RHAN 2Asesiadau o anghenion fferyllol
Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn asesiadau o anghenion fferyllol4.
(1)
Rhaid i bob asesiad o anghenion fferyllol gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1.
(2)
Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, cyhyd ag y bo’n ymarferol, gadw’n gyfredol y map y mae’n ei gynnwys yn ei asesiad o anghenion fferyllol yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 1 (ac nid oes angen iddo ailgyhoeddi’r asesiad cyfan na chyhoeddi datganiad atodol).