RHAN 6Ceisiadau gan feddygon i gael eu cynnwys mewn rhestrau meddygon fferyllol neu i restrau meddygon fferyllol gael eu diwygio

Cymeradwyaeth mangre: cyfuno practisauI135

1

Mae cyfuno practisau yn digwydd pan fo dau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn cyfuno fel darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, ac o ganlyniad, mae dwy neu ragor o restrau cleifion yn cael eu cyfuno.

2

Yn dilyn cyfuno practisau, os yw pob un o fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl yn fangreoedd a oedd, yn union cyn cyfuno’r practisau, yn fangreoedd rhestredig, bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd hynny a’r cydsyniadau amlinellol cysylltiedig yn parhau i gael effaith.

3

Yn dilyn cyfuno practisau, os nad yw paragraff (2) yn gymwys ond yr oedd gan un neu ragor o’r meddygon a ymunodd â’i gilydd fel y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl, yn union cyn cyfuno, gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangreoedd—

a

os daw unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd hynny yn fangreoedd practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—

i

bydd y cymeradwyaethau mangre ar gyfer y mangreoedd a’r cydsyniadau amlinellol cysylltiedig yn parhau i gael effaith, a

ii

rhaid trin unrhyw geisiadau am gymeradwyaethau mangre ar gyfer mangreoedd practis eraill fel pe baent yn geisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 34 (cymeradwyaeth mangre: mangreoedd ychwanegol a mangreoedd newydd ar ôl i’r cydsyniad amlinellol gymryd effaith);

b

os na ddaw yr un o’r mangreoedd hynny yn fangre practis y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl—

i

caiff meddyg gyflwyno cais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre o dan reoliad 30 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre) a chael trin y cais hwnnw fel adleoliad o fangre restredig meddyg a oedd yn rhan o’r cyfuno practisau, a

ii

mae unrhyw geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â mangreoedd practis eraill y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol sengl i’w trin fel pe baent yn geisiadau am fangreoedd ychwanegol o dan reoliad 34.

4

Caniateir gwneud cais a grybwyllir ym mharagraff (3) cyn neu ar ôl cyfuno’r practisau, a phan fo cyfuno’r practisau yn cymryd effaith cyn i’r cais gael ei benderfynu’n derfynol—

a

bydd unrhyw gymeradwyaeth mangre sydd mewn effaith ar ddyddiad cyfuno’r practisau yn cael effaith o ddyddiad y cyfuno ymlaen fel pe bai’n gymeradwyaeth mangre dros dro o dan reoliad 34(13) am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn, a

b

bydd y practis newydd yn cael cymeradwyaeth mangre dros dro o ddyddiad cyfuno’r practisau ymlaen i weinyddu o unrhyw fangre a grybwyllir yn y cais am gyfnod a ddatgenir gan y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’n hwy nag 1 flwyddyn.

5

Pan fo’r cyfuno practisau yn cymryd effaith, rhaid i’r meddygon hysbysu’r holl Fyrddau Iechyd Lleol y mae’r practis cyfunedig yn eu hardaloedd fod y cyfuno practisau wedi digwydd.

6

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo cais a wnaed o dan baragraff (3) wedi ei ganiatáu cyn i’r cyfuno practisau ddigwydd, bydd y gymeradwyaeth mangre yn cymryd effaith o ddyddiad cyfuno’r practisau ymlaen.

7

Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (3) cyn i’r cyfuno practisau ddigwydd, ac nad yw’r cyfuno practisau wedi digwydd cyn diwedd cyfnod o 1 flwyddyn gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre o dan y paragraff hwnnw, bydd y gymeradwyaeth mangre honno yn darfod.

8

Pan fo cais o dan baragraff (3) am gymeradwyaeth mangre wedi ei wrthod, naill ai ar gyfer pob mangre neu unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn y cais, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfuno practisau ddigwydd, bydd gan y meddygon yr oedd ganddynt gymeradwyaeth mangre cyn gwneud y cais, ac unrhyw feddyg arall yn y practis newydd ar ôl y dyddiad hwnnw, gymeradwyaeth mangre weddilliol.

9

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cymeradwyaeth mangre weddilliol” yw cymeradwyaeth mangre i ddarparu gwasanaethau fferyllol—

a

o fangre yr oedd gan y meddyg, neu feddyg arall yn y practis, gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar yr adeg y gwnaed y cais mewn perthynas â chyfuno practisau, a

b

i glaf sy’n dod o fewn rheoliad 26(1) y mae’r meddyg sy’n gwneud y cais yn darparu gwasanaethau fferyllol iddo, ond gan eithrio unrhyw glaf o’r fath sy’n peidio â bod yn glaf a grybwyllir yn rheoliad 26(1)(b) neu (c).

10

At ddibenion paragraff (9), mae rheoliad 26(1)(b) neu (c) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “, ac mae’r amodau a bennir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni” wedi eu hepgor.

11

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais am gymeradwyaeth mangre o dan baragraff (3), penderfynir ar y personau a gaiff wneud apêl i Weinidogion Cymru yn unol ag—

a

rheoliad 34 mewn cysylltiad â chais o dan baragraff (3)(a)(ii) neu (b)(ii), neu

b

rheoliad 30 mewn cysylltiad â chais o dan baragraff (3)(b)(i).

12

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu cais o dan baragraff (4), caiff y ceisydd wneud apêl i Weinidogion Cymru.

13

O dan yr amgylchiadau a amlinellir ym mharagraff (12), os cyflwynir hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, bydd Rhan 1 o Atodlen 4 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 4 yn gymwys—

a

6(3)(b),

b

7(1) a (3), ac

c

8,

fel pe bai’r hysbysiad o apêl wedi ei gyflwyno o dan baragraff 6(1) o Atodlen 4.