RHAN 10LL+CTaliadau i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG

Y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIGLL+C

55.—(1Y Tariff Cyffuriau y cyfeirir ato yn adran 81(4) o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol) yw swm cyfanredol y canlynol—

(a)y penderfyniadau ar dâl a wneir gan Weinidogion Cymru, wrth iddynt weithredu fel awdurdod penderfynu, o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol), a

(b)unrhyw offerynnau eraill y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Ddeddf 2006, eu cyhoeddi, neu y maent yn eu cyhoeddi, ynghyd â’r penderfyniadau hynny,

yn y cyhoeddiad a elwir y Tariff Cyffuriau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn y fformat y maent yn meddwl ei fod yn addas.

(2O ran penderfyniadau gan Weinidogion Cymru o dan adran 88 o Ddeddf 2006—

(a)caniateir iddynt gael eu gwneud drwy gyfeirio at raddfeydd, mynegeion neu fformiwlâu o unrhyw fath, a phan fo penderfyniad yn un sydd i’w wneud drwy gyfeirio at unrhyw raddfa, mynegai neu fformiwla o’r fath, caiff y penderfyniad ddarparu bod cyfrifo’r pris perthnasol i’w wneud drwy gyfeirio at y raddfa, y mynegai neu’r fformiwla sydd—

(i)ar y ffurf sy’n gyfredol ar yr adeg y gwneir y penderfyniad, a

(ii)ar unrhyw ffurf ddilynol sy’n cymryd effaith ar ôl yr adeg honno, a

(b)cânt gymryd effaith o ran tâl mewn cysylltiad â chyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad a bennir yn y penderfyniad, a gaiff fod yn ddyddiad y penderfyniad neu’n ddyddiad cynharach neu ddiweddarach, ond ni chaiff fod yn ddyddiad cynharach ond os nad yw’r penderfyniad, o’i gymryd yn ei gyfanrwydd, yn anffafriol i’r personau y mae’r penderfyniad yn ymwneud â’u tâl.

(3Pan na fo penderfyniad a gynhwysir yn y Tariff Cyffuriau yn pennu dyddiad fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2)(b), bydd yn cael effaith mewn perthynas â thâl mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y newid i’r Tariff Cyffuriau yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i ddiwygiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r Tariff Cyffuriau ar yr adegau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn addas, gael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru mewn fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r Tariff Cyffuriau sy’n cynnwys y diwygiadau.

(5Rhaid cynnal yr ymgynghoriad y mae Gweinidogion Cymru yn ymgymryd ag ef o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 (adran 88: atodol) cyn cynnwys neu cyn newid pris cyffur neu bris cyfarpar sydd i fod yn rhan o gyfrifiad ar gyfer tâl drwy ymgynghori ynghylch y broses ar gyfer penderfynu’r pris sydd i’w gynnwys neu ei newid, ac nid ynghylch y pris arfaethedig ei hunan (oni bai ei bod yn amhosibl cynnal ymgynghoriad effeithiol mewn unrhyw ffordd arall).

(6Rhaid i daliadau o dan y Tariff Cyffuriau gael eu gwneud—

(a)gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am wneud y taliad, a

(b)yn unol â threfniadau ar gyfer hawlio a gwneud taliadau sydd i’w nodi yn y Tariff Cyffuriau ond yn ddarostyngedig, fel y bo’n briodol, i unrhyw ddidyniad o dâl ar gyfer fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG y caniateir iddo gael ei wneud, neu y mae rhaid iddo gael ei wneud, o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill o dan Ddeddf 2006.