ac unrhyw wybodaeth arall sydd yn ei feddiant mewn perthynas â’r cais, yn ystyried bod y ceisydd yn anaddas i’w gynnwys yn ei restr fferyllol,

(b)ar ôl cysylltu â’r canolwyr a enwebwyd gan y ceisydd yn unol â Rhan 2 o Atodlen 2, heb ei fodloni gan y geirdaon a roddwyd,

(c)ar ôl gwirio gydag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ynghylch unrhyw ffeithiau y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau i dwyll, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hyn ac unrhyw ffeithiau eraill sydd yn ei feddiant mewn perthynas â thwyll sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), yn ystyried eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o’r fath,

(d)ar ôl gwirio gyda Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw ffeithiau y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau neu achosion, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), ac ar ôl ystyried y ffeithiau hyn ac unrhyw ffeithiau eraill sydd yn ei feddiant sy’n ymwneud â’r ceisydd neu sy’n gysylltiedig ag ef (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), yn ystyried eu bod yn cyfiawnhau gwrthodiad o’r fath, neu

(e)yn ystyried y byddai derbyn y ceisydd i’r rhestr yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaeth fferyllol y byddai’r ceisydd yn ymgymryd â’i ddarparu.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod caniatáu cais pan—

(a)bo’r ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth,

(b)bo’r ceisydd (neu pan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd, ac eithrio llofruddiaeth, a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar,

(c)bo’r ceisydd yn destun anghymhwysiad cenedlaethol, neu

(d)bo’r Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn penderfynu y caniateir cynnwys y ceisydd yn y rhestr fferyllol yn ddarostyngedig i amodau ond nad yw’r ceisydd, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r penderfyniad hwnnw, wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn cytuno i’r amodau gael eu gosod.

(4Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gwrthod cais o dan baragraff (2), rhaid iddo ystyried yr holl ffeithiau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol, ac yn benodol, mewn perthynas â pharagraff (2)(a), (c) a (d), rhaid iddo ystyried—

(a)natur unrhyw drosedd, ymchwiliad neu ddigwyddiad,

(b)yr amser a aeth heibio ers unrhyw drosedd, digwyddiad, euogfarn neu ymchwiliad,

(c)a oes unrhyw droseddau, digwyddiadau neu ymchwiliadau eraill i’w hystyried,

(d)unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd neu gosb a osodwyd gan unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, gan yr heddlu neu’r llysoedd o ganlyniad i unrhyw drosedd, digwyddiad neu ymchwiliad o’r fath,

(e)pa mor berthnasol yw unrhyw drosedd, ymchwiliad neu ddigwyddiad i’r ddarpariaeth gan y ceisydd o wasanaethau fferyllol ac unrhyw risg debygol i ddefnyddwyr gwasanaethau fferyllol neu i arian cyhoeddus,

(f)a oedd unrhyw drosedd yn drosedd rywiol y mae Rhan 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(32) yn gymwys iddi, neu a fyddai wedi bod yn gymwys pe bai’r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(g)a yw’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) wedi ei wrthod rhag ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu wedi ei gynnwys ynddi yn amodol, neu a yw enw’r ceisydd wedi ei ddileu ohoni, neu wedi ei ddileu ohoni yn ddigwyddiadol, neu a yw’r ceisydd ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro, ar sail addasrwydd i ymarfer, ac os felly, y ffeithiau mewn perthynas â’r mater a arweiniodd at weithredu felly, a’r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol dros weithredu felly, neu

(h)a fu’r ceisydd (a phan fo’r ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, neu yn ystod y 6 mis blaenorol, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd corff corfforedig y gwrthodwyd ei gynnwys mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu a gynhwyswyd yn amodol mewn rhestr o’r fath, neu y dilëwyd ei enw neu y dilëwyd ei enw yn ddigwyddiadol o unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu sydd ar hyn o bryd wedi ei atal oddi arni dros dro, ar sail addasrwydd i ymarfer, ac os felly, beth oedd y ffeithiau ym mhob achos o’r fath, a’r rhesymau a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r corff cyfatebol ym mhob achos.

(5Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried y materion a nodir ym mharagraff (4), rhaid iddo ystyried effaith gyffredinol y materion sy’n cael eu hystyried.

(6Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, ar sail ym mharagraff (2) neu (3), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad,

(b)hawl y ceisydd i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad, ac

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008(33), y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Cynnwys person yn amodol ar sail addasrwyddLL+C

38.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais gan berson—

(a)o dan reoliad 15(1)(a) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) a bod y cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5), neu

(b)o dan reoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw,

benderfynu y bydd y person, tra ei fod wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu tra bo ei gydsyniad rhagarweiniol yn ddilys, yn ddarostyngedig i osod amodau gan roi sylw i ofynion adran 104 (cynnwys yn amodol mewn rhestrau offthalmig a fferyllol) o Ddeddf 2006.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio’r telerau gwasanaeth y cynhwysir person yn unol â hwy yn y rhestr fferyllol at ddiben paragraff (1).

(3Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (1) fod yn amod a osodir gyda’r bwriad o—

(a)rhwystro unrhyw niwed i effeithlonrwydd y gwasanaethau fferyllol, neu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau, y mae’r person wedi ymgymryd â’u darparu, neu

(b)rhwystro unrhyw weithred neu anweithred o fewn adran 107(3)(a) o Ddeddf 2006 (anghymhwyso ymarferwyr).

(4Os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais yn ddarostyngedig i amod a osodir o dan baragraff (1), rhaid iddo hysbysu’r person am y penderfyniad hwnnw a rhaid iddo gynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad,

(b)hawl y person i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad,

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl, a

(d)effaith paragraff (5).

(5Os yw’r person, yn unol â rheoliad 23(2), yn darparu hysbysiad o gychwyn cyn bo’r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl yn erbyn amod a osodwyd o dan baragraff (1), mae’r person hwnnw i’w gynnwys yn y rhestr fferyllol yn ddarostyngedig i’r amod, ond dim ond hyd nes canlyniad yr apêl os bydd yr apêl yn llwyddiannus.

(6Mae’r apêl i fod ar ffurf ailbenderfynu—

(a)penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yr amod, a

(b)os yw’r person, ar yr adeg y penderfynir yr apêl, wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i amrywio telerau gwasanaeth y person hwnnw at ddiben gosod yr amod neu mewn cysylltiad â’i osod.

(7Os nad yw’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ar yr adeg y penderfynir yr apêl a bod y Tribiwnlys—

(a)yn cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)yn gosod amod gwahanol,

rhaid i’r person, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael ei hysbysu am benderfyniad y Tribiwnlys, hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch pa un a yw’r person yn dymuno tynnu ei gais yn ôl ai peidio.

(8Os yw’r person, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7), yn methu â hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod hwnnw o 30 o ddiwrnodau nad yw’n dymuno tynnu ei gais yn ôl, mae’r penderfyniad i ganiatáu cais y person hwnnw yn darfod.

(9Pan fo person yn dymuno tynnu’n ôl o restr fferyllol, rhaid i’r person hwnnw hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad hwnnw—

(a)os yw amod wedi ei osod o dan baragraff (1),

(b)os yw’r person yn apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn yr amod hwnnw,

(c)os yw’r Tribiwnlys, yn dilyn apêl, yn cadarnhau’r penderfyniad i osod yr amod hwnnw neu’n gosod amod arall, a

(d)os yw’r person, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael gwybod am benderfyniad y Tribiwnlys, yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno tynnu’n ôl o restr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol,

oni bai ei bod yn anymarferol i’r person wneud hynny, ac os felly, rhaid i’r person hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo’n ymarferol iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Dileu enw person o restr fferyllol am dorri amodau ar sail addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006LL+C

39.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried—

(a)dileu enw person o’r rhestr fferyllol o dan adran 107 (datgymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006, ac eithrio mewn achosion a bennir yn rheoliad 40 (dileu enw person o restr fferyllol am resymau eraill),

(b)dileu enw person yn ddigwyddiadol o’r rhestr fferyllol o dan adran 108 (dileu yn ddigwyddiadol) o Ddeddf 2006,

(c)dileu enw person o’r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006,

(d)gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, neu amrywio unrhyw amod neu osod amod gwahanol o dan yr adran honno, neu amrywio telerau gwasanaeth person o dan adran 108(4) o Ddeddf 2006, neu

(e)dileu enw person o’r rhestr fferyllol am dorri amod o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd),

ar sail addasrwydd, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddilyn y weithdrefn a nodir yn y rheoliad hwn.

(2Cyn cymryd cam gweithredu a bennir ym mharagraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r person—

(a)hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn,

(b)hysbysiad o’r camau gweithredu y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba sail,

(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwn, a

(d)y cyfle i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw’r person yn gofyn am hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (c).

(3Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)(c), rhaid iddo ystyried y sylwadau neu gynnal y gwrandawiad, yn ôl y digwydd, cyn gwneud ei benderfyniad.

(4Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad, rhaid iddo hysbysu’r person am y penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad,

(b)hawl y person i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad, ac

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

(5Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dileu enw person yn ddigwyddiadol, rhaid iddo roi gwybod i’r person am ei hawl i gael adolygiad o’r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw person o’r rhestr fferyllol, na dileu ei enw yn ddigwyddiadol, hyd nes bod yr amser ar gyfer dwyn apêl wedi dod i ben neu, pan fo apêl wedi ei gwneud, hyd nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu gan y Tribiwnlys.

(7Pan fo’r Tribiwnlys yn hysbysu Bwrdd Iechyd Lleol bod y Tribiwnlys wedi ystyried—

(a)apêl gan berson yn erbyn dileu enw yn ddigwyddiadol a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu, yn hytrach, ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol, neu

(b)apêl gan berson sy’n ddarostyngedig i amodau o dan reoliad 38, a bod y Tribiwnlys wedi penderfynu peidio â chynnwys y person yn y rhestr fferyllol honno,

rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o’i restr fferyllol a hysbysu’r person ar unwaith ei fod wedi gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Dileu enw person o restr fferyllol am resymau eraillLL+C

40.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw person o restr fferyllol a gynhelir ganddo pan fo’n dod yn ymwybodol bod y person (a phan fo’r person yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r corff hwnnw)—

(a)wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth,

(b)wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac wedi ei ddedfrydu i gyfnod o garchar sy’n hwy na 6 mis, neu

(c)yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu enw person o’i restr fferyllol ar sail a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, cyn gwneud ei benderfyniad—

(a)hysbysu’r person am y camau gweithredu y mae’n ystyried eu cymryd a’r sail dros ystyried cymryd y camau gweithredu hynny, a

(b)fel rhan o’r hysbysiad hwnnw—

(i)rhoi gwybod i’r person am unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn, a

(ii)rhoi gwybod i’r person y caiff—

(aa)cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch y camau gweithredu hynny ar yr amod bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael y sylwadau hynny o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(bb)cyflwyno sylwadau llafar i’r Bwrdd Iechyd Lleol o ran y camau gweithredu hynny, ar yr amod bod y person yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am ei ddymuniad i gyflwyno sylwadau llafar o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a bod y person (neu gynrychiolydd) yn bresennol yn y gwrandawiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei drefnu at ddibenion clywed y sylwadau hynny, ac

(c)mewn achos y mae paragraff (1)(a) neu (b) yn gymwys iddo, os yw’r person yn gorff corfforedig, roi gwybod iddo na fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn dileu enw’r corff corfforedig o’i restr fferyllol o ganlyniad i baragraff (1)(a) neu (b) (heb ragfarnu unrhyw gam gweithredu arall y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gymryd), ar yr amod—

(i)bod y cyfarwyddwr neu’r uwcharolygydd o dan sylw yn peidio â bod yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd i’r corff corfforedig o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, a

(ii)bod y corff corfforedig yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol, o fewn y cyfnod hwnnw, am y dyddiad y mae’r cyfarwyddwr neu’r uwcharolygydd wedi peidio â bod, neu y dyddiad y bydd yn peidio â bod, yn gyfarwyddwr neu’n uwcharolygydd i’r corff corfforedig.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw person o restr fferyllol—

(a)os nad yw’r person, yn ystod y 6 mis blaenorol, wedi darparu gwasanaethau fferyllol o’r fangre y mae’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol mewn cysylltiad â hi (ond wrth gyfrifo’r cyfnod o 6 mis, nid yw unrhyw gyfnod pan oedd y person wedi ei atal dros dro yn cyfrif), neu

(b)os bu farw’r person, ond nid os yw cynrychiolydd y person hwnnw yn cynnal ei fusnes ar ôl ei farwolaeth o dan adran 72 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cynrychiolydd fferyllydd mewn achos o farwolaeth neu anabledd) cyn belled â bod y cynrychiolydd yn cynnal y busnes yn unol â darpariaethau’r Ddeddf honno, ac yn cytuno i gael ei rwymo gan y telerau gwasanaeth, neu

(c)os nad yw’r person yn fferyllydd cofrestredig mwyach.

(4Cyn dileu enw person o restr fferyllol o dan baragraff (3) rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi i’r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), 30 o ddiwrnodau o rybudd o’i fwriad i ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol,

(b)rhoi’r cyfle i’r person, neu i gynrychiolydd y person a grybwyllir o dan baragraff (3)(b), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu, os yw’n dymuno hynny, eu cyflwyno’n bersonol yn ystod y cyfnod hwnnw, ac

(c)ymgynghori â’r Pwyllgor Fferyllol Lleol.

(5Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir ym mharagraff (1), rhaid iddo hysbysu’r person am y penderfyniad hwnnw, a chynnwys gyda’r hysbysiad esboniad o’r canlynol—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad,

(b)hawl y person i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn ei benderfyniad, ac

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

(6Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r person ar unwaith yn ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan baragraff (3) i ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol, ac am hawl y person i apelio o dan baragraff (7).

(7Caiff person a hysbysir o dan baragraff (6), o fewn 30 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad, apelio yn erbyn y penderfyniad drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gan nodi’r sail dros yr apêl.

(8Ar ôl cael apêl o dan baragraff (7), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol fod apêl wedi ei chael.

(9Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl, y rhoddwyd hysbysiad dilys o apêl mewn cysylltiad â hi yn unol â pharagraff (7), mewn unrhyw fodd (gan gynnwys o ran gweithdrefnau) y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn addas.

(10Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (9), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)yn lle’r penderfyniad hwnnw, gwneud unrhyw benderfyniad y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei wneud pan wnaeth y penderfyniad hwnnw.

(11Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol—

(a)os na wneir apêl, hyd nes bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad wedi dod i ben, neu

(b)os gwneir apêl, hyd nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu.

(12Pan fo apêl yn cael ei chadarnhau, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o’r rhestr fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Atal dros dro o restr fferyllolLL+C

41.—(1Cyn gwneud penderfyniad o dan adran 110(1) (atal dros dro) neu adran 111(2) (atal dros dro wrth aros am apêl) o Ddeddf 2006, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi i’r person—

(a)hysbysiad o unrhyw honiad a wnaed yn ei erbyn,

(b)hysbysiad o’r camau gweithredu y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried eu cymryd, ac ar ba sail,

(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwn, a

(d)y cyfle i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, ar yr amod bod y person yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno cyflwyno sylwadau o fewn cyfnod penodedig (heb fod yn llai na 24 awr).

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y person cyn gwneud ei benderfyniad.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, unwaith y bydd wedi gwneud penderfyniad, hysbysu’r person yn ysgrifenedig am y penderfyniad hwnnw, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt).

(4Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi atal dros dro berson o’r rhestr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi gwybod i’r person am y rhesymau dros y penderfyniad ac, yn achos ataliad dros dro o dan adran 110(1) o Ddeddf 2006, am hawl y person hwnnw i gael adolygiad o’r penderfyniad yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006.

(5Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, ar unrhyw adeg, ddirymu’r ataliad dros dro a hysbysu’r person am ei benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Hysbysiad o benderfyniad i osod amodauLL+C

42.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu—

(a)gwrthod caniatáu cais gan berson o dan reoliad 37,

(b)gosod amodau o dan reoliad 38,

(c)dileu enw person o’i restr fferyllol o dan reoliad 39 neu 40,

(d)atal person dros dro o’i restr fferyllol o dan reoliad 41,

(e)gosod neu amrywio amod o dan reoliad 43, neu

(f)gosod neu amrywio amod o dan reoliad 44,

rhaid iddo hysbysu’r personau a’r cyrff a bennir ym mharagraff (2) ac yn ychwanegol, hysbysu’r rheini a bennir ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud hynny gan y personau hynny neu’r cyrff hynny yn ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig), am y materion a nodir ym mharagraff (4).

(2Y personau sydd i’w hysbysu yw—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol sydd, hyd eithaf gwybodaeth y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n hysbysu, wedi cynnwys y ceisydd mewn rhestr berthnasol,

(c)Gweinidogion yr Alban,

(d)yr Ysgrifennydd Gwladol,

(e)Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon,

(f)y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon neu unrhyw gorff rheoleiddio priodol arall,

(g)y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(h)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac

(i)yn achos twyll, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

(3Y personau neu’r cyrff y caniateir iddynt ofyn i gael eu hysbysu yn ychwanegol yn unol â pharagraff (1) yw—

(a)personau neu gyrff a all gadarnhau—

(i)eu bod, neu y buont, yn cyflogi’r person, yn defnyddio neu wedi defnyddio ei wasanaethau (neu pan fo’r person yn gorff corfforedig, wedi defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r corff corfforedig hwnnw) mewn swyddogaeth broffesiynol, neu

(ii)eu bod yn ystyried cyflogi neu ddefnyddio gwasanaethau’r person (neu pan fo’r person yn gorff corfforedig, defnyddio gwasanaethau unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r corff corfforedig hwnnw) mewn swyddogaeth broffesiynol, a

(b)partneriaeth y mae unrhyw un neu ragor o’i haelodau yn darparu neu’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac sy’n gallu cadarnhau bod y person, neu y bu’r person, yn aelod o’r bartneriaeth, neu fod y bartneriaeth yn ystyried ei wahodd i fod yn aelod.

(4Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)pan fo’r person yn unigolyn neu’n bartneriaeth—

(i)enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r person neu bob aelod o’r bartneriaeth,

(ii)rhif cofrestru proffesiynol y person neu bob aelod o’r bartneriaeth,

(iii)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o’r penderfyniad, a

(iv)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.

(b)pan fo’r person yn gorff corfforedig—

(i)enw’r corff corfforedig, ei rif cofrestru cwmni a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig,

(ii)rhif cofrestru proffesiynol uwcharolygydd y corff corfforedig a rhif cofrestru proffesiynol unrhyw gyfarwyddwr i’r corff corfforedig sy’n fferyllydd cofrestredig,

(iii)dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol a chopi o’r penderfyniad, a

(iv)enw person cyswllt yn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ymholiadau pellach.

(5Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon copi at y person o unrhyw wybodaeth a ddarperir amdano i’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraffau (2) a (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda’r personau neu’r cyrff hynny sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno.

(6Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un neu ragor o’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraff (2) neu (3) am y materion a nodir ym mharagraff (4), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn ychwanegol, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person hwnnw neu’r corff hwnnw, hysbysu’r person hwnnw neu’r corff hwnnw am unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys sylwadau a gyflwynwyd gan y person.

(7Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu gan y Tribiwnlys fod y Tribiwnlys wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi dileu ei enw o’i restr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r personau neu’r cyrff a bennir ym mharagraff (2)(b), (g), (h) ac (i) a pharagraff (3).

(8Pan fo penderfyniad yn cael ei newid o ganlyniad i adolygiad neu apêl, neu pan fo ataliad dros dro yn darfod, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu unrhyw berson neu gorff, a hysbyswyd am y penderfyniad gwreiddiol, ynghylch y penderfyniad diweddarach neu ynghylch y ffaith bod yr ataliad dros dro wedi darfod.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu i ddileu enw person yn digwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006LL+C

43.—(1Pan fo rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag adran 113 (adolygu penderfyniadau) o Ddeddf 2006, adolygu ei benderfyniad i ddileu enw person yn ddigwyddiadol o’r rhestr fferyllol neu i atal dros dro berson o’r rhestr fferyllol o dan adran 110 (atal dros dro) o Ddeddf 2006, neu pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo roi i’r person hwnnw—

(a)hysbysiad o’i fwriad i adolygu ei benderfyniad,

(b)hysbysiad o’r penderfyniad y mae’n ystyried ei wneud o ganlyniad i’r adolygiad, a’r rhesymau dros y penderfyniad,

(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a), a

(d)y cyfle i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw’r person yn gofyn am hynny o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (c).

(2Yn dilyn adolygiad o’r fath, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cadarnhau dileu enw’r person yn ddigwyddiadol neu gadarnhau’r ataliad dros dro,

(b)yn achos ataliad dros dro, ei derfynu, neu

(c)yn achos dileu enw person yn ddigwyddiadol, amrywio’r amodau, gosod amodau gwahanol, dirymu dileu enw’r person yn ddigwyddiadol, neu ddileu enw’r person o’r rhestr.

(3Ni chaiff person sydd wedi ei atal dros dro o restr fferyllol o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu y mae ei enw wedi ei ddileu yn ddigwyddiadol o restr fferyllol o dan adran 108 o Ddeddf 2006 ofyn am adolygiad cyn diwedd—

(a)cyfnod o 3 mis gan ddechrau â dyddiad penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i ddileu enw’r person yn ddigwyddiadol, neu

(b)cyfnod o 6 mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.

(4Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1)(c), rhaid iddo ystyried y sylwadau neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl y digwydd, cyn gwneud ei benderfyniad.

(5Unwaith y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad o dan adran 113(3) o Ddeddf 2006, rhaid iddo hysbysu’r person am ei benderfyniad, a chynnwys gyda’r hysbysiad o’i benderfyniad esboniad o’r canlynol—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad,

(b)os oes hawl gan y person i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad—

(i)yr hawl sydd gan y person i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf 2006 (apelau)(34), a

(ii)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y bydd rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl, ac

(c)os yw’r person wedi ei atal dros dro neu os yw enw’r person wedi ei ddileu yn ddigwyddiadol neu os yw’r sefyllfa yn parhau felly, y trefniadau ar gyfer adolygu’r ataliad dros dro neu’r amodau o dan adran 113(1) o Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Adolygu penderfyniad i osod amodauLL+C

44.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud penderfyniad i osod amodau yn unol â rheoliad 38, caiff adolygu penderfyniad o’r fath, naill ai o’i ddewis ei hunan neu os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau.

(2Ni chaiff person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau ofyn am adolygiad o benderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd cyfnod o 3 mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)yn cynnwys enw’r person ar ei restr fferyllol, neu

(b)yn caniatáu cydsyniad rhagarweiniol i’r person,

ac ni chaiff ofyn am adolygiad o fewn 6 mis i benderfyniad ar adolygiad blaenorol.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi i’r person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau—

(a)hysbysiad o’i fwriad i adolygu ei benderfyniad,

(b)hysbysiad o’r penderfyniad y mae’n ystyried ei wneud o ganlyniad i’r adolygiad, a’r rhesymau dros y penderfyniad,

(c)y cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (a), a

(d)y cyfle i gyflwyno ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron y Bwrdd Iechyd Lleol, os yw’r person yn gofyn am hynny, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (c).

(4Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael sylwadau neu gais am wrandawiad llafar o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(c), rhaid iddo ystyried y sylwadau neu gynnal y gwrandawiad llafar, yn ôl y digwydd, cyn gwneud ei benderfyniad.

(5Yn dilyn adolygiad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cadw’r amodau cyfredol,

(b)gosod amodau newydd,

(c)amrywio telerau gwasanaeth y person,

(d)amrywio’r amodau, neu

(e)pan fo’r person wedi torri amod, dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol.

(6Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r person am ei benderfyniad, a rhaid iddo gynnwys gyda’r hysbysiad o’i benderfyniad esboniad o’r canlynol—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad,

(b)yr hawl sydd gan y person i apelio i’r Tribiwnlys, ac

(c)o fewn pa derfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008, y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

ApelauLL+C

45.—(1Pan fo person, ac eithrio person a hysbysir o dan reoliad 42, sydd wedi ei hysbysu am benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol ei fod —

(a)yn bwriadu—

(i)gwrthod caniatáu cais y mae rheoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd) yn gymwys iddo ar sail a gynhwysir ym mharagraff (2) neu (3) o’r rheoliad hwnnw,

(ii)gosod amodau ar y person yn rhinwedd rheoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd), neu amrywio telerau gwasanaeth y person yn unol â’r rheoliad hwnnw,

(iii)yn unol â rheoliad 39 (dileu enw person o restr fferyllol am dorri amodau ar sail addasrwydd neu osod neu amrywio neu osod amodau newydd o dan adran 108 o Ddeddf 2006)—

(aa)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol o dan adran 107 (anghymhwyso ymarferwyr) o Ddeddf 2006;

(bb)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol yn ddigwyddiadol o dan adran 108 (dileu enw person yn ddigwyddiadol) o Ddeddf 2006;

(cc)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan adran 108 o Ddeddf 2006;

(dd)gosod unrhyw amod penodol o dan adran 108 o Ddeddf 2006, amrywio unrhyw amod, gosod amod gwahanol neu amrywio telerau gwasanaeth y person o dan yr adran honno;

(ee)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol am dorri amod a osodwyd o dan reoliad 38, neu

(iv)dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol ar sail a gynhwysir yn rheoliad 40(1), neu

(b)wedi adolygu penderfyniad i osod amodau o dan reoliad 44 (adolygu penderfyniad i osod amodau) ac wedi penderfynu cymryd unrhyw un neu ragor o’r camau gweithredu yn rheoliad 44(5), neu

(c)wedi adolygu penderfyniad i ddileu enw’r person yn ddigwyddiadol o restr fferyllol yn rhinwedd rheoliad 43 (adolygu penderfyniad i osod ataliad dros dro o dan adran 110 o Ddeddf 2006 neu i ddileu enw person yn ddigwyddiadol o dan adran 108 o Ddeddf 2006) ac wedi—

(i)cadarnhau dileu enw’r person yn ddigwyddiadol,

(ii)amrywio’r amodau sydd ynghlwm wrth ddileu’r enw yn ddigwyddiadol neu wedi gosod amodau gwahanol, neu

(iii)wedi dileu enw’r person o’r rhestr fferyllol,

caiff y person apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid gwneud apêl o dan baragraff (1) yn ysgrifenedig, gan nodi’r sail dros wneud yr apêl, a rhaid ei chyflwyno i’r Tribiwnlys o fewn y terfyn amser, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008 y mae rhaid anfon hysbysiad o’r cais i’r Tribiwnlys os bwriedir dwyn apêl.

(3Caiff y Tribiwnlys, wrth benderfynu apêl, wneud unrhyw benderfyniad y gallai’r Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 45 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 8LL+CCynnwys enw person yn amodol mewn rhestrau fferyllol: amodau penodol nad ydynt yn ymwneud ag addasrwydd na pherfformiad

Amodau o ran oriau agor craiddLL+C

46.—(1Pan, yng nghwrs gwneud cais y mae rheoliad 15, 19, 20 neu 22 yn gymwys iddo—

(a)i gynnwys enw person mewn rhestr fferyllol fel y’i crybwyllir yn rheoliad 10(1)(a), neu gan berson sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr o’r fath i adleoli i fangre fferyllol wahanol neu i agor, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, fangre fferyllol ychwanegol—

(i)bo fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre fferyllol arfaethedig am nifer penodedig o oriau agor craidd bob wythnos sy’n fwy na 40,

(ii)bo’r fferyllydd GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu yn y fangre fferyllol arfaethedig yn ystod yr oriau agor ychwanegol a bennir (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 40) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol, a

(iii)bo’r cais wedi ei ganiatáu gan roi sylw i’r ymgymeriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw,

pan fydd yn cynnwys y fangre mewn rhestr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod y person a restrir mewn perthynas â’r fangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno am y nifer penodedig o oriau agor craidd yr ymgymerwyd â gwneud hynny, ac yn ystod yr oriau agor ychwanegol ar yr adegau penodol ac ar y diwrnodau penodol y cytunwyd arnynt;

(b)i gynnwys enw person mewn rhestr fferyllol fel y’i crybwyllir yn rheoliad 10(1)(b), neu gan berson sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr o’r fath i adleoli i fangre contractwr cyfarpar wahanol neu i agor, o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, fangre contractwr cyfarpar ychwanegol—

(i)bo contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre contractwr cyfarpar arfaethedig am nifer penodedig o oriau agor craidd bob wythnos sy’n fwy na 30,

(ii)bo’r contractwr cyfarpar GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu ym mangre’r contractwr cyfarpar yn ystod yr oriau agor ychwanegol a bennir (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 30) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol, a

(iii)bo’r cais wedi ei ganiatáu gan roi sylw i’r ymgymeriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw,

pan fydd yn cynnwys y fangre mewn rhestr fferyllol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod y person a restrir mewn perthynas â’r fangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno am y nifer penodedig o oriau agor craidd yr ymgymerwyd â gwneud hynny, ac yn ystod yr oriau agor ychwanegol ar yr adegau penodol ac ar y diwrnodau penodol y cytunwyd arnynt.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)wedi gwahodd fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i gynyddu cyfanswm nifer yr oriau agor craidd y mae’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre restredig, a

(b)wedi cytuno ar ôl hynny â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG—

(i)nifer uwch o oriau agor craidd, a

(ii)yn achos fferyllydd GIG, bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu yn y fangre fferyllol yn ystod unrhyw oriau agor ychwanegol (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 40) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol, neu

(iii)yn achos contractwr cyfarpar GIG, bod gwasanaethau fferyllol i’w darparu ym mangre’r contractwr cyfarpar yn ystod unrhyw oriau agor ychwanegol (hynny yw, yr oriau sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr oriau a bennir a 30) ar adegau penodol ac ar ddiwrnodau penodol,

rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod y person a restrir mewn perthynas â’r fangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno am y nifer penodedig o oriau agor craidd yr ymgymerwyd â gwneud hynny, ac yn ystod unrhyw oriau agor ychwanegol ar yr adegau penodol ac ar y diwrnodau penodol y cytunwyd arnynt.

(3Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer o dan baragraff (2) ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio cyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1) neu (2) ond yn unol â pharagraff 25 neu 26 o Atodlen 5 neu baragraff 15 neu 16 o Atodlen 6.

(4Ni caniateir i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1) neu (2) gael ei amrywio o fewn 3 blynedd iddo gael ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Amodau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyfeiriedigLL+C

47.—(1Pan ymgymerodd fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, yng nghwrs gwneud cais o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau 2013—

(a)â darparu’r gwasanaethau cyfeiriedig a grybwyllir yn y cais, os comisiynodd y Bwrdd Iechyd Lleol y gwasanaethau o fewn 3 blynedd naill ai i ddyddiad caniatáu’r cais neu, os yw’n hwyrach, i ddyddiad y rhestriad mewn perthynas â’r ceisydd o’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi,

(b)os comisiynwyd y gwasanaethau cyfeiriedig, â darparu’r gwasanaethau yn unol â manyleb gwasanaeth y cytunir arni, ac

(c)â pheidio ag atal cytundeb ar fanyleb gwasanaeth yn afresymol,

mae cynnwys, yn y rhestr fferyllol, enw’r person a restrir mewn perthynas â’r fangre a restrwyd o ganlyniad i’r cais hwnnw yn ddarostyngedig i’r amod a nodir ym mharagraff (2).

(2Yr amod yw bod rhaid i’r person a restrir mewn perthynas â’r fangre—

(a)darparu’r gwasanaethau cyfeiriedig a grybwyllir yn y cais (pa un ai’r ceisydd oedd y person a restrir ai peidio), a

(b)peidio ag atal cytundeb ar fanyleb gwasanaeth i’r gwasanaethau cyfeiriedig hynny yn afresymol,

os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn comisiynu’r gwasanaethau o’r person a restrir mewn perthynas â’r fangre o fewn 3 blynedd naill ai i ddyddiad caniatáu’r cais neu, os yw’n hwyrach, i ddyddiad y rhestriad mewn perthynas â’r ceisydd o’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol ar ôl hynny yn peidio â chomisiynu’r gwasanaethau (os yw wedi eu comisiynu).

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn pennu bod gofyniad i ddarparu gwasanaethau cyfeiriedig sy’n deillio o amod a osodir yn rhinwedd y rheoliad hwn i gymryd effaith erbyn dyddiad penodedig, mae’r gofyniad yn cymryd effaith—

(a)ar y dyddiad hwnnw, neu

(b)ar y dyddiad y cychwynnir darparu’r gwasanaeth cyfeiriedig.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddileu’r amod a osodir yn rhinwedd paragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 47 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

Amodau sy’n ymwneud â datrys yn lleol anghydfodau ynghylch y telerau gwasanaethLL+C

48.—(1Un o’r amodau ar gyfer cynnwys pob fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG mewn rhestr fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol yw y gwnaiff y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG bob ymdrech resymol i gyfathrebu â’r Bwrdd Iechyd Lleol gyda golwg ar ddatrys unrhyw anghydfod rhwng naill ai’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ymwneud â chydymffurfio â’r telerau gwasanaeth y darperir gwasanaethau fferyllol odanynt.

(2Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddileu’r amod a osodir yn rhinwedd paragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 48 mewn grym ar 1.10.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 9LL+CSancsiynau sy’n ymwneud â pherfformiad ac Ymadael â’r Farchnad

Datrys anghydfodau yn lleol cyn cyflwyno hysbysiadau adfer neu hysbysiadau torriLL+C

49.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn dyroddi hysbysiad o dan reoliad 50 neu 51, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu a chydweithredu â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG gyda golwg ar ddatrys unrhyw anghydfod rhwng y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG a’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n ymwneud â cydymffurfedd gan y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG â’r telerau gwasanaeth.

(2Pan fo fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn gwahodd Pwyllgor Fferyllol Lleol i gymryd rhan yn yr ymdrechion i ddatrys yr anghydfod, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu a chydweithredu â’r Pwyllgor yn ei ymdrechion i gynorthwyo i ddatrys yr anghydfod.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod yr anghydfod yn ymwneud â mater sydd eisoes wedi bod yn destun datrys anghydfod rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ac nad oes unrhyw faterion newydd o sylwedd sy’n cyfiawnhau oedi wrth ddyroddi hysbysiad o dan reoliad 50 neu 51, neu

(b)ei bod yn briodol mynd ati ar unwaith i ddyroddi hysbysiad o dan reoliad 50 neu 51—

(i)oherwydd nad yw’r fangre restredig ar agor, neu nad yw wedi bod ar agor, yn ystod oriau agor craidd neu oriau agor atodol heb reswm da,

(ii)er mwyn gwarchod diogelwch unrhyw bersonau y caiff fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol iddynt, neu

(iii)er mwyn gwarchod y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 49 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Torri’r telerau gwasanaeth: hysbysiadau adferLL+C

50.—(1Pan fo fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn torri un o’r telerau gwasanaeth ac y gellir unioni’r toriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy hysbysiad (“hysbysiad adfer”), ei gwneud yn ofynnol i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG unioni’r toriad.

(2Er mwyn bod yn ddilys, rhaid i’r hysbysiad adfer gynnwys—

(a)natur y toriad,

(b)y camau y mae rhaid i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG eu cymryd, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn unioni’r toriad,

(c)y cyfnod (“y cyfnod rhybudd”) pan fo rhaid cymryd y camau, a

(d)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG, neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG, i apelio o dan reoliad 54(1)(a) gael eu harfer.

(3Ni chaiff y cyfnod rhybudd fod yn llai na 30 o ddiwrnodau, oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod cyfnod byrrach yn briodol—

(a)er mwyn gwarchod diogelwch unrhyw bersonau y caiff y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol iddynt, neu

(b)er mwyn gwarchod y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol perthnasol.

(4Os yw’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu, neu fethiant i ddarparu i safon resymol, wasanaeth fferyllol y mae’n ofynnol i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ei ddarparu, caiff yr hysbysiad adfer ddarparu—

(a)o ran y cyfnod pan oedd methiant i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i gadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o dan y Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b);

(b)wrth aros i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG gymryd y camau y mae rhaid i’r naill neu’r llall eu cymryd, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn unioni’r toriad, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i gadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan y Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b), ac o dan yr amgylchiadau hyn—

(i)o ran unrhyw gyfnod pa fo’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn parhau i dorri’r telerau, mae unrhyw cadw’n ôl sydd i’w briodoli i’r cyfnod hwnnw i fod yn barhaol, a

(ii)unwaith bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG wedi cymryd y camau sy’n ofynnol, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, mae unrhyw cadw’n ôl sydd wedi digwydd, y gellir ei briodoli i gyfnod pan nad yw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn torri’r telerau mwyach, i gael ei adfer, ar yr amod bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn cyflwyno hawliad, yn unol â’r Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b), i adfer y tâl a gadwyd yn ôl sydd i’w briodoli i’r cyfnod hwnnw.

(5Ni chaiff yr hysbysiad adfer ond darparu ar gyfer cadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n daladwy o dan benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b) pan fo’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol.

(6Caniateir i’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b)(i) fod yn gyfnod hwy na’r cyfnod rhybudd.

(7Os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod adfer yr holl dâl a gadwyd yn ôl, neu ran ohono, sy’n cael ei hawlio o dan baragraff (4)(b)(ii), rhaid iddo hysbysu’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a rhaid i’r hysbysiad hwnnw gynnwys—

(a)datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan reoliad 54(1)(b) gael eu harfer.

(8Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddirymu hysbysiad adfer a ddyroddir yn unol â’r rheoliad hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei ddyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 50 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Torri’r telerau gwasanaeth: hysbysiadau torriLL+C

51.—(1Pan fo fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn torri un o’r telerau gwasanaeth ac na ellir unioni’r toriad, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, drwy hysbysiad (“hysbysiad torri”), ei gwneud yn ofynnol i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG beidio ag ailadrodd y toriad.

(2Er mwyn bod yn ddilys, rhaid i’r hysbysiad torri gynnwys—

(a)natur y toriad, a

(b)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan reoliad 54(1)(c) gael eu harfer.

(3Os yw’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol y mae’n ofynnol i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ei ddarparu, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol, caiff yr hysbysiad torri ddarparu, o ran y cyfnod pan oedd methiant i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw, neu fethiant i’w ddarparu i safon resymol, fod y Bwrdd Iechyd Lleol i gadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan y Tariff Cyffuriau neu benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b) mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw.

(4Ni chaiff yr hysbysiad torri ond darparu ar gyfer cadw’n ôl yr holl dâl, neu ran ohono, sy’n daladwy o dan benderfyniad fel y’i crybwyllir yn rheoliad 56(2)(b) pan fo’r toriad yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol, neu fethiant i ddarparu gwasanaeth fferyllol i safon resymol.

(5Caiff Bwrdd Iechyd Lleol amrywio neu ddirymu hysbysiad torri a ddyroddir yn unol â’r rheoliad hwn ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei ddyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 51 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Cadw taliadau yn ôl: materion atodolLL+C

52.—(1Ni chaiff hysbysiad adfer na hysbysiad torri ond darparu ar gyfer cadw’n ôl yr holl dâl, neu unrhyw ran ohono, i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG—

(a)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad oes rheswm da dros y toriad y mae’r cadw’n ôl yn ymwneud ag ef, neu yr oedd yn ymwneud ag ef;

(b)os oes modd cyfiawnhau’r swm a gadwyd yn ôl a’i fod yn gymesur, gan roi sylw i natur a difrifoldeb y toriad a’r rhesymau drosto;

(c)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yn yr hysbysiad ei resymau, sydd wedi eu cyfiawnhau’n briodol, dros y penderfyniad i gadw tâl yn ôl a’r symiau sydd wedi eu cadw’n ôl, a (phan fo’n gymwys) y symiau sydd i’w cadw’n ôl.

(2Nid oes rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y rhesymau dros y toriad, yn unol â pharagraff (1)(b), os yw wedi gwneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i ganfod y rhesymau ond ei fod wedi methu â’u canfod.

(3Nid yw cadw’n ôl daliadau y darperir ar eu cyfer mewn hysbysiadau adfer a hysbysiadau torri yn rhagfarnu’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer adennill gordaliadau o dan reoliad 57 a’r Tariff Cyffuriau.

(4At ddibenion rheoliadau 50(4) ac 51(3), mae tâl sydd wedi ei benderfynu gan Weinidogion Cymru, neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gweithredu fel yr awdurdod penderfynu yn unol â rheoliad 56(2)(b), yn dâl sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan y Tariff Cyffuriau.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Rhl. 52 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Dileu enwau personau o restrau: achosion sy’n ymwneud â hysbysiadau adfer a hysbysiadau torriLL+C

53.—(1Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o restr fferyllol, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, os yw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG—

(a)yn methu â chymryd y camau a nodir mewn hysbysiad adfer, er boddhad y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn unioni’r toriad, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol dileu enw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o’r rhestr fferyllol, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG—

(i)er mwyn gwarchod diogelwch unrhyw bersonau y caiff y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol iddynt, neu

(ii)er mwyn gwarchod y Bwrdd Iechyd Lleol rhag colled ariannol perthnasol, neu

(b)wedi torri’r telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG, ac—

(i)mae hysbysiadau adfer neu hysbysiadau torri (neu’r ddau) wedi cael eu dyroddi’n fynych iddo mewn perthynas â’r teler gwasanaeth perthnasol,

(ii)mae hysbysiad adfer neu hysbysiad torri wedi cael ei ddyroddi iddo o’r blaen mewn perthynas â’r teler gwasanaeth perthnasol, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn debygol o barhau i dorri’r teler gwasanaeth heb reswm da, neu

(iii)mae hysbysiadau adfer neu hysbysiadau torri (neu’r ddau) wedi cael eu dyroddi’n fynych iddo mewn perthynas â thelerau gwasanaeth gwahanol, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn debygol o barhau i dorri ei delerau gwasanaeth heb reswm da.

(2At ddiben paragraff (1), ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond dileu—

(a)enw mangre benodol o restriad fferyllydd GIG neu restriad contractwr cyfarpar GIG mewn rhestr fferyllol os yw’r holl doriadau perthnasol yn ymwneud â’r fangre benodol honno, neu

(b)enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o restr fferyllol benodol os yw’r holl doriadau perthnasol yn ymwneud â mangre restredig sydd yr unig fangre a restrir yn yr rhestr fferyllol honno mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ond dileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, neu ddileu enw mangre a restrir mewn perthynas â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, o restr fferyllol o dan baragraff (1)—

(a)os oes modd cyfiawnhau dileu’r enw a’i fod yn gymesur, gan roi sylw i natur a difrifoldeb y toriadau (neu’r toriadau tebygol) a’r rhesymau drostynt, a

(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, pan fydd yn hysbysu’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad, yn cynnwys yn yr hysbysiad ei resymau, sydd wedi eu cyfiawnhau’n briodol, dros y penderfyniad.

(4Nid oes rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y rhesymau dros y toriadau (neu’r toriadau tebygol), yn unol â pharagraff (3)(a), os yw wedi gwneud pob ymdrech resymol i gyfathrebu â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i ganfod y rhesymau ond ei fod wedi methu â’u canfod.

(5Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried dileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre benodol a restrir mewn perthynas â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, o restr fferyllol o dan baragraff (1), rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn gwneud y penderfyniad, fod y Bwrdd Iechyd Lleol â’i fryd ar ddileu enw’r fferyllydd GIG, y contractwr cyfarpar GIG, neu’r fangre o restr fferyllol,

(b)fel rhan o’r hysbysiad hwnnw, roi gwybod i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG y caiff gyflwyno—

(i)sylwadau ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol o ran y cam gweithredu hwnnw, ar yr amod bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol gyda’r sylwadau hynny o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(ii)sylwadau llafar i’r Bwrdd Iechyd Lleol o ran y cam gweithredu hwnnw, ar yr amod—

(aa)bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol o ddymuniad y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG i wneud hynny o fewn 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(bb)bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG (neu gynrychiolydd) yn bresennol yn y gwrandawiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ei drefnu at ddiben clywed y sylwadau hynny, y mae rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol roi gyfnod rhesymol o rybudd ohono i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, ac

(c)ymgynghori ag unrhyw Bwyllgor Fferyllol Lleol y mae ei ardal yn cynnwys y fangre rhestredig benodol neu unig fangre’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ar y rhestr fferyllol honno.

(6Os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu dileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre benodol a restrir mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, o restr fferyllol o dan baragraff (1), rhaid iddo, pan fo’n hysbysu’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad hwnnw, gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw—

(a)datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)esboniad o sut y caniateir i hawliau’r fferyllydd GIG neu hawliau’r contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan reoliad 54(1)(d) gael eu harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 53 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Apelau yn erbyn penderfyniadau o dan Ran 9LL+C

54.—(1Caiff fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG apelio yn erbyn y penderfyniadau a ganlyn gan y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi hysbysiad adfer o dan reoliad 50, gan gynnwys—

(i)y camau penodedig y mae rhaid i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG eu cymryd sydd yn yr hysbysiad,

(ii)hyd y cyfnod rhybudd yn yr hysbysiad,

(iii)unrhyw benderfyniad i ddarparu ar gyfer cadw tâl yn ôl a gynhwysir yn yr hysbysiad, a

(iv)swm unrhyw gadw yn ôl;

(b)penderfyniad i beidio ag adfer tâl i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, fel y darperir ar ei gyfer mewn hysbysiad adfer yn unol â rheoliad 50(4)(b)(ii), neu i adfer swm llai na’r swm y mae’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn ystyried y dylid ei adfer;

(c)dyroddi hysbysiad torri o dan reoliad 51, gan gynnwys—

(i)unrhyw benderfyniad i ddarparu ar gyfer cadw tâl yn ôl a gynhwysir yn yr hysbysiad, a

(ii)swm unrhyw gadw yn ôl;

(d)penderfyniad i ddileu enw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o restr fferyllol, neu ddileu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG o dan reoliad 53(1);

ar yr amod bod fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn hysbysu Gweinidogion Cymru gyda hysbysiad o apêl dilys o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr hysbyswyd y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG am y penderfyniad sy’n cael ei apelio.

(2Nid yw hysbysiad o dan baragraff (1) ond yn ddilys os yw’n cynnwys datganiad cryno a rhesymedig o’r sail dros yr apêl.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddileu enw fferyllydd GIG, enw contractwr cyfarpar GIG neu’r rhestriad ar gyfer mangre restredig benodol mewn perthynas â fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG (yn ôl y digwydd) o restr fferyllol o dan reoliad 53(1)—

(a)os na chaiff apêl ei dwyn yn erbyn y penderfyniad i ddileu’r enw neu’r rhestriad, hyd nes bod y cyfnod ar gyfer dwyn yr apêl wedi dod i ben, neu

(b)os caiff apêl ei dwyn yn erbyn y penderfyniad i ddileu’r enw neu’r rhestriad ond ei bod yn aflwyddiannus, cyn i’r apêl gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(4Mae Atodlen 4 yn cael effaith mewn perthynas ag apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 54 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

RHAN 10LL+CTaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG

Y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIGLL+C

55.—(1Y Tariff Cyffuriau y cyfeirir ato yn adran 81(4) o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) yw swm cyfanredol y canlynol—

(a)y penderfyniadau ar dâl a wneir gan Weinidogion Cymru, wrth iddynt weithredu fel awdurdod penderfynu, o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol), a

(b)unrhyw offerynnau eraill y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Ddeddf 2006, eu cyhoeddi, neu y maent yn eu cyhoeddi, ynghyd â’r penderfyniadau hynny,

yn y cyhoeddiad a elwir y Tariff Cyffuriau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn y fformat y maent yn meddwl ei fod yn addas.

(2O ran penderfyniadau gan Weinidogion Cymru o dan adran 88 o Ddeddf 2006—

(a)caniateir iddynt gael eu gwneud drwy gyfeirio at raddfeydd, mynegeion neu fformiwlâu o unrhyw fath, a phan fo penderfyniad yn un sydd i’w wneud drwy gyfeirio at unrhyw raddfa, mynegai neu fformiwla o’r fath, caiff y penderfyniad ddarparu bod cyfrifo’r pris perthnasol i’w wneud drwy gyfeirio at y raddfa, y mynegai neu’r fformiwla sydd—

(i)ar y ffurf sy’n gyfredol ar yr adeg y gwneir y penderfyniad, a

(ii)ar unrhyw ffurf ddilynol sy’n cymryd effaith ar ôl yr adeg honno, a

(b)cânt gymryd effaith o ran tâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad a bennir yn y penderfyniad, a gaiff fod yn ddyddiad y penderfyniad neu’n ddyddiad cynharach neu ddiweddarach, ond ni chaiff fod yn ddyddiad cynharach ond os nad yw’r penderfyniad, o’i gymryd yn ei gyfanrwydd, yn anffafriol i’r personau y mae’r penderfyniad yn ymwneud â’u tâl.

(3Pan na fo penderfyniad a gynhwysir yn y Tariff Cyffuriau yn pennu dyddiad fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2)(b), bydd yn cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y newid i’r Tariff Cyffuriau yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i ddiwygiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r Tariff Cyffuriau ar yr adegau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn addas, gael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru mewn fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r Tariff Cyffuriau sy’n cynnwys y diwygiadau.

(5Rhaid cynnal yr ymgynghoriad y mae Gweinidogion Cymru yn ymgymryd ag ef o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 (adran 88: atodol) cyn cynnwys neu cyn newid pris cyffur neu bris cyfarpar sydd i fod yn rhan o gyfrifiad ar gyfer tâl drwy ymgynghori ynghylch y broses ar gyfer penderfynu’r pris sydd i’w gynnwys neu ei newid, ac nid ynghylch y pris arfaethedig ei hunan (oni bai ei bod yn amhosibl cynnal ymgynghoriad effeithiol mewn unrhyw ffordd arall).

(6Rhaid i daliadau o dan y Tariff Cyffuriau gael eu gwneud—

(a)gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am wneud y taliad, a

(b)yn unol â threfniadau ar gyfer hawlio a gwneud taliadau sydd i’w nodi yn y Tariff Cyffuriau ond yn ddarostyngedig, fel y bo’n briodol, i unrhyw ddidyniad o dâl ar gyfer fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG y caniateir iddo gael ei wneud, neu y mae rhaid iddo gael ei wneud, o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 55 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

[F2Ad-daliad sero neu nominal am gost y cynnyrch ar gyfer brechlynnau rhag y coronafeirws, meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws a brechlynnau rhag feirws y ffliwLL+C

55A.(1)  Yn achos y cyffuriau neu’r meddyginiaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, rhaid i awdurdodau penderfynu sicrhau, o ran penderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol) mewn cysylltiad â thâl fferyllol sy’n ymwneud â chyflenwi neu roi’r cyffuriau hynny neu’r meddyginiaethau hynny, naill ai—

(a)nad ydynt yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu

(b)nad ydynt ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag y coronafeirws (“brechlyn rhag y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (3) wedi eu bodloni,

(b)i gyffur gwrthfeirol neu feddyginiaeth wrthfeirol a ddefnyddir i atal neu drin y coronafeirws (“meddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu

(c)i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag feirws ffliw (“brechlyn rhag y ffliw”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.

(3) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—

(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,

(c)bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag y coronafeirws o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a

(d)bod y brechlyn rhag y coronafeirws o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

(4) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—

(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o fath penodol i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o’r math penodol hwnnw o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG, ac

(c)o ran y feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o dan sylw—

(i)ei bod yn dod o’r stoc honno, neu

(ii)nad yw’n dod o’r stoc honno ond serch hynny ei bod y math penodol o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG o dan y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (b).

(5) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—

(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag feirws y ffliw i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag feirws y ffliw, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,

(c)bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag feirws y ffliw o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a

(d)bod y brechlyn rhag feirws y ffliw o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

(6) At ddibenion paragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru briodweddu’r math penodol o feddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG drwy gyfeirio at y modd y cyflwynir y cyffur neu’r feddyginiaeth yn unig (yn ogystal â thrwy gyfeirio at gynhwysyn actif y cyffur neu’r feddyginiaeth, cryfder y cyffur neu’r feddyginiaeth, neu unrhyw briodweddau eraill sy’n hynodi’r cyffur neu’r feddyginiaeth, neu gyfuniad o unrhyw rai o’r priodweddau hynny).

(7) Er mwyn osgoi amheuaeth, caniateir serch hynny i benderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 nad ydynt, yn unol â’r rheoliad hwn—

(a)yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu

(b)ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth,

ddarparu neu ganiatáu i dâl gael ei dalu am unrhyw wasanaeth a ddarperir gan fferyllydd GIG y cyflenwir neu y rhoddir y cyffur neu’r feddyginiaeth fel rhan ohono.

(8) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “ad-daliad nominal”, yn achos cyffur sydd wedi ei ddarparu neu feddyginiaeth sydd wedi ei darparu heb gost i fferyllydd GIG, yw talu swm sy’n cael ei dalu yn lle’r swm y byddai’r fferyllydd GIG fel arfer yn ei ennill o’r gwahaniaeth rhwng—

(i)y swm a dalodd am y cyffur pan wnaeth ei brynu neu am y feddyginiaeth pan wnaeth ei phrynu, a

(ii)y swm a delir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol mewn cysylltiad â chost y cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno (gan amlaf y pris sylfaenol a restrir yn y Tariff Cyffuriau), os yw’n cyflenwi neu’n rhoi’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a

(b)mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service” yn adran 206(1) o Ddeddf 2006.]

Byrddau Iechyd Lleol fel awdurdodau penderfynuLL+C

56.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan yn y Tariff Cyffuriau mai’r awdurdod penderfynu ar gyfer ffi benodol, lwfans penodol neu dâl arall fydd Bwrdd Iechyd Lleol y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG y mae’r tâl yn ymwneud ag ef.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei awdurdodi i fod yn awdurdod penderfynu, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)ymgynghori â’r Pwyllgor Fferyllol Lleol perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniad,

(b)cyhoeddi’r penderfyniad yn y modd y mae’n meddwl ei fod yn briodol ar gyfer ei ddwyn i sylw’r personau sydd wedi eu cynnwys yn ei restrau fferyllol, ac

(c)rhoi’r penderfyniad ar gael ar gyfer edrych arno.

(3Rhaid i benderfyniad a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol gynnwys y trefniadau ar gyfer hawlio a thalu’r tâl ac—

(a)rhaid i hawliadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG gael eu gwneud yn unol â’r trefniadau, a

(b)rhaid gwneud taliadau o’r tâl yn unol â’r trefniadau yn ddarostyngedig, fel y bo’n briodol, i unrhyw ddidyniad o’r tâl y caniateir iddo gael ei wneud, neu y mae rhaid iddo gael ei wneud, o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 56 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

GordaliadauLL+C

57.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried bod taliad wedi ei wneud i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG fel y’i crybwyllir yn rheoliad 55(6) neu 56(3) o dan amgylchiadau pan nad oedd y taliad yn ddyledus, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu sylw’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG at y gordaliad ac—

(a)pan fo’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn cydnabod bod gordaliad wedi ei wneud, neu

(b)pan na fo’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn cydnabod bod gordaliad wedi ei wneud ond mae’r Bwrdd Iechyd Lleol neu, yn dilyn apêl, Weinidogion Cymru o dan reoliad 9(1)(c) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992, yn penderfynu bod gordaliad wedi ei wneud,

bydd y swm a ordalwyd yn adenilladwy, naill ai drwy ei ddidynnu o dâl y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG neu rywfodd arall.

(2Nid yw adennill gordaliad o dan y rheoliad hwn yn rhagfarnu’r ymchwiliad i doriad honedig o’r telerau gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Rhl. 57 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Cynllun gwobrwyoLL+C

58.—(1Bydd fferyllydd GIG y cyflwynir archeb iddo o dan baragraff 5 o Atodlen 5, neu gontractwr cyfarpar GIG y cyflwynir archeb iddo o dan baragraff 4 o Atodlen 6, yn gymwys i hawlio taliad gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol â’r Tariff Cyffuriau—

(a)os, yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 5 neu baragraff 9 o Atodlen 6, gwrthododd y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG ddarparu’r cyffuriau neu’r meddyginiaethau neu’r cyfarpar rhestredig a archebwyd, ac os rhoddodd wybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol am y weithred hon cyn gynted ag y bo’n ymarferol,neu

(b)os darparwyd y cyffuriau neu’r cyfarpar rhestredig gan y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, ond bod rheswm ganddo ar y pryd neu’n ddiweddarach dros gredu nad oedd yr archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r ffurflen bresgripsiwn amlroddadwy, a bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol am y gred honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac, yn y naill achos neu’r llall, bod y fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG wedi anfon yr archeb y cyfeirir ati yn y paragraff hwn i’r Bwrdd Iechyd Lleol a bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi cadarnhau nad oedd yr archeb y cyfeirir ati yn y paragraff hwn yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r ffurflen bresgripsiwn amlroddadwy.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad ag unrhyw hawliad o dan baragraff (1), wneud unrhyw daliad sy’n ddyledus i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG a gyfrifir yn y modd a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “archeb” yn cynnwys archeb honedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 58 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Taliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG sydd wedi eu hatal dros droLL+C

59.—(1Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliadau i unrhyw fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG sydd wedi ei atal dros dro o restr fferyllol, yn unol â phenderfyniad Gweinidogion Cymru mewn perthynas â thaliadau o’r fath.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad yn unol â pharagraff (3), ar ôl ymgynghori â’r sefydliadau hynny a gydnabyddir ganddynt fel rhai sy’n cynrychioli fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG y mae trefniadau eisoes yn bodoli â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r penderfyniad yn y Tariff Cyffuriau.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r penderfyniad o bryd i’w gilydd ar ôl ymgynghori â’r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), a rhaid cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau hefyd gyda’r Tariff Cyffuriau.

(4Caiff penderfyniad Gweinidogion Cymru gynnwys darpariaeth nad yw taliadau yn unol â’r penderfyniad i fod yn fwy na swm penodedig mewn unrhyw gyfnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Rhl. 59 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

RHAN 11LL+CAmrywiol

Bwrdd Iechyd Lleol cartrefLL+C

60.—(1Caiff ceisydd sy’n gorff corfforedig y mae’n ofynnol iddo ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw weithredu fel ei Fwrdd Iechyd Lleol cartref.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno â chais a wneir o dan baragraff (1), caiff ceisydd y mae’n ofynnol iddo ddarparu, fel rhan o gais, yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, ddarparu’r wybodaeth honno i’w Fwrdd Iechyd Lleol cartref yn lle hynny, a rhoi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo fod yr wybodaeth honno eisoes ym meddiant y Bwrdd Iechyd Lleol cartref.

(3Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol cartref drosglwyddo’r wybodaeth a gafwyd gan geisydd o dan y rheoliad hwn i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae’r ceisydd yn gwneud cais iddo yn ddiweddarach, a rhaid iddo wneud hynny o fewn 30 o ddiwrnodau i gael cais am yr wybodaeth honno gan y Bwrdd Iechyd Lleol arall.

(4Rhaid i’r ceisydd naill ai—

(a)cadarnhau wrth y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo fod yr wybodaeth yn gyfredol, neu

(b)diweddaru’r wybodaeth drwy ei hanfon i’r Bwrdd Iechyd Lleol cartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 60 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Cyhoeddi manylionLL+C

61.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi’r canlynol, yn y modd y gwêl yn addas, a rhoi copïau o’r canlynol ar gael yn ei swyddfeydd ar gyfer edrych arnynt—

(a)ei asesiad o anghenion fferyllol,

(b)ei restr fferyllol,

(c)ei restr meddygon fferyllol,

(d)map sy’n amlinellu ffiniau unrhyw ardaloedd rheoledig a lleoliadau neilltuedig sydd wedi eu penderfynu,

(e)manylion am unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau hyn yn ystod y 3 blynedd flaenorol,

(f)y telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG yn Atodlen 5,

(g)y telerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG yn Atodlen 6,

(h)y telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn Atodlen 7, ac

(i)y Tariff Cyffuriau.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi unrhyw un neu ragor o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael i edrych arnynt mewn unrhyw leoedd eraill yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac yr ymddengys i’r Bwrdd Iechyd Lleol eu bod yn gyfleus er mewn rhoi gwybod i bob person a chanddo fuddiant, neu

(b)cyhoeddi, mewn lleoedd o’r fath yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, hysbysiad o’r lleoedd a’r amseroedd y gellir gweld copïau o’r dogfennau hynny.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol anfon copi o’i asesiad o anghenion fferyllol, ei restrau fferyllol a’i restr meddygon fferyllol at Weinidogion Cymru, y Pwyllgor Meddygol Lleol a’r Pwyllgor Fferyllol Lleol, a rhaid iddo, o fewn 14 o ddiwrnodau i unrhyw newid i’r rhestrau hynny, roi gwybod iddynt yn ysgrifenedig am y newidiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 61 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Arfer yr hawl i ddewis mewn achosion penodolLL+C

62.  Caniateir gwneud cais i fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG am wasanaethu fferyllol —

(a)ar ran unrhyw blentyn gan y naill riant neu’r llall neu, yn absenoldeb y ddau riant, gan y gwarcheidwad neu berson arall a chanddo ofal dros y plentyn,

(b)ar ran unrhyw berson o dan 18 mlwydd oed sydd—

(i)yng ngofal awdurdod y’i traddodwyd i’w ofal o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989(35), gan berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan yr awdurdod hwnnw, neu

(ii)yng ngofal sefydliad gwirfoddol, gan y sefydliad hwnnw neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan y sefydliad,

(c)ar ran unrhyw oedolyn nad oes ganddo’r gallu i wneud cais o’r fath neu i awdurdodi gwneud cais o’r fath ar ei ran, gan berthynas, neu’r prif ofalwr i’r person hwnnw, neu

(d)ar ran unrhyw berson arall, gan unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Rhl. 62 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Darpariaethau trosiannolLL+C

63.—(1Rhaid i unrhyw gais a wneir o dan Reoliadau 2013 a gafwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar neu cyn 30 Medi 2021 gael ei benderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013, hyd nes y bydd y cais hwnnw yn cael ei benderfynu’n derfynol.

(2Rhaid i unrhyw benderfyniad arfaethedig gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 6(2) o Reoliadau 2013 (ardaloedd sy’n ardaloedd rheoledig) ar neu cyn 30 Medi 2020 gael ei benderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013, hyd nes bod y cais hwnnw wedi cael ei benderfynu’n derfynol.

(3Rhaid i unrhyw apêl o dan Reoliadau 2013—

(a)a ddaw i law Gweinidogion Cymru ar neu cyn 30 Medi 2020, neu

(b)a wneir ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mewn cysylltiad â chais a benderfynwyd yn unol â pharagraff (1), neu benderfyniad a wnaed o dan baragraff (2),

gael ei phenderfynu yn unol â darpariaethau Rheoliadau 2013.

(4Pan fo hawlogaeth gan berson, cyn 30 Medi 2020 neu o ganlyniad i baragraff (1) neu (3), ar sail penderfyniad (pa un a yw’n benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol neu’n dilyn apêl)—

(a)i gael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, ond nad yw wedi ei gynnwys yn y rhestr honno, neu

(b)i gael rhestru mangre mewn perthynas â’i gofnod mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, ac nad yw’r fangre wedi ei rhestru mewn perthynas â’r person,

mae’r trefniadau ar gyfer rhestru’r person hwnnw neu’r fangre honno, a’r amgylchiadau pan fydd y penderfyniad hwnnw yn darfod, fel y’u nodir yn Rheoliadau 2013.

(5Mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir o dan baragraff (2), y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn yw’r weithdrefn honno yn rheoliad 6(4) o Reoliadau 2013 ac yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 iddynt.

(6Pan roddwyd cydsyniad rhagarweiniol o dan reoliad 12 o Reoliadau 2013 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) ac nad oedd cais wedi ei wneud o dan reoliad 12(6) o Reoliadau 2013 cyn 30 Medi 2020, bydd rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol) yn gymwys fel pe bai’r cydsyniad rhagarweiniol wedi ei roi o dan y rheoliad hwnnw.

(7Pan fo paragraff (6) yn gymwys, mae rheoliad 12(6) o Reoliadau 2013 wedi ei roi yn lle rheoliad 18(5).

(8Os nad yw penderfyniad o dan reoliad 6 o Reoliadau 2013 wedi cael ei benderfynu’n derfynol cyn 30 Medi 2020 (“penderfyniad sydd yn yr arfaeth”), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried unrhyw gais a gyflwynir iddo o dan Rannau 5 a 6 o’r Rheoliadau hyn pe gallai penderfyniad sydd yn yr arfaeth effeithio ar y cais hwnnw, hyd nes bod y penderfyniad sydd yn yr arfaeth wedi ei benderfynu’n derfynol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais neu benderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei benderfynu’n derfynol tan ddiwedd y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y cais hwnnw neu’r penderfyniad hwnnw, neu hyd nes bod unrhyw apêl o’r fath wedi ei phenderfynu, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Rhl. 63 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

64.  Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 8 wedi eu diwygio fel y’i nodir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Rhl. 64 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

DirymuLL+C

65.—(1Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 wedi eu dirymu yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Ar 1 Hydref 2020—

(a)Rhannau 1 i 3, a

(b)Rhannau 7 ac 8.

(3Ar 31 Mawrth 2021—

(a)yn Rhan 4, rheoliad 8(1)(a), a

(b)yn Rhan 5, rheoliad 20.

(4Ar 1 Hydref 2021—

(a)yn Rhan 4, rheoliad 8(1)(b) i (7), a rheoliadau 9 i 19,

(b)yn Rhan 5, rheoliadau 21 i 30, ac

(c)Rhan 6.

(5I’r graddau nad ydynt wedi eu dirymu gan baragraffau (2) i (4), mae Rheoliadau 2013 wedi eu dirymu ar 1 Hydref 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Rhl. 65 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Medi 2020

Rheoliad 4

ATODLEN 1LL+CYr wybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn asesiadau o anghenion fferyllol

Darpariaeth gyfredol gwasanaethau fferyllolLL+C

1.  Datganiad oʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi eu nodi yn wasanaethau a ddarperir—

(a)yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac syʼn angenrheidiol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal,

(b)y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ond sydd, er hynny, yn cyfrannu at ddiwalluʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal (os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi nodi gwasanaethau oʼr fath), neu

(c)yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol neu y tu allan iddi ac sydd, er nad ydynt yn wasanaethau oʼr mathau a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), yn effeithio ar asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol oʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaethau GIG eraillLL+C

2.  Datganiad o unrhyw wasanaethau GIG a ddarperir neu a drefnir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Bwrdd Iechyd Lleol arall, meddyg fferyllol neu Ymddiriedolaeth GIG y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi rhoi sylw iddynt yn ei asesiad, syʼn effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Bylchau yn y gwasanaethau fferyllol a ddarperirLL+C

3.  Datganiad oʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi eu nodi (os yw wedi eu nodi) yn wasanaethau nas darperir yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ond y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod angen eu darparu (pa un a ydynt yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ai peidio) er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ei ardal ar hyn o bryd;

(b)y bydd angen eu darparu o dan amgylchiadau penodedig yn y dyfodol (pa un a ydynt yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ai peidio) er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ei ardal yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Sut y cynhaliwyd yr asesiadLL+C

4.  Esboniad o sut y cynhaliwyd yr asesiad, ac yn benodol—

(a)sut y mae wedi penderfynu beth ywʼr ardaloedd lleol yn ei ardal,

(b)sut y mae wedi ystyried (pan foʼn gymwys)—

(i)anghenion gwahanol ardaloedd lleol gwahanol yn ei ardal, a

(ii)anghenion gwahanol aelodau o grwpiau gwahanol yn ei ardal syʼn rhannu priodoledd gyffredin mewn cysylltiad ag un, neu fwy nag un, oʼr nodweddion a ganlyn—

(aa)oed,

(bb)rhywedd,

(cc)ailbennu rhywedd arfaethedig, a gychwynnwyd neu a gwblhawyd,

(dd)anabledd,

(ee)hil,

(ff)crefydd neu gred, ac

(gg)cyfeiriadedd rhywiol;

(c)adroddiad ar yr ymgynghoriad y mae wedi ymgymryd ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Map o ddarpariaethLL+C

5.  Map syʼn nodiʼr mangreoedd y darperir gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau gweinyddu ynddynt yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau 15, 18, 23, 30, 33 a 34

ATODLEN 2LL+CYr wybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn ceisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol

RHAN 1LL+CCais i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol

Yr wybodaeth syʼn ofynnol gan bob ceisyddLL+C

Manylion y caisLL+C

1.  Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

2.  Y math o gydsyniad y gwneir cais amdano (llawn neu ragarweiniol).

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

3.  Y math o gais (er enghraifft: cynnwys oʼr newydd; adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol; adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos; adleoli; newid perchnogaeth; cydsyniad rhagarweiniol).

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Manylion y ceisyddLL+C

4.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

5.  Os ywʼr ceisydd yn unigolyn neuʼn bartneriaeth syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, rhif cofrestruʼr ceisydd neu rif cofrestru pob partner yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

6.  Os ywʼr ceisydd yn gorff corfforedig syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, enw a rhif cofrestru uwcharolygydd y ceisydd yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Manylion y fangre aʼr oriau agorLL+C

7.  Cyfeiriad y fangre y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu leoliad y fangre y maeʼr ceisydd yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohoni os ywʼr cais yn gais am gydsyniad rhagarweiniol.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

8.  A ywʼr fangre ym meddiant y ceisydd ar hyn o bryd neu, er enghraifft, a ywʼr fangre yn cael ei hadeiladu neuʼn destun negodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

9.  Ar ba ddiwrnodau y bydd y fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, aʼr oriau agor ar y diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparuLL+C

10.  Cadarnhad y bydd yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu ac, os yw’n gymwys, pa gyfarpar y mae’r ceisydd yn ymgymryd â’i gyflenwi.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

11.  Manylion y gwasanaethau cyfeiriedig y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i’w darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

12.  Os ywʼr cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol iʼr rheini a ddarperir ar hyn o bryd yn y fangre restredig, manylion y gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

13.  Pan fo rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried y bydd y cais yn diwallu angen a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth mewn perthynas âʼr prawf niweidioLL+C

14.  Pan foʼr prawf niweidio yn rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau syʼn ymwneud ag adleoliadauLL+C

15.  Pan foʼr ceisydd yn gwneud cais i adleoli (pa un ai o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 19, rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20 neu dros dro o dan reoliad 21), rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion yr adleoliad arfaethedig, gan gynnwys cyfeiriad mangre restredig bresennol y ceisydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

16.  Pan foʼr cais yn ymwneud ag adleoliad rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20, rhaid iʼr ceisydd ddatgan—LL+C

(a)enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol ynddo,

(b)bod y ceisydd yn cydsynio i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol yn ei ardal, ac mewn cysylltiad âʼr fangre restredig bresennol honno, gydag effaith oʼr dyddiad y bydd darpariaeth gwasanaethau fferyllol oʼr fangre newydd yn dechrau, ac

(c)sut y maeʼr ceisydd yn bwriadu diwallu angen a nodir yn yr asesiad o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos, os ywʼr cais yn ymwneud ag adleoliad i ddiwallu angen oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

17.  Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—LL+C

(a)a yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, ar gyfer y cleifion syʼn gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol,

(b)a ddarperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig, ac

(c)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

18.  Os ywʼr cais yn gais am adleoliad dros dro, rhaid iʼr ceisydd ddatgan yr amgylchiadau syʼn gwneud adleoli dros dro yn ofynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaethLL+C

19.  Enwʼr person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ac sydd, ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau fferyllol oʼr fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

20.  Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—LL+C

(a)a barheir i ddarparuʼr un gwasanaethau fferyllol oʼr fangre, a

(b)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ymgymeriad y ceisyddLL+C

21.  Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad y bydd y ceisydd, os caniateir y cais, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol, ac yn darparu’r cyfarpar os yw’n gymwys, yn y fangre y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaethu sy’n gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2LL+CGwybodaeth ac ymgymeriadau ar gyfer ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol

Manylion y ceisyddLL+C

22.—(1Rhaid i geisydd (ac eithrio ceisydd syʼn gorff corfforedig) ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn,

(b)rhywedd,

(c)dyddiad geni,

(d)cyfeiriad a rhif ffôn,

(e)datganiad ei fod yn fferyllydd cofrestredig, ac

(f)rhif cofrestru proffesiynol aʼr dyddiad yʼi cofrestrwyd gyntaf yn y gofrestr.

(2Rhaid i geisydd syʼn gorff corfforedig ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn,

(b)rhif cofrestru cwmni,

(c)swyddfa gofrestredig a rhif ffôn y swyddfa honno,

(d)datganiad ei fod yn berson sydd, neu a fydd, yn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968,

(e)rhif cofrestru yn y Gofrestr o Fangreoedd a gynhelir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, ac

(f)manylion unrhyw restr berthnasol y dilëwyd ei enw ohoni, neu yʼi dilëwyd yn ddigwyddiadol ohoni, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi, neu yʼi cynhwyswyd yn amodol ynddi, ar sail addasrwydd, ynghyd ag esboniad oʼr rhesymau dros hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ymchwiliad, achosion llys ac euogfarnauLL+C

23.  Rhaid i geisydd gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig o ran pa un a yw, neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, a yw unrhyw un neu ragor oʼi gyfarwyddwyr neu ei uwcharolygydd—

(a)wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)wedi ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,

(c)wedi derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen at euogfarn),

(e)wedi derbyn cynnig amodol o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (cosb benodedig: cynnig amodol gan y procuradur ffisgal) neu wedi cytuno i dalu cosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),

(f)wedi ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, neuʼn ddarostyngedig i gosb a fyddaiʼn cyfateb i rwymo neu rybuddiad,

(g)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at euogfarn oʼr fath, ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei hysbysu amdano eto,

(h)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol,

(i)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(j)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol,

(k)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu ei enw o unrhyw restr berthnasol,

(l)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(m)wedi ei ddileu neu ei ddileu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi neu y’i cynhwyswyd yn amodol ynddi, neu a yw wedi ei atal dros dro, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, o restr oʼr fath ar sail addasrwydd ac os felly, pam ac enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw neuʼr corff cyfatebol hwnnw, neu

(n)ar hyn o bryd neu erioed wedi bod yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol ac os felly, rhaid iʼr ceisydd roi manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

24.  Os ywʼr ceisydd (a phan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), neu os bu, yn y 6 mis blaenorol, neu os oedd ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig, rhaid iddo, yn ychwanegol, gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch pa un a ywʼr corff corfforedig—

(a)wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)wedi ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(c)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at euogfarn oʼr fath, ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei hysbysu amdano eto,

(d)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol,

(e)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(f)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu o unrhyw restr berthnasol,

(g)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(h)wedi ei ddileu neu ei ddileu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi neu y’i cynhwyswyd yn amodol ynddi, neu a yw wedi ei atal dros dro, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, o restr oʼr fath ar sail addasrwydd, neu

(i)ar hyn o bryd neu erioed wedi bod yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol ac os felly, rhaid iʼr ceisydd roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cymwysterau fferyllol, canolwyr etc.LL+C

25.  Pan foʼr ceisydd (neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi manylion ei gymwysterau fferyllol (gan gynnwys lle yʼu cafwyd) a manylion cronolegol ei brofiad proffesiynol (gan gynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob penodiad), ynghyd ag esboniad am unrhyw fylchau rhwng y penodiadau a pham yʼi diswyddwyd o unrhyw swydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

26.  Pan foʼr ceisydd (neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enwau a chyfeiriadau dau ganolwr syʼn fodlon darparu geirdaon mewn cysylltiad â dwy swydd ddiweddar (caniateir cynnwys unrhyw swydd gyfredol) fel fferyllydd, a barhaodd am 3 mis o leiaf heb doriad sylweddol, neu, pan na fo hynnyʼn bosibl, esboniad llawn a chanolwyr eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

27.  Pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, rhaid cyflenwi enw a chyfeiriad pob cyfarwyddwr ac uwcharolygydd i’r corff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

28.  Rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol) y mae’r ceisydd, a phan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd, wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, a manylion unrhyw geisiadau yn yr arfaeth (gan gynnwys ceisiadau gohiriedig) i gynnwys ceisydd mewn unrhyw restr fferyllol sydd gan Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol), neu am gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer cynnwys ceisydd mewn unrhyw restr oʼr fath, ynghyd ag enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol (neuʼr corff) o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

29.  Os ywʼr ceisydd yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, neu sydd â chais yn yr arfaeth (gan gynnwys cais gohiriedig) i’w gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol neuʼr corff cyfatebol o dan sylw, ac enw a swyddfa gofrestredig unrhyw gorff corfforedig oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

YmgymeriadauLL+C

30.—(1Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad ysgrifenedig i hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod i unrhyw newidiadau perthnasol yn yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais—

(a)hyd nes y cofnodir ei enw ar y rhestr fferyllol;

(b)hyd nes y bydd y cyfnod wedi dod i ben, a bennir yn rheoliad 23(2) iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y bydd yn cychwyn darparuʼr gwasanaethau fferyllol y gwnaed y cais mewn cysylltiad â hwy,

(c)hyd nes y bydd yn tynnuʼr cais yn ôl, neu

(d)yn achos ceisydd y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18, hyd nes y bydd y cyfnod pan foʼr cydsyniad rhagarweiniol yn cael effaith yn unol â rheoliad 18(5) wedi dod i ben.

(2Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad ysgrifenedig i hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol os caiff ei gynnwys, neu os bydd yn gwneud cais i gael ei gynnwys, mewn rhestr berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 3LL+CHysbysiad oʼr dyddiad cychwyn

Gwybodaeth sydd iʼw darparu cyn cychwyn darparu gwasanaethau fferyllolLL+C

31.  Rhaid iʼr ceisydd ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—

(a)enwʼr ceisydd,

(b)dyddiad caniatáu’r cais,

(c)y fangre a bennir yn y cais ac y darperir y gwasanaethau fferyllol ohoni,

(d)cadarnhad bod y fangre wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol (gan gynnwys y cyfeirnod),

(e)manylion y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu,

(f)y dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol yn cychwyn,

(g)enw a rhif cofrestruʼr fferyllydd cofrestredig a chanddo gyfrifoldeb yn y fangre, ac

(h)ymgymeriad y bydd y ceisydd, yn unol âʼr cais a ganiatawyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre yn unol âʼr telerau gwasanaethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 4LL+CCeisiadau am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre

Manylion y caisLL+C

32.  Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

33.  Y math o gais (cydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre neuʼr ddau).

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Manylion y ceisyddLL+C

34.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

35.  Cyfeirnod y Cyngor Meddygol Cyffredinol y maeʼr ceisydd wedi ei gynnwys odano yn y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cais am gydsyniad amlinellolLL+C

36.  Disgrifiad a map oʼr ardal y maeʼr ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

37.  Cyfeiriad unrhyw fferyllfa yn yr ardal a ddisgrifir ac a amlinellir o dan baragraff 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cais am gymeradwyaeth mangreLL+C

38.  Cyfeiriad y fangre practis y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, ac a ywʼr fangre practis honno yn fangre restredig mewn perthynas ag ardal wahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

39.  Y pellter rhwng y fangre honno aʼr fferyllfa agosaf (a chyfeiriad y fferyllfa honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

40.  A ywʼr cais yn gais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre ychwanegol ynteu i adleoli i fangre newydd (ac os yr olaf, y pellter oʼr fangre newydd iʼr fangre y mae gan y ceisydd gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar hyn o bryd).

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

41.  A ywʼr cais yn codi oherwydd bod cyfuno practisiau wedi digwydd neu y bydd yn digwydd, ac os felly, enwauʼr meddygon neuʼr contractwyr syʼn cymryd rhan yn y cyfuno.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

42.  Os oes cydsyniad amlinellol wedi ei roi eisoes, disgrifiad a map oʼr ardal y rhoddwyd y cydsyniad mewn cysylltiad â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

43.  Manylion unrhyw fangre practis meddygol arall y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, neu y mae cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â hi eisoes ond nad ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei benderfynu eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparuLL+C

44.  Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu aʼr oriau agor aʼr diwrnodau y darperir y gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y prawf niweidioLL+C

45.  Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Diwallu anghenion a nodirLL+C

46.  Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried bod angen caniatáuʼr cais er mwyn diwallu angen a nodir mewn asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ymgymeriad y ceisyddLL+C

47.  Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad, os caniateir y cais a bod cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn effaith, y bydd y ceisydd yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre practis y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau 13, 15 a 30

ATODLEN 3LL+CY gweithdrefnau sydd iʼw dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol i benderfynu ceisiadau o dan y Rheoliadau

RHAN 1LL+CMaterion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinolLL+C

1.—(1Ac eithrio iʼr graddau y maeʼr Rheoliadau hyn yn darparu iʼr gwrthwyneb, caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais a gyflwynir iddo yn y modd y maeʼn meddwl ei fod yn addas.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddilyn y weithdrefn yn rheoliad 15(4) mewn cysylltiad â chais a gyflwynir iddo nad ywʼn cynnwys yr holl wybodaeth y maeʼn ofynnol i geisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 2.

(3Caiff Bwrdd Iechyd Lleol, os ywʼn meddwl ei bod yn addas, ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, ond pan foʼn bwriadu gwneud hynny rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr bwriad hwnnw iʼr canlynol—

(a)pob ceisydd unigol, a

(b)pan foʼr cais yn un y mae rhaid rhoi hysbysiad mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 8, unrhyw berson arall y mae rhaid rhoi hysbysiad oʼr cais hwnnw iddo.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag is-baragraff (3), yn ystyried dau neu ragor o geisiadau y mae rheoliad 16(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, caiff wrthod cais (er y byddai, pe baiʼn penderfynu’r cais fel cais unigol ar ei ben ei hunan, yn ei ganiatáu) pan fo nifer y ceisiadau, neuʼr amgylchiadau yʼu gwneir odanynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un, ohonynt yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Yr amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadauLL+C

2.  Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ymdrechu i benderfynu cais cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl ei gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Personau a waherddir rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau ar geisiadauLL+C

3.—(1Nid yw unrhyw berson i gymryd rhan mewn penderfynu cais os yw—

(a)yn berson sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neuʼn gyflogai i berson oʼr fath,

(b)yn gyfranddaliwr, yn gyfarwyddwr neuʼn ysgrifennydd i gwmni syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(c)yn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(d)yn gontractwr GMDdA yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neuʼn swyddog, yn ymddiriedolwr neu’n berson arall syʼn ymwneud â rheoli cwmni, cymdeithas neu sefydliad gwirfoddol neu gorff arall syʼn gontractwr GMDdA, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen ymlaen gan gontractwr GMDdA oʼr fath, neu

(e)yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen, gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn practis GMBILl.

(2Nid yw unrhyw berson arall i gymryd rhan mewn penderfynu cais pe bai ei gyfranogiad, oherwydd buddiant neu gysylltiad sydd ganddo, neu oherwydd pwysau y gellid ei roi arno, yn peri amheuaeth resymol o ragfarn.

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2LL+CPenderfynu ardaloedd lleol rheoledig

Hysbysu ynghylch bwriad i wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ardaloedd rheoledigLL+C

4.—(1Os yw Bwrdd Iechyd Lleol, yn rhinwedd rheoliad 13(3) (ardaloedd syʼn ardaloedd rheoledig), yn penderfynu na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol beidio â chymryd unrhyw gam gweithredu mewn perthynas âʼr cais hwnnw, ac eithrio hysbysuʼr ceisydd am y ffaith honno ac am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 14 (apelau).

(2Ym mhob achos arall, cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 13(2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi fwriad i wneud penderfyniad iʼr canlynol—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol yn ei ardal,

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol yn ei ardal,

(c)y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer yr ardal, a

(d)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gall y penderfyniad effeithio arno ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Rhaid i hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad roi gwybod iʼr person a hysbysir fod hawl ganddo i gyflwyno sylwadau (neu, os hysbysir Pwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol a wnaeth gais am y penderfyniad, unrhyw sylwadau pellach) yn ysgrifenedig ynglŷn âʼr penderfyniad arfaethedig, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad ato.

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gohirio ceisiadauLL+C

5.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi dyroddi hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad, rhaid iddo ohirio ystyried unrhyw gais a gyflwynwyd o dan Ran 5 neu Ran 6 oʼr Rheoliadau hyn ond nas penderfynwyd ganddo, os ywʼr cais yn un y gallaiʼr bwriad i wneud penderfyniad effeithio arno—

(a)hyd nes iddo benderfynu a ywʼr ardal leol yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, a bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi dod i ben, neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gosod amodauLL+C

6.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio—

(a)rhaid iddo ystyried a ywʼn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth—

(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau oʼr fath (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),

(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad iʼr penderfyniad hwnnw, a

(b)caiff, pan fo oʼr farn ei bod yn debygol yr effeithir yn andwyol ar unrhyw un neu ragor oʼr gwasanaethau hynny, osod amodau i ohirio, am unrhyw gyfnod y maeʼn meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu gan feddyg neu gontractwr GMC i gleifion ar y rhestr cleifion berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch penderfyniadau a gweithredu yn dilyn penderfyniadauLL+C

7.—(1Unwaith y bydd Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynuʼr cwestiwn o ran pa un a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, rhaid iddo—

(a)cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr rheini a hysbyswyd o dan baragraff 4(2) i roi gwybod iddynt am y canlynol—

(i)y penderfyniad aʼr rhesymau drosto,

(ii)unrhyw amodau a osodwyd ganddo o dan baragraff 6, a

(iii)unrhyw hawliau i apelio o dan Atodlen 4, a

(b)cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol—

(i)amlinellu ffiniauʼr ardal reoledig yn fanwl gywir ar fap, neu ddileu’r amlinelliad o ffin ardal leol sydd wedi peidio â bod yn ardal reoledig,

(ii)rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i feddyg yr effeithir arno ynghylch unrhyw amodau sydd wedi eu gosod o dan baragraff 6 o ganlyniad iʼr penderfyniad, a

(iii)mynd ymlaen i benderfynu unrhyw geisiadau sydd wedi eu gohirio o dan baragraff 5.

(2At ddibenion y paragraff hwn, “y dyddiad perthnasol” ywʼr diweddaraf oʼr canlynol—

(a)y dyddiad y maeʼr cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad yn dod i ben, neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 3LL+CCeisiadau i gynnwys person mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol, neu i ddiwygio rhestrau oʼr fath

Hysbysu ynghylch ceisiadau penodolLL+C

8.—(1Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i geisiadau i—

(a)cynnwys person yn y canlynol, neu ddiwygio’r canlynol—

(i)rhestr fferyllol a wnaed o dan Ran 5 oʼr Rheoliadau hyn, ac eithrio ceisiadau o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), a

(ii)rhestr meddygon fferyllol a wnaed o dan Ran 6 oʼr Rheoliadau hyn;

(b)estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 24, ac

(c)penderfyniad pellach o ran a yw mangre neu leoliad perthnasol mewn lleoliad neilltuedig o dan reoliad 17(2).

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr cais yn unol â pharagraff 9.

(3Caiff y rheini a hysbyswyd am gais, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo, ac eithrio ceisiadau a wnaed yn unol â rheoliad 21 (ceisiadau syʼn ymwneud ag adleoli dros dro).

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Personau a chyrff sydd iʼw hysbysuLL+C

9.—(1Y personau aʼr cyrff y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu hysbysu yw—

(a)y Pwyllgor Fferyllol Lleol,

(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol,

(c)unrhyw berson—

(i)sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir ganddo, neu

(ii)y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo iʼw gynnwys mewn rhestr fferyllol, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,

(d)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,

(e)unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned syʼn gwasanaethu ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(f)unrhyw grŵp cleifion, grŵp defnyddwyr neu grŵp cymunedol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼn ystyried ei fod â buddiant sylweddol yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol yn yr ardal,

(g)pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan) syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,

(h)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol sydd ag unrhyw ran oʼi ardal o fewn 2 gilometr iʼr fangre, neu i leoliad y fangre, a bennir yn y cais, ac

(i)yn achos cais a wnaed o dan reoliad 20 (ceisiadau syʼn ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos), y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr ceisydd yn dymuno adleoli oʼi ardal.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1)(h)—

(a)o fewn 14 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad, roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr personau aʼr cyrff a bennir yn is-baragraff (1)(a) i (g) sydd o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, neu syʼn gwasanaethu’r ardal honno, a

(b)hysbysuʼr Bwrdd Iechyd lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1) ei fod wedi darparuʼr hysbysiad syʼn ofynnol gan is-baragraff (2)(a).

(3Caiff corff cyfatebol a hysbysir o dan is-baragraff (1)(h) ofyn iʼr Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad iʼr personau hynny, yn yr ardal y sefydlwyd y corff cyfatebol ar ei chyfer, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y corff cyfatebol, effeithioʼn sylweddol ar eu buddiannau, a rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cynnwys hysbysiadLL+C

10.  Rhaid i hysbysiad o gais o dan baragraff 8—

(a)rhoi gwybod iʼr person neuʼr corff a hysbysir—

(i)am ei hawl i gyflwyno sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(3),

(ii)am yr amgylchiadau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt o dan baragraff 11, a

(iii)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ystyried y cais ar y cyd ag unrhyw gais arall ac mewn perthynas ag unrhyw gais arall, am y bwriad hwnnw,

(b)darparu copi oʼr cais a gyflwynwyd gan y ceisydd, i alluogiʼr person neuʼr corff a hysbysir i gyflwyno sylwadau gwybodus o ran pa un a ddylid caniatáuʼr cais ai peidio, ac

(c)pan fo rheoliad 17(1) yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1)(a), roi gwybod iʼr person neuʼr corff a hysbysir y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a ywʼr fangre neuʼr lleoliad perthnasol, a bennwyd yn y cais ac sydd mewn ardal reoledig, hefyd mewn lleoliad neilltuedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwrandawiadau llafarLL+C

11.—(1Yn achos cais syʼn dod o fewn paragraff 8, caiff Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ywʼn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu cais oʼr fath.

(2Os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddo—

(a)rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr canlynol—

(i)y ceisydd, a

(ii)unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(3),

(b)rhoi gwybod iʼr ceisydd pwy y rhoddwyd hysbysiad iddo oʼr gwrandawiad, ac

(c)rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr cais.

(3Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.

(4Caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad llafar.

(5Nid yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei rwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw iddiLL+C

12.  Wrth benderfynu cais syʼn dod o fewn paragraff 8, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw, yn benodol, iʼr canlynol—

(a)unrhyw sylwadau a gaiff y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(3),

(b)unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar, os cynhelir un o dan baragraff 11,

(c)yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol aʼr ardal leol berthnasol, a

(d)unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ac sydd, yn ei farn, yn berthnasol iʼr ystyriaeth oʼr cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gosod amodauLL+C

13.—(1Maeʼr is-baragraff hwn yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais syʼn dod o fewn—

(a)paragraff 8(1)(a)(i) pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, neu

(b)paragraff 8(1)(a)(ii).

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys—

(a)rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ystyried a ywʼn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth—

(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau oʼr fath (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),

(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad iʼw benderfyniad i ganiatáuʼr cais, a

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol oʼr farn ei bod yn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth unrhyw un neu ragor oʼr gwasanaethau hynny a restrir yn is-baragraff (2)(a), caiff osod amodau i ohirio, am unrhyw gyfnod y maeʼn meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) neu ddarpariaeth gyfatebol gan feddyg neu gontractwr GMC o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion ar y rhestr berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

14.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(i), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiynau o ran gosod amodau o dan baragraff 13 aʼr penderfyniad ynghylch lleoliad neilltuedig o dan reoliad 17(1))—

(a)i’r ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Yn achos cais a benderfynir o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 9.

(3Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau i gynnwys person mewn rhestrau meddygon fferyllol neu i ddiwygio rhestrau meddygon fferyllolLL+C

15.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(ii), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiwn o ran gosod amodau o dan baragraff 13)—

(a)iʼr ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 24 i estyn y cyfnod perthnasolLL+C

16.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(b), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)i’r ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 17(2)LL+C

17.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(c), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)i’r ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweithredu yn dilyn penderfyniad mewn cysylltiad â lleoliadau neilltuedigLL+C

18.—(1Ar ôl penderfynu cais o dan reoliad 17(2) neu wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 17(1), cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol amlinellu yn fanwl gywir ar fap ffiniau unrhyw leoliad neilltuedig a benderfynwyd ganddo, neu ddileu’r amlinelliad o ffin lleoliad sydd wedi peidio â bod yn lleoliad neilltuedig, yn ôl y digwydd.

(2At ddibenion y paragraff hwn, “y dyddiad perthnasol” ywʼr diweddaraf oʼr canlynol—

(a)y dyddiad y maeʼr cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad yn dod i ben, neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I135Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau 14, 25, 35 a 54

ATODLEN 4LL+CApelau i Weinidogion Cymru

RHAN 1LL+CMaterion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinolLL+C

1.  Ac eithrio iʼr graddau y maeʼr Rheoliadau hyn yn darparu iʼr gwrthwyneb, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a gyflwynir iddynt yn y modd y maent yn meddwl ei fod yn addas, ac yn benodol, cânt—

(a)ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt ac sydd, yn eu barn hwy, yn berthnasol i benderfynu apêl;

(b)ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd (ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd), ond pan fônt yn bwriadu gwneud hynny, rhaid iddynt roi hysbysiad oʼr bwriad hwnnw i bob apelydd ac iʼr rheini y rhoddir hysbysiad iddynt o bob apêl yn unol âʼr Atodlen hon;

(c)pan fo Gweinidogion Cymru, yn unol ag is-baragraff (b), yn ystyried dwy neu ragor o apelau y mae rheoliad 15(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, cânt wrthod apêl (er y byddent, pe baent yn penderfynuʼr apêl fel apêl unigol ar ei phen ei hun, yn ei chaniatáu) pan fo nifer yr apelau, neuʼr amgylchiadau yʼu gwneir odanynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un ohonynt, yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn yr apêl ynddi;

(d)anfon yn ôl apêl a gyflwynwyd iddynt i Fwrdd Iechyd Lleol iʼw ailbenderfynu, mewn achosion pan oedd yr wybodaeth y maeʼn ofynnol iʼr ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 2 yn anghyflawn;

(e)gwrthod apêl os ydynt oʼr farn o ran yr hysbysiad o apêl—

(i)nad yw’n ddilys oherwydd nad ywʼn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon,

(ii)nad yw’n datgelu unrhyw sail resymol dros apelio, neu

(iii)ei fod fel arall yn flinderus neuʼn wacsaw.

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwrandawiadau llafarLL+C

2.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ydynt yn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu apêl a gyflwynwyd iddynt.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddynt—

(a)penodi un neu ragor o bersonau i wrando’r apêl ac i adrodd wrthynt ar yr apêl,

(b)rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr apelydd ac i unrhyw berson yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl ato o dan baragraff 4 neu 7,

(c)rhoi gwybod iʼr apelydd i bwy y rhoddwyd hysbysiad oʼr gwrandawiad, a

(d)rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr apêl.

(3Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.

(4Caiff y person neuʼr personau a benodir gan Weinidogion Cymru i wrando’r apêl benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad.

(5Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2LL+CApelau yn erbyn penderfyniadau syʼn penderfynu ardaloedd rheoledig

Hawl i apelio i Weinidogion CymruLL+C

3.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, yn rhinwedd rheoliad 13(3) (ardaloedd syʼn ardaloedd rheoledig), na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, caiff y ceisydd gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, o dan reoliad 13(2), pa un a yw unrhyw ardal benodol o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal leol reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, y personau sydd â hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol,

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol, ac

(c)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad oʼr penderfyniad iddynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3.

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y dylai neu na ddylai ohirio gwneud neu derfynu trefniadau, fel yʼi crybwyllir ym mharagraff 6(b) o Atodlen 3, y rheini a gaiff gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol,

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol, ac

(c)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad oʼr penderfyniad iddynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3.

(4Mae hysbysiad o apêl yn ddilys—

(a)os y’i cyflwynir gan berson a chanddo’r hawl i apelio o dan is-baragraff (1), (2) neu (3),

(b)os y’i hanfonir at Weinidogion Cymru o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad oʼr penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person syʼn gwneud yr apêl, ac

(c)os yw’n cynnwys datganiad o’r sail dros yr apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch apelauLL+C

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(1), anfon copi oʼr hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(2) neu 3(3), anfon copi oʼr hysbysiad i—

(a)y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)y personau hynny y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad oʼi benderfyniad iddynt o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3.

(3Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod iʼr rheini yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan is-baragraffau (1) i (3)—

(a)y cânt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn âʼr apêl, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, a

(b)am yr amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I139Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Penderfynu apelauLL+C

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl gwneud penderfyniad ar apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3, roi hysbysiad ysgrifenedig oʼu penderfyniad, ynghyd âʼr rhesymau drosto, iʼr personau yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 4.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt, pan fônt yn caniatáu apêl yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol na ellir ystyried cais yn rhinwedd rheoliad 13(3), naill ai—

(i)penderfynu eu hunain y cwestiwn o ran pa un a ywʼr ardal leol benodol yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, neu

(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu,

(b)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 3, cânt ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau,

(c)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 3, cânt naill ai—

(i)ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau, neu

(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu,

(d)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried y cwestiwn o ran pa un ai i ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, cânt eu hunain ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau oʼr fath am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn addas, neu

(e)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried y cwestiwn o ran pa un ai i ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, rhaid iddynt anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 3LL+CApelau yn erbyn penderfyniadau i gynnwys person mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol, neu i ddiwygio rhestrau oʼr fath

Hawl i apelio i Weinidogion CymruLL+C

6.—(1Ar gyfer ceisiadau y mae paragraff 8(1)(a) ac (c) o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol yw—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw un neu ragor oʼr canlynol a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(3) o Atodlen 3—

(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a

(iv)pan foʼr fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.

(2Yn achos cais a benderfynwyd o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yw—

(a)y ceisydd, a

(b)unrhyw un neu ragor oʼr canlynol, y rhoddwyd iddo hysbysiad, o dan baragraff 14(2) o Atodlen 3, o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais—

(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a

(iv)pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.

(3Mae hysbysiad o apêl yn ddilys—

(a)os y’i cyflwynir gan berson a chanddo’r hawl i apelio o dan is-baragraff (1) neu (2),

(b)os y’i hanfonir at Weinidogion Cymru o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad oʼr penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person syʼn gwneud yr apêl, ac

(c)os yw’n cynnwys datganiad oʼr sail dros apelio nad yw’n golygu herio cyfreithlondeb na rhesymoldeb asesiad o anghenion fferyllol, na thegwch y broses a ddefnyddiodd y Bwrdd Iechyd Lleol i ymgymryd âʼr asesiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I141Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysu ynghylch apelauLL+C

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(1), anfon copi oʼr hysbysiad—

(a)at y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl,

(b)i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)at y rheini a hysbyswyd am y cais ac a gyflwynodd sylwadau arno o dan baragraff 8(3) o Atodlen 3.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(2), anfon copi oʼr hysbysiad—

(a)at y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl,

(b)i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)at y rheini y rhoddwyd iddynt hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 14(2) o Atodlen 3.

(3Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod iʼr personau yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan y paragraff hwn—

(a)y cânt, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn âʼr apêl,

(b)am yr amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, am y bwriad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Penderfynu apelauLL+C

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl a wnaed o dan baragraff 6, naill ai—

(a)caniatáuʼr apêl, neu

(b)cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Mewn achos pan foʼr fangre a bennir mewn cais, sydd yn destun apêl, mewn ardal reoledig—

(a)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried pa un ai i osod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6)(b), caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ystyried pa un ai i osod amodau i ohirio gwneud neu i ohirio terfynu trefniadau oʼr fath, am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn addas, neu

(b)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried pa un ai i osod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 17(6)(b), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—

(i)ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau, neu

(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl gwneud penderfyniad ar apêl, gan gynnwys gosod amodau o dan is-baragraff (2), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼu penderfyniad ynghyd âʼr rhesymau drosto iʼr personau hynny yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Effaith penderfyniadau gan Weinidogion CymruLL+C

9.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru yn dod yn benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y mater (ond nid yw apêl bellach i Weinidogion Cymru ar y penderfyniad hwnnw yn bosibl, oni chaiff penderfyniad Gweinidogion Cymru ei wrthdroi gan lys).

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 12

ATODLEN 5LL+CTelerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol, yn benodol drwy ddarparu cyffuriau

RHAN 1LL+CCyffredinol

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyffuriau neu gyfarpar iʼw hystyried fel pe bai person wedi gofyn amdanynt, neu fel pe baent wedi eu darparu, yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael gwasanaethau fferyllol yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw, cyhyd ag—

(a)bod y presgripsiwn hwnnw gan y fferyllydd GIG yn ei feddiant, a

(b)bod y person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y fferyllydd GIG swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I145Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Corffori darpariaethauLL+C

2.  Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau fferyllwyr GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau,

(b)y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(36) (mynd i mewn i fangreoedd aʼu harchwilio) ag syʼn ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd y maeʼr fferyllydd GIG naill aiʼn berchen arnynt neuʼn eu rheoli neuʼn darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt, ac archwilioʼr mangreoedd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2LL+CGwasanaethau hanfodol

Gwasanaethau hanfodolLL+C

3.  At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gwasanaethau hanfodol” yw—

(a)y gwasanaethau a ddisgrifir yn y Rhan hon, a

(b)y gweithgareddau a ddisgrifir yn y Rhan hon sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I147Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaethau gweinydduLL+C

4.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau syʼn ofynnol gan baragraffau 5 i 9 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyffuriau a chyfarpar priodol a digonol i bersonau syʼn cyflwyno presgripsiwn am y cyffur hwnnw neuʼr cyfarpar hwnnw, wedi ei lofnodi gan ragnodydd yn unol âʼi swyddogaethau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Gwybodaeth Cychwyn

I148Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweinyddu cyffuriau a chyfarparLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn oʼr Rhan hon, pan fo person yn cyflwyno ar ffurflen bresgripsiwn—

(a)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, neu am gyfarpar nad ywʼn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd,

(b)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd iʼw harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), wedi ei llofnodi aʼi harnodi ar ei hwyneb gydaʼr cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd, neu

(c)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi aʼi harnodi ar ei hwyneb gydaʼr cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd,

rhaid i fferyllydd GIG, yn rhesymol brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly, aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei fusnes.

(2Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn oʼr Rhan hon, pan fo unrhyw berson—

(a)yn cyflwyno presgripsiwn amlroddadwy anelectronig syʼn cynnwys—

(i)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, nac yn gyffuriau rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971(37), ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001(38) (syʼn ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd o waharddiadau penodol o dan y Rheoliadau), wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(ii)archeb am gyfarpar nad yw’n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu

(iii)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi aʼi harnodi ar ei hwyneb gydaʼr cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd amlroddadwy,

a hefyd yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig; neu

(b)yn gofyn i gyffuriau gael eu darparu neu i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) i (iii),

rhaid i fferyllydd GIG, yn rhesymol brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y rhagnodydd amlroddadwy yn y presgripsiwn amlroddadwy, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly, aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyffuriau neu gyfarpar iʼw ystyried fel pe bai wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw—

(a)pan foʼr presgripsiwn hwnnw gan y fferyllydd GIG yn ei feddiant, a

(b)pan foʼr person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu pan fo gan y fferyllydd GIG swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I149Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyflenwi yn unol â PPDLL+C

6.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo person yn gofyn i fferyllydd GIG am gyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy a

(b)bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r fferyllydd GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(3Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff y fferyllydd GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—

(a)bo’r fferyllydd GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon,

(b)bo gwneud hynny yn unol â’r PPD, ac

(c)bo cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd wedi ei wneud gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig sydd o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.

(4Pan fo fferyllydd GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—

(a)rhaid i’r fferyllydd cofrestredig a grybwyllir yn is-baragraff (3)(c) arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw), a

(b)os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, ac—

(i)yn rhinwedd rheoliad 226A(5)(c)(iii) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol), os meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig sy’n wahanol i’r cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd ond sy’n cael effaith therapiwtig debyg iddo sy’n cael ei chyflenwi, neu

(ii)os yw unrhyw fath arall o gynnyrch yn cael ei gyflenwi, a bod Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â thâl fferyllol ar gyfer fferyllwyr GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant ei fod yn addas, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylid hysbysu darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol bod cynnyrch wedi ei gyflenwi i glaf ar eu rhestr cleifion yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,

rhaid i’r fferyllydd GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar ei restr cleifion, am y cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(5Pan—

(a)bo is-baragraff (1) yn gymwys,

(b)bo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)bo’r fferyllydd GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,

mae’r gofynion i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 5(1) a (2) i’w darllen fel pe baent yn ofynion i weithredu o fewn amserlen resymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwnLL+C

7.—(1Maeʼr paragraff hwn yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i fferyllydd GIG ddarparu cyffur neu gyfarpar.

(2Caiff y fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur neuʼr cyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad âʼr cyffur hwnnw neuʼr cyfarpar hwnnw, ar yr amod—

(a)yn achos cais am gyffur, nad ywʼr cyffur—

(i)yn gyffur Atodlen, na

(ii)yn gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, a

(b)yn achos cais am gyffur neu am gyfarpar, fod y rhagnodydd yn ymgymryd ag—

(i)rhoi iʼr fferyllydd GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad âʼr cyffur neuʼr cyfarpar o fewn 72 o oriau ar ôl i’r cais gael ei wneud, neu

(ii)rhoi iʼr fferyllydd GIG ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cydymffurfio âʼr gwasanaeth TPE o fewn 72 o oriau ar ôl i’r cais gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I151Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwydLL+C

8.—(1Os ywʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, neu syʼn gofyn i gyffuriau gael eu darparu neu i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, yn gofyn iʼr fferyllydd GIG wneud hynny—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG roi amcangyfrif oʼr amser pan fydd y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn barod, a

(b)os na fyddant yn barod erbyn hynny, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi amcangyfrif diwygiedig oʼr amser pan fyddant yn barod (ac ati).

(2Cyn darparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 3(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8(1) (esemptiadau) oʼr Rheoliadau Ffioedd, neu

(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd oʼr fath o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (ffioedd GIG y gellir peidio âʼu codi),

gyflwyno tystiolaeth foddhaol o’r hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad gan reoliad 8(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd is-baragraffau (a) i (dd) o reoliad 5(2) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes ar gael iʼr fferyllydd GIG ar yr adeg gwneud y datganiad, a

(b)os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr fferyllydd GIG, fel syʼn ofynnol gan baragraff (a), rhaid iʼr fferyllydd GIG arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw.

(3Mae is-baragraff (2) yn gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 6(4)(a), yn cael ei drin fel y presgripsiwn y darperir y cyffur neu’r cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I152Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwydLL+C

9.—(1Pan fo ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy yn cael ei chyflwyno neu ei gyflwyno i fferyllydd GIG, ni chaiff y fferyllfa GIG ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly ond—

(a)os ywʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy wedi ei llofnodi neu ei lofnodi aʼi harnodi neu ei arnodi yn briodol, fel yʼi disgrifir ym mharagraff 5(1) neu (2), a

(b)yn unol âʼr archeb ac unrhyw gyfarwyddydau a roddwyd gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985(39) aʼr darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon.

(2Rhaid i gyffuriau neu gyfarpar a archebir felly gael eu darparu naill ai gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig.

(3Pan foʼr fferyllydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) wedi ei gyflogi gan fferyllydd GIG, ni chaniateir iʼr fferyllydd cofrestredig fod yn rhywun—

(a)sydd wedi ei anghymhwyso rhag ei gynnwys mewn rhestr berthnasol, neu

(b)sydd wedi ei atal dros dro o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

(4Os ywʼr archeb yn archeb am fath o gyfarpar y maeʼn ofynnol ei fesur aʼi ffitio (er enghraifft, gwasgrwym) neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn fath o’r cyfarpar hwnnw, rhaid iʼr fferyllydd GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol—

(a)ar gyfer mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy ar gyfer y cyfarpar, a

(b)ar gyfer ffitioʼr cyfarpar.

(5Os ywʼr archeb yn archeb am gyffur neu gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd fel rhan oʼr Fformiwlari hwnnw), Fformiwlari’r Ymarferydd Deintyddol, y Cyffurlyfr Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn gyffur neu gyfarpar o’r fath, rhaid iʼr cyffur neuʼr cyfarpar a ddarperir gydymffurfio âʼr safon neuʼr fformiwla a bennir yno.

(6Os ywʼr archeb—

(a)yn archeb am gyffur, ond

(b)nad yw’n archeb am gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001,

ac nad ywʼn rhagnodi ei swm, ei gryfder naʼr dogn, caiff fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y cryfder a’r dogn y maeʼn ystyried eu bod yn briodol drwy arfer ei sgìl, ei wybodaeth aʼi ofal proffesiynol ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), yn y swm y maeʼn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer cwrs o driniaeth am gyfnod nad yw’n hwy na 5 niwrnod.

(7Pan fo archeb y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi yn archeb am—

(a)sylwedd atal cenhedlu geneuol,

(b)cyffur nad yw ar gael iʼw gyflenwi fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio ar y cyd ag un neu ragor o gyffuriau eraill, neu

(c)gwrthfiotig ar ffurf hylif sydd iʼw roi drwyʼr geg, pan foʼn ofynnol, am resymau fferyllol mewn cysylltiad ag ef, ei ddarparu mewn pecyn heb ei agor,

nad yw ar gael iʼw ddarparu fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio mewn pecynnau pan fo’r maint lleiaf sydd ar gael yn cynnwys swm priodol ar gyfer cwrs o driniaeth am gyfnod sy’n hwy na 5 niwrnod, caiff y fferyllydd GIG ddarparu pecyn oʼr maint lleiaf sydd ar gael.

(8Pan fo unrhyw gyffur y maeʼr paragraff hwn yn gymwys iddo (hynny yw, cyffur nad yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn gymwys iddo, onid ywʼn gyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001), a archebwyd gan ragnodydd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, ar gael ar gyfer ei ddarparu gan fferyllydd GIG mewn pecyn mewn swm gwahanol iʼr swm a archebwyd felly, aʼr cyffur hwnnw—

(a)yn ddi-haint,

(b)yn eferw neuʼn hygrosgopig,

(c)yn gymysgedd hylifol iʼw ychwanegu at ddŵr bath,

(d)yn gymysgedd col-tar,

(e)yn gymysgedd gludiog, neu

(f)wedi ei becynnu ar adeg ei weithgynhyrchu mewn pecyn calendr neu gynhwysydd arbennig,

rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y pecyn sydd oʼr swm agosaf iʼr swm a archebwyd felly.

(9Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysydd arbennig” yw unrhyw gynhwysydd sydd âʼr modd o roiʼr cynnwys yn rhan integrol ohono, neu nad ywʼn ymarferol ei ddefnyddio i weinyddu swm cywir oʼr cynnwys.

(10Pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur, neu pan fo cyffur sydd i’w ddarparu yn unol â PPD, mewn swm, neu luosrif o swm, sydd ar gael yn hwylus fel maint pecyn a weithgynhyrchir i ddeiliad awdurdodiad marchnata ar gyfer y cyffur, rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur mewn pecyn gwreiddiol (neu mewn pecynnau gwreiddiol) oʼr maint hwnnw sydd wedi eu cydosod gan weithgynhyrchydd oʼr cyffur ar gyfer y deiliad awdurdodiad marchnata hwnnw, oni bai—

(a)nad ywʼn bosibl iʼr fferyllydd GIG gael pecyn (neu becynnau) oʼr fath yn rhesymol brydlon yng nghwrs arferol busnes, neu

(b)nad ywʼn ymarferol iʼr fferyllydd GIG ddarparu pecyn (neu becynnau) oʼr fath wrth ymateb iʼr archeb (er enghraifft oherwydd anghenion y claf neuʼr dull o roiʼr cyffur).

(11Ac eithrio fel yʼi darperir yn is-baragraff (12), ni chaiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur Atodlen wrth ymateb i archeb syʼn cyfeirio ato wrth ei enw, ei fformiwla neu ddisgrifiad arall ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(12Pan fo gan gyffur enw amherchnogol priodol a phan foʼn cael ei archebu ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, naill ai wrth yr enw hwnnw neu wrth ei fformiwla, caiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur sydd âʼr un fanyleb, hyd yn oed pan foʼr cyffur hwnnw yn gyffur Atodlen, ar yr amod pan fo cyffur Atodlen mewn pecyn syʼn cynnwys cyffur mewn mwy nag un cryfder, nad yw darparu felly yn golygu cyflenwi rhan oʼr pecyn yn unig.

(13Pan fo cyffur a archebir fel yʼi pennir yn is-baragraff (12) yn gyfuniad o fwy nag un cyffur, nid ywʼr is-baragraff hwnnw yn gymwys ond os oes gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol, pa un a oes gan y cyffuriau unigol yn y cyfuniad enwau oʼr fath ai peidio.

(14Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu unrhyw gyffur y maeʼn ofynnol iddo ei ddarparu o dan baragraff 5, neu unrhyw gyffur y mae’n ei ddarparu o dan baragraff 6, mewn cynhwysydd addas.

(15Pan fo fferyllydd GIG yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan baragraff 6, rhaid i’r fferyllydd GIG gynnwys yn y label gweinyddu ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I153Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwydLL+C

10.—(1Caiff fferyllydd GIG wrthod darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan foʼr fferyllydd GIG yn credu, yn rhesymol, nad yw’n archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy (er enghraifft, oherwydd ei fod yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen wedi ei ddwyn neu ei ffugio),

(b)pan foʼn ymddangos iʼr fferyllydd GIG fod camgymeriad ar y ffurflen bresgripsiwn neu ar y presgripsiwn amlroddadwy neu ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y fferyllydd GIG,

(c)pan foʼr fferyllydd GIG neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu

(d)pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy pan foʼr archeb yn archeb am feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, ac nad oedd hawlogaeth gan y rhagnodydd iʼw rhagnodi.

(3Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.

(4Caiff fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw,

(b)pan fo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)pan na fo’r fferyllydd GIG yn gallu darparu’r cyffur neu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,

ond os yw’r fferyllydd GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyffur neu’r cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.

(5Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan na fo gan y fferyllydd GIG gofnod oʼr presgripsiwn hwnnw,

(b)pan na fo gan y fferyllydd GIG, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig a phan na fo swp-ddyroddiad oʼr fath wedi ei gyflwyno iddo,

(c)pan na fo wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(d)pan fyddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn,

(e)pan hwnnw fyddaiʼr tro cyntaf i gyffur neu gyfarpar gael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn, a phan fo’r presgripsiwn wedi ei lofnodi fwy na 6 mis yn gynharach,

(f)pan fo’r presgripsiwn amlroddadwy wedi ei lofnodi fwy nag 1 flwyddyn yn gynharach,

(g)pan foʼr dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio, neu

(h)pan foʼr rhagnodydd amlroddadwy wedi rhoi gwybod i’r fferyllydd GIG nad oes angen y presgripsiwn mwyach.

(6Pan fo claf yn gofyn i gyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrioʼr tro cyntaf y maeʼn gofyn felly) gael eu cyflenwi neu ei gyflenwi, ni chaiff fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffuriau aʼr cyfarpar a archebwyd felly oni bai ei fod wedi ei fodloni—

(a)o ran y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn mewn cysylltiad ag ef—

(i)ei fod yn cymryd neuʼn defnyddioʼr cyffur neuʼr cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau iʼw gymryd neu ei ddefnyddio felly, a

(ii)nad ywʼn dioddef unrhyw un neu ragor o sgil effeithiauʼr driniaeth syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf,

(b)nad yw trefn feddyginiaethol y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn mewn cysylltiad ag ef, neuʼr modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf hwnnw, wedi newid mewn ffordd syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf, ac

(c)nad oes unrhyw newidiadau wedi bod yn iechyd y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn mewn cysylltiad ag ef, syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf.

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweithgareddau pellach sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau gweinydduLL+C

11.—(1Mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 4, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)iʼw galluogi i ddefnyddioʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar yn briodol, a

(ii)i ddiwallu anghenion rhesymol y claf am wybodaeth gyffredinol ynglŷn âʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar,

(b)darparu cyngor priodol i bersonau y maeʼn darparu cyffuriau neu gyfarpar iddynt ynghylch—

(i)cadwʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar yn ddiogel, neu

(ii)dychwelyd unrhyw gyffuriau neu gyfarpar diangen iʼr fferyllfa iʼw dinistrioʼn ddiogel,

(c)wrth ddarparu cyffuriau i gleifion yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, ddarparu cyngor priodol, yn benodol ar bwysigrwydd dim ond gofyn am yr eitemau hynny y mae eu hangen arnynt mewn gwirionedd,

(d)wrth ddarparu cyfarpar i gleifion yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol ar bwysigrwydd dim ond gofyn am yr eitemau hynny y mae eu hangen arnynt mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, roi sylw iʼr manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(e)darparu i glaf nodyn ysgrifenedig o unrhyw gyffur neu gyfarpar syʼn ddyledus iddo, a rhoi gwybod iʼr claf pan ddawʼr cyffur neuʼr cyfarpar ar gael,

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)oʼr cyffuriau aʼr cyfarpar a ddarperir, pan foʼn angenrheidiol neuʼn ddymunol gwneud hynny er mwyn hwyluso parhad gofal y claf,

(ii)mewn achosion priodol, oʼr cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (yn benodol ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion syʼn ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (e),

(g)ymgymryd â hyfforddiant priodol mewn cysylltiad â rhagnodi amlroddadwy, gan roi sylw i unrhyw argymhellion mewn cysylltiad â’r hyfforddiant hwnnw a nodir yn y Tariff Cyffuriau,

(h)os ywʼn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storioʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw neuʼr swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel,

(i)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy ar ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur oʼr cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau aʼr symiau a gyflenwir),

(j)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben syʼn ymwneud â chyffuriau neu gyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd eu darparu neu ei ddarparu i glaf yn unol â pharagraff 10,

(k)sicrhau, pan wrthodir darparu cyffuriau neu gyfarpar i berson yn unol â pharagraff 10(1)(b), (2), (3) neu (4), yr atgyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach,

(l)pan fo cyffuriau wedi eu darparu neu gyfarpar wedi ei ddarparu i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol syʼn codi mewn cysylltiad âʼr presgripsiwn a chadw cofnod oʼr hysbysiad hwnnw,

(m)hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw wrthodiad i ddarparu cyffuriau neu gyfarpar yn unol â pharagraff 10(4),

(n)wrth ddarparu cyfarpar, ddarparu nodyn ysgrifenedig i glaf o enw, cyfeiriad a rhif ffôn y fferyllydd GIG, ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, gydymffurfio âʼr gofynion ychwanegol a nodir ym mharagraff 12.

(2Pan na fo fferyllydd GIG, wrth i ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gael ei chyflwyno neu ei gyflwyno mewn cysylltiad â gwasanaethau gweinyddu o dan baragraff 4, yn gallu darparu cyfarpar (gan roi sylw i unrhyw PPD perthnasol), neu pan fo angen addasu cyfarpar stoma ac na foʼr fferyllydd GIG yn gallu darparuʼr addasiad, rhaid iʼr fferyllydd GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG arall neu at gontractwr cyfarpar GIG, neu

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, ddarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasuʼr cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I155Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedigLL+C

12.—(1Maeʼr paragraff hwn yn nodiʼr gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 11(1)(o) syʼn ymwneud â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG syʼn gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol busnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw ac, fel rhan oʼr gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf,

(b)os ywʼr claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg y cytunir arni âʼr claf,

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad ywʼn arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddangos ei gynnwys, a

(d)ni chaiff y modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol syʼn ofynnol gan is-baragraff (3) gyfleuʼr math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan fo cyfarpar penodedig yn cael ei ddarparu (drwy ei ddanfon iʼr cartref neu fel arall), rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os ywʼr claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn âʼr cyfarpar, neu

(b)os ywʼr fferyllydd GIG yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo—

(i)atgyfeirioʼr claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar i’r claf.

(4Os na all y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid iʼr fferyllydd GIG roi iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu trefnu i’r gwasanaeth gael ei ddarparu, os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.

(5Pan fo fferyllydd GIG yn darparu llinell gofal ffôn mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid iʼr fferyllydd GIG sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)bod cyngor yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno, neu

(b)bod rhif ffôn Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru(40), yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â fferyllfa, ywʼr cyfnodau y tu allan iʼr cyfnodau pan foʼr fferyllydd GIG—

(a)

o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn rhinwedd paragraff 22(1) neu 26(1), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn unol â hysbysiad o dan baragraff 22(2);

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig, yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddiʼn addas ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad âʼr cyfarpar.

Gwybodaeth Cychwyn

I156Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaeth gwaredu mewn cysylltiad â chyffuriau diangenLL+C

13.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraff 14 yn ei gwneud yn ofynnol ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw, dderbyn a gwaredu cyffuriau diangen a ddarperir iʼr fferyllydd GIG iʼw gwaredu.

Gwybodaeth Cychwyn

I157Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweithdrefn sylfaenol mewn cysylltiad â chyffuriau diangenLL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo person yn cyflwyno i fferyllydd GIG, neu i unrhyw un neu ragor o staff y fferyllydd GIG, unrhyw gyffuriau a ddarparwyd ar gyfer claf sydd—

(a)ar aelwyd breifat, neu

(b)mewn cartref gofal preswyl,

aʼr cyffuriau wedi eu cadw yn un oʼr mannau hynny, rhaid iʼr fferyllydd GIG dderbyn y cyffuriau aʼu gwaredu yn unol ag is-baragraff (3).

(2Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i fferyllydd GIG dderbyn unrhyw gyffuriau ar gyfer eu gwaredu oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol wedi gwneud trefniadau âʼr fferyllydd GIG ar gyfer casglu a gwaredu cyffuriau oʼr disgrifiad hwnnw.

(3Ar ôl cael y cyffuriau, rhaid iʼr fferyllydd GIG—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan gontractwr gwaredu gwastraff y defnyddir ei wasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol, wahanuʼr cyffuriau solet neu’r ampylau, yr hylifau aʼr aerosolau oddi wrth ei gilydd,

(b)storioʼr cyffuriau mewn cynwysyddion a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan gontractwr gwaredu gwastraff y defnyddir ei wasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddiben storio cyffuriau oʼr disgrifiad hwnnw, ac

(c)cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol eraill mewn cysylltiad â storio neu waredu cyffuriau oʼr disgrifiad hwnnw (mae bodloniʼr gofynion hynny, felly, yn wasanaeth hanfodol at ddibenion y Rheoliadau hyn),

a rhaid iddo gydweithredu ag unrhyw drefniadau addas sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn eu lle ar gyfer casgluʼr cyffuriau yn rheolaidd o fangreʼr fferyllydd GIG, gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I158Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweithgareddau pellach sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad â gwaredu cyffuriau diangenLL+C

15.  Mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 13, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau ei fod ef ac unrhyw aelodau oʼi staff yn ymwybodol oʼr risgiau syʼn gysylltiedig â thrin cyffuriau gwastraff ac oʼr gweithdrefnau cywir sydd iʼw dilyn er mwyn lleihauʼr risgiau hynny, a

(b)sicrhau bod cyfarpar diogelu priodol, gan gynnwys menyg, oferôls a deunyddiau i ymdrin â gollyngiadau, ar gael yn hwylus iddo ef ac i unrhyw aelodau oʼi staff, ac wrth law unrhyw fan lle y caiff cyffuriau gwastraff eu storio.

Gwybodaeth Cychwyn

I159Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Hybu ffyrdd iach o fywLL+C

16.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraffau 17 a 18 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a nodir yn y paragraffau hynny, hybu negeseuon iechyd y cyhoedd iʼr cyhoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I160Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ymyrryd mewn cysylltiad â phresgripsiwnLL+C

17.—(1Pan fo person syʼn defnyddio fferyllfa—

(a)yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i fferyllydd GIG, a

(b)pan foʼn ymddangos iʼr fferyllydd GIG fod y person—

(i)yn dioddef o ddiabetes,

(ii)mewn perygl o ddioddef clefyd coronaidd y galon neu bwysedd gwaed uchel, neu

(iii)yn ysmygu neuʼn pwyso gormod,

rhaid iʼr fferyllydd GIG, fel y boʼn briodol, ddarparu cyngor iʼr person hwnnw, gydaʼr nod o ychwanegu at wybodaeth y person hwnnw aʼi ddealltwriaeth oʼr materion iechyd syʼn berthnasol i amgylchiadau personol y person hwnnw.

(2Caniateir ateguʼr cyngor a roddir o dan is-baragraff (1), fel y boʼn briodol—

(a)drwy ddarparu deunydd ysgrifenedig (er enghraifft, taflenni), a

(b)drwy atgyfeirioʼr person i ffynonellau eraill o wybodaeth neu gyngor.

(3Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod oʼr cyngor a roddir yn unol âʼr paragraff hwn, a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd y cyngor iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I161Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ymgyrchoedd iechyd y cyhoeddLL+C

18.  Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, sicrhau—

(a)ei fod ef, ac unrhyw aelodau oʼi staff, yn cymryd rhan, yn y modd y gofynnir amdano’n rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn hyd at chwe ymgyrch ym mhob blwyddyn galendr i hybu negeseuon iechyd y cyhoedd i ddefnyddwyr fferyllfaʼr fferyllydd GIG, a

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn iddo wneud hynny, gofnodi nifer y bobl y darparwyd gwybodaeth iddynt fel rhan o un oʼr ymgyrchoedd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I162Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyfeirio defnyddwyrLL+C

19.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraff 20 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a nodir yn y paragraff hwnnw, ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr fferyllfaʼr fferyllydd GIG ynghylch darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a sefydliadau cymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I163Atod. 5 para. 19 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Amlinelliad oʼr gwasanaeth mewn cysylltiad â chyfeirio defnyddwyrLL+C

20.—(1Pan foʼn ymddangos i fferyllydd GIG neu aelod oʼi staff, gan roi sylw iʼr angen i leihauʼr defnydd amhriodol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth, fod ar berson syʼn defnyddio fferyllfaʼr fferyllydd GIG—

(a)angen cyngor, triniaeth neu gymorth na all y fferyllydd GIG ei ddarparu neu ei darparu, ond

(b)bod darparwr arall gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol neu wasanaethau cymorth, y maeʼr fferyllydd GIG yn ymwybodol ohono, yn debygol o allu darparuʼr cyngor hwnnw, y driniaeth honno neuʼr cymorth hwnnw,

rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu manylion cyswllt y darparwr hwnnw iʼr person hwnnw ac, mewn achosion priodol, rhaid iddo atgyfeirioʼr person hwnnw at y darparwr hwnnw.

(2Pan na fo fferyllydd GIG, pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, yn gallu darparu cyfarpar, neu addasu cyfarpar stoma, oherwydd nad yw darparuʼr cyfarpar neuʼr addasu yng nghwrs busnes arferol y fferyllydd GIG, rhaid iʼr fferyllydd GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG arall neu at gontractwr cyfarpar GIG, neu

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, cdarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasuʼr cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.

(3Pan foʼn briodol, caniateir defnyddio nodyn atgyfeirio ysgrifenedig i wneud atgyfeiriad o dan y paragraff hwn.

(4Rhaid iʼr fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir, neu unrhyw atgyfeiriad a wneir, o dan y paragraff hwn, a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I164Atod. 5 para. 20 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cymorth ar gyfer hunanofalLL+C

21.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraff 22 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a nodir yn y paragraff hwnnw, ddarparu cyngor a chymorth i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I165Atod. 5 para. 21 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Amlinelliad oʼr gwasanaeth mewn cysylltiad â chymorth ar gyfer hunanofalLL+C

22.—(1Pan foʼn ymddangos i fferyllydd GIG neu aelod oʼi staff, gan roi sylw iʼr angen i leihauʼr defnydd amhriodol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai person syʼn defnyddio fferyllfaʼr fferyllydd GIG yn cael budd o gyngor gan y fferyllydd GIG i helpuʼr person i reoli cyflwr meddygol (gan gynnwys, yn achos gofalwr, i helpuʼr gofalwr i gynorthwyo i reoli cyflwr meddygol person arall), rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu cyngor iʼr person syʼn defnyddioʼr fferyllfa ynglŷn â rheoliʼr cyflwr meddygol gan gynnwys, fel y boʼn briodol, gyngor—

(a)ar y dewis o driniaethau, gan gynnwys cyngor ar ddethol a defnyddio cyffuriau priodol nad ydynt yn feddyginiaethau a roddir ar bresgripsiwn yn unig, a

(b)ar newidiadau yn ffordd y claf o fyw.

(2Rhaid iʼr fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw gyngor a roddir o dan is-baragraff (1), a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd y cyngor iddo neu mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I166Atod. 5 para. 22 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 3LL+COriau agor fferyllfa

Oriau agor fferyllfa: cyffredinolLL+C

23.—(1Rhaid i fferyllydd GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y maeʼr fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt—

(a)am ddim llai na 40 awr bob wythnos, neu

(b)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo y caiff y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 40 awr yr wythnos ar yr amod bod y fferyllydd GIG yn darparuʼr gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly, neu

(c)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo bod rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yr wythnos ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly, neu

(d)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo bod rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yr wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos syʼn ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel yʼi nodir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau fferyllol dros dro am gyfnod penodol, pan fo wedi cael 3 mis o rybudd gan y fferyllydd GIG oʼr bwriad i atal y gwasanaethau dros dro.

(2Rhaid i fferyllydd GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol am oriau eraill y bydd y fangre y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni ar agor, sef oriau sy’n ychwanegol at yr oriau y maeʼr fferyllfa o dan rwymedigaeth i agor yn rhinwedd is-baragraff (1) (ac y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “oriau agor atodol”).

(3Ym mhob un oʼr mangreoedd y mae fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid iʼr fferyllydd GIG arddangos—

(a)hysbysiad syʼn pennuʼr amseroedd y mae’r fangre ar agor ar gyfer darparu cyffuriau a chyfarpar, a

(b)ar yr amseroedd nad yw’r fangre ar agor, hysbysiad syʼn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac sy’n ddarllenadwy oʼr tu allan iʼr fangre, syʼn pennu cyfeiriadau fferyllwyr GIG eraill sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr fferyllol aʼr amseroedd y gellir cael cyffuriau a chyfarpar oʼr cyfeiriadau hynny.

(4Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais, gyflwyno datganiad iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, syʼn nodi—

(a)yr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y mae’r fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol pan nad yw o dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1)), a

(b)y gwasanaethau fferyllol y maeʼr fferyllydd GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un oʼr mangreoedd hynny.

(5Pan fo fferyllydd GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neuʼr amseroedd y mae’r gwasanaethau fferyllol i’w darparu mewn mangre y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae’r fferyllydd GIG fel arfer i’w darparu yn y fangre honno,

rhaid iʼr fferyllydd GIG gyflenwi, iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, ddatganiad syʼn rhoi gwybod iddo am y newid.

(6Pan fo fferyllydd GIG wedi cyflwyno datganiad o dan is-baragraff (4) neu (5) mewn cysylltiad ag unrhyw fangre, neu pan foʼr fferyllydd GIG wedi nodi, mewn cais o dan y Rheoliadau hyn i gael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, y diwrnodau aʼr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol yn y fangre y maeʼr cais yn ymwneud â hi os caniateir y cais—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol yn y fangre y maeʼr datganiad neuʼr cais yn ymwneud â hi ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd a nodir yn y datganiad neuʼr cais (oni bai bod y datganiad neuʼr cais wedi ei ddisodli gan ddatganiad, neu ddatganiad pellach, o dan is-baragraff (5)), a

(b)ni chaiff y fferyllydd GIG newid—

(i)y diwrnodau naʼr amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno, neu

(ii)y gwasanaethau fferyllol y maeʼr fferyllydd GIG iʼw darparu fel arfer yn y fangre honno,

fel yʼu nodir yn y datganiad hwnnw neuʼr cais hwnnw, am gyfnod o 3 mis o leiaf ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol gael y datganiad hwnnw neuʼr cais hwnnw.

(7Pan fo fferyllydd GIG wedi ei rwystro gan salwch neu achos rhesymol arall rhag cydymffurfio âʼi rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid iddo, pan foʼn ymarferol, wneud trefniadau ag un neu ragor o fferyllwyr GIG eraill y mae eu mangreoedd yn y gymdogaeth ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(8Pan fo darpariaeth gwasanaethau fferyllol wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt i reolaeth y fferyllydd GIG, ni fydd y fferyllydd GIG wedi torri is-baragraffau (1), (2) a (3) ar yr amod—

(a)bod y fferyllydd GIG yn hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol am yr ataliad hwnnw cyn gynted ag y boʼn ymarferol, a

(b)bod y fferyllydd GIG yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y boʼn ymarferol.

(9Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio fferyllfa yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (7) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt i reolaeth y fferyllydd GIG” at ddibenion is-baragraff (8).

(10At ddibenion cyfrifo nifer yr oriau y mae fferyllfa ar agor yn ystod wythnos syʼn cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, rhaid barnu bod y fferyllfa ar agor ar y diwrnod hwnnw ar yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw oʼr wythnos.

(11Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarwyddyd presennol” (“existing direction”) yw cyfarwyddyd a wnaed yn unol âʼr Rhan hon neu gyfarwyddyd a oedd yn bodoli ar y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “oriau ychwanegol” (“additional hours”) y mae i fod yn ofynnol i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol ywʼr oriau hynny pan na fyddaiʼr fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe baiʼr fferyllydd GIG yn ddarostyngedig iʼr amod a nodir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a nodir yn is-baragraff (1)(d).

Gwybodaeth Cychwyn

I167Atod. 5 para. 23 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Materion iʼw hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag oriau agor fferyllfaLL+C

24.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd syʼn pennu unrhyw amseroedd neu ddiwrnodau o dan y Rhan hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau y mae mangre ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn rhai syʼn sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y diwrnodau hynny ac ar yr amseroedd hynny syʼn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno o dan amgylchiadau pan na fo’r fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparuʼr gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo y caiff fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 40 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni bai ei fod wedi ei fodloni bod darpariaeth gwasanaethau fferyllol yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau oʼr fath ar yr amseroedd pan nad yw’r fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod rhaid i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni bai ei fod wedi ei fodloni y bydd y fferyllydd GIG yn cael tâl rhesymol mewn cysylltiad âʼr oriau ychwanegol y mae’n ofynnol iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (ac mae unrhyw dâl ychwanegol syʼn daladwy yn unol â phenderfyniad a wneir o ganlyniad i reoliad 42 mewn cysylltiad âʼr oriau hynny yn “tâl rhesymol” at y dibenion hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I168Atod. 5 para. 24 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Penderfyniad a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch oriau agor fferyllfaLL+C

25.—(1Pan foʼn ymddangos iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ar ôl ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad yw’r amseroedd y mae, neu y bydd, fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn diwallu anghenion y canlynol mwyach, neu na fydd yr amseroedd hynny yn diwallu anghenion y canlynol—

(a)pobl yn y gymdogaeth, neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa honno,

am wasanaethau fferyllol, caiff asesu pa un ai i ddyroddi cyfarwyddyd iʼw gwneud yn ofynnol iʼr fferyllydd GIG syʼn berchen ar y fferyllfa ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol (a all gynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhauʼr asesiad o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad iʼr fferyllydd GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn yr amseroedd neuʼr diwrnodau y maeʼr fferyllfa i fod ar agor, a

(b)caniatáu cyfnod o 30 o ddiwrnodau iʼr fferyllydd GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn âʼr newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5),

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol syʼn pennu’r diwrnodau a’r amseroedd y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe dyroddid ef o dan y paragraff hwn, neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol syʼn pennu’r amseroedd neu’r diwrnodau y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd, ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 23(1)(a), rhaid iʼr fferyllfa fod ar agor am ddim llai na 40 awr bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn cysylltiad â fferyllfa y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, a

(ii)ynglŷn âʼr oriau ychwanegol y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fferyllfa honno.

(5Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am 40 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 40 awr bob wythnos).

(6Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), a phan foʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, rhaid iddo gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr canlynol—

(a)y rhesymau dros y newid, a

(b)hawl y fferyllydd GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff fferyllydd GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddwyd neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), syʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os ywʼr amseroedd neuʼr diwrnodau y mae fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfa wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr fferyllydd GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Gwybodaeth Cychwyn

I169Atod. 5 para. 25 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Penderfyniad a ysgogir gan y fferyllydd GIG ynghylch oriau agor fferyllfaLL+C

26.—(1Caiff fferyllydd GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol iddo newid y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn fferyllfaʼr fferyllydd GIG, mewn ffordd—

(a)syʼn lleihau cyfanswm nifer yr oriau y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos, neu

(b)syʼn cadw cyfanswm nifer yr oriau yn ddigyfnewid.

(2Pan fo fferyllydd GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr fferyllydd GIG, fel rhan oʼr cais hwnnw, ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol unrhyw wybodaeth y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad ag unrhyw newidiadau yn anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa, am wasanaethau fferyllol syʼn berthnasol iʼr cais.

(3Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 niwrnod i’w gael (gan gynnwys unrhyw wybodaeth syʼn ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynuʼr cais, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig,

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol syʼn pennu’r diwrnodau a’r amseroedd y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6), neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr amseroedd neuʼr diwrnodau y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, pan fo hyn yn cael yr effaith o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd, ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 23(1)(a), rhaid iʼr fferyllfa fod ar agor am ddim llai na 40 awr bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) mewn cysylltiad â fferyllfa y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, a

(ii)ynglŷn âʼr oriau ychwanegol y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fferyllfa honno.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am 40 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 40 awr bob wythnos).

(7Pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (c)(i), rhaid iddo ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynuʼr cais.

(8Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), a phan fo hyn yn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu’n rhannol, rhaid iddo anfon at y fferyllydd GIG ddatganiad ysgrifenedig syʼn nodi—

(a)y rhesymau dros y gwrthodiad neu, yn ôl y digwydd, dros ganiatáuʼr cais yn rhannol yn unig, a

(b)hawl y fferyllydd GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff fferyllydd GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gam gweithredu o dan is-baragraff (4) syʼn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y mae fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfa wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr fferyllydd GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (8), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Gwybodaeth Cychwyn

I170Atod. 5 para. 26 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Oriau agor dros dro a chyfnodau cau yn ystod argyfwng, syʼn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol yn hyblygLL+C

27.—(1Er gwaethaf darpariaethauʼr Atodlen hon, yn ystod argyfwng syʼn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, os gwneir cais gan y fferyllydd GIG, ganiatáu iʼr fferyllydd GIG newid dros dro y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cauʼr fangre honno dros dro—

(a)os yw’r fferyllydd GIG yn rhoi o leiaf 24 awr o rybudd oʼr newid neuʼr cau, a

(b)os ywʼr rhesymau a roddir gan y fferyllydd GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Nid oes angen iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyoʼr cais cyn y newid neuʼr cau, ac os nad ywʼn gwneud hynny ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymauʼr fferyllydd GIG, yn ei farn, yn rhesymau digonol, yna maeʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre i ddychwelyd iʼr hyn a oeddent cyn eu disodli, oʼr diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y penderfyniad hwnnw iʼr fferyllydd GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I171Atod. 5 para. 27 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 4LL+CLlywodraethu clinigol a chwynion

Llywodraethu clinigolLL+C

28.—(1Rhaid i fferyllydd GIG, mewn cysylltiad âʼr holl wasanaethau fferyllol y mae’r fferyllydd GIG yn eu darparu, gymryd rhan mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd sy’n rhesymol ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os ywʼn darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfio âʼr cydrannau llywodraethu clinigol a nodir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw’r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion aʼr cyhoedd, syʼn cynnwys—

(i)gofyniad y dylaiʼr fferyllydd GIG lunio, mewn modd cymeradwy, daflen ymarfer mewn cysylltiad â fferyllfaʼr fferyllydd GIG a rhoiʼr daflen ar gael mewn modd priodol,

(ii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn fferyllfa’r fferyllydd GIG neu ohoni,

(iii)gofyniad bod y fferyllydd GIG, pan foʼn rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn fferyllfa’r fferyllydd GIG neu ohoni (pa un a ywʼr fferyllydd GIG yn llunio ei ddeunydd cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteuʼn hysbysebuʼr gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn modd syʼn ei gwneud yn glir mai fel rhan oʼr gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau hynny,

(iv)gofyniad y dylaiʼr fferyllydd GIG ymgymryd ag arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, mewn modd cymeradwy, gan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadauʼr arolwg ac i unrhyw gamau gweithredu priodol y maeʼr fferyllydd GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyffuriau neu gyfarpar syʼn ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwyno gymeradwy (syʼn bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithreduʼn briodol ag ymweliadauʼr Cyngor Iechyd Cymuned Lleol ac yn cymryd camau gweithredu priodol o ganlyniad iʼr ymweliadau hynny,

(viii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithreduʼn briodol ag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno ymgymryd ag ef, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010(41),

(b)rhaglen archwilio clinigol (5 niwrnod, fel arfer), syʼn cynnwys o leiaf un archwiliad mewn fferyllfa ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol,

(c)rhaglen rheoli risg, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drin mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi digwyddiadau critigol ac ymateb iddynt, syʼn cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau a fu bron a digwydd,

(iv)trefniadau, gan gynnwys trefniadau cadw cofnodion, ar gyfer ymdrin yn briodol ac yn amserol â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynuʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)gweithdrefnau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn cysylltiad â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu gwastraff priodol (yn ychwanegol at y rheini syʼn ofynnol o dan baragraffau 14 a 15) ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob fferyllfa, a benodir felly gan y fferyllydd GIG (neuʼr fferyllydd GIG ei hunan), syʼn wybodus ynglŷn âʼr gweithdrefnau fferylliaeth yn y fferyllfa honno aʼr gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn ardal leol y fferyllfa honno,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(42),

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, syʼn cynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y fferyllydd GIG—

(i)mewn cysylltiad â darparu cyffuriau yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy,

(ii)mewn cysylltiad â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(iii)i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau ar gyfer sicrhau bod y fferyllydd GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(ii), yn rhoi sylw iʼr manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 11(1)(f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i staff, gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol iʼr holl staff mewn cysylltiad ag unrhyw rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau ar gyfer gwirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu’r holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau fferyllol, neu wasanaethau GIG eraill, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu syʼn angenrheidiol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer ymdrin â pherfformiad gwael (ar y cyd âʼr Bwrdd Iechyd Lleol fel y boʼn briodol), a

(vi)trefniadau (y mae rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) ar gyfer sicrhau bod yr holl staff, gan gynnwys unrhyw locwm, sydd, o ganlyniad iʼw cyflogaeth gydaʼr fferyllydd GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn syʼn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(43) (ystyr “protected disclosure”), yn cael yr hawliau a roddir mewn cysylltiad â datgeliadau oʼr fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol iʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol syʼn cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd ond nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o’r Ddeddf honno, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad iʼr weithred honno,

(f)rhaglen llywodraethu gwybodaeth, syʼn darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw, ac

(g)rhaglen safonau mangre syʼn cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fferyllfa, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau, mewn modd cymesur, fod y risg i bobl yn y fferyllfa o gael haint a ddelir wrth gael gofal iechyd yn cael ei lleihau, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanuʼn glir rhwng y mannau mewn fferyllfa syʼn amgylchedd gofal iechyd priodol (lle y mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) aʼr mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I172Atod. 5 para. 28 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Safonau proffesiynolLL+C

29.  Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparuʼr gwasanaethau hynny, gan gydymffurfio âʼr safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I173Atod. 5 para. 29 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

CymhellionLL+C

30.—(1Ni chaiff fferyllydd GIG na’i staff roi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elwʼr busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu fel arall) fel cymhelliad iʼr person syʼn cyflwyno archeb am gyffuriau neu gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neuʼn gydnabyddiaeth am hynny.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu cymorth cydymffurfio neu wasanaeth danfon gartref yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Yn achos darparu cyfarpar, ni chaiff fferyllydd GIG, nac unrhyw berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen gan y fferyllydd GIG hwnnw, dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn cysylltiad, yn unig, â’r canlynol—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG eraill yn unol â pharagraff 11(2)(b), 12(4) neu 20(2)(b), neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG arall yn unol â pharagraff 11(2)(a) neu 20(2)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad âʼr eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I174Atod. 5 para. 30 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth iddynt godiLL+C

31.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 32, rhaid i fferyllydd GIG, a phan foʼr fferyllydd GIG yn rhan o gorff corfforedig, bob un oʼi gyfarwyddwyr, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod i’r digwyddiad, os ywʼr fferyllydd GIG neu gyfarwyddwr—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen iʼw euogfarnu),

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(44) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(45) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),

(f)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddaiʼn drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(h)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol, a bod canfyddiad yn ei erbyn,

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neuʼn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn,

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei ddileu o restr berthnasol, neu

(m)ar sail addasrwydd, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu’r achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 32, os yw person y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig, neu os oedd yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid i’r person, yn ychwanegol, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod os yw unrhyw gorff corfforedig oʼr fath—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddai’n drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforedig,

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas â thwyll neuʼn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath, aʼr canlyniad hwnnw yn anffafriol,

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei ddileu o restr berthnasol, neu

(h)ar sail addasrwydd, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr person hwnnw roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu’r achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyn-gyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Gwybodaeth Cychwyn

I175Atod. 5 para. 31 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforedigLL+C

32.  Pan fo fferyllydd GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caniateir iʼr wybodaeth sydd iʼw darparu o dan baragraffau 31 a 35(3) i (6) gael ei darparu yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel yʼi diffinnir yn rheoliad 60). Pan ywʼr fferyllydd GIG yn darparuʼr wybodaeth iʼw Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo hefyd ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol cartref fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I176Atod. 5 para. 32 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

CwynionLL+C

33.  Rhaid i fferyllydd GIG gael yn eu lle drefniadau syʼn cydymffurfio â gofynion Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(46), ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater syʼn gysylltiedig â darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I177Atod. 5 para. 33 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 5LL+CTelerau gwasanaeth eraill

Gwasanaethau cyfeiriedigLL+C

34.  Rhaid i fferyllydd GIG, y mae Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol yn gwneud trefniant ag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodauʼr trefniant.

Gwybodaeth Cychwyn

I178Atod. 5 para. 34 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth sydd iʼw chyflenwiLL+C

35.—(1Rhaid i fferyllydd GIG roi hysbysiad oʼr canlynol iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny)—

(a)unrhyw ddigwyddiad syʼn ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd amdano yn y rhestr fferyllol, na roddodd hysbysiad ohono fel arall yn unol âʼr Rheoliadau hyn,

(b)yn achos fferyllydd GIG syʼn unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat, ac

(c)yn achos fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG, os gofynnir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi iʼr Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd a gyflogir ganddo syʼn gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau pob un oʼi gyfarwyddwyr aʼi uwcharolygydd.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y fferyllydd GIG i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) oʼr wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i fferyllydd GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os ywʼr fferyllydd GIG, neu gorff corfforedig y maeʼn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd iddo, yn gwneud cais i gael ei gynnwys yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath, a

(b)os dawʼr fferyllydd GIG yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu syʼn gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr oʼr fath, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath.

(6Pan fo fferyllydd GIG yn gorff corfforedig sydd â swyddfa gofrestredig yng Nghymru, dim ond iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r swyddfa gofrestredig honno yn ei ardal y caniateir iʼr wybodaeth sydd iʼw darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) gael ei darparu, os ywʼr fferyllydd GIG hefyd yn darparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y mae wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol, ac o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddoʼr wybodaeth i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu

(b)y mae’r fferyllydd GIG yn gwneud cais iddo i gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol,

ac syʼn gofyn amdani.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” yw

(a)rhestr fferyllol, neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig.

Gwybodaeth Cychwyn

I179Atod. 5 para. 35 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Tynnu’n ôl o restrau fferyllolLL+C

36.  Pan fo fferyllydd GIG yn bwriadu tynnu’n ôl oʼr rhestr fferyllol, rhaid iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol am hyn, o leiaf 3 mis cyn y dyddiad hwnnw, oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny, ac os felly, rhaid iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y boʼn ymarferol gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I180Atod. 5 para. 36 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Codi ffioedd am gyffuriau, ac ad-daliadauLL+C

37.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006 (codi ffioedd am gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar, neu wasanaethau fferyllol) rhaid darparuʼr holl gyffuriau, cynwysyddion a chyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaeth hyn yn ddi-dâl.

(2Pan fo fferyllydd GIG yn cyflenwi cynhwysydd, wrth ymateb i archeb am gyffuriau a lofnodwyd gan ragnodydd, neuʼn cyflenwi cynhwysydd ocsigen neu gyfarpar ocsigen, ac eithrio cyfarpar a bennir yn y Tariff Cyffuriau fel cyfarpar nad yw’n ddychweladwy at y fferyllydd GIG, maeʼr cynhwysydd aʼr cyfarpar yn parhauʼn eiddo iʼr fferyllydd GIG.

(3Pan fo unrhyw berson a chanddo hawlogaeth i gael ad-daliad o unrhyw ffi a dalwyd o dan y Rheoliadau Ffioedd yn cyflwyno i fferyllydd GIG hawliad dilys am ad-daliad, rhaid iʼr fferyllydd GIG wneud yr ad-daliad.

(4At ddibenion is-baragraff (3), nid yw hawliad am ad-daliad yn ddilys onis gwneir yn briodol ar Ffurflen WP57 0405 o fewn 3 mis iʼr dyddiad y talwyd y ffi.

Gwybodaeth Cychwyn

I181Atod. 5 para. 37 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Arolygiadau a mynediad at wybodaethLL+C

38.—(1Rhaid i fferyllydd GIG ganiatáu i bersonau, sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, fynd i fferyllfaʼr fferyllydd GIG a’i harolygu ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)canfod pa un a ywʼr fferyllydd GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y fferyllydd GIG ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion, a

(ii)y modd y maeʼr fferyllydd GIG yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y mae’n eu darparu,

pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fferyllfa,

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fferyllfa ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr fferyllydd GIG yn gofyn am hynny,

(c)bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, aʼi fod yn cyflwynoʼr dystiolaeth honno ar gais, a

(d)nad ywʼr person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi ganddo gael mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol neuʼr person—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I182Atod. 5 para. 38 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y GymraegLL+C

39.—(1Pan fo fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iʼr fferyllydd GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen iʼw defnyddio gan gleifion a/neu aelodau oʼr cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo fferyllydd GIG yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr testun ar yr arwydd neuʼr hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff fferyllydd GIG ddefnyddioʼr gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Rhaid i fferyllydd GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol ac syʼn siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5Rhaid i fferyllydd GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth oʼr Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth oʼi hanes aʼi rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddioʼr Gymraeg mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6Rhaid i fferyllydd GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ganfod a chofnodiʼr dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Gwybodaeth Cychwyn

I183Atod. 5 para. 39 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 12

ATODLEN 6LL+CTelerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig

Corffori darpariaethauLL+C

1.  Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr cyfarpar GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau,

(b)y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(47) (mynd i mewn i fangreoedd aʼu harchwilio) ag syʼn ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd, y maeʼr contractwr cyfarpar GIG naill aiʼn berchen arnynt neuʼn eu rheoli neuʼn darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt, ac archwilio’r mangreoedd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I184Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rhannu cyfrifoldebau rhwng unigolion a chyrff corfforedigLL+C

2.—(1Iʼr graddau y maeʼr Atodlen hon yn gosod ar gontractwr cyfarpar GIG ofyniad mewn cysylltiad â gweithgaredd na ellid ei gyflawni gan neb ond person naturiol, neu a gyflawnid fel arfer gan berson naturiol—

(a)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn fferyllydd cofrestredig—

(i)rhaid iʼr fferyllydd cofrestredig hwnnw gydymffurfio âʼr gofyniad hwnnw, neu

(ii)os ywʼn cyflogi neu wedi cymryd ymlaen fferyllydd cofrestredig mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr fferyllydd cofrestredig hwnnw naill ai cydymffurfio âʼr gofyniad hwnnw neu sicrhau cydymffurfedd âʼr gofyniad hwnnw gan y person y maeʼn ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen, a

(b)os nad ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn berson naturiol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hwnnw sicrhau cydymffurfedd âʼr gofyniad hwnnw gan berson y maeʼn ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen,

a rhaid dehongli cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at gontractwr cyfarpar GIG yn unol â hynny.

(2Pan foʼr Atodlen hon yn gosod gofyniad ar gyfarwyddwr corff corfforedig sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid barnu bod torriʼr gofyniad hwnnw yn golygu bod y corff corfforedig wedi torri ei delerau gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I185Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaethau gweinydduLL+C

3.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, iʼr graddau y maeʼn ofynnol gan baragraffau 4 i 8 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyfarpar priodol a digonol i bersonau syʼn cyflwyno presgripsiynau am gyfarpar gan broffesiynolion gofal iechyd yn unol âʼu swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I186Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweinyddu cyfarparLL+C

4.—(1Yn y paragraff hwn, mae “wedi ei llofnodi” yn cynnwys llofnodi gyda llofnod electronig uwch rhagnodydd.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethauʼr Atodlen hon, pan fo—

(a)unrhyw berson yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig syʼn cynnwys—

(i)archeb am gyfarpar, nad ywʼn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, neu

(ii)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”, “Selected List Scheme” neu “Drug Tariff”, neu

(b)contractwr cyfarpar GIG yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cydymffurfio âʼr gwasanaeth TPE ac yn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) a (ii) ac—

(i)bod unrhyw berson yn gofyn bod cyfarpar yn cael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn hwnnw, neu

(ii)bod y contractwr cyfarpar GIG wedi trefnu gydaʼr claf yn flaenorol y byddaiʼn gweinydduʼr presgripsiwn hwnnw pan ddeuai i law,

rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG, yn rhesymol brydlon, ddarparuʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly a gyflenwir ganddo yng nghwrs arferol busnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyfarpar iʼw ystyried fel pe bai wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael y cyfarpar yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw—

(a)pan fo’r presgripsiwn hwnnw gan y contractwr cyfarpar GIG yn ei feddiant, a

(b)pan fo’r person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig neu pan fo swp-ddyroddiad cysylltiedig ym meddiant y contractwr cyfarpar GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I187Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyflenwi yn unol â PPDLL+C

5.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo person yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG am gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, a

(b)bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(3Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—

(a)bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon,

(b)bo gwneud hynny yn unol â’r PPD, ac

(c)bo’r contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.

(4Pan fo contractwr cyfarpar GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—

(a)rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw), a

(b)(i)os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, a

(ii)os yw math o gynnyrch yn cael ei gyflenwi y mae Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â thâl fferyllol ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad mewn perthynas ag ef ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant ei fod yn addas, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylid hysbysu darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol bod cynnyrch wedi ei gyflenwi i glaf ar eu rhestr cleifion yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,

rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar ei restr cleifion, am y cyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(5Pan—

(a)bo is-baragraff (1) yn gymwys,

(b)bo contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,

mae’r gofyniad i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 4(2) i’w ddarllen fel pe bai’n ofyniad i weithredu o fewn amserlen resymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I188Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwnLL+C

6.—(1Maeʼr paragraff hwn yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu cyfarpar.

(2Caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparuʼr cyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw, ar yr amod bod y rhagnodydd yn ymgymryd ag—

(a)rhoi iʼr contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad âʼr cyfarpar o fewn 72 o oriau i’r cais gael ei wneud, neu

(b)rhoi iʼr contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn electronig syʼn cydymffurfio âʼr gwasanaeth TPE o fewn 72 o oriau i’r cais gael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I189Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyfarparLL+C

7.—(1Os ywʼr person a bennir yn is-baragraff (2) yn gofyn iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud hynny—

(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif oʼr amser pan fydd y cyfarpar yn barod, a

(b)os na fydd yn barod erbyn hynny, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif diwygiedig oʼr amser pan fydd yn barod.

(2Person a bennir yn yr is-baragraff hwn yw person—

(a)syʼn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, neu

(b)syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig.

(3Cyn darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 3 oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd (esemptiadau), neu

(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawlogaeth i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

gyflwyno tystiolaeth foddhaol oʼr hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(e) neu (2) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes wedi ei rhoi ar gael iʼr contractwr cyfarpar GIG ar adeg gwneud y datganiad,

(b)yn achos ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr contractwr cyfarpar GIG fel syʼn ofynnol gan baragraff (a), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw, ac

(c)yn achos ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gydymffurfio ag unrhyw ofynion gan y gwasanaeth TPE i ddarparu—

(i)cofnod oʼr esemptiad rhag talu neuʼr hawlogaeth i beidio â thalu a hawliwyd, ac a gyflwynwyd tystiolaeth foddhaol, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (a), a

(ii)mewn unrhyw achos pan fo ffi yn ddyledus, gadarnhad bod y ffi berthnasol wedi ei thalu.

(4Mae is-baragraff (3) yn gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 5(4)(a), yn cael ei drin fel y presgripsiwn y darperir y cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I190Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Darparu cyfarparLL+C

8.—(1Pan fo ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy wedi ei chyflwyno neu ei gyflwyno i gontractwr cyfarpar GIG, ni chaiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparuʼr cyfarpar a archebir felly ond—

(a)os ywʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy wedi ei llofnodi a’i chwlhau neu ei lofnodi aʼi gwblhau yn briodol, fel yʼi disgrifir ym mharagraff 4, a

(b)yn unol âʼr archeb sydd ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985 aʼr darpariaethau a ganlyn oʼr Atodlen hon.

(2Os ywʼr archeb yn archeb am fath o gyfarpar y maeʼn ofynnol ei fesur aʼi ffitio gan y contractwr cyfarpar GIG neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn fath o’r cyfarpar hwnnw, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer—

(a)mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy am y cyfarpar, a

(b)ffitioʼr cyfarpar.

(3Os ywʼr archeb yn archeb am gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd fel rhan oʼr Fformiwlari hwnnw), Fformiwlariʼr Ymarferydd Deintyddol, y Cyffurlyfr Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn gyfarpar o’r fath, rhaid iʼr cyfarpar a ddarperir gydymffurfio âʼr safon neuʼr fformiwla a bennir yno.

(4Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan baragraff 5, rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG gynnwys gydag ef mewn nodyn ysgrifenedig, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I191Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwrthod darparu cyfarpar a archebwydLL+C

9.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn credu, yn rhesymol, nad ywʼn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

(b)pan foʼn ymddangos iʼr contractwr cyfarpar GIG fod camgymeriad ar y ffurflen bresgripsiwn neu ar y presgripsiwn amlroddadwy neu, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y contractwr cyfarpar GIG,

(c)pan foʼr contractwr cyfarpar GIG neu bersonau eraill yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy neu syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu

(d)pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy neu syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.

(3Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw,

(b)pan fo’r contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)pan na fo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu darparu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,

ond os yw’r contractwr cyfarpar GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.

(4Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan na fo ganddo gofnod oʼr presgripsiwn hwnnw,

(b)pan na fo ganddo, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig a phan na fo swp-ddyroddiad oʼr fath wedi ei gyflwyno,

(c)pan na fo wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(d)pan fyddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn,

(e)pan hwnnw fyddaiʼr tro cyntaf i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn, a phan fo’r presgripsiwn wedi ei lofnodi (yn electronig neu fel arall) fwy na 6 mis yn gynharach,

(f)pan fo’r presgripsiwn amlroddadwy wedi ei lofnodi (yn electronig neu fel arall) fwy nag 1 flwyddyn yn gynharach,

(g)pan fo’r dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio, neu

(h)pan fo’r rhagnodydd amlroddadwy wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen y presgripsiwn mwyach.

(5Pan fo claf yn gofyn i gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrioʼr tro cyntaf y mae’n gofyn felly) gael ei gyflenwi, ni chaiff contractwr cyfarpar GIG ddarparuʼr cyfarpar a archebwyd oni bai ei fod wedi ei fodloni—

(a)o ran y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef—

(i)ei fod yn defnyddioʼr cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau iʼw ddefnyddio felly, a

(ii)nad ywʼn dioddef unrhyw un neu ragor o sgil effeithiauʼr driniaeth syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf,

(b)nad ywʼr modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf, ac

(c)nad oes unrhyw newidiadau wedi bod yn iechyd y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf.

Gwybodaeth Cychwyn

I192Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweithgareddau pellach sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau gweinydduLL+C

10.—(1Mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 3, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)iʼw galluogi i ddefnyddioʼr cyfarpar yn briodol, a

(ii)i ddiwallu anghenion rhesymol y cleifion am wybodaeth gyffredinol ynglŷn âʼr cyfarpar,

(b)darparu cyngor priodol i gleifion y maeʼn darparu cyfarpar iddynt ynglŷn â chadwʼr cyfarpar yn ddiogel,

(c)wrth ddarparu cyfarpar i glaf yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol ar bwysigrwydd dim ond gofyn am yr eitemau hynny y mae eu hangen arno mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, roi sylw iʼr manylion sydd wedi eu cynnwys yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(d)darparu i glaf nodyn ysgrifenedig o unrhyw gyfarpar syʼn ddyledus iddo, a rhoi gwybod iʼr claf pa bryd y disgwylir y dawʼr cyfarpar ar gael,

(e)darparu i glaf nodyn ysgrifenedig o enw, cyfeiriad a rhif ffôn y contractwr cyfarpar GIG,

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)oʼr cyfarpar a ddarperir, er mwyn hwyluso parhad gofal y claf,

(ii)mewn achosion priodol, oʼr cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (gan gynnwys ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion syʼn ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (d),

(g)ymgymryd â hyfforddiant priodol mewn cysylltiad ag amlweinyddu, gan roi sylw i unrhyw argymhellion mewn cysylltiad â’r hyfforddiant hwnnw a nodir yn y Tariff Cyffuriau,

(h)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storioʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw neuʼr swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel,

(i)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan bresgripsiwn electronig, ddarparu iʼr claf, os ywʼr claf yn gofyn amdano, gofnod ysgrifenedig oʼr cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn hwnnw, ac yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig, gofnod o nifer y troeon y caniateir ei weinyddu,

(j)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy ar ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur oʼr cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau aʼr symiau a gyflenwir),

(k)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben syʼn ymwneud â chyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd ei ddarparu i glaf yn unol â pharagraff 9,

(l)sicrhau, pan wrthodir darparu cyfarpar i berson yn unol â pharagraff 9(1)(b), (2) neu (3), yr atgyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach,

(m)pan fo cyfarpar wedi ei ddarparu i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol syʼn codi mewn cysylltiad âʼr presgripsiwn a chadw cofnod oʼr hysbysiad hwnnw,

(n)hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw wrthodiad i ddarparu cyfarpar yn unol â pharagraff 9(3), ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, gydymffurfio âʼr gofynion ychwanegol a nodir ym mharagraff 11.

(2Pan na fo contractwr cyfarpar GIG, wrth i ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gael ei chyflwyno neu ei gyflwyno mewn cysylltiad â gweinyddu cyfarpar o dan baragraff 4, yn gallu darparu cyfarpar, neu pan fo angen addasu cyfarpar stoma ac na foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gallu darparuʼr addasiad hwnnw, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG arall neu at fferyllydd GIG, neu

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, ddarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasu’r cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr contractwr cyfarpar GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I193Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedigLL+C

11.—(1Maeʼr paragraff hwn yn nodiʼr gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 10(1)(o) syʼn ymwneud â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG syʼn gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol busnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw ac, fel rhan oʼr gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf,

(b)os ywʼr claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg y cytunir arni âʼr claf,

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad ywʼn arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddangos ei gynnwys, a

(d)ni chaiff y modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol syʼn ofynnol gan is-baragraff (3) gyfleuʼr math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan fo cyfarpar penodedig yn cael ei ddarparu (drwy ei ddanfon iʼr cartref neu fel arall), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os ywʼr claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn âʼr cyfarpar, neu

(b)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo—

(i)atgyfeirioʼr claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar iʼr claf.

(4Os na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid iddo roi iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu trefnu i’r gwasanaeth gael ei ddarparu, os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr contractwr cyfarpar GIG.

(5Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu llinell gofal ffôn mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid iddo sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)bod cyngor yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno, neu

(b)bod rhif ffôn Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru, yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â phob un oʼr mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, ywʼr cyfnodau y tu allan iʼr cyfnodau pan foʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd paragraff 13;

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig, yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddiʼn addas ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad âʼr cyfarpar.

Gwybodaeth Cychwyn

I194Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyfeirio defnyddwyrLL+C

12.—(1Pan na fo contractwr cyfarpar GIG, wrth i ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gael ei chyflwyno neu ei gyflwyno, yn gallu darparu cyfarpar neu addasu cyfarpar stoma oherwydd nad yw darparuʼr cyfarpar neuʼr addasu yng nghwrs arferol ei fusnes, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG arall neu at fferyllydd GIG, a

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, ddarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasu’r cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr contractwr cyfarpar GIG.

(2Rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir neu atgyfeiriad a wneir o dan is-baragraff (1), a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y contractwr cyfarpar GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I195Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Oriau agor: cyffredinolLL+C

13.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y mae wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt—

(a)am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos;

(b)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013) y caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 o oriau yr wythnos ar yr amod y darperir y gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly,

(c)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013) fod rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 o oriau yr wythnos ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly, neu

(d)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo o dan yr Atodlen hon fod rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 o oriau bob wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos syʼn ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y maeʼn ofynnol iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel yʼi nodir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau fferyllol dros dro am gyfnod penodol, pan fo wedi cael 3 mis o rybudd oʼr bwriad i atal y gwasanaethau dros dro.

(2Ym mhob un oʼr mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG arddangos hysbysiad syʼn pennuʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae’r fangre ar agor ar gyfer darparu cyfarpar.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais, gyflwyno datganiad iʼr Bwrdd Iechyd Lleol syʼn nodi—

(a)y diwrnodau aʼr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y maeʼn darparu gwasanaethau fferyllol pan nad yw o dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1), y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “oriau agor atodol”), a

(b)y gwasanaethau fferyllol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un oʼr mangreoedd hynny.

(4Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neuʼr amseroedd y mae’r gwasanaethau fferyllol iʼw darparu mewn mangre y mae wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae fel arfer iʼw darparu yn y fangre honno,

rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflenwi, iʼr Bwrdd Iechyd Lleol, ddatganiad sy’n rhoi gwybod iddo am y newid.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), pan fo contractwr cyfarpar GIG wedi ei rwystro gan salwch neu achos rhesymol arall rhag cydymffurfio âʼi rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG, pan foʼn ymarferol, wneud trefniadau ag un neu ragor o gontractwyr cyfarpar GIG, fferyllwyr GIG neu ddarparwyr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot y mae eu mangreoedd yn y gymdogaeth ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(6Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG wneud trefniant â darparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot o dan is-baragraff (5) ond pan foʼr darparwr hwnnw yn darparu gwasanaethau fferyllol lleol o ddisgrifiad a graddau tebyg iʼr gwasanaethau fferyllol y mae’r contractwr cyfarpar GIG fel arfer yn eu darparu.

(7Pan fo darpariaeth gwasanaethau fferyllol gan gontractwr cyfarpar GIG wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt iʼw reolaeth, ni fydd y contractwr cyfarpar GIG wedi torri is-baragraffau (1) a (2), ar yr amod bod y contractwr cyfarpar GIG—

(a)yn hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol am yr ataliad hwnnw cyn gynted ag y boʼn ymarferol, a

(b)yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y boʼn ymarferol.

(8Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio mangre yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (5) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt iʼw reolaeth” at ddibenion is-baragraff (7).

(9At ddibenion cyfrifo nifer yr oriau y mae mangre ar agor yn ystod wythnos syʼn cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, bernir bod y fangre ar agor ar y diwrnod hwnnw ar yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw oʼr wythnos.

(10Yn yr Atodlen hon, yr “oriau ychwanegol” y mae i fod yn ofynnol i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol ywʼr oriau hynny pan na fyddaiʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe baiʼr contractwr cyfarpar GIG yn ddarostyngedig iʼr amod a nodir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a nodir yn is-baragraff (1)(d).

(11Er gwaethaf darpariaethau paragraffau 14 i 17, yn ystod argyfwng syʼn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff Bwrdd Iechyd Lleol, os gwneir cais gan gontractwr cyfarpar GIG, ganiatáu iʼr contractwr cyfarpar GIG newid dros dro y diwrnodau neuʼr amseroedd y mae’r contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre y mae wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cauʼr fangre honno dros dro—

(a)os yw’r contractwr cyfarpar GIG yn rhoi o leiaf 24 awr o rybudd oʼr newid neuʼr cau, a

(b)os ywʼr rhesymau a roddir gan y contractwr cyfarpar GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(12Nid oes angen iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyoʼr cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (11) cyn y newid neuʼr cau, ac os nad ywʼn gwneud hynny ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymauʼr contractwr cyfarpar GIG, yn ei farn, yn rhesymau digonol, yna mae’r diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre i ddychwelyd iʼr hyn a oeddent cyn eu disodli, oʼr diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y penderfyniad hwnnw iʼr contractwr cyfarpar GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I196Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Materion iʼw hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag oriau agorLL+C

14.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd syʼn pennu unrhyw ddiwrnodau neu amseroedd o dan yr Atodlen hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau y mae mangre ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn rhai syʼn sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y diwrnodau hynny ac ar yr amseroedd hynny syʼn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1)—

(a)rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol drin unrhyw wasanaethau fferyllol lleol a ddarperir yn y gymdogaeth honno ar y diwrnodau a’r amseroedd o dan sylw fel pe baent yn wasanaethau fferyllol a ddarperid felly, a

(b)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno o dan amgylchiadau pan na foʼr person syʼn darparuʼr gwasanaethau fferyllol o dan rwymedigaeth i ddarparuʼr gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo y caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 o oriau yn ystod unrhyw wythnos, oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y trefniadau ar gyfer cyflenwi cyfarpar yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau oʼr fath ar yr amseroedd pan nad yw’r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 o oriau yn ystod unrhyw wythnos, oni bai bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni y bydd y contractwr cyfarpar GIG yn cael tâl rhesymol mewn cysylltiad âʼr oriau ychwanegol y maeʼn ofynnol iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (ac mae unrhyw dâl ychwanegol syʼn daladwy o dan y Tariff Cyffuriau mewn cysylltiad âʼr oriau hynny yn “dâl rhesymol” at y dibenion hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I197Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Penderfyniad a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch oriau agorLL+C

15.—(1Pan foʼn ymddangos iʼr Bwrdd Iechyd Lleol, ar ôl ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y mae neu y bydd mangre ar agor ar gyfer cyflenwi cyfarpar yn diwallu anghenion y canlynol mwyach, neu na fyddant yn diwallu anghenion y canlynol—

(a)pobl yn y gymdogaeth, neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill mangreʼr contractwr cyfarpar GIG,

ar gyfer cyflenwi cyfarpar, caiff asesu pa un ai i ddyroddi cyfarwyddyd i’w gwneud yn ofynnol iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol (a all gynnwys Ddydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhauʼr asesiad o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad iʼr contractwr cyfarpar GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fangre i fod ar agor, a

(b)caniatáu cyfnod o 60 niwrnod iʼr contractwr cyfarpar GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn âʼr newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5), neu

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013, yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe dyroddid ef o dan y paragraff hwn, neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 13(1)(a), rhaid iʼr fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn cysylltiad â mangre y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â’r oriau ychwanegol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iddo ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno.

(5Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am 30 o oriau bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 o oriau bob wythnos).

(6Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), a phan foʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae’r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, rhaid iddo gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad oʼr canlynol—

(a)y rhesymau dros y newid, a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddwyd neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), syʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am benderfyniad o dan is-baragraff (8) a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Gwybodaeth Cychwyn

I198Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Penderfyniad a ysgogir gan y contractwr cyfarpar GIG ynghylch oriau agorLL+C

16.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, gan roi 90 o ddiwrnodau o rybudd iddo newid y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ei fangre, mewn ffordd—

(a)syʼn lleihau cyfanswm nifer yr oriau y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos, neu

(b)syʼn cadwʼr cyfanswm nifer oriau hwnnw yn ddigyfnewid.

(2Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid iddo, fel rhan oʼr cais hwnnw, ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol unrhyw wybodaeth y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad ag unrhyw newidiadau yn anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol syʼn berthnasol iʼr cais.

(3Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 niwrnod i’w gael (gan gynnwys unrhyw wybodaeth syʼn ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynuʼr cais, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig,

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Atodlen 5 i Reoliadau 2013, yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6), neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Atodlen 5 i Reoliadau 2013, pan fo hyn yn cael yr effaith o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 13(1)(a), rhaid iʼr fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) mewn cysylltiad â mangre y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â’r oriau ychwanegol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iddo ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am 30 o oriau bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 o oriau bob wythnos).

(7Pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (4)(c)(i), rhaid iddo ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynuʼr cais.

(8Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), a phan fo hyn yn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu’n rhannol, rhaid iddo anfon at y contractwr cyfarpar GIG ddatganiad syʼn nodi—

(a)y rhesymau dros y gwrthodiad neu, yn ôl y digwydd, dros ganiatáuʼr cais yn rhannol yn unig, a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gam gweithredu o dan is-baragraff (4) syʼn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (4), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Gwybodaeth Cychwyn

I199Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Llywodraethu clinigolLL+C

17.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, mewn cysylltiad âʼr holl wasanaethau y mae’n eu darparu, gymryd rhan mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd sy’n rhesymol ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os ywʼn darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfio âʼr cydrannau llywodraethu clinigol a nodir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw’r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion aʼr cyhoedd, syʼn cynnwys—

(i)gofyniad y dylai’r contractwr cyfarpar GIG lunio, mewn modd cymeradwy, daflen ymarfer mewn cysylltiad â phob un oʼr mangreoedd y maeʼn darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, a rhoi’r daflen ar gael mewn modd priodol,

(ii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn y fangre y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu’r gwasanaethau hynny ynddi, neu sydd ar gael oʼr fangre honno,

(iii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG, pan fo’n rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn y fangre y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu’r gwasanaethau hynny ynddi neu sydd ar gael oʼr fangre honno (pa un a ywʼn llunio ei ddeunydd cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteuʼn hysbysebuʼr gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn modd syʼn ei gwneud yn glir mai fel rhan oʼr gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau hynny,

(iv)gofyniad y dylai’r contractwr cyfarpar GIG ymgymryd ag arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, mewn modd cymeradwy, gan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadauʼr arolwg ac i unrhyw gamau gweithredu priodol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyfarpar syʼn ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwyno gymeradwy (syʼn bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithreduʼn briodol ag ymweliadauʼr Cyngor Iechyd Cymuned Lleol ac yn cymryd camau gweithredu priodol o ganlyniad i’r ymweliadau hynny,

(viii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithreduʼn briodol ag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno ymgymryd ag ef, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010(48),

(b)rhaglen archwilio clinigol (5 niwrnod, fel arfer), syʼn cynnwys o leiaf un archwiliad mewn mangre ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol,

(c)rhaglen rheoli risg, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drin mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi digwyddiadau critigol ac ymateb iddynt, syʼn cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau a fu bron a digwydd,

(iv)trefniadau, gan gynnwys trefniadau cadw cofnodion, ar gyfer ymdrin yn briodol ac yn amserol â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynuʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)gweithdrefnau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn cysylltiad â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu gwastraff priodol ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob un oʼr mangreoedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau GIG ohonynt, syʼn wybodus ynglŷn â gweithdrefnauʼr contractwr cyfarpar GIG aʼr gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn yr ardal leol,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(49),

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, syʼn cynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y contractwr cyfarpar GIG—

(i)mewn cysylltiad â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(ii)i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau ar gyfer sicrhau bod y contractwr cyfarpar GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(i), yn rhoi sylw iʼr manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 10(1)(f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i staff, gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol iʼr holl staff mewn cysylltiad ag unrhyw rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau ar gyfer gwirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu’r holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau GIG, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu sy’n angenrheidiol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer ymdrin â pherfformiad gwael (ar y cyd âʼr Bwrdd Iechyd Lleol fel y boʼn briodol), a

(vi)trefniadau (y mae rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) ar gyfer sicrhau bod yr holl staff, gan gynnwys unrhyw locwm, sydd, o ganlyniad iʼw cyflogaeth gydaʼr contractwr cyfarpar GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn syʼn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(50) (ystyr “protected disclosure”), yn cael yr hawliau a roddir mewn cysylltiad â datgeliadau oʼr fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol iʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol syʼn cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd ond nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o’r Ddeddf honno, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad iʼr weithred honno,

(f)rhaglen llywodraethu gwybodaeth, syʼn darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw, ac

(g)rhaglen safonau mangre syʼn cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fangre y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau GIG ohoni, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau, mewn modd cymesur, fod y risg i bobl yn y fangre o gael haint a ddelir wrth gael gofal iechyd yn cael ei lleihau, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanuʼn glir rhwng y mannau yn y fangre syʼn amgylchedd gofal iechyd priodol (lle y mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) aʼr mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I200Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Safonau proffesiynolLL+C

18.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparuʼr gwasanaethau hynny, gan gydymffurfio âʼr safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I201Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

CymhellionLL+C

19.—(1Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG nac unrhyw berson sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan gontractwr cyfarpar GIG, roi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elwʼr busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu fel arall) fel cymhelliad iʼr person sy’n cyflwyno archeb am gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu’n gydnabyddiaeth am hynny.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG, nac unrhyw berson sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan gontractwr cyfarpar GIG, dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn cysylltiad, yn unig, âʼr canlynol—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG eraill yn unol â pharagraff 10(2)(b), 11(4) neu 12(1)(b), neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG neu fferyllydd GIG arall yn unol â pharagraff 10(2)(a) neu 12(1)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad âʼr eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I202Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth iddynt godiLL+C

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 21, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, a phan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig, bob un o gyfarwyddwyr y corff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod i’r digwyddiad, os ywʼr contractwr cyfarpar GIG neu gyfarwyddwr—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen iʼw euogfarnu),

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(51) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(52)) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),

(f)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddaiʼn drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(h)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol, a bod canfyddiad yn ei erbyn,

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neuʼn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn,

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu o restr berthnasol, neu

(m)ar sail addasrwydd i ymarfer, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neuʼr achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 21, os yw person y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig, neu os oedd yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid iʼr person, yn ychwanegol, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod os yw unrhyw gorff corfforedig oʼr fath—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddaiʼn drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforedig,

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas ag unrhyw dwyll neu’n cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath, aʼr canlyniad hwnnw yn anffafriol,

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei ddileu o restr berthnasol, neu

(h)ar sail addasrwydd i ymarfer, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr person hwnnw roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neuʼr achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyn-gyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Gwybodaeth Cychwyn

I203Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforedigLL+C

21.  Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caniateir i’r wybodaeth sydd iʼw darparu o dan baragraffau 20 a 24(3) i (6) gael ei darparu yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel yʼi diffinnir yn rheoliad 60). Pan ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparuʼr wybodaeth iʼw Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo hefyd ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol cartref fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I204Atod. 6 para. 21 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

CwynionLL+C

22.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG gael yn eu lle drefniadau syʼn cydymffurfio â gofynion Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater syʼn gysylltiedig â darparu gwasanaethau fferyllol gan y contractwr cyfarpar GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I205Atod. 6 para. 22 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaethau cyfeiriedigLL+C

23.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, y mae Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud trefniant ag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodauʼr trefniant.

Gwybodaeth Cychwyn

I206Atod. 6 para. 23 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth sydd iʼw chyflenwiLL+C

24.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig o’r canlynol iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny)—

(a)unrhyw ddigwyddiad syʼn ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y contractwr cyfarpar GIG yn y rhestr fferyllol, nad ywʼr contractwr cyfarpar GIG wedi hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol amdano fel arall yn unol âʼr Rheoliadau hyn,

(b)yn achos contractwr cyfarpar GIG syʼn unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat, ac

(c)yn achos contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi iʼr Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd cofrestredig a gyflogir gan y contractwr cyfarpar GIG ac syʼn gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau ei gyfarwyddwyr.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y contractwr cyfarpar GIG i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) oʼr wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os yw ef, neu gorff corfforedig y maeʼn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd iddo, yn gwneud cais i gael ei gynnwys yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath, a

(b)os daw’n gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd ar unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu syʼn gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr oʼr fath, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath.

(6Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru, dim ond iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r swyddfa gofrestredig honno yn ei ardal y caniateir i’r wybodaeth sydd i’w darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) gael ei darparu, os ywʼr contractwr cyfarpar GIG hefyd yn darparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y mae wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol, ac o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddoʼr wybodaeth i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu

(b)y mae’r contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais iddo i gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ac sy’n gofyn amdani.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” yw—

(a)rhestr fferyllol, neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig.

Gwybodaeth Cychwyn

I207Atod. 6 para. 24 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Tynnu’n ôl o restrau fferyllolLL+C

25.  Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu tynnu’n ôl oʼr rhestr fferyllol mewn cysylltiad â mangre benodol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol am hyn, o leiaf 3 mis cyn y dyddiad hwnnw, oni bai ei bod yn anymarferol iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud hynny, ac os felly, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y boʼn ymarferol gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I208Atod. 6 para. 25 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Codi ffioedd am gyfarparLL+C

26.  Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006, rhaid darparuʼr holl gyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaeth hyn yn ddi-dâl.

Gwybodaeth Cychwyn

I209Atod. 6 para. 26 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Arolygiadau a mynediad at wybodaethLL+C

27.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ganiatáu i bersonau sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i unrhyw fangre y mae’r contractwr cyfarpar GIG yn ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau fferyllol aʼi harolygu, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)canfod pa un a ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y contractwr cyfarpar GIG, wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir â pherson mewn cysylltiad â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y mae’n eu darparu, pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fangre,

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gofyn am hynny,

(c)bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, a’i fod yn cyflwyno’r dystiolaeth honno ar gais, a

(d)nad yw’r person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r person hwnnw—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I210Atod. 6 para. 27 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y GymraegLL+C

28.—(1Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen iʼw defnyddio gan gleifion a/neu aelodau oʼr cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr testun ar yr arwydd neuʼr hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff contractwr cyfarpar GIG ddefnyddioʼr gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol ac syʼn siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth oʼr Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth oʼi hanes aʼi rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddioʼr Gymraeg mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ganfod a chofnodiʼr dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Gwybodaeth Cychwyn

I211Atod. 6 para. 28 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 12

ATODLEN 7LL+CTelerau gwasanaeth ar gyfer meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyffuriau neu gyfarpar iʼw hystyried fel pe bai person wedi gofyn amdanynt, neu fel pe baent wedi eu darparu, yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael gwasanaethau fferyllol yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw, cyhyd ag—

(a)bod y presgripsiwn hwnnw gan y meddyg yn ei feddiant, a

(b)bod y person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y meddyg swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I212Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Corffori darpariaethauLL+C

2.  Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau,

(b)y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(53) (mynd i mewn i fangreoedd aʼu harchwilio) ag syʼn ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd y mae’r meddyg fferyllol naill ai’n berchen arnynt neu’n darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt, ac archwilio’r mangreoedd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I213Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Personau sydd wedi eu hawdurdodi’n briodol i weinyddu ar ran meddygon fferyllolLL+C

3.  Pan foʼr Atodlen hon yn gosod gofyniad ar feddyg fferyllol mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi awdurdodi person arall yn briodol i ymgymryd ag ef, os ywʼr person arall hwnnw yn ymgymryd âʼr gweithgaredd hwnnw yn lleʼr meddyg fferyllol—

(a)rhaid iʼr person arall hwnnw gydymffurfio âʼr gofyniad hwnnw, a

(b)rhaid iʼr meddyg fferyllol hwnnw sicrhau cydymffurfedd âʼr gofyniad hwnnw gan y person arall hwnnw,

ac mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at feddyg fferyllol iʼw dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I214Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan ragnodydd arallLL+C

4.—(1Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, pan fo unrhyw berson yn cyflwyno i feddyg fferyllol ffurflen bresgripsiwn syʼn cynnwys—

(a)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, neu am gyfarpar nad yw’n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrioʼr meddyg fferyllol,

(b)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd iʼw harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrioʼr meddyg fferyllol ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”, neu

(c)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrioʼr meddyg fferyllol ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

a phan foʼr meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad yn rhinwedd rheoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) oʼr Rheoliadau hyn i ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly, rhaid iʼr meddyg fferyllol, yn rhesymol brydlon, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei bractis neu ei fusnes.

(2Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon—

(a)pan fo unrhyw berson yn cyflwyno i feddyg fferyllol bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig syʼn cynnwys—

(i)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, nac yn gyffuriau rheoledig o fewn ystyr “controlled drugs” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (syʼn ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd o waharddiadau penodol o dan y Rheoliadau hynny), wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy,

(ii)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau, nad ywʼn gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy, ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

(iii)archeb am gyfarpar nad yw’n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy, neu

(iv)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy, ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

a hefyd yn cyflwyno swp-ddyroddiad, neu

(b)pan fo’r meddyg fferyllol yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) i (iv), ac—

(i)pan fo unrhyw berson yn gofyn i gyffuriau neu gyfarpar gael eu darparu neu ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw, neu

(ii)pan fo’r meddyg fferyllol wedi trefnu gydaʼr claf yn flaenorol y byddaiʼn gweinydduʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw pan ddeuai i law,

aʼr meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad gan reoliad 26 i ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly, rhaid iʼr meddyg fferyllol, yn rhesymol brydlon, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei bractis neu ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, ystyrir bod presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyffuriau neu gyfarpar wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw—

(a)pan foʼr presgripsiwn hwnnw gan y meddyg fferyllol yn ei feddiant, a

(b)pan fo’r person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu pan fo gan y meddyg fferyllol swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

(4Rhaid iʼr cyffuriau aʼr cyfarpar rhestredig a ddarperir o dan y paragraff hwn gael eu darparu mewn cynhwysydd addas.

Gwybodaeth Cychwyn

I215Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan y meddyg fferyllolLL+C

5.  O dan amgylchiadau pan na fo paragraff 4 yn gymwys, ac yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, pan fo meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad yn rhinwedd Rhan 6 oʼr Rheoliadau hyn i ddarparu cyffuriau neu gyfarpar i berson, o ran y meddyg fferyllol—

(a)rhaid iddo gofnodi archeb am ddarparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar y mae eu hangen ar gyfer trin y claf ar ffurflen bresgripsiwn a gwblheir yn unol â chontract GMC syʼn rhoi effaith i baragraff 39 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (telerau contractiol eraill: rhagnodi),

(b)rhaid iddo ddarparuʼr cyffuriau hynny neuʼr cyfarpar hwnnw mewn cynhwysydd addas,

(c)ni chaiff ddarparu ar gyfer y claf gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau ond pan foʼr amodau ym mharagraff 42(2) o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (cyfyngiadau ar ragnodi gan ymarferwyr meddygol) wedi eu bodloni, a

(d)ni chaiff ddarparu ar gyfer y claf gyfarpar argaeledd cyfyngedig ond os ywʼr claf yn berson, neu os yw at ddiben, a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

Gwybodaeth Cychwyn

I216Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwydLL+C

6.  Cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar rhestredig a gofnodwyd ar ffurflen bresgripsiwn yn unol â pharagraff 4, neu o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 7—

(a)rhaid iʼr meddyg fferyllol ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr claf daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 4(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd (esemptiadau), neu

(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawlogaeth i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

gyflwyno tystiolaeth foddhaol oʼr hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(d) neu 5(2)(d) neu (dd) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes ar gael i’r meddyg fferyllol ar adeg gwneud y datganiad, a

(b)os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr meddyg fferyllol, fel syʼn ofynnol gan is-baragraff (a), rhaid iʼr meddyg fferyllol arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I217Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Darparu cyffuriau AtodlenLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff meddyg fferyllol ddarparu unrhyw gyffur Atodlen ar gyfer claf, ac eithrio, pan foʼr meddyg fferyllol neu ragnodydd annibynnol wedi archebu cyffur y mae iddo enw amherchnogol priodol, naill ai wrth yr enw neu wrth ei fformiwla, y caiff ddarparu cyffur a chanddoʼr un fanyleb, hyd yn oed os ywʼr cyffur hwnnw yn gyffur Atodlen (ond, yn achos cyffur syʼn cyfuno mwy nag un cyffur, ni chaniateir gwneud hynny ond os oes gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol).

(2Nid oes dim yn yr Atodlen hon syʼn atal meddyg fferyllol rhag darparu cyffur Atodlen neu gyfarpar argaeledd cyfyngedig ar gyfer claf, ac eithrio o dan y gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I218Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwydLL+C

8.—(1Caiff meddyg fferyllol wrthod darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan foʼr meddyg fferyllol yn credu, yn rhesymol, nad ywʼn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy (er enghraifft, oherwydd bod y meddyg fferyllol yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen neu’r presgripsiwn wedi ei dwyn neu ei ddwyn neu ei ffugio), neu

(b)pan foʼn ymddangos iʼr meddyg fferyllol fod camgymeriad ar y ffurflen bresgripsiwn neu ar y presgripsiwn amlroddadwy neu ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y meddyg fferyllol.

(2Caiff meddyg fferyllol wrthod darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu y mae fel arall wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad iʼw darparu neu i’w ddarparu yn rhinwedd rheoliad 26—

(a)pan foʼr meddyg fferyllol neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr presgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu

(b)pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.

(3Rhaid i feddyg fferyllol wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan na fo gan y meddyg fferyllol gofnod oʼr presgripsiwn hwnnw,

(b)pan na fo wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(c)pan fyddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn,

(d)pan hwnnw fyddaiʼr tro cyntaf i gyffur neu gyfarpar gael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn, a phan fo’r presgripsiwn wedi ei lofnodi fwy na 6 mis yn gynharach,

(e)pan fo’r presgripsiwn amlroddadwy wedi ei lofnodi fwy nag 1 flwyddyn yn gynharach,

(f)pan foʼr dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio, neu

(g)pan fo’r rhagnodydd amlroddadwy wedi rhoi gwybod i’r meddyg fferyllol nad oes angen y presgripsiwn mwyach.

(4Pan foʼr claf yn gofyn i gyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrioʼr tro cyntaf y maeʼr claf yn gofyn felly) gael eu cyflenwi neu ei gyflenwi, ni chaiff meddyg fferyllol ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebwyd oni bai ei fod wedi ei fodloni—

(a)o ran y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef—

(i)ei fod yn cymryd neuʼn defnyddioʼr cyffur neuʼr cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau i’w gymryd neu ei ddefnyddio felly, a

(ii)nad ywʼn dioddef unrhyw un neu ragor o sgil effeithiauʼr driniaeth syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf,

(b)nad yw trefn feddyginiaethol y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef, wedi newid mewn ffordd syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf, ac

(c)nad oes unrhyw newidiadau wedi bod yn iechyd y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef, syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf.

Gwybodaeth Cychwyn

I219Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Ffioedd a chodi tâlLL+C

9.—(1Maeʼr telerau mewn contract GMC syʼn rhoi effaith i reoliad 24 oʼr Rheoliadau GMC ac Atodlen 5 iʼr Rheoliadau hynny (ffioedd a chodi tâl) yn gymwys mewn cysylltiad â darparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar gan feddyg fferyllol fel y maent yn gymwys mewn perthynas â phresgripsiynau am gyffuriau a chyfarpar.

(2Pan fo meddyg fferyllol yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan y gwasanaethau fferyllol neuʼn darparu unrhyw wasanaeth ychwanegol syʼn gysylltiedig â gweinyddu cyffuriau a chyfarpar oʼr fath—

(a)yn unol âʼr Atodlen hon neu gytundeb âʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)pe baiʼr cyffur, y cyfarpar neuʼr gwasanaeth ychwanegol wedi ei ddarparu gan gontractwr syʼn darparu gwasanaethau gweinyddu o dan gontract GMC, y byddai hawlogaeth wedi bod gan y contractwr, yn rhinwedd cyfarwyddydau a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o Ddeddf 2006 (contractau GMC: taliadau), i gael taliad—

(i)mewn cysylltiad âʼr cyffur neuʼr cyfarpar, neu

(ii)mewn cysylltiad â darparuʼr gwasanaeth ychwanegol,

bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn credyduʼr taliad iʼr meddyg fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I220Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Cwynion a phryderonLL+C

10.—(1Pan fo meddyg fferyllol—

(a)yn gontractwr GMC, neu wedi ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi gan gontractwr GMC, y weithdrefn gwyno a sefydlir yn unol â thelerau contract GMC syʼn rhoi effaith i baragraffau 89A a 90 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (pryderon a chwynion);

(b)yn gontractwr GMDdA, neu wedi ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi gan gontractwr GMDdA, y weithdrefn gwyno a sefydlir gan y contract GMDdA perthnasol i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol;

(c)wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau fferyllol o fewn practis GMBILl, y weithdrefn gwyno a sefydlir gan y practis GMBILl hwnnw i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol,

syʼn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau fferyllol, fel y maeʼn gymwys mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract hwnnw neuʼr cytundeb hwnnw, neu o fewn y practis hwnnw.

(2Yn unol â hynny, mae contract GMC syʼn rhoi effaith i baragraff 95 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (cydweithredu ag ymchwiliadau) yn gymwys hefyd mewn perthynas â chwynion neu bryderon a hysbysir ynghylch materion oʼr fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I221Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Arolygiadau a mynediad at wybodaethLL+C

11.—(1Rhaid i feddyg fferyllol ganiatáu i bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i unrhyw fangre y mae’n ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau fferyllol a’i harolygu, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)canfod pa un a ywʼr meddyg fferyllol yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y meddyg fferyllol, wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion, gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir â pherson mewn cysylltiad â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y maeʼr meddyg fferyllol yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr meddyg fferyllol yn eu darparu,

pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fangre,

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr meddyg fferyllol yn gofyn am hynny,

(c)bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, a rhaid iddo gyflwynoʼr dystiolaeth honno ar gais, a

(d)nad ywʼr person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i feddyg fferyllol, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu iddo ef neuʼr person hwnnw gael mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddo ef neuʼr person hwnnw—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I222Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Y GymraegLL+C

12.—(1Pan fo meddyg fferyllol yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iʼr meddyg fferyllol hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i feddyg fferyllol roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau oʼr cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo meddyg fferyllol yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr testun ar yr arwydd neuʼr hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff meddyg fferyllol ddefnyddioʼr gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Pan fo meddyg fferyllol yn siarad Cymraeg, feʼi hanogir i wisgo bathodyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu bod y meddyg fferyllol yn gallu siarad Cymraeg.

(5Anogir meddyg fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gall y meddyg fferyllol ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth oʼr Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth oʼi hanes aʼi rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddioʼr Gymraeg mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6Wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, anogir meddyg fferyllol i ganfod a chofnodiʼr dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Gwybodaeth Cychwyn

I223Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 64

ATODLEN 8LL+CMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992LL+C

1.  Yn rheoliad 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(54) (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”, a

(b)ym mharagraff (4)(c)(55), yn lle “paragraph 33 of Schedule 4 to, or paragraph 21 of Schedule 5 to” rhodder “paragraph 33 of Schedule 5 to, or paragraph 22 of Schedule 6 to”.

Gwybodaeth Cychwyn

I224Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997LL+C

2.  Yn rheoliad 1(2) o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997 (enwi, cychwyn a dehongli)(56), yn y diffiniad o “Drug Tariff”, yn lle “regulation 41 (the Drug Tariff and remuneration of NHS pharmacists and NHS appliance contractors) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “regulation 55 (the Drug Tariff and remuneration of NHS pharmacists and NHS appliance contractors) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”.

Gwybodaeth Cychwyn

I225Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001LL+C

3.  Yn rheoliad 2 (swyddogaethau rhagnodedig yr Awdurdodau Iechyd yng Nghymru) o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001(57), ym mharagraff (2)(ch)(58), yn lle “rheoliad 41 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013” rhodder “rheoliad 55 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020”.

Gwybodaeth Cychwyn

I226Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004LL+C

4.—(1Mae Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(59) wedi eu diwygio yn unol âʼr paragraff hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Drug Tariff”, yn lle “regulation 41” rhodder “regulation 55”, a

(b)yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”.

(3Yn Atodlen 6 (telerau contractiol eraill)—

(a)ym mharagraff 47 (darparu gwasanaethau gweinyddu)—

(i)yn is-baragraffau (4)(b) a (9)(a), yn lle “paragraph 6 of Schedule 2, paragraph 13 of Schedule 2 or paragraph 8(3) of Schedule 3 to”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “paragraph 6 of Schedule 3, paragraph 13 of Schedule 3 or paragraph 8(3) of Schedule 4 to”, a

(ii)yn is-baragraff (9)(b)(ii), yn lle “Part 2 of Schedule 3 to” rhodder “Part 2 of Schedule 4 to”,

(b)ym mharagraff 48 (cydsyniad i weinyddu)—

(i)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “regulation 24 of and Part 3 of Schedule 2 to” rhodder “regulation 30 of, and Part 3 of Schedule 3 to,”, a

(bb)yn lle “regulation 24” rhodder “regulation 30”,

(ii)yn is-baragraff (4), yn lle “regulation 24(9)” rhodder “regulation 30(9)”,

(iii)yn lle is-baragraff (5) rhodder—

(5) Regulation 30 of the Pharmaceutical Regulations will apply as if modified as follows: in paragraph (1), for “to provide pharmaceutical services to patients under regulation 26(1)(b) or (c) (arrangements for the provision of pharmaceutical services by doctors)” there were substituted a reference to the provision of dispensing services to patients under paragraph 47., a

(iv)yn lle is-baragraff (6) rhodder—

(6) Part 3 of Schedule 3 to the Pharmaceutical Regulations will apply as if modified as follows: in paragraph 8(1)(a)(ii), for “dispensing doctor list made under Part 6 of these Regulations” there were substituted a reference to an application under sub-paragraph (1) of this paragraph., ac

(c)ym mharagraff 49(8)(60) (telerau syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau gweinyddu), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Schedule 6” rhodder “Schedule 7”.

Gwybodaeth Cychwyn

I227Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007LL+C

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(61), yn y diffiniad o “Tariff Cyffuriau”, yn lle “rheoliad 41 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (y Tariff Cyffuriau a chydnabyddiaeth ariannol i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG)” rhodder “rheoliad 55 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I228Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010LL+C

6.  Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 i Reoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010(62), yn y diffiniadau o—

(a)“nyrs syʼn rhagnodiʼn annibynnol”,

(b)“parafeddyg-ragnodydd annibynnol”,

(c)“ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol”,

(d)“podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol”, ac

(e)“radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”,

yn lle “Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013” rhodder “Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020”.

Gwybodaeth Cychwyn

I229Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(c)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/898) (“Rheoliadau 2013”) fel y Rheoliadau sydd, yng Nghymru, yn llywodraethu’r modd y darperir gwasanaethau fferyllol fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan Ran 7 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys pennu dyddiadau gwahanol pan ddaw’r darpariaethau i rym. Daw Rhannau 1 i 4 a Rhannau 9 i 11 i rym ar 1 Hydref 2020. Daw Rhannau 5 i 8 i rym ar 1 Hydref 2021.

Mae Rhan 2 yn nodi’r gofynion sy’n ymwneud â llunio asesiadau o anghenion fferyllol (“AAFfau”). Mae AAFf yn ddatganiad o’r asesiad y mae rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud, o leiaf bob 5 mlynedd, o’r anghenion yn ei ardal am wasanaethau fferyllol a ddarperir fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae’r Rhan hon yn cynnwys y gofynion ymgynghori y mae rhaid iddynt gael eu bodloni cyn cwblhau a chyhoeddi AAFf (rheoliad 7) a’r materion y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw iddynt wrth lunio AAFf (rheoliad 8) – ac mae Atodlen 1 ar ôl hynny yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn AAFfau. Wrth aros am ddiwygiad llawn o AAFf, caiff Bwrdd Iechyd Lleol, mewn datganiad atodol, ymdrin â newidiadau i argaeledd gwasanaethau fferyllol ers i’r AAFf gael ei gyhoeddi (rheoliad 6). Mae’n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi ei AAFf ac unrhyw AAFfau dilynol ar ei wefan (rheoliad 9).

Mae Rhan 3 yn nodi’r gofynion i bob Bwrdd Iechyd Lleol lunio a chynnal ar gyfer ei ardal—

(a)rhestrau fferyllol o fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG sy’n ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol o fangreoedd yn yr ardal, a

(b)rhestrau meddygon fferyllol o feddygon sy’n ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol o fangreoedd yn yr ardal.

Mae hefyd yn nodi’r telerau gwasanaeth, sef y telerau y cynhwysir personau ar eu sail mewn rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol, a’r telerau y mae’r personau hynny yn ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ar eu sail, fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu, ei hunan neu ar gais Pwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, pa un a yw ardal benodol, o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, oherwydd ei natur wledig, yn ardal reoledig neu’n rhan o ardal reoledig ai peidio. Arwyddocâd y penderfyniad bod ardal yn ardal reoledig yw y caiff meddygon, o dan amgylchiadau penodol, ddarparu gwasanaethau fferyllol i gleifion cymwys penodol (os yw’r meddygon hynny wedi eu cynnwys mewn rhestr meddygon fferyllol). Nodir y gweithdrefnau y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu dilyn wrth benderfynu a yw ardal yn ardal reoledig neu’n rhan o ardal reoledig yn Atodlen 3. Nodir hawliau i apelio i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn Atodlen 4.

Mae Rhan 5 yn nodi’r mathau o geisiadau mewn cysylltiad â chynnwys personau mewn rhestrau fferyllol, neu ddiwygio rhestrau fferyllol, a’r profion y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu cymhwyso wrth benderfynu’r ceisiadau hynny. O dan reoliad 15 (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) a rheoliad 18 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol), ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu ceisiadau ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu am wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac sydd wedi eu cynnwys yn AAFf y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw. Yn ogystal, y sefyllfa gyffredinol yw, os yw’r fangre mewn ardal reoledig, fod rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei fodloni na fydd caniatáu’r cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu na gwasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal (y prawf niweidio). Gwneir eithriad i’r sefyllfa gyffredinol pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu bod y fangre a bennir mewn cais mewn lleoliad neilltuedig (o dan reoliad 17 (lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy’n lleoliadau neilltuedig)).

Caiff person sydd wedi ei gynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol wneud cais i adleoli’r fangre y mae’n darparu gwasanaethau fferyllol ohoni. Mae rheoliad 19 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol) yn nodi pa bryd y caiff Bwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais o’r fath. Asesir ceisiadau sy’n dod o fewn rheoliad 20 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos), rheoliad 21 (ceisiadau sy’n ymwneud ag adleoli dros dro) a rheoliad 22 (ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaeth) yn unol â’r meini prawf penodol a nodir yn narpariaethau’r rheoliadau hynny. Nodir y gweithdrefnau y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan Ran 5 yn Atodlen 3, a nodir yr hawliau i apelio i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn Atodlen 4.

Mae Rhan 6 yn nodi’r ceisiadau y caiff meddygon eu gwneud er mwyn bodloni’r amodau, a fydd wedyn yn caniatáu iddynt wneud trefniadau â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol i’w cleifion cymwys mewn ardaloedd rheoledig. Rhaid i feddygon wneud cais am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ystyried ceisiadau o’r fath yn unol â’r prawf niweidio a’r pellter rhwng y fangre y mae’r meddyg yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohoni a fferyllfeydd cyfagos. Caiff meddyg sydd wedi cael cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre wneud trefniadau â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon). Nodir y gweithdrefnau y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan Ran 6 yn Atodlen 3, a nodir yr hawliau i apelio i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn Atodlen 4.

Mae Rhan 7 yn ymdrin â seiliau addasrwydd, ac â chynnwys enw person mewn rhestrau fferyllol a dileu enw person ohonynt. Mae’n darparu ar gyfer gohirio a gwrthod, ar sail addasrwydd, geisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol (rheoliadau 36 a 37), ac i gynnwys person mewn rhestr fferyllol fod yn ddarostyngedig i amodau (rheoliad 38). Ar gyfer materion addasrwydd penodol, gan gynnwys pan fo person wedi ei euogfarnu o drosedd yn y Deyrnas Unedig ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod sy’n hwy na 6 mis, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddileu enw’r person o restr fferyllol yn unol â rheoliad 40 (dileu enw person o restr fferyllol am resymau eraill).

Mae Rhan 8 yn nodi rhai amodau sydd i’w gosod ar fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG fel rhan o’u telerau gwasanaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n cynnwys gofynion sy’n ymwneud â chydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch datrys anghydfodau yn lleol (rheoliad 49). Mae’r amodau Rhan 8 hyn yn ychwanegol at y prif delerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG, sydd yn Atodlen 5, ac ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG, sydd yn Atodlen 6.

Mae’r telerau gwasanaeth yn Atodlen 5 yn cynnwys rhwymedigaethau i ddarparu’r hyn a ddisgrifir fel y gwasanaethau hanfodol y mae rhaid eu darparu ym mhob fferyllfa. Mae’r gwasanaethau hanfodol hyn yn cynnwys nid yn unig gwasanaethau gweinyddu ond gwasanaethau eraill, er enghraifft gwasanaethau gwaredu mewn cysylltiad â chyffuriau diangen a hybu ffyrdd iach o fyw. Yn ogystal â darparu gwasanaethau hanfodol, mae fferyllwyr GIG yn ddarostyngedig i ofynion gorfodol eraill yn rhinwedd Atodlen 5, er enghraifft o ran cael systemau llywodraethu clinigol derbyniol a darparu gwybodaeth am faterion addasrwydd. Mae ystod y gwasanaethau angenrheidiol y mae’n ofynnol i gontractwyr cyfarpar GIG eu darparu a nodir yn Atodlen 6 yn fwy cyfyngedig, ond mae hefyd yn cynnwys gofynion o ran gweinyddu a gofynion gorfodol ychwanegol o ran llywodraethu clinigol a darparu gwybodaeth am faterion addasrwydd. Mae’r ddau fath hyn o ddarparwr gwasanaethau fferyllol hefyd yn ddarostyngedig i ofynion manwl o ran eu horiau agor a newidiadau iddynt. Mae Atodlenni 5 a 6 hefyd yn nodi’r telerau gwasanaeth GIG ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG mewn perthynas â Phrotocolau Prinder Difrifol (PPDau), pan fo rhaid i’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG, pan fydd PPD yn ei le, ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach na chyflawni’r presgripsiwn GIG ar gyfer y cynnyrch hwnnw.

Mae Rhan 9 yn nodi’r trefniadau ar gyfer ymdrin â thorri’r telerau gwasanaeth gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG (ymdrinnir â thoriadau gan feddygon fferyllol o dan eu trefniadau cyfatebol ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol i gleifion cofrestredig, y mae rhaid iddynt gael yn eu lle er mwyn bod yn ddarparwyr gwasanaethau fferyllol). Pan na all anghydfod rhwng fferyllydd GIG, neu gontractwr cyfarpar GIG, a’r Bwrdd Iechyd Lleol gael ei ddatrys o dan y gweithdrefnau datrys anghydfodau lleol (neu pan ganiateir i’r weithdrefn honno gael ei hosgoi), mae’r fferyllydd GIG neu’r contractwr cyfarpar GIG yn wynebu’r posibilrwydd o hysbysiad torri neu hysbysiad adfer, y caniateir i daliad gael ei gadw’n ôl fel rhan ohono (rheoliadau 50 i 52). Mewn rhai achosion, gall methiannau mynych i gydymffurfio â’r telerau gwasanaeth, neu fethiannau â chanlyniadau sy’n arbennig o ddifrifol, arwain ar ôl hynny at ddileu enw mangre busnes fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG o’r rhestr fferyllol berthnasol (rheoliad 53).

Mae Rhan 10 yn ymdrin â thaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG. Mae rheoliad 55 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG) yn darparu ar gyfer cyhoeddi’r Tariff Cyffuriau, sef y prif ddatganiad o hawlogaethau ariannol fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG sy’n nodi’r penderfyniadau ar y materion hynny a wnaed gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod penderfynu. Mae rheoliad 56 (Byrddau Iechyd Lleol fel awdurdodau penderfynu) yn gwneud darpariaeth i’r Byrddau Iechyd Lleol fod yn awdurdodau penderfynu pan fo hyn wedi ei nodi yn y Tariff Cyffuriau. Darperir hefyd ar gyfer materion atodol, gan gynnwys gordaliadau a thaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG.

Mae Rhan 11 yn ymdrin â materion amrywiol, gan gynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer ceisiadau ac apelau a wnaed o dan Reoliadau 2013 cyn ac ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn ogystal â phennu’r dyddiadau gwahanol y mae’r darpariaethau yn Rheoliadau 2013 yn cael eu dirymu arnynt..

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2006 p. 42. Gweler adran 206(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Mewnosodwyd adran 82A ac adran 203(6A) gan adran 111 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (dccc 2). Diwygiwyd adrannau 83 a 84 gan adran 112 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

(2)

2006 p. 41. Diwygiwyd adran 159 gan O.S. 2010/22 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7).

(6)

O.S. 2002/254, a ddiwygiwyd gan baragraff 2 o Atodlen 2 i Orchymyn Gofal Iechyd a Phroffesiynau Cysylltiedig (Diwygiadau Amrywiol a Seicolegwyr sy’n Ymarfer) 2009 (O.S. 2009/1182). Mae diwygiadau eraill i’r Gorchymyn ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2002/253, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1182 ac O.S. 2018/838.

(8)

O.S. 1992/664. Mewnosodwyd y diffiniad o “joint discipline committee” gan O.S. 1996/703.

(9)

Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communication” gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21), Atodlen 17, paragraff 158.

(10)

Cyffurlyfr Prydain 2020 yw’r casgliad pennaf o safonau ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol a sylweddau fferyllol y DU ac mae ar gael yn www.pharmacopoeia.com.

(13)

O.S. 2002/254, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1182.

(15)

1989 p. 44, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/848.

(16)

2002 p. 17, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) a Gorchymyn Fferylliaeth 2010 (O.S. 2010/231). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(17)

O.S. 2012/1916; mewnosodwyd rheoliad 226A gan O.S. 2019/62.

(18)

O.S. 1992/664. Mewnosodwyd y diffiniad o “pharmaceutical discipline committee” gan O.S. 1996/703.

(19)

O.S. 2002/254. Diwygiwyd erthygl 5 gan O.S. 2009/1182. Ailenwyd y Gorchymyn gan adran 213(4) a (6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7).

(20)

O.S. 1992/662, a ddirymwyd gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).

(21)

O.S. 2005/641, a ddirymwyd gan O.S. 2012/1909.

(29)

Amnewidiwyd adran 71 gan adran 28 o Ddeddf Iechyd 2006 (p. 28).

(31)

Mewnosodwyd adran 82A gan adran 111 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (dccc 2).

(33)

O.S. 2008/2699 (Cyfr. 16), gweler rheol 19 o’r Rheolau hynny.

(34)

Noder nad oes hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn penderfyniad i atal dros dro ymarferydd neu i adolygu penderfyniad ar atal dros dro. Fodd bynnag, mae hawl i apelio i’r Tribiwnlys yn erbyn unrhyw benderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol ar adolygiad o ddileu enw person yn ddigwyddiadol o dan adran 113 o Ddeddf 2006. Gweler adran 114 o Ddeddf 2006.

(37)

1971 p. 38. Gweler adran 2(1)(a) oʼr Ddeddf honno syʼn diffinio “controlled drug” at ddibenion y Ddeddf honno.

(40)

Rhif ffôn Galw Iechyd Cymru 0845 46 47, cyfeiriad gwefan www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

(43)

1996 p. 18; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p. 23). Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 syʼn estyn ystyr “worker” ar gyfer y Rhan oʼr Ddeddf honno syʼn ymdrin â datgeliadau gwarchodedig fel ei fod yn cwmpasu pob unigolyn syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

(45)

1992 p. 5.

(50)

1996 p. 18; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p. 23). Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 syʼn estyn ystyr “worker” ar gyfer y Rhan oʼr Ddeddf honno syʼn ymdrin â datgeliadau gwarchodedig fel ei fod yn cwmpasu pob unigolyn syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

(52)

1992 p. 5.

(55)

Mewnosodwyd paragraff (4) gan O.S. 1996/703.

(56)

O.S. 1997/980, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1112 (Cy. 117).

(58)

Mewnosodwyd paragraff (2)(ch) gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).

(60)

Amnewidiwyd is-baragraff (8) gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).

(61)

O.S. 2007/121 (Cy. 11). Amnewidiwyd y diffiniad o “Tariff Cyffuriau” gan O.S. 2007/1112 (Cy. 117) ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).