RHAN 5Ceisiadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG i gael eu cynnwys mewn rhestrau fferyllol neu i restrau fferyllol gael eu diwygio
Ceisiadau sy’n ymwneud â newid perchnogaethI122
1
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 15(1)(a), (b)(i) neu (ii) (ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol) sy’n bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre y darperir y gwasanaethau hynny ohoni, ar yr adeg y gwneir y cais, gan berson arall sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 10 (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—
a
bod y fangre wedi ei chynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,
b
y bydd yr un gwasanaethau fferyllol yn parhau i gael eu darparu o’r fangre, ac
c
na fydd toriad yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol (ac eithrio am unrhyw gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).
2
Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, sydd wedi ei wneud o dan reoliad 15(1)(a) (ac eithrio pan fo’r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18 a bod y cydsyniad rhagarweiniol hwnnw yn ddilys yn unol â rheoliad 18(5)), neu o dan reoliad 18 pan na fo’r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
a
gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 36 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd),
b
gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 37 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd), neu
c
gosod amodau ar ganiatáu’r cais o dan reoliad 38 (cynnwys person yn amodol ar sail addasrwydd).